Skip to Content
Hafan>
Preswyl > Y Cyngor a Democratiaeth > Canlyniadau'r Etholiad

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

52.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

53.

YSTYRIED MATER A ATGYFEIRIWYD AT Y PWYLLGOR YN UNOL Â'R TREFNIADAU GALW I MEWN pdf icon PDF 77 KB

Mae penderfyniad a wnaethpwyd gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr 2017 ynghylch

cyflwyno’r ffioedd gwastraff gardd yn Sir y Fflint wedi’i alw i mewn.

 

Wedi’i atodi mae copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem wedi’i galw i mewn.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o’r drefn ar gyfer galw Penderfyniad Cabinet i Mewn fel y manylwyd yn y ddogfen ategol.  Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar Gyflwyno Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr 2017.  Roedd y penderfyniad (Cofnod o Benderfyniad 3469) wedi’i alw i mewn gan y Cynghorwyr Mike Peers, Richard Jones, Dave Mackie, Dennis Hutchinson a Clive Carver.    Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, y Cofnod o Benderfyniad a’r Hysbysiad Galw i Mewn wedi eu nodi fel pump rheswm dros alw i mewn, wedi eu cynnwys gyda phapurau’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod. 

54.

Cyflwyno'r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint pdf icon PDF 114 KB

Adroddiad y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) – Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad

 

I gynorthwyo Aelodau, mae’r dogfennau canlynol wedi’u hatodi:

 

  • Copi o adroddiad y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant)
  • Copi o’r Cofnod o Benderfyniad
  • Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ran y llofnodwyr galw i mewn, siaradodd y Cynghorydd Mike Peers i ddechrau.    Tynnodd sylw’r Pwyllgor at arolwg diweddar ym mhapur newydd y Leader lle’r oedd 88% o ymatebwyr yn erbyn codi ffi am gasglu gwastraff gardd a 12% yn unig o blaid.   Hefyd cyfeiriodd at negeseuon e-bost a dderbyniwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned yn gwrthod y cynnig.   

 

Rheswm 1:    Nid yw’r cynigion yn alinio gyda Glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer Casglu Gwastraff yng Nghymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peers fod y penderfynwyr wedi methu pwynt y Glasbrint, sef hybu compostio cynnyrch cartref a chyflwyno ffioedd ar gyfer casglu gwastraff gardd.   Ategodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd y cynnig yn alinio gyda’r glasbrint yr oedd yn tybio fod yr holl Aelodau wedi’i ddarllen.   Dywedodd fod y glasbrint yn rhagweld dull dau gam gyda chompostio i ddechrau ac yna codi tâl gyda’r bwriad i gyflawni dim gwastraff a lleihau’r ôl-troed carbon.   Roedd yr elfen codi tâl gyda’r Glasbrint Gwastraff wedi’i fwriadu fel ysgogiad i leihau gwastraff a chostau tirlenwi ac nid creu llif incwm i’r Sir.   Dywedodd y dylid codi tâl os bydd popeth arall yn methu, gyda chompostio fel moronen a chodi tâl yn ffôn fawr.  

 

Rheswm 2:    Cabinet yn ystyried cymeradwyo’r cynigion yn defnyddio Cofnodion Craffu wedi eu cymeradwyo ac anghywir.  

 

            Atgoffodd y Cynghorydd Peers y Pwyllgor nad oedd y cofnodion a ddefnyddiwyd yn y Cabinet wedi eu cymeradwyo gan y Pwyllgor ac roeddent yn anghywir oherwydd diffyg manylder ar ei gynnig. 

 

Rheswm 3:    Nid oedd y cynigion yn ystyried pobl h?n a diamddiffyn o’r cyflwyniad arfaethedig o ffioedd gwastraff gardd ar 1 Ebrill 2018.  

 

Roedd y Cynghorydd Peers yn teimlo nad oedd yr effaith ar bobl h?n a diamddiffyn wedi’i ystyried yn iawn; barn oedd yn cael ei adleisio gan y Cynghorydd Richard Jones oedd yn teimlo bod y ffi yn annheg a byddai’n effeithio ar bobl heb gerbyd. 

 

Rheswm 4: Mae’r ffioedd yn afresymol, yn groes i Ddeddf yr Amgylchedd 1990 ac o’u cymharu ag awdurdodau lleol eraill.

 

Barn y Cynghorydd Peers oedd bod y ffioedd a gynigiwyd yn uwch na’r ffioedd gan awdurdodau cyfagos.   Aeth ymlaen i ddweud bod y cynnig i godi ffi am yr ail a’r trydydd bin yn anghymesur ac yn afresymol.

  

Roedd y Cynghorydd Richard Jones wedi nodi capasiti'r biniau gwastraff gardd a ddefnyddir gan dri o Awdurdodau Gogledd Cymru a Chyngor Cilgwri ynghyd â’r ffioedd.   Dywedodd fod y ffigyrau hyn yn dangos y bydd y cynigion ar gyfer codi tâl yn Sir y Fflint llawer drutach nag awdurdodau eraill oherwydd capasiti ciwbig y biniau ac amlder casglu.  Teimlodd nad oedd y dull hwn yn deg nac yn gynaliadwy.

 

Rheswm 5: Er mwyn asesu adfer cost llawn, nid yw costau manwl y Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd yn hysbys ac nid oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiadau Craffu na Chabinet.

 

Roedd y Cynghorydd Peers yn gofyn a oedd corff fel CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth) wedi’i ddefnyddio i gefnogi’r Cyngor i weithredu’r Glasbrint.Roedd o’r farn nad  ...  view the full Cofnodion text for item 54.

55.

Cofnodion pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Tachwedd a 12 Rhagfyr 2017.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i)         Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2017.

 

Cywirdeb

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Veronica Gay at y paragraff olaf ar dudalen 21 a dywedodd fod y Cynghorydd Peers wedi cynnig bod y penderfyniad ar pa un ai i weithredu polisi ffi ar gyfer y gwasanaeth Gwastraff Gardd yn cael ei adolygu a gofynnodd i’r cofnodion gael eu newid i adlewyrchu hyn.  Dywedodd y Cadeirydd fod yr Arweinydd wedi dweud yn flaenorol ei fod yn bresennol yn y cyfarfod nad oedd wedi’i gofnodi.   

 

(ii)        Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

56.

Cyllideb Cam 2: Adolygiad o Gostau Parcio Ceir pdf icon PDF 130 KB

Derbyn argymhelliad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ar ffioedd arfaethedig holl feysydd parcio’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn gofym am argymhelliad gan y Pwyllgor ar y ffioedd meysydd parcio arfaethedig ym mhob maes parcio sy’n eiddo i’r Cyngor.    Rhoddodd wybodaeth gefndirol a dywedodd nad oedd y ffioedd meysydd parcio wedi eu hadolygu ers eu cyflwyno ac nad oedd yr incwm a gynhyrchwyd yn diwallu cost llawn rheoli a gweithredu’r meysydd parcio.  Roedd y sefyllfa hon yn groes i bolisi corfforaethol y Cyngor sydd newydd ei fabwysiadu ar gyfer ffioedd a thaliadau, sy'n disgwyl bod swyddogaethau nad ydynt yn orfodol ond y gellir codi tâl amdanynt, yn cael eu rhoi ar sail adennill costau llawn, lle bynnag y bo'n bosibl. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod y trefniadau ffioedd diwygiedig arfaethedig wedi eu dangos yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Roedd yna 2 ddewis ar gyfer y ffioedd diwygiedig a gofynnwyd i’r Pwyllgor fynegi pa un o’r dewisiadau a ffefrir.   Roedd y ffioedd arfaethedig wedi eu hystyried yn rhesymol a byddent yn parhau’n isel wrth gymharu costau parcio yn Sir y Fflint gyda siroedd eraill yng Nghymru.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai adolygiad ac asesiad o effaith pellach yn cael eu cynnal chwe mis ar ôl cyflwyno’r ffioedd newydd ac adroddir yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Hydref 2018. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at y ffioedd arfaethedig ac eglurodd ei farn na ddylid safoni’r ffioedd ar draws pob maes parcio yn Sir y Fflint.    Soniodd am y cyfleusterau, siopau a gwasanaethau a ddarparwyd o fewn pob tref a dywedodd bod angen cymryd hyn i ystyriaeth wrth gynnig newidiadau i’r trefniadau ffioedd presennol   Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin i’r tariff presennol barhau yn Nhreffynnon.  Hefyd eglurodd bod yna ddau faes parcio wedi eu lleoli yn agos at ei gilydd yn Nhreffynnon a gofynnodd i’r rhain gael eu huno o dan yr un enw gyda’r un ffioedd parcio i gynorthwyo trigolion sy’n defnyddio’r cyfleusterau lleol; gan ystyried Canolfan Hamdden Treffynnon fel enghraifft.

 

Cytunodd y Cynghorwyr Haydn Bateman ac Owen Thomas gyda’r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Dolphin y dylai ffioedd maes parcio yn Sir y Fflint gael eu safoni.Teimlodd y Cynghorwyr Haydn Bateman a Dave Hughes y dylai ffioedd gael eu safoni yn unol â’r ffioedd presennol yn yr Wyddgrug.   

 

Roedd y Cynghorydd Sean Bibby yn cynnig newid i’r ddau opsiwn ar gyfer meysydd parcio Bwcle, Cei Connah, Treffynnon, Queensferry a Shotton a chynigiodd dariff ychwanegol o 20c ar gyfer y 30 munud cyntaf.  Roedd y Cynghorydd Ian Dunbar yn eilio hyn.    

 

Ailbwysleisiodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd pob tref yn darparu’r un cyfleusterau a dywedodd bod parcio am ddim yn cynyddu’r ymwelwyr â chanol y dref gan fod pobl yn gyfarwydd â siopa yn yr ardal honno.  Hefyd soniodd am gost darparu a chynnal a chadw meysydd parcio a dywedodd y dylai’r wybodaeth ar wariant ac incwm a dderbyniwyd o bob un o’r meysydd parcio yn Sir y Fflint fod ar gael ar gyfer cymharu ac i bennu lefelau incwm yn y dyfodol.    Mynegodd y farn nad oedd rhai  ...  view the full Cofnodion text for item 56.

57.

Adolygiad o’r Polisi Torri Gwair pdf icon PDF 84 KB

Hysbysu’r Pwyllgor Craffu o’r Polisi Torri Gwair diwygiedig newydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor am y Polisi Torri Gwair a adolygwyd.  Gwahoddodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i gyflwyno’r adroddiad.    

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndirol ac eglurodd bod yr adroddiad yn rhoi manylion y safonau a ddilynwyd ym mhob lleoliad a’r dewis darparu gwasanaeth a ffefrir ym mhob achos.  Roedd yr adroddiad yn manylu’r safonau torri gwair ar y priffyrdd yn benodol ac yn dangos cydymffurfiaeth y Cyngor gyda’r Cod Ymarfer Priffyrdd diweddaraf a ryddhawyd ym Mawrth 2017.  Dywedodd y Prif Swyddog am y prif newidiadau i’r polisi presennol fel y manylwyd yn yr adroddiad.    

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y Polisi diwygiedig oedd ynghlwm â’r adroddiad a dywedodd nad oedd yn nodi’r hyn oedd wedi’i dynnu allan o’r adroddiad gwreiddiol ac felly nad oedd yn bosibl gweld pa newidiadau a wnaed i’r polisi diwygiedig.  Soniodd y Cynghorydd Jones am bwysigrwydd casglu sbwriel, yn arbennig cyn y toriad cyntaf. 

 

Ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd gan Aelodau ynghylch gweld ar briffyrdd, mynedfeydd, ymyl glaswellt a sbwriel.   Mewn ymateb i’r pryderon gan y Cynghorydd Colin Legg yngl?n â Gingroen, eglurodd y Prif Swyddog y gweithdrefnau ar gyfer rheoli twf a gwaredu Gingroen.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo Polisi Torri Gwair diwygiedig y Cyngor.  

58.

Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol pdf icon PDF 102 KB

Darparu gwybodaeth am yr amcanion a’r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr adroddiad i gynghori ar amcanion a chamau yn y Cynllun Coed a Choetir Trefol a gwahoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) i gyflwyno’r adroddiad.    

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd fod y Strategaeth Coed a Choetir Trefol yn darparu dull ar gyfer rheoli coed a choetiroedd yn fwy cynaliadwy i ddiwallu dyheadau Llywodraeth Cymru a’r Cyngor.    

 

            Roedd y Strategaeth yn archwilio’r cyfleoedd ar gyfer plannu coed, sut y gwneir hyn, ac mae’n darparu dull arfer gorau i reoli coed presennol.    Gofynnwyd i’r Aelodau ystyried y weledigaeth, amcanion a chamau fel y nodwyd yn y Strategaeth oedd ynghlwm â’r adroddiad.   

 

            Mewn ymateb i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd, eglurodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol yr ymgysylltir â chymunedau lleol yngl?n â lleoliad plannu coed a hefyd i gynnwys y gymuned yn y broses o blannu'r coed.   

 

            Croesawodd y Cynghorydd Veronica Gay yr adroddiad ac roedd yn gefnogol i gynnwys cymunedau lleol a fyddai’n gwarchod coed trefol a choetir lleol yn y dyfodol ac yn atal fandaliaeth.

 

            Roedd y Cynghorydd Owen Thomas yn mynegi pryderon ei bod yn anodd gweld ar rai priffyrdd oherwydd bod coed yn cael eu plannu a gofynnodd a gellir cael golwg ar hyn.

 

            Soniodd y Cynghorydd Ian Dunbar am y mater o fandaliaeth i goed hefyd a gofynnodd a oedd unrhyw fath o warchodaeth.   Hefyd, gofynnodd pwy oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw plannu coed yn y dyfodol.   

 

            Ymatebodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol i’r pryderon a’r cwestiynau am ddiogelu coed a dywedodd fod plannu'r “goeden iawn” yn y “lleoliad iawn” yn ystyriaeth hanfodol.    Hefyd dywedodd fod cynnwys plant yn uniongyrchol mewn plannu coed yn datblygu parch i bwysigrwydd a gwarchod coed a choetiroedd yn y dyfodol.   Gan gyfeirio at gynnal a chadw coed, eglurodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol bod y rhan fwyaf o’r mannau lle’r oedd coed yn cael eu plannu o dan reolaeth yr Awdurdod a dywedodd nad oedd cost cynnal a chadw yn ddrud yn y tymor hir.   Roedd yncynghori bod y Strategaeth yn ystyried sut i ddatblygu gwytnwch i stoc coed ar gyfer y dyfodol gyda’r bwriad i ddarparu amrywiaeth o wahanol rywogaethau ar draws y Sir.  

 

            Soniodd y Cynghorydd Paul Shotton am fudd i iechyd o ganlyniad i lai o lygredd aer o ganlyniad i blannu coed.  Cyfeiriodd at y cynllun ‘Ein Iard Gefn’ a ddefnyddiwyd gan Gyngor Tref Cei Connah a oedd yn profi’n fuddiol.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y weledigaeth, amcanion a’r camau fel y nodwyd yn y Strategaeth Coed a Choedwigaeth Trefol yn cael eu cymeradwyo.

59.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried.   Dywedodd y cytunwyd y byddai cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor yn cael ei drefnu yn ystod mis Chwefror a byddai’r Aelodau’n derbyn e-bost i gadarnhau’r dyddiad.  Hefyd dywedodd yr Hwylusydd bod gwahoddiad wedi’i anfon at aelodau’r Pwyllgor i fynychu ymweliad safle ym Mharc Adfer ar 21 Chwefror 2018 am 10.00am.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a  

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol rhwng cyfarfodydd fel bo'r angen. 

60.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd yna un aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol. 

 

Related Pages

Useful Websites

Useful Documents