Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

61.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

62.

Cofnodion pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Ionawr 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2018.

 

Cywirdeb

 

Cofnod rhif 54: Yn llinell gyntaf yr ail baragraff lle’r oedd y Cynghorydd Peers wedi siarad o blaid Rheswm 1, dywedodd y Cynghorydd Gay y dylid dileu’r gair ‘a’ a rhoi’r geiriau ‘yn hytrach na’ yn ei le.

 

Cofnod rhif 56: Yn llinell gyntaf y trydydd paragraff, roedd y Cynghorydd Dolphin wedi esbonio pam ei fod o’r farn y dylai’r taliadau fod yn safonol ar draws holl feysydd parcio Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau hyn, y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

63.

Strategaeth Gludiant Integredig Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Strategaeth Gludiant Integredig sy’n datblygu yn y Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith o ddatblygu’r Strategaeth Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Sir y Fflint. Roedd yn ddiolchgar i’r tîm am weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau arian cyfalaf i gefnogi cynlluniau yn y Strategaeth a oedd yn ceisio darparu ateb trafnidiaeth gynaliadwy tymor hir drwy integreiddio pob dull trafnidiaeth gyda chysylltiadau ar draws y sir a’r rhanbarth ehangach.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a’r Rheolwr Cludiant a Logisteg gyflwyniad yn ymwneud â’r materion a ganlyn:

 

·         Prif Ysgogwyr – Pam ymdrin â’r mater hwn yn awr?

·         Ateb Hollol Integredig

·         Llwybr Beicio a Theithio Llesol

·         Gwelliannau i’r Priffyrdd

·         Rhwydwaith Bysiau

·         Gwelliannau i’r Rheilffyrdd

·         Cysylltu Sir y Fflint

·         Cynnydd hyd yma

 

Roedd y Strategaeth wedi esblygu o Gynllun Glannau Dyfrdwy i ymestyn ar draws y sir a’i alinio â system Metro Gogledd Ddwyrain Cymru (a oedd yn cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru) ac roedd wedi helpu i ddenu arian cyfalaf. Er bod rhai o’r prif ysgogwyr yn ymwneud â mynd i’r afael â thagfeydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy fel prif ganolbwynt cyflogaeth yr ardal honno, nod y prosiect cyffredinol oedd sefydlu cysylltiadau rhwng safleoedd cyflogaeth allweddol ac ardaloedd preswyl ledled Sir y Fflint. Cafodd yr Aelodau eu hannog i ddod i weithdy ar 11 Ebrill 2018 i drafod yr adolygiad o’r cymorthdaliadau trafnidiaeth gyhoeddus a datblygiad trefniadau trafnidiaeth gymunedol.

 

Cafodd y Pwyllgor ei gyflwyno i Mr. Askar Sheibani (Cadeirydd Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy) a siaradodd am bwysigrwydd economaidd Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn y rhanbarth a’r nod o wella’r cysylltiadau gydag ardaloedd eraill yn Sir y Fflint.  Rhoddodd ganmoliaeth i ddull gweithredu blaengar y Cyngor a’i gwaith roedd wedi ei gyflawni hyd yma.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriodd yr Aelodau at y cynnydd a wnaed a’r ymrwymiad i greu cysylltiadau er mwyn cyrraedd at gyfleoedd cyflogaeth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Shotton gwestiwn am yr amserlenni ar gyfer y canolbwynt rheilffordd/ffyrdd/bysiau. Dywedodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r arian ar gyfer y bysiau newydd ac roedd disgwyl iddynt fod yn weithredol erbyn mis Hydref. Er bod arian a thir ar gael, byddai angen gwneud penderfyniad yngl?n â’r trefniadau gweithredol.  Y ddarpariaeth ar gyfer rheilffyrdd oedd yr agwedd fwyaf uchelgeisiol a byddai’r opsiynau yn cael eu trafod gan weithgor ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru.

 

Er ei fod yn croesawu’r Strategaeth, roedd y Cynghorydd Dolphin o’r farn nad oedd digon o fanylion yn yr adroddiad, yn enwedig yngl?n â’r manteision i drigolion yng ngorllewin Sir y Fflint.  Nodwyd ei bryderon ynghylch y tagfeydd yn ardal cyffordd Lloc/Caerwys ar yr A55. Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod nad oedd yr adroddiad yn adlewyrchu lefel y gwaith a wnaed hyd yma ond esboniodd fod y prosiect yn ehangu i gynnwys ardaloedd eraill. Nid oedd yn bosibl amcangyfrif cyfanswm y gost ar hyn o bryd gan fod y prosiect yn cynnwys nifer o gynlluniau oedd yn esblygu ac roedd rhai yn bodloni’r meini prawf ar gyfer arian Teithio Llesol.  ...  view the full Cofnodion text for item 63.

Item 4 - Presentation Slides pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

64.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddogion (Cynllunio a’r Amgylchedd) a (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2017/18 mewn perthynas â’r flaenoriaeth ‘Cyngor Gwyrdd’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor. Tynnwyd sylw’r Aelodau at feysydd fel nodi strategaeth ddewisol y Cynllun Datblygu Lleol ac opsiynau ar gyfer gwella perfformiad ailgylchu yn safleoedd ailgylchu nwyddau cartref.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Shotton, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod trafodaethau yn cael eu cynnal ar y defnydd posibl o blastigau wedi’u hailgylchu yn gymysg â bitwmen y gellid ei osod ar arwynebau rhai ffyrdd, fodd bynnag, nid oedd y dull hwn wedi ei brofi hyd yma.  Byddai angen i ddyraniad £1.427m Sir y Fflint o arian Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cynnal ffyrdd ynghyd â dyraniad cyfalaf y Cyngor gael ei ddyrannu’n ofalus i ddarparu’r manteision gorau posibl. Cynhaliwyd arolwg o’r holl ffyrdd i ddatblygu rhaglen a fyddai’n cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Evans, esboniwyd y byddai amodau’r ffyrdd a’r tywydd yn penderfynu a fyddai’n gost-effeithiol i selio’r tyllau yn y ffyrdd ar ôl eu trwsio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gay at nifer o broblemau yn ei ward, gan gynnwys tipio anghyfreithlon yn y ganolfan ailgylchu nwyddau cartref yn Saltney a cholli gwasanaethau bysiau yn Boundary Lane. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y byddai’r opsiynau ar gyfer trefniadau trafnidiaeth gymunedol yn cael eu rhannu yn y gweithdy a oedd i’w gynnal yn y dyfodol ac anogodd yr Aelodau i roi gwybod i’r goruchwyliwr ardal perthnasol am unrhyw broblemau yn ymwneud ag arwyneb ffyrdd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hinds a fyddai mwy yn gallu cael ei wneud i roi cyhoeddusrwydd i amserlenni bysiau pan fydd gwasanaethau yn newid. Dywedodd y Rheolwr Cludiant a Logisteg fod y tîm yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion. Aeth ymlaen i ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bateman ar waredu bysiau ar ôl i gwmni GHA Coaches fynd i’r wal, a dywedodd fod arian yn cael ei ail-fuddsoddi mewn trefniadau trafnidiaeth.

 

Yn ystod trafodaeth ar drefniadau staffio, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) mai Derrick Charlton oedd swyddog arweiniol llwybrau cyhoeddus bellach, ac roedd dull gweithredu yn cael ei ystyried gyda Wrecsam mewn perthynas â’r Fforwm Mynediad Lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi adroddiad monitro 3ydd Chwarter Cynllun y Cyngor 2017/18 i fonitro tanberfformio.

65.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg yr amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol gan atgoffa’r Aelodau am y gweithdy trafnidiaeth ar 11 Ebrill. Roedd y Cynghorydd Hinds yn ymddiheuro na fyddai’n bresennol. O ran yr eitemau ar yr amserlen, esboniodd yr Hwylusydd y byddai’r ymweliad safle â Pharc Adfer yn cael ei aildrefnu ar amser priodol.

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Evans, cytunodd y swyddogion i gyflwyno’r adroddiad ar Orfodaeth a Gofal Amgylcheddol yng nghyfarfod mis Ebrill a fyddai’n cael ei gynnal ym Mharc Treftadaeth Maes-glas. Cytunwyd hefyd y byddai Aelodau yn cael eu gwahodd i fynd ar daith o amgylch y safle am 9.30am cyn i’r cyfarfod ddechrau am 10am.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel y bo’r angen.

66.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.