Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / Sharon Thomas / 01352 702322 / 702324 

Eitemau
Rhif eitem

40.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

41.

Cyflwyno Ffioedd Gwastraff Gardd pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Ceisio argymhelliad i’r Cabinet gymeradwyo’r mecanwaith i gyflwyno ffioedd ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad sy’n nodi sut y bydd y cynnig i gyflwyno polisi codi tâl ar wasanaeth gwastraff gardd yn cael ei weithredu ac yn darparu amcangyfrif o’r budd ariannol cysylltiedig i’r Cyngor.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog bod y perfformiad o ran ailgylchu yn dda ond nad oedd y gwasanaeth a ddarperir i breswylwyr yn hollol unol â glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer casgliadau yng Nghymru, gan fod y glasbrint yn argymell bod Awdurdodau Lleol yn codi tâl ar breswylwyr am y casgliad gwastraff gardd ac yn defnyddio’r arian i gefnogi’r gwasanaeth ailgylchu cyffredinol.

 

            Amlinellodd Reolwr y Gwasanaethau Gwastraff ac Ategol y dewisiadau ar gyfer gweithredu’r system, fel y nodir yn yr adroddiad. Eglurodd y byddai preswylwyr yn derbyn gwybodaeth am y tâl gyda’r wybodaeth am Treth y Cyngor ym mis Mawrth 2018, ac y bydd ganddynt tan 1 Ebrill 2018 i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd. Bydd y gwasanaeth am ddim i bob preswylydd yn ystod mis Mawrth 2018.

 

            Ymddiheurodd y Cyng. Carolyn Thomas am yr angen i godi tâl am y gwasanaeth gwastraff gardd a dywedodd, o ystyried y sefyllfa ariannol heriol sydd ohoni ynghyd â’r gostyngiad i’r Grant Amgylcheddol Sengl gan Lywodraeth Cymru nad yw’n cwrdd â chostau’r gwasanaeth ailgylchu, bod yn rhaid gweithredu cynnig o’r fath.

 

            Diolchodd y Cyng. Paul Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad. Gwnaeth sylw ar nifer amcangyfrifedig y bobl fydd yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth a gofynnodd sut y cyfwyd y ffigwr hwn. Eglurodd y Prif Swyddog bod siroedd eraill wedi gweld cyfraddau cofrestru cychwynnol o 40%, ac felly y defnyddiwyd y ffigwr hwnnw fel amcangyfrif.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau am y gostyngiad disgwyliedig mewn perfformiad ailgylchu a’r dreth dirlenwi, eglurodd y Prif Swyddog bod y gostyngiad mewn perfformiad ailgylchu yn debygol o fod yn 2% neu’n 3% a fydd yn gostwng perfformiad presennol y Cyngor i oddeutu 64%. Mae’r dreth dirlenwi yn cael ei chasglu gan y Cyngor ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid wedyn yn cael ei ailddosbarthu i gynghorau ar draws Cymru drwy’r Grant Amgylcheddol Sengl.

 

            Mynegodd y Cyng. Mike Peers bryderon ynghylch tegwch cyflwyno polisi codi tâl am y gwasanaeth gwastraff gardd a chwestiynodd lasbrint Llywodraeth Cymru sydd wedi’i gynhyrchu gan yr un ymgynghorwyr a argymhellodd y dylai’r Cyngor leihau nifer y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref sydd ganddo yn y sir. Cwestiynodd y sylwadau a wnaed am gyni ariannol ac amlygodd gorwariant cyfredol y Cyngor o £1.1 miliwn, cyllid meddai a fyddai’n cynorthwyo preswylwyr sy’n cael eu heffeithio gan y toriadau i gyllid Llywodraeth Cymru. Cyfeiriodd at y ffioedd a godir gan Awdurdodau Lleol cyfagos, fel y nodir yn yr adroddiad, a mynegodd bryderon ynghylch preswylwyr Sir y Fflint yn derbyn bargen salach o gymharu. Dywedodd y Prif Swyddog bod y gwasanaeth a ddarperir gan y Cyngor ar hyn o bryd yn gweithredu ar gost is o gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru. Mae’n aneglur a yw’r ffioedd a godir gan Awdurdodau Lleol cyfagos yn cwrdd â chost lawn  ...  view the full Cofnodion text for item 41.

42.

Rheoli Safonau a Safleoedd Tirlenwi Brookhill pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        I roi gwybod i’r Pwyllgor Craffu o ganlyniad y broses dendro ddiweddar i gynnal a chadw dau safle tirlenwi a darparu manylion am lefelau tebygol o gynhyrchu ynni o’r ddau safle dros y blynyddoedd i ddod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Reolwr y Gwasanaethau Gwastraff ac Ategol adroddiad i amlinellu’r camau nesaf o ran rheolaeth hirdymor dau safle tirlenwi, sef safle Stad Ddiwydiannol Standard a safle Brookhill ym Mwcle.

 

            Ar hyn o bryd reolir y ddau safle gan dîm bychan sy’n gweithio yn Alltami, gyda chefnogaeth contractwyr ac ymgynghorwyr arbenigol sy’n darparu amryw o weithgareddau ar y safleoedd. Oherwydd y pryderon ynghylch cadernid y gwasanaeth, ac i geisio diogelu lefelau incwm yn y dyfodol, ym mis Mai 2015 cymeradwyodd Cabinet y Cyngor adroddiad i gontractio rheolaeth y safleoedd i gwmni allanol. Mae'r adroddiad hwn yn egluro pan na chafwyd tendr hyfyw.

 

            Amlinellodd Reolwr y Gwasanaethau Gwastraff ac Ategol y model GasSim, yr incwm diweddar yn sgil cynhyrchu trydan a’r rhagamcaniadau incwm i’r dyfodol, fel y nodir yn atodiadau 1 i 3 yr adroddiad.

 

            Croesawodd y Cyng. Mike Peers y bwriad i osod paneli PV ar y ddau safle tirlenwi a gofynnodd a yw’r incwm yn sgil yr injan, fel y nodir yn adran 1.09 yr adroddiad, yn cwrdd â chost rhedeg safle Brookhill.Gofynnodd hefyd am ragor o wybodaeth am anfodlonrwydd cynigwyr i dderbyn y risg ynghlwm wrth warantu lefelau incwm y ddau safle. Rhagwelir y bydd yr injans nwy yn cynhyrchu oddeutu £170,000 o incwm yn ystod 2017-18. O ran y cynigwyr, er bod y ddau gynigydd yn fodlon gweithredu'r safleoedd roedd arnynt eisiau i'r Cyngor gymryd y risg o ran gwarantu'r lefelau incwm. Byddai gwaith rheoli’r safle yn rhan o waith dyddiol y tîm a byddai’r risgiau amgylcheddol yn cael eu lleihau drwy’r cynllun terfynu cytunedig a’r gwaith monitro parhaus ar y safle.

 

PENDERFYNWYD

 

Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynnig i barhau i reoli’r safleoedd tirlenwi dan y portffolio Strydwedd a Chludiant.

43.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol a dim ond un aelod o’r wasg oedd yn bresennol.