Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Annibynnol Newydd enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd. Cofnodion: Bu i'r Hwylusydd atgoffa’r Pwyllgor y penderfynodd y Cyngor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol mai'r gr?p Annibynnol Newydd ddylai enwebu Cadeirydd y Pwyllgor.
Enwebodd y Cynghorydd Haydn Bateman y Cynghorydd Ray Hughes. Eiliwyd hyn yn briodol a chafodd ei gymeradwyo yn dilyn pleidlais ar y mater. Ni chafwyd enwebiadau pellach.
PENDERFYNWYD:
Penodi'r Cynghorydd Ray Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor.
(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Hughes weddill y cyfarfod) |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Mike Reece y Cynghorydd David Evans fel Is-gadeirydd y Pwyllgor. Eiliwyd hyn yn briodol a chafodd ei gymeradwyo yn dilyn pleidlais ar y mater. Ni chafwyd enwebiadau pellach.
PENDERFYNWYD:
Penodi'r Cynghorydd David Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Mawrth 2017. Cofnodion: Roedd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2017 wedi eu dosbarthu gyda’r rhaglen.
Materion yn Codi
Cofnod rhif 54: Cofnodion y cyfarfod blaenorol – Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin fod y Pwyllgor yn dal i aros am ddadansoddiad o achosion gorfodi cynllunio, a bod y cam gweithredu hwn yn aros i gael ei gyflawni ers peth amser. Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) bod eitem ar Orfodi wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Yn ogystal, bydd gwaith sy’n cael ei wneud ar argymhellion drafft adroddiad archwilio ar Orfodi yn galluogi Aelodau lleol i weld statws yr achosion o fewn eu wardiau. Ar gais y Cynghorydd Dolphin, darparodd y Prif Swyddog enwau’r pedwar Swyddog Gorfodi a gyflogir ar hyn o bryd gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |