Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

44.

SESIWN GWYBODAETH

Cofnodion:

Cyn dechrau’r cyfarfod, rhoddwyd cyflwyniad i Aelodau’r Pwyllgor ar Ddeddf Graddau Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 gan Sian Jones a Helen O’Loughlin.  Cytunwyd y byddai’r sleidiau’n cael eu dosbarthu trwy e-bost.

45.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

46.

Cofnodion pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 17 Hydref 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

47.

Rheoli Plâu pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad yn amlinellu’r gwasanaethau a ddarperir i drigolion Sir y Fflint gan y Tîm Rheoli Plâu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Bithell yr adroddiad ar waith gwasanaeth Rheoli Plâu'r Cyngor.  Tynnodd sylw at y pwysigrwydd o ran parhau â'r gwasanaeth anstatudol hwn i helpu i gwrdd â’r agenda iechyd y cyhoedd.

 

Dywedodd y Rheolwr Amddiffyn Cymuned a Busnes fod ffocws cynyddol ar hyrwyddo'r gwasanaeth ac y gallai Aelodau gynorthwyo trwy godi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion.

 

Siaradodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu am brofiad helaeth y tîm bach wrth ddarparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel a gydnabuwyd mewn adborth cadarnhaol gan drigolion.  Roedd nifer o fentrau i roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau sydd ar gael a oedd am bris cystadleuol ac yn cynnwys ymweliadau dilynol.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) bod gwasanaethau ataliol hefyd yn cael eu cynnig i gleientiaid ac mai'r nod hirdymor oedd datblygu model hunan-ariannu ar gyfer y gwasanaeth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Evans am ddelio â phroblemau plâu sy'n deillio o eiddo person arall.  Dywedodd yr Arweinydd Tîm mewn perthynas â thir preifat y byddai'r tîm yn cysylltu â’r trigolion hynny ac yn rhoi cyngor i'w hannog i fynd i'r afael â'r broblem.  Pe bai'r broblem yn digwydd ar eiddo'r Cyngor, gellid gwneud hyn trwy gydweithwyr yn y Gwasanaethau Tai.

 

Canmolodd y Cadeirydd y gwasanaeth a roddwyd gan y Cyngor.  Teimlai na ddylai rhywun sy'n rhoi gwybod am bla ar eiddo cymydog ddwyn y gost o'i ddatrys a dylai cynghorau gael mwy o bwerau i fynd i'r afael â hyn.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Shotton broffesiynoldeb y tîm a thynnodd y Cynghorydd Legg sylw at y peryglon o anwybyddu rheolaeth pla.

 

Pan ofynnwyd am daliadau, dywedodd y Rheolwr fod y rhain yn cael eu hadolygu'n flynyddol ac yn cael eu cynnwys gyda’r taflenni cyhoeddusrwydd sy’n cael eu dosbarthu i gleientiaid masnachol.  Nododd, yn wahanol i gwmnïau'r sector preifat, sy'n darparu gwasanaethau rheoli plâu, roedd y Cyngor yn gallu cynnig cyfraddau rhatach i gartrefi sy'n cwrdd â'r meini prawf.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach, esboniodd swyddogion y trefniadau gyda North Clwyd Animal Rescue i gymryd c?n crwydr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau'n nodi cynnwys yr adroddiad ac yn hyrwyddo'r gwasanaeth Rheoli Pla yn eu cymunedau lleol, lle bo modd.

48.

Cynllun Lliniaru Llifogydd Yr Wyddgrug - Adolygu dichonoldeb opsiynau pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad cynnydd ar y cynllun arfaethedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad ar waith diweddar dan arweiniad tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol y Cyngor (FCERM) ar adolygiad o opsiynau ymarferol ar gyfer dylunio a darparu Cynllun Lliniaru Llifogydd yn yr Wyddgrug.  Gwahoddwyd cynghorau i gyflwyno manylion cynlluniau ar raddfa fawr i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru (LlC) a oedd yn datblygu rhaglen genedlaethol pum mlynedd o gynlluniau FCERN gydag arian a ddyrannwyd.  Ar ran y Cyngor, roedd Ymgynghorwyr Waterco Consultants wedi ymgymryd ag adolygiad o'r cynllun anfforddiadwy blaenorol yn yr Wyddgrug i archwilio opsiynau ymarferol eraill.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth fod yr ymgynghorwyr wedi cael eu comisiynu i nodi ffyrdd o weithredu'r cynllun yn ymarferol ac mai’r ymagwedd arfaethedig oedd cytuno ar raglen gyflenwi fesul cam o gynlluniau cydran llai.  Roedd yr astudiaeth ymarferoldeb cychwynnol wedi nodi cyfanswm cost dros dro o £5.5m a'r bwriad oedd symud hyn i gam nesaf o adroddiad gwerthuso prosiect i ddarparu mwy o fanylion a phrofion.  Roedd newidiadau i'r ddarpariaeth o gyllid grant yn golygu y gallai ceisiadau ar gyfer cynlluniau cymwys dderbyn cyfraniad rhwng 75-85% gan LlC gyda'r gweddill i'w ariannu o raglen gyfalaf y Cyngor.

 

Rhoddodd y Peiriannydd Prosiect drosolwg o wahanol elfennau'r cynllun a ddangoswyd ar y Map Cyfle, gan esbonio bod rhai ardaloedd yn gorgyffwrdd ond y gellid cyflwyno unrhyw un ar ei ben ei hun.  Byddai'r adroddiad arfarnu prosiect yn darparu mwy o ddata technegol a mireiniad o’r costiadau i Lywodraeth Cymru i’w cymharu â chynlluniau eraill yn y rhanbarth.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Bateman a Shotton, rhoddodd y Peiriannydd Prosiect wybodaeth am danciau storio ataliol.  Mewn perthynas â chostau, eglurodd y Rheolwr fod y cynllun blaenorol o £12 miliwn wedi cynnwys llawer iawn o waith peirianneg sifil ac y gallai'r dull 4-cam ar gyfer y cynllun newydd fod yn fwy manteisiol wrth ddenu arian Llywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn pryderon gan y Cynghorydd Owen Thomas ar yr ardaloedd cyfagos, rhoddodd y Peiriannydd Prosiect fanylion am waith lliniaru llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac eglurodd nod Opsiwn 7 mewn perthynas ag ardaloedd i'r de o'r Wyddgrug.  Gallai gofynion cynllunio ar ddatblygiadau tai yn y dyfodol roi cyfle i gyflawni'r isadeiledd a ddymunir a byddai'n cynnwys cyfyngiadau ar gyfraddau d?r ffo i sicrhau nad oedd y rhain yn ychwanegu at broblemau llifogydd.  Er bod y cynllun newydd yn effeithio llai ar dirfeddianwyr, roedd rhai trafodaethau anffurfiol wedi digwydd a byddai dulliau ffurfiol yn rhan o'r cam nesaf.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i swyddogion edrych ar ei bryderon ynghylch ardaloedd i lawr yr afon fel Llong a Phontblyddyn ac effaith llif o afonydd eraill yn ogystal ag Alyn.  Dywedodd y Rheolwr y byddai'r gwaith parhaus ar y cynllun rheoli perygl llifogydd yn dod yn ôl i'w ystyried gan y Pwyllgor.  Cytunodd y Peiriannydd Prosiect i wneud ymholiadau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar waith gwella a wnaed ym Mhontblyddyn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Bithell am yr amrywiol achosion o lifogydd hanesyddol yn yr Wyddgrug a chymeradwyodd y ffordd ymlaen a nodwyd yn yr adroddiad a fyddai'n  ...  view the full Cofnodion text for item 48.

49.

Cynllun y Cyngor 2017/18 - Monitro canol blwyddyn pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr aelodau adroddiad cynnydd canol blwyddyn ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 ar gyfer y flaenoriaeth 'Cyngor Gwyrdd' a oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) at y risg fawr (coch) ar argaeledd cyllid i ddarparu cynlluniau lliniaru llifogydd a oedd yn gysylltiedig â thrafodaeth gynharach.  O ran rhannau eraill o’r adroddiad, byddai'r cynnydd ar ddatblygu strategaeth leol i wella ansawdd aer yn cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol ac atgoffwyd yr aelodau dyddiad cau cyfagos ar gyfer ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint.

 

Rhoddwyd esboniad gan y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) ar y raddfa cynnydd oren ar gyfer cludiant ysgol, oherwydd tua 30 o gontractau coleg a oedd yn mynd drwy'r broses dendro ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn sylwadau cadarnhaol gan yr Aelodau, gofynnodd y Cadeirydd am ddiolch i dîm cynnal a chadw y gaeaf am eu gwaith caled yn ystod y tywydd garw diweddar.  Mewn ymateb, soniodd y Cynghorydd Carolyn Thomas am ymdrechion pawb a oedd yn gysylltiedig i sicrhau bod y ffyrdd yn cael eu graeanu a bod y  ganolfan alwadau yn weithredol.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Owen Thomas, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yn ymarferol darparu graean i'r holl gontractwyr a ddefnyddiwyd gan y Cyngor a chyfeiriodd at gost a chyfaint yr halen a ddosbarthwyd ar ffyrdd hyd yn hyn y gaeaf hwn.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd cwmnïau bysiau yn parhau i ddarparu gwasanaethau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle'r oedd modd pasio ar y ffyrdd.  Dywedodd y Prif Swyddog fod pob cwmni wedi ymgymryd â'i weithdrefnau asesu risg ei hun a chytunodd i godi'r mater o gydlynu llwybrau bysiau yn well mewn cyfarfod sydd i ddod gyda Arriva.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid nodi adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18 i fonitro tanberfformiad.

50.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried.  Cytunwyd ar y camau gweithredu canlynol:

 

·       Byddai'r cyfarfod ar 16 Ionawr 2018 yn Nyffryn Maes Glas yn cynnwys eitemau ychwanegol ar y Cynllun Coed a Choetiroedd a Chostau Parcio Ceir.

·       Byddai’r aelodau’n cael cadarnhad ynghylch yr ymweliad safle â Pharc Adfer, a drefnwyd dros dro ar gyfer 19 Chwefror 2017.

·       Byddai adroddiad ar ansawdd aer rhanbarthol yn cael ei ychwanegu at y cyfarfod ar 13 Mawrth 2018. Tynnwyd sylw at y sesiwn wybodaeth ar dipio anghyfreithlon i'w gynnal cyn dechrau'r cyfarfod.

·       Byddai'r adroddiad ar gludiant ysgol yn cael ei ystyried cyn diwedd y flwyddyn ysgol, o bosibl ym mis Ebrill 2018.

·       Byddai'r eitem ar barcio wedi'i ddadgriminaleiddio ers 2013 yn cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Fel y gofynnwyd yn yr adroddiad, ystyriodd yr Aelodau eu patrwm cyfarfod dewisol ar gyfer y Pwyllgor a chytunwyd i barhau â'r slot cyfarfod presennol (yn gyffredinol ar ddydd Mawrth am 10am).

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

 (b)      Bod dewis y Pwyllgor i barhau i gyfarfod am 10am ar ddydd Mawrth yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; ac

 

 (c)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

51.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.