Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / Sharon Thomas / 01352 702322 / 702324 

Eitemau
Rhif eitem

6.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

7.

Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Ddogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar Goridor Glannau Dyfrdwy A55/A494/A548 pdf icon PDF 90 KB

Ystyried ymateb Cyngor Sir y Fflint i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) ymateb y Cyngor i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru (LlC) ar Goridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548.  Dechreuodd y broses ymgynghori ym mis Mawrth 2017 ar 2 opsiwn posibl i wella coridor yr A55/A494/A548, a chynhaliwyd nifer o arddangosfeydd ymgynghori cyhoeddus yn yr ardal leol, gan roi manylion i drigolion a busnesau am y ddau opsiwn oedd wedi’u datblygu a’u hasesu gan LlC.  Gellid dod o hyd i fanylion y ddau lwybr (llwybrau glas a choch) ar wefan LlC, ac roedd copi o’r ddogfen ymgynghori ynghlwm wrth yr adroddiad fel Atodiad 3.

 

            Dangoswyd manylion ymateb y Cyngor a’r opsiwn yr oedd yn ei ffafrio yn Atodiad 2 yr adroddiad.  Ystyriai’r Cyngor, rhwng popeth, mai’r llwybr mwyaf buddiol i’r Cyngor ac i Ogledd Cymru fyddai opsiwn y llwybr coch, ond mae hefyd yn ystyried y dylid cynnwys elfennau ychwanegol (y mae rhai ohonynt wedi’u cynnwys yn opsiwn y llwybr glas) o fewn y cynigion terfynol, er mwyn cael y budd mwyaf posibl o’r prosiect yn gyffredinol.

 

            Nododd y Cynghorydd Marion Bateman na allai gefnogi ymateb y Cyngor i’r ddogfen ymgynghori, ac amlinellodd ei phryderon o ran y dewisiadau ‘cynhennus’ a gynigir gan LlC, gan nodi na theimlai hi y byddai’r un ohonynt yn mynd i’r afael â phroblemau Coridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548.  Cwestiynodd yr incwm ychwanegol a ragwelir ar gyfer yr economi o’r llwybr coch, o ystyried bod busnesau Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy o blaid y llwybr glas.  Gofynnodd tybed lle byddai’r lefel uwch o draffig yn mynd ar ôl cyrraedd Llaneurgain a holodd a oedd y llwybr coch yn mynd yn groes i bolisi cynllunio o ran datblygu yn y rhwystr glas.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Vicki Perfect yn erbyn y llwybr coch arfaethedig a’r effaith negyddol y byddai hwn yn ei gael ar ardal wledig Sir y Fflint.  Adroddodd bod Cyngor Tref y Fflint wedi ymateb i LlC fel rhan o’r broses ymgynghori i gefnogi’r llwybr glas arfaethedig.

 

            Ymatebodd y Prif Swyddog bod busnesau ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi codi pryderon yngl?n â’r amhariad y byddai cyflawni’r gwaith gwella yn ei achosi.  Roedd wedi’u cynghori i anfon eu pryderon ymlaen yn uniongyrchol i LlC fel rhan o’r broses ymgynghori.

 

            Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Clive Carver, nododd y Prif Swyddog y byddai’r A548 yn troi’n gefnffordd pe bai LlC yn rhoi opsiwn y llwybr coch ar waith, ac y byddai LlC yn dod yn gyfrifol am gostau cynnal a chadw Pont Sir y Fflint yn y dyfodol.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau ymgynghori lle cafwyd consensws i gefnogi’r llwybr coch, y teimlai ef fyddai’n darparu gwell mynediad i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.   

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Bateman y dylai’r Pwyllgor ystyried y llwybr gwyrdd a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Llaneurgain a Chyngor Tref y Fflint cyn i ymateb y Cyngor gael ei gyflwyno i LlC.  Eiliodd y Cynghorydd Chris Dolphin y cynnig, gan ychwanegu y dylid gofyn i LlC gynnwys lôn araf o Northop  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Diweddariad ar ddarparu Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Lleoedd i Bobl Anabl ar y Rhwydwaith Priffyrdd. pdf icon PDF 95 KB

Adolygu Polisi Parcio Preswylwyr a chadarnhau’r broses ar gyfer darparu lleoedd parcio anabl wedi’u marcio ar y briffordd gyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd ddiweddariad ar ddarparu cynlluniau parcio i breswylwyr a lleoedd i bobl anabl ar y rhwydwaith priffyrdd.

 

            Mabwysiadodd Cyngor Sir y Fflint Bolisi Parcio i Breswylwyr yn 2013, a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Ers cyflwyno’r polisi, mae nifer o gynlluniau wedi datblygu i’r cam ‘pleidlais leol’, ond ym mhob achos, mae’r cynnig wedi methu â chael y lefel ofynnol o gefnogaeth leol, felly nid oes unrhyw gynlluniau parcio i breswylwyr wedi’u rhoi ar waith yn y Sir.  Er gwaethaf y diffyg prosiectau llwyddiannus, roedd mwyfwy o alw am Gynlluniau Parcio i Breswylwyr ymysg preswylwyr ac ardaloedd cymunedol ledled y Cyngor, ac roedd bellach angen dull o flaenoriaethu.

 

            Cynigiwyd felly y dylid gweithredu Matrics Asesu Cynlluniau Parcio i Breswylwyr, ynghlwm yn Atodiad 3, i flaenoriaethu'r cynlluniau a geisir.  Hefyd yn yr adroddiad, rhoddwyd manylion yr opsiynau sydd ar gael i breswylwyr sy’n gwneud cais am le parcio i bobl anabl ar y stryd y tu allan i’w heiddo.       

 

            Awgrymodd y Cynghorydd David Evans y dylid cynnwys manteision ac anfanteision y cynllun yn y llythyr wrth gychwyn ymgynghori â’r preswylwyr ar gynllun parcio arfaethedig.  Gwnaeth sylwadau ar y polisi ar gyfer cynlluniau parcio i breswylwyr ac awgrymodd y dylid cynyddu isafswm yr ymatebion sydd eu hangen er mwyn gallu mynd ymlaen â chynllun o 50% i 75%.   Gofynnodd hefyd a fyddai cyflwyno cynllun parcio i breswylwyr yn lleihau nifer y mannau parcio ar y stryd.

 

            Eglurodd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd yr esboniwyd manteision ac anfanteision cynllun parcio i breswylwyr yn ystod y digwyddiadau galw heibio a’r ymgynghoriad cyhoeddus.  Cytunodd i edrych ar gynyddu’r isafswm o ymatebion sydd eu hangen i 75% a nododd y byddai cynllun parcio i breswylwyr yn lleihau nifer y mannau parcio sydd ar gael.  

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sean Bibby, nododd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd, os na fyddai cynllun parcio i breswylwyr yn llwyddiannus, y byddai'r preswylwyr yn cael gwybod pam y methodd y cynllun trwy ddigwyddiadau ymgynghori lleol.

 

            Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Marion Bateman yngl?n â chynllun arfaethedig yn Yr Wyddgrug a’r diffyg eglurder i’r preswylwyr, dywedodd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd y byddai’n ymchwilio i’r mater hwn yn dilyn y cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Argymell y newidiadau i’r Polisi Parcio i Breswylwyr presennol i’r Cabinet, gyda diwygiad, sef cynyddu isafswm yr ymatebion sydd eu hangen gan breswylwyr o 50% i 75%;

 

(b)       Argymell Matrics Asesu’r Cynlluniau Parcio i Breswylwyr i’r Cabinet, fydd yn cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu ceisiadau yn y dyfodol am Gynlluniau Parcio i Breswylwyr; a

 

(c)        Nodi meini prawf a phroses darparu mannau parcio wedi’u marcio i bobl anabl ar briffordd gyhoeddus.

9.

Cylchdeithiau Casglu Gwastraff a threfniadau gweithredu newydd yn Safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. pdf icon PDF 106 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y newidiadau arfaethedig i’r cylchdeithiau casglu gwastraff a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer model gweithredu newydd yn y Canolfannau Ailgylchu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwastraff a Gwasanaethau Ategol y newidiadau arfaethedig i amserlenni casglu gwastraff a'r trefniadau gweithredu newydd yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Cyngor (CAGC).  Darparodd y wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd canlynol, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad:-

 

  • Trwyddedau preswylwyr yn unig
  • Cynllun Trwyddedau Fan i Breswylwyr
  • Rheoli CAGC
  • Amseroedd Agor
  • Newidiadau i amserlenni casglu gwastraff ac ailgylchu

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r swyddogion am adroddiad cadarnhaol a chroesawodd y cynnig i gadw’r Cynllun Trwyddedau Fan i Breswylwyr.  Gwnaeth sylwadau ar y gwaith cadarnhaol a wnaeth y Tasglu yng Nglannau Dyfrdwy a gofynnodd a fyddai hyn yn cael ei gyflwyno’n raddol mewn wardiau eraill ledled y Sir.  Gofynnodd hefyd a ystyriwyd cydweithio â Menter Gymdeithasol yn y CAGC, a p’un ai oedd y cyfleuster newydd yn Oakenholt ar y trywydd iawn i agor ym mis Medi 2017.     

 

Ymatebodd y Rheolwr Gwastraff a Gwasanaethau Ategol, yn dilyn llwyddiant y Tasglu yng Nglannau Dyfrdwy, y bwriedir cynnal digwyddiadau tebyg ledled y Sir i helpu lleihau gwastraff ychwanegol.  Nododd bod y Cyngor ar hyn o bryd y cydweithio â Menter Gymdeithasol mewn CAGC ar hyd a lled y Sir, a’u bod yn edrych ar ehangu’r gwasanaeth ailgylchu gyda hwy.  Hysbysodd y Prif Swyddog y dylai’r cyfleuster newydd yn Oakenholt agor ym mis Medi 2017, ond y byddai’n dod ag adroddiad pellach ger bron y Pwyllgor pe byddai unrhyw newidiadau i’r dyddiad hwn.   Cafodd y Pwyllgor sicrwydd gan y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai y byddai safleoedd y CAGC yn Fflint a Chei Connah yn aros ar agor hyd nes y bydd y cyfleuster newydd yn Oakenholt yn agor.   

 

            Croesawodd y Cynghorydd Richard Lloyd hefyd gadw’r Cynllun Trwyddedau Fan i Breswylwyr a gofynnodd sut y byddai’r Cynllun Trwydded i Breswylwyr yn Unig yn cael ei orfodi i sicrhau nad oeddent yn cael eu pasio i breswylwyr heb drwydded.  Eglurodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad y byddai gwaith pellach yn cael ei gyflawni cyn gwneud penderfyniad ar gyflwyno Cynllun Trwydded i Breswylwyr yn Unig.  Gofynnodd y Cynghorydd David Evans a ellid cyflwyno gwybodaeth ffeithiol i’r Pwyllgor ar faint o bobl oedd ddim yn preswylio yn Sir y Fflint oedd yn ymweld â’r CAGC ledled y Sir cyn gwneud penderfyniad ar y Cynllun Trwydded i Breswylwyr yn Unig.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau pellach, nododd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad y byddai preswylwyr yn cael calendr 9 mis cyn bo hir, fydd yn cynnwys gwybodaeth am yr eitemau y gellir eu hailgylchu.  Nododd hefyd y byddai’n adolygu cost casgliadau gwastraff swmpus.         

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Sean Bibby a oedd gan y Cyngor yr adnoddau i dargedu gwastraff ychwanegol.  Nododd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod ystyriaeth yn cael ei roi i ailgyfeirio swyddogion gorfodi sydd ar hyn o bryd yn delio â thaflu sbwriel i weithio gyda pobl i’w hannog i ailgylchu a lleihau gwastraff ychwanegol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin am i Aelodau lleol gael gwybod am unrhyw breswylwyr yn eu ward fyddai’n gweld newid  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Diweddariad ar Strategaeth Barcio'r Cyngor pdf icon PDF 89 KB

Cadarnhau’r dyddiad ar gyfer cyflwyno ffioedd yn y Fflint. Adolygu’r Gorchymyn Pedestreiddio ar gyfer canol trefi Bwcle a Threffynnon. Cytuno ar y trefniadau peilot ar gyfer treialu trefniadau parcio am ddim ledled y Sir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwastraff a Gwasanaethau Ategol ddiweddariad ar Strategaeth Barcio’r Cyngor yn dilyn ei rhoi ar waith yn 2015.

 

             Ers cymeradwyo'r Strategaeth Barcio ym mis Ebrill 2015, mae ffioedd parcio wedi cael eu cyflwyno yng nghanol chwe thref ar hyd a lled Sir y Fflint, ac fel rhan o’r strategaeth honno, cynigiwyd cyflwyno ffioedd yng Nghanol Tref y Fflint ym mis Medi 2015. Oherwydd gwaith adfywio parhaus a’r defnyddio o feysydd parcio lleol fel compownd adeiladu dros dro, ni ddatblygwyd y strategaeth o gwbl yn ystod yr amser hwnnw.  Wrth i’r gwaith hwn ddirwyn i ben a’r meysydd parcio’n cael eu rhyddhau, roedd y Cyngor bellach mewn sefyllfa i fynd â'r strategaeth yn ei blaen fesul cam yn y Fflint, fel y gwelir yn Atodiad 1.

 

            Roedd parthau cerddwyr yn unig ar waith yn Stryd Fawr Treffynnon a Stryd Fawr Bwcle, wedi’u sefydlu ers 1992 a 2000 yn y drefn honno.  Cynigiwyd adolygu’r parthau cerddwyr yng nghanol y ddwy dref ac archwilio'r posibilrwydd o osod lleoedd parcio am ddim am gyfnod cyfyngedig ar y ddwy Stryd Fawr er mwyn cefnogi busnesau lleol.  Cyn cychwyn y broses ymgynghori ffurfiol, ac yn unol â pholisi’r Cyngor, cynigiwyd gofyn i’r Cynghorau Tref gadarnhau eu safbwynt ar y newidiadau arfaethedig a chynnal proses ymgynghori anffurfiol i fesur cefnogaeth leol (neu fel arall) ar gyfer y newidiadau arfaethedig.

 

            Cyflwynwyd ffioedd parcio yng Nghanol Tref Treffynnon fis Medi 2015 yn unol â’r Strategaeth Barcio y cytunwyd arni gan y Cabinet.  Arferwyd prydlesu maes parcio preifat dan berchnogaeth yr Eglwys Gatholig ar Stryd y Ffynnon i Gyngor Sir y Fflint, ond pan gafwyd gwared â’r ffioedd yn Nhreffynnon yn 2013, daethpwyd â’r cytundeb prydlesu i ben.  Cafwyd sgwrs ragarweiniol gyda’r Eglwys ac maent bellach yn cefnogi ailsefydlu’r cytundeb blaenorol fyddai’n pasio rheolaeth y safle i Gyngor Sir y Fflint.  

 

            Croesawodd y Cynghorydd Joe Johnson y cynnig i gynnwys maes parcio Stryd y Ffynnon o fewn strategaeth barcio Treffynnon a gofynnodd a roddwyd ystyriaeth i gyflwyno pwyntiau gwefru ceir trydan mewn meysydd parcio yn Sir y Fflint.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai Llywodraeth Cymru yn rhyddhau arian i osod pwyntiau gwefru ceir trydan, felly byddai adroddiad ar hyn yn cael ei gyflwyno yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Vicki Perfect o blaid y rhaglen i gyflwyno Strategaeth Barcio’r Fflint fesul cam, gan nodi fod hyn yn rhesymol ac yn unol â Strategaethau Parcio eraill yn Sir y Fflint.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Chris Dolphin o blaid cael gwared ar y parth cerddwyr yng Nghanol Tref Treffynnon a gofynnodd am gael ymgynghori â pherchnogion busnes yn Nhreffynnon, gan gynnig cyfnod prawf.  Ceisiodd y Cynghorydd Richard Lloyd sicrwydd y byddai’r ymgynghoriad ar y parth cerddwyr yn cael ei gynnal mewn ffordd fyddai’n sicrhau bod barn pawb yn cael cynrychiolaeth deg.  Eglurodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai y byddai ymarfer ymgynghori yn cael ei gynnal gan Gynghorau Tref Bwcle a Threffynnon ac y byddent yn penderfynu sut orau i gynnal y broses  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Uned Trafnidiaeth Integredig / Prosiect Caffael pdf icon PDF 88 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Craffu am ganlyniad yr ymarfer tendro a mabwysiadu trefniadau contractio newydd. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o’r Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a’r holl drefniadau yn ôl disgresiwn, ac adolygiad o’r llwybrau peryglus i'r ysgol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cludiant a Logisteg ddiweddariad ar Brosiect Caffael yr Uned Cludiant Integredig (UCI) a manylion y prif newidiadau yn y ddarpariaeth gludiant o ganlyniad i’r broses newydd fydd yn cael ei chyflwyno o fis Medi 2017 ymlaen.

 

            Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ym mis Mai 2015, cytunwyd y dylid sefydlu UCI o fewn yr Awdurdod i sicrhau ymagwedd integredig tuag at ddarparu gwasanaethau a rheolaeth weithredol.  Dan y newidiadau, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau, rheoli’r gyllideb a rheolaeth weithredol dydd i ddydd ar gyfer cludiant y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r UCI.  Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am reoli’r gyllideb ac asesu cymhwysedd ar gyfer cludiant rhwng y cartref ac ysgolion prif ffrwd hefyd i’r UCI o fewn y portffolio Strydwedd a Chludiant; ond arhosodd y cyfrifoldeb am osod polisi cludiant i'r ysgol o fewn y portffolio Addysg ac Ieuenctid.

 

            Cynhaliwyd adolygiad diagnostig o’r holl weithrediadau cludiant ledled yr Awdurdod er mwyn amlygu unrhyw gyfleoedd am arbedion ariannol ac arbedion effeithlonrwydd o fewn y model gweithredu presennol.  Yn benodol, bwriad yr adolygiad diagnostig oedd cynnig argymhellion clir ar ddyfodol pob gwasanaeth cludiant ac ar y model darparu gorau.  Amlygodd un o ddeilliannau cynnar yr adolygiad diagnostig nifer o feysydd gyda'r potensial am arbedion, yn enwedig ym maes caffael.  Cynhaliodd yr UCI ymarfer optimeiddio trylwyr cyn cychwyn ar y broses dendro.  Bwriad yr ymarfer optimeiddio oedd cael y budd mwyaf posibl drwy sicrhau’r defnydd mwyaf effeithlon o gerbydau a darparu’r llwybrau mwyaf cost effeithlon i’r nifer gofynnol o deithwyr cymwys.  Fel yr amlinellir yn y polisi cludiant presennol, y defnydd effeithlon o adnoddau fydd yn pennu'r dull cludiant.

 

            Mae pob hebryngwr a chynorthwyydd teithwyr ar gludiant i’r ysgol wedi mynychu sesiynau briffio er mwyn cael gwybod am y newidiadau arfaethedig i’r trefniadau caffael.  Bydd plant ag anghenion cymhleth yn parhau i deithio gyda’r un hebryngwyr cludiant i'r ysgol er mwyn sicrhau na therfir arnynt.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Cindy Hinds, eglurodd y Rheolwr Cludiant a Logisteg na fyddai cymhwyster ar gyfer cludiant i’r ysgol yn newid.  Gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell am i hysbysiadau am drefniadau cludiant i’r ysgol gael eu hanfon i rieni ymhell cyn dechrau tymor yr ysgol.  Roedd hefyd yn gobeithio y byddai'r adolygiad o weithrediadau cludiant yn mynd i’r afael ag anghysondebau o ran rhai plant yn cael eu codi y tu allan i’w cartrefi ac eraill yn gorfod cerdded i fan penodedig.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad a’r gwaith a wnaed i adolygu’r holl weithrediadau cludiant a darparu’r arbedion a fwriadwyd ar gyfer y gwasanaeth, fel y manylir arnynt yn y cynigion Cynllunio Busnes ar gyfer 2017-18.    

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi effaith debygol y broses gaffael Cludiant i'r Ysgol, y manylir arni yn yr adroddiad; ac

 

(b)       Y dylid cyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor yn dilyn cwblhau’r gwaith diagnostig fydd yn rhoi manylion yr opsiynau i newid y Polisi Cludiant i'r Ysgol presennol.

12.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd saith aelod o’r cyhoedd a thri aelod o’r wasg yn bresennol.