Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

21.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:   I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

22.

Cofnodion pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:      I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Gorffennaf 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

23.

Polisi Gorfodaeth Cynllunio a Dull Gweithredu pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:   Ystyried y newidiadau arfaethedig i'r polisi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Bithell yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Polisi Gorfodi Cynllunio drafft am ymgynghoriad cyn ei fabwysiadu’n ffurfiol ac i rannu manylion yr ymgynghoriad gorfodi yn y dyfodol. Byddai’r newidiadau arfaethedig yn helpu i wella dulliau cyfathrebu a hygyrchedd i gyflawni system gorfodi cynllunio mwy effeithiol.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod adolygiad y polisi wedi cael ei gydlynu gydag ail-strwythuriad arfaethedig y tîm Rheoli Datblygiadol a chafodd ei lywio gan newidiadau mewn deddfwriaeth a chanlyniadau adroddiad Adain Archwilio Mewnol diweddar i’r swyddogaeth orfodi.  Crynhowyd prif newidiadau'r polisi gan y Rheolwr Datblygu, a esboniodd hefyd y byddai’r gwaith ail-strwythuro yn galluogi i adnoddau gael eu defnyddio mewn ffordd wahanol. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen Thomas, cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu at heriau ceisiadau cynllunio ôl-weithredol, ond cynghorodd y byddai’r gwaith ail-strwythuro arfaethedig yn cryfhau’r broses dracio ar geisiadau o'r fath, ac amserlenni y tu allan lle byddai unrhyw ddatblygiad yn cael ei eithrio rhag camau gorfodi posibl.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton o blaid yr argymhellion a gofynnodd am y dyddiad gweithredu.  Esboniwyd bod y rhan fwyaf o gamau yn digwydd yn y mis cyfredol, gyda’r cyfnod ymgynghori ailstrwythuro eisoes ar waith, tra byddai camau eraill, megis newidiadau i feddalwedd TG yn cymryd mwy o amser i’w cwblhau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Evans i'r polisi gynnwys darpariaeth i'r swyddog achos drafod ei benderfyniad ar gamau gorfodi gyda’r aelod lleol ac i’r wybodaeth hon fod ar gael.    Cydnabuwyd pwysigrwydd ymgysylltu ag Aelodau lleol gan swyddogion a ddywedodd y gall adroddiadau buddioldeb, yn cynnwys penderfyniadau gorfodi, ddod yn hygyrch i'r cyhoedd yn y dyfodol.  O ran anhysbysrwydd cwynion, byddai angen rhoi ystyriaeth ofalus pe bai'r gofrestr cwynion gorfodi yn dod ar gael ar y wefan.     Byddai effaith unrhyw absenoldebau hirdymor ar lwythi achos swyddog yn cael ei leihau gan yr ymgynghoriad ailstrwythuro a’r gwaith achos, gyda gwybodaeth gorfodi wedi’i ymestyn ar draws y tîm cyfan.    Byddai amserlenni ar gyfer ymweliadau safle â gwersylloedd sipsi/teithiwr anawdurdodedig (fel y cyfeirir atynt yn y polisi) yn cael eu diwygio os bydd y tir yn eiddo i'r Cyngor. Os byddai’r gwersyll ar dir y Cyngor, cydnabuwyd mai'r dull gweithredu cyflymaf fyddai drwy ein rôl fel perchennog tir, yn hytrach na thrwy orfodaeth cynllunio.

 

Yn dilyn sylw gan y Cynghorydd Cindy Hinds, esboniwyd y byddai’r newidiadau arfaethedig yn helpu i wella’r gwaith o gofnodi ac olrhain cwynion er mwyn sicrhau bod yr achwynydd yn cael ymateb ysgrifenedig, a chopi'n cael ei anfon at yr Aelod lleol.

 

Mewn ymateb i’r Cynghorydd Veronica Gay, cytunodd y Rheolwr Datblygu i egluro ‘cwynion ysgrifenedig’ yn y polisi, a chynnwys arwyddion cryfach ar adrannau perthnasol y tu allan i’r adran Gynllunio, er enghraifft Tai neu Briffyrdd.    Rhoddodd fanylion am y feddalwedd TG newydd hefyd, sy’n rhyngweithio ag amserlen calendr i gofnodi unrhyw amserlenni cynyddol yn awtomatig.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at y nifer o achosion lle na ellid cymryd camau gorfodi oherwydd bod y terfyn amser wedi’i dorri. Nodwyd y byddai’r trefniadau newydd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Canlyniadau'r ymgynghoriad i amodau arfaethedig y Gorchymyn Drafft Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:   Adrodd ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch amodau arfaethedig Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n’.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar amodau arfaethedig Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n yn Sir y Fflint sy’n cwmpasu rheoli c?n a baw c?n, a fyddai’n disodli’r Gorchymyn Rheoli C?n presennol.

 

Rhoddodd y Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol fanylion am yr ymgynghoriad a chrynodeb o’r ymatebion, a oedd yn dangos cefnogaeth gref dros yr amodau arfaethedig.  Er bod 68% o’r ymatebion yn cytuno gyda gwahardd c?n rhag lleiniau chwaraeon wedi’u marcio, dyma oedd y cynnig a gefnogwyd leiaf a chafodd wrthwynebiadau hwyr.    Oherwydd hyn a phryderon nad oedd rhai unigolion yn ymwybodol o’r ymgynghoriad, nododd yr adroddiad ddau opsiwn: (1) argymell bod y Cabinet yn ystyried yr holl amodau arfaethedig a (2) bod y Cabinet yn ystyried cyfnod pellach o ymgynghoriad lleol i geisio safbwyntiau ar p’un a ddylid gwahardd c?n o leiniau chwaraeon wedi’u marcio mewn ardaloedd lle nad oedd cyfleusterau amgen ar gyfer mynd a ch?n am dro.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Opsiwn 1 wedi cael cefnogaeth gyffredinol gan Aelodau a oedd yn bresennol yn y gweithdy yn gynharach yn y flwyddyn.

 

I letya rhai pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton Opsiwn 1, gyda diwygiad 'i ganiatáu c?n o amgylch perimedr lleiniau chwaraeon ar dennyn'.  Cadarnhaodd Swyddogion y byddai gorfodi’r Gorchymyn Rheoli C?n presennol yn dod i ben ar 20 Hydref 2017 oni bai bod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored wedi’i fabwysiadu i ddod yn ei le.

 

Nododd y Cynghorydd Owen Thomas fod rhai lleiniau chwaraeon heb eu marcio ac na fyddent yn cael eu cwmpasu gan yr amodau. Teimlai y dylai cyfeiriad at gaeau gwmpasu ardal gyfan y caeau hynny ac y dylid rhoi c?n ar dennyn wrth ddefnyddio llwybrau cerdded cyhoeddus, gan ychwanegu y byddai camau ataliol o'r fath yn osgoi damweiniau posibl.  Dywedodd y swyddogion fod amodau (i) a (v) yn mynd i’r afael â’r pryderon ac y byddai arwyddion priodol yn cael eu harddangos.  Ar ôl ymholiadau pellach, esboniwyd yr ymgynghorwyd â'r Cynghorau Tref a Chymuned ar dir yr hoffent iddo gael ei gynnwys yn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ac y byddai angen caniatâd ar unrhyw dir preifat pe bai ai am gael ei gynnwys ar gam yn y dyfodol. 

 

Cymharodd yr aelodau y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Shotton i Opsiwn 2.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y cydnabuwyd bod llawer o berchnogion c?n yn gallu rheoli eu c?n pan fyddant yn cael eu gollwng yn rhydd am ymarfer corff a bod amod (v) wedi ei gynnwys fel amddiffyniad lle nad dyma'r achos.

 

Cafodd diwygiad y Cynghorydd Shotton ei eilio gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Cindy Hinds ar wahardd c?n rhag mynd i mewn i unrhyw ardaloedd chwarae, esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai angen gwahanol arwyddion ar gyfer gwahanol ardaloedd.

 

Tra roedd y Cynghorydd Veronica Gay yn cytuno gyda'r diwygiad, teimlai ei bod yn bwysig cydnabod yr angen  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Cynllun y Cyngor 2017-23 pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas: I ystyried a chadarnhau targedau penodol a osodwyd o fewn Cynllun y Cyngor  2017-23, a dangosyddion perfformiad cenedlaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) Gynllun (Gwella) y Cyngor 2017-23 a oedd wedi cael ei adolygu a’i adnewyddu i adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Cyngor am dymor pum mlynedd y weinyddiaeth newydd.  Ymhlith y set diwygiedig o chwech blaenoriaeth, tynnwyd sylw at flaenoriaeth y ‘Cyngor Gwyrdd’ a oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r targedau a’r cerrig milltir yn y ddogfen Mesurau a Cherrig Milltir yng Nghynllun (Gwella) y Cyngor 2017 – 23 ac yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion i'w dwyn gerbron y Cabinet cyn i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu i’w gyhoeddi yn derfynol.

26.

Trefniadau Gorfodaeth Amgylcheddol a Pharcio Ceir Diwygiedig pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:   Ceisio cymeradwyaeth Craffu ar gyfeiriad y Gwasanaeth Gorfodaeth Amgylcheddol a Pharcio Ceir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwastraff a Gwasanaethau Ategol adroddiad i ystyried cysylltu â phartner preifat arbenigol i gynnal gweithgareddau gorfodi amgylcheddol ar drosedd lefel isel megis baw c?n, taflu sbwriel a pharcio ceir ar ran y Cyngor o dan gontract dwy flynedd.

 

Roedd casgliadau treial 12 mis y cytundeb ffurfiol gyda Kingdom yn gadarnhaol o ran y cynnydd sylweddol yn y nifer o rybuddion cosb benodedig a roddwyd yn ystod yr amser hwnnw a’r effaith ar ganol trefi a mannau agored.  Dangosodd dadansoddiad o fathau o sbwriel rhwng mis Gorffennaf 2016 a mis Ebrill 2017 mai sbwriel sigaréts oedd hyn yn bennaf.     Roedd telerau’r cytundeb yn golygu bod y gyfran o incwm a gynhyrchir gan y Cyngor yn cael ei defnyddio i ariannu gweithgarwch gorfodi ychwanegol i dargedu ardaloedd penodol lle mae baw c?n yn broblem.  Byddai estyn y peilot tan fis Rhagfyr 2017 yn galluogi ystyriaeth o ddatrysiad tymor hwy.

 

I fynd i’r afael â phroblem gwastraff ochr, roedd y Cyngor yn bwriadu cymryd ymgynghoriad 3 cham i weithio gyda thrigolion a fethodd i gyflwyno eu gwastraff yn y ffordd gywir ac i ddefnyddio pwerau penodol i gyhoeddi rhybuddion cosb benodedig fel opsiwn olaf.  Byddai tîm bach o swyddogion y Cyngor yn gyfrifol am y dull gorfodi hwn, ochr yn ochr â throsedd amgylcheddol tebyg megis tipio anghyfreithlon, yn ogystal â rhoi cefnogaeth achlysurol i'r darparwr contract ar droseddau amgylcheddol lefel isel.

 

Croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton ganfyddiadau’r adroddiad a siaradodd o blaid yr holl argymhellion.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd David Evans sylwadau ar safle’r Cyngor ar orfodaeth amgylcheddol.  Teimlai bod dadansoddi rhybuddion cosb benodedig yn dangos yr angen am fwy o ffocws ar droseddau baw c?n yn hytrach na thaflu sbwriel ac y byddai dod â'r gwasanaeth yn fewnol yn helpu i flaenoriaethu a mynd i’r afael â’r troseddau mwyaf pryderus.    Pwysleisiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y canlyniadau mwy llwyddiannus o drefnu'r gwasanaeth drwy gontract allanol a sicrhaodd fod camau gorfodi baw c?n (er ei fod yn fwy heriol i’w orfodi) yn flaenoriaeth allweddol.  Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod sbwriel sigaréts yn broblem eang a bod effaith y peilot yn amlwg ar draws y sir.  Anogodd Aelodau i rannu cudd-wybodaeth ar faw c?n, gan ddarparu manylion swydd yr uwch swyddog i reoli'r contract allanol a delio gyda’r apeliadau.

 

Cytunodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwastraff a Gwasanaethau Ategol i ddosbarthu’r adroddiad ‘Cadwch Gymru'n Daclus’, ynghyd â manylion ar y nifer o achosion gorfodi yr aeth y Cyngor â hwy i'r llys.

 

O ran gorfodi gwastraff ochr, ar gyfer y ddau opsiwn ar gam 1 y broses, esboniwyd y byddai'r bin yn cael ei labelu i gynghori'r trigolion pam bod gwastraff wedi cael ei dynnu oddi yno neu bod un bag ar ôl yn y bin gwag.  Pwysleisiwyd na fyddai gwastraff ochr yn cael ei adael y tu allan i eiddo.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Haydn Bateman Opsiwn 1 cam 1 y broses, sef cael gwared ar bob gwastraff ochr yn y lle cyntaf.

 

Dywedodd  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Adolygiad y Cyngor o Derfyn Cyflymder Priffyrdd pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:   Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Craffu ar gynnydd Cam 2 yr adolygiad terfyn cyflymder.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Strategaeth y Priffyrdd adroddiad diweddaru ar gynnydd wrth fynd i’r afael ag anghysondebau hanesyddol o fewn gorchmynion terfyn cyflymder presennol, ynghyd â manylion y cam nesaf er mwyn galluogi darpariaeth un Gorchymyn wedi'i gydgrynhoi.  Cafodd diweddariad ei gynnwys ar ganlyniad gofynion Aelodau unigol am derfynau cyflymder diwygiedig yn eu wardiau, gydag eglurhad ar feini prawf cenedlaethol Adran yr Economi a Chludiant, lle cafodd yr holl geisiadau eu hystyried.

 

Wrth grynhoi’r pwyntiau allweddol, tynnodd y Rheolwr sylw at amserlenni disgwyliedig ar gyfer hysbysebu’r Gorchymyn, ynghyd â’r ymgynghoriad i ddelio a gwrthwynebiadau.  Pwysleisiodd bwysigrwydd cael y Gorchymyn yn gywir er mwyn lleihau unrhyw risg o her gyfreithiol.

 

O ran symud yr argymhellion, gofynnodd y Cynghorydd David Evans am amserlenni ar gyfer arwyddion a chafodd wybod mai 4-6 wythnos ar ôl y cyfnod hysbysebu y bydd hyn, oni bai y byddai gwrthwynebiadau’n dod i law.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Owen Thomas y canlyniadau ar gyfer ffyrdd yn ei ward a chafodd wybod bod yr holl Aelodau lleol wedi cael cynnig y cyfle i drafod y canlyniadau gyda Chydlynwyr Ardal Strydwedd.  Awgrymodd y Cadeirydd ei fod yn codi ei bryderon y tu allan i’r cyfarfod.  Siaradodd y Rheolwr am y gwaith a gynhaliwyd i gynhyrchu asesiadau manwl sy’n cynnwys ystod o ffactorau cyfrannol a meini prawf cenedlaethol.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Haydn Bateman, eglurodd y Rheolwr mai nod yr adolygiad oedd cael gwared ar anghysondebau a sicrhau bod y terfynau cyflymder yn orfodol.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai hysbyseb y Gorchymyn yn galluogi cyfleoedd i godi gwrthwynebiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r cynnydd a wnaed ar Adolygiad y Terfyn Cyflymder a’r broses gyfreithiol sy’n ofynnol er mwyn galluogi un Gorchymyn wedi'i gydgrynhoi; a

 

 (b)      Bod canlyniad asesiadau gofynion Aelodau ar gyfer diwygiadau terfyn cyflymder unigol, sydd wedi’u hystyried yn erbyn y canllawiau terfyn cyflymder a gynhyrchwyd gan Adran yr Economi a Chludiant, yn cael ei nodi.

28.

Adolygu'r Polisi Cynnal yn y Gaeaf pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:   Ceisio argymhelliad Craffu ar gyfer cymeradwyo’r Polisi Cynnal yn y Gaeaf diwygiedig sy’n cynnwys manylion ymateb y Cyngor yn ystod digwyddiadau tywydd anffafriol eraill mewn argyfwng.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd adroddiad diweddaru ar newidiadau arfaethedig i'r Polisi Cynnal yn y Gaeaf, ynghyd â manylion ymateb y sir i amodau tywydd anffafriol, gan geisio cymeradwyaeth y Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod newydd i gael ei weithredu yn ystod cyfnodau o law trwm neu ddigwyddiadau eraill o lifogydd.  Yn ystod y cyflwyniad, crynhowyd dyletswyddau statudol y Cyngor a chafodd y manylion eu rhannu ar drefniadau gweithredu gwasanaeth y gaeaf. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Paul Shotton, esboniodd y Rheolwr fod y Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod wedi ei ddatblygu i alluogi ymateb rhanbarthol cyson oherwydd y posibilrwydd o lifogydd i ardaloedd trawsffiniol.  Roedd trafodaethau’n cael eu cynnal ar gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau a Chyfoeth Naturiol Cymru.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Haydn Bateman y gwariant ar gyfer 2016/17 ac fe’i hysbyswyd bod hyn yn adlewyrchu cynnydd yn y nifer o alwadau am halen ar nosweithiau rhewllyd, yn hytrach na digwyddiadau o eira.  Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai gwybodaeth ar y nifer o alwadau i fynd allan dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor.    Yn dilyn awgrymiad gan y Cynghorydd Bateman, cytunwyd y byddai trefniadau’n cael eu gwneud i’r Pwyllgor edrych ar un o'r cerbydau fflyd graeanu newydd yn Neuadd y Sir.

 

Canmolodd y Cynghorydd Owen Thomas y gwasanaeth ond tynnodd sylw at yr effaith ar ffyrdd gwledig pe bai erydr eira yn cael eu hatal wrth ymateb i ddigwyddiadau eira.  Cytunodd y Rheolwr i drosglwyddo’r sylw hwn i’r Swyddog ar Ddyletswydd ac esboniodd fod ffyrdd yn cael eu blaenoriaethu.  Dywedodd fod y Cyngor yn gallu galw ar nifer o gontractwyr amaethyddol ac y byddai'n dosbarthu manylion y rhai a elwir allan dros gyfnod o 3 blynedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Veronica Gay, rhoddodd swyddogion nodyn atgoffa am y trefniadau cytûn ar y cyd ar gyfer llety gwarchod yn cynnwys Strydwedd a Thai. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn argymell cymeradwyaeth y Polisi Cynnal yn y Gaeaf diwygiedig (2017-19) – Atodiad 1 a’r gweithdrefnau a gynhwysir yn hynny o beth ar gyfer darparu'r gwasanaeth cynnal yn y gaeaf; a 

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn nodi manylion ymateb y sir i ddigwyddiadau o dywydd anffafriol ac yn argymell cymeradwyo'r Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod newydd – Atodiad 2.

29.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:   Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried.

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd David Evans, cytunwyd y byddai eitem ar Gludiant Ysgol yn cael ei drefnu ar gyfer mis Rhagfyr 2017, gyda chyfarfod ychwanegol i’w drefnu os oes angen. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

30.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd dau aelod o’r cyhoedd ac un aelod o’r wasg yn bresennol.