Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

13.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

14.

Cofnodion pdf icon PDF 57 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 13 Mehefin a 16 Mehefin 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 ac 16 Mehefin 2017.

 

Cofnodion 16 Mehefin 2017

 

Cofnod rhif 7 - Ymateb i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Goridor Glannau Dyfrdwy: Dywedodd y Cynghorydd David Evans, ar ôl iddo holi yngl?n â’r llwybr gwyrdd, ei fod wedi cael gwybod nad oedd unrhyw fanylion gan mai llwybr amcanol a fwriedid fel dewis ar wahân i'r llwybrau coch a glas oedd hwn.  Gofynnodd i hyn gael ei gynnwys yn y cofnodion.

 

Cofnod rhif 8 - Diweddariad ar Ddarparu Cynlluniau Parcio i Breswylwyr a Lleoedd i Bobl Anabl ar y Rhwydwaith Priffyrdd: Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Haydn Bateman, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r newid a argymhellir ar gyfer y polisi, fel y nodir yn y penderfyniad, yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i gael ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad i gofnod rhif 7, cymeradwyo’r ddwy set o gofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

15.

PORTFFOLIO CYNLLUNIO A'R AMGYLCHEDD

Cofnodion:

Gwahoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) bob un o reolwyr ei wasanaeth i'w cyflwyno eu hunain a rhoi crynodeb byr o'u meysydd gwaith nhw a'u hamcanion at y dyfodol.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Chris Dolphin ar geisiadau cynllunio ôl-syllol, eglurodd Rheolwr Datblygu'r dull a ddefnyddiwyd i ddatrys achosion o dorri rheolau cynllunio a'r oedi a ddeuai yn sgil hynny pan oedd materion mwy cymhleth ynghlwm.  Yn dilyn pryderon y Cynghorydd Dolphin am benderfyniad blaenorol a wnaed yn Nyffryn Maes Glas, dywedodd y Prif Swyddog fod argymhellion yr adolygiad llywodraethu wedi’u derbyn ac y byddai Bwrdd Ymddiriedolwyr newydd yn cael ei sefydlu.  Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson yngl?n â chyfleoedd i aelodau’r Cyngor fod wedi’u cynnwys ar y Bwrdd newydd ac fe ddywedwyd wrtho y byddai’r holl ymgeiswyr yn cael eu hasesu drwy’r un broses.

 

Diolchodd y Cynghorydd Vicky Perfect i Reolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol a’i dîm am eu cymorth gyda digwyddiad lleol diweddar.

16.

Cynllun Teithio Llesol pdf icon PDF 83 KB

Diweddaru’r Pwyllgor cyn y cyfnod ymgynghori ffurfiol ar y Cynllun Teithio Llesol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad i amlinellu cefndir y cynigion ar y drafft o Fap Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol a manylion rhaglen yr ymgynghoriad cyhoeddus.  Rhoddodd Llywodraeth Cymru (LlC) ddyletswydd ar gynghorau i fodloni gofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.  Yn rhan o’r rhwymedigaethau hyn, mae mapiau llwybrau teithio llesol presennol y Cyngor wedi’u cymeradwyo gan LlC o fewn y terfyn amser.

 

Dangosodd Swyddog Polisi Priffyrdd sut i fynd at ddogfennau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Map Rhwydwaith Integredig (MRhI) drwy’r ddolen ar wefan y Cyngor.  Byddai’r MRhI yn cynnwys cynigion i wella’r isadeiledd ar gyfer cerddwyr a beicwyr i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau ar draws y sir yn ogystal â chynnig darpariaeth hamdden.  Roedd y cynigion (yr oedd rhai ohonynt yn destun cytundebau pellach) wedi’u dangos ar chwe map o wahanol ardaloedd anheddol ynghyd â map trosolwg o’r sir.  Roedd y wefan hefyd yn cynnwys manylion am sesiynau galw heibio'r ymgynghoriad cyhoeddus.  Roedd disgwyl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ar 24 Medi 2017, pan fyddai’r holl ymatebion yn cael eu hystyried er mwyn gallu cyflwyno’r MRhI terfynol i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo erbyn 3 Tachwedd 2017.

 

Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai teithio llesol yn ategu datblygiadau cynllunio a bod yr ardaloedd anheddol gwreiddiol a oedd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru wedi'u hehangu i ystyried 'pob llwybr sydd â phwrpas'.

 

Soniodd y Cynghorydd Cindy Hinds am annog rhieni i gerdded gyda’u plant i’r ysgol er mwyn caniatáu mwy o le parcio y tu allan i ysgol.  Teimlai’r Cynghorydd Richard Lloyd, a oedd yn bresennol yn y galeri cyhoeddus, fod lled pafinau a gwrychoedd rhy fawr yn broblem mewn rhai ardaloedd.  Cyfeiriodd Swyddog Polisi Priffyrdd at ddolen a e-bostiwyd yn ddiweddar at yr aelodau yngl?n â gwaith roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i bartneriaid yn ei wneud mewn perthynas â hyn.  Dywedodd fod rhai o’r cynigion yn cynnwys mapiau llwybrau presennol ac y gellid gwneud cynigion am gyllid ar gyfer cynlluniau diogelwch.  Unwaith y byddai’r MRhI wedi’i gymeradwyo, byddai’r Cyngor yn gweithio gyda sefydliadau eraill i fanteisio ar ffynonellau cyllid a oedd ar gael.

 

Mewn perthynas â diogelwch ffyrdd y tu allan i ysgolion, gofynnwyd i aelodau ddod â meysydd sy'n peri pryder at sylw swyddogion.  Roedd y Cyngor wedi llwyddo i ddiogelu cyllid ar gyfer tri chynllun i ostwng nifer y ceir a oedd yn parcio y tu allan i'r ysgol ac roedd yn croesawu cyfleoedd i ehangu hyn i ardaloedd eraill.  Cydnabu’r Cynghorwyr Chris Bithell a Paul Shotton gynnydd mewn perthynas ag ymgynghori ar gynlluniau arfaethedig yn eu wardiau nhw.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod LlC wedi darparu swm cyfyngedig o gyllid i gynghorau er mwyn bodloni gofynion teithio llesol.  Roedd yn annog ymatebion i’r ymgynghoriad er mwyn cael cyllid grantiau i gwblhau'r cynlluniau.

 

Galwodd y Cynghorydd Owen Thomas am ladd gwair yn amlach ar hyd ffyrdd er mwyn i feicwyr allu gweld yn well ac i atal damweiniau.  Dywedodd y Prif Swyddog fod adroddiad at y dyfodol wedi’i drefnu ar  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Cynllun Gwasanaethau Bwyd 2017/18 pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas: Cymeradwyo’r Cynllun Gwasanaethau Bwyd 2017-18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) Gynllun Gwasanaeth Bwyd 2017-18 a oedd yn amlinellu'r nodau a'r amcanion ar gyfer y Gwasanaeth Bwyd dros y flwyddyn i ddod, gydag adolygiad o'i berfformiad yn 2016-17. Roedd gofyn i'r Cyngor lunio'r cynllun yn flynyddol ac fe geisiwyd barn cyn ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet a'i anfon ymlaen at yr Asiantaeth Safonau Bwyd.  Cafodd yr aelodau wybod am sesiwn wybodaeth ar ddiogelwch bwyd a fyddai’n cael ei gosod yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor.

 

Rhoddodd Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd – Cymunedau a Busnesau drosolwg o’r tîm diogelwch bwyd gan nodi’r cyflawniadau allweddol yn ei berfformiad yn 2016/17 yn ogystal â thargedau ar gyfer 2017/18.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Paul Shotton, eglurodd y Rheolwr y broses ar gyfer delio gydag eiddo a oedd wedi methu mewn archwiliadau.  O ran pryderon yngl?n â hel cocos heb drwydded, dywedodd fod gan y tîm gysylltiadau da â Heddlu Gogledd Cymru a thîm Troseddau a Thwyll yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Sean Bibby'r dull a gymerwyd i annog gwelliannau i sgoriau hylendid bwyd.  Wrth holi am fesur perfformiad mewn perthynas â diogelwch bwyd, nodwyd bod Sir y Fflint yn y chwartel a oedd yn perfformio orau drwy Gymru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas yngl?n â safonau ar gyfer sefydliadau bwyd symudol ac fe gafodd wybod am y sgôr risg wahanol a oedd yn berthnasol i sefydliadau a bennwyd yn rhai risg uwch gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.  Mewn perthynas â safleoedd a oedd yn ennill sgôr hylendid o 3, cydnabuwyd bod y sefydliadau hynny wedi bodloni rhai o'r elfennau a oedd yn rhan o'r asesiad trylwyr.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Haydn Bateman, darparodd y Rheolwr eglurhad ar waith ar sefydliadau bwyd.  Gellid rhannu mwy o fanylion yn y sesiwn wybodaeth ar ddiogelwch bwyd.

 

Canmolodd y Cynghorydd Chris Bithell ganfyddiadau’r adroddiad, a oedd yn adlewyrchu gwaith pwysig y tîm wrth hyrwyddo safonau diogelwch a hylendid.  Dywedodd y byddai gwaith yn parhau i wneud cynnydd ar y cyflawniadau hynny yn 2017/18.  Aeth yn ei flaen i groesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i arddangos sgoriau hylendid bwyd.

 

Mewn perthynas â chydweithio gyda chynghorau eraill, awgrymodd y Cynghorydd David Evans fod posib’ i Sir y Fflint gymryd rôl arweiniol â gwasanaethau i greu incwm.  Dywedodd y Rheolwr y gallai hwn fod yn bwnc i'w ystyried yn y dyfodol ond y byddai'n gofyn am fuddsoddiadau i ddatblygu'r gwasanaeth a chynyddu'r gallu i gyflawni gwaith.  Aeth yn ei blaen i roi enghreifftiau o waith rhanbarthol cyfredol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2017-18.

18.

Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwelliant 2016/17 pdf icon PDF 153 KB

Galluogi Aelodau i gyflawni eu rôl graffu mewn perthynas â rheoli perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) yr adroddiad diweddaru arferol i ystyried cynnydd tuag at gyflawni’r effeithiau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2016/17, gan ganolbwyntio ar danberfformio sy’n berthnasol i’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Roedd yr unig faes risg mawr ar leihau llifogydd o ganlyniad i ddiffyg cyllid cenedlaethol i gefnogi cynlluniau.  Rhoddwyd diweddariad cryno ar y cynllun yn yr Wyddgrug a oedd yn cael ei rannu’n bedwar rhan i helpu gyda cheisiadau am gyllid.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod yr unig ddangosydd perfformiad coch o ganlyniad i ostyngiad yn nifer y rhai sy’n mynd ar gwrs Pass Plus Cymru ar gyfer gyrwyr ifanc sydd newydd basio.  Mewn perthynas â chamau a gymerwyd i gyflawni canlyniadau, adroddodd yngl?n â chynnydd ar drefniadau cludiant cymunedol yn Kinnerton, gyda phedwar arall i’w cyflwyno dros yr haf.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ar leihau nifer troseddau amgylcheddol a’u heffaith, cytunwyd y byddai dadansoddiad o’r 3,900 o rybuddion cosb benodedig a roddwyd yn cael ei rannu â’r Pwyllgor.  Dywedodd y Prif Swyddog fod y rhan fwyaf am droseddau gollwng sbwriel ac roedd tua 90 yn ymwneud â baw c?n.  Pwysleisiodd yr heriau o ran gorfodi mewn perthynas â baw c?n ac fe atgoffodd yr aelodau bod y contract cyfredol gyda'r cwmni gorfodi'n sicrhau dull rhagweithiol o fonitro ardaloedd ehangach ac y byddai’n cael ei adolygu gan y Pwyllgor cyn diwedd y cyfnod treialu.

 

Wrth groesawu'r ymgysylltiad hwn gyda'r aelodau, dywedodd y Cynghorydd Bibby fod nifer o gwynion wedi’u derbyn yn dweud bod y cwmni gorfodi’n canolbwyntio ar droseddau sbwriel gan fod y rhain yn dargedau haws.  Gwnaeth y Cynghorydd Joe Johnson bwynt tebyg ar gael gwared â bonion sigaréts.  Dechreuodd hyn drafodaeth ar yr angen am ddarparu mwy o finiau aml-ddefnydd mewn safleoedd bysiau ac y dylid eu gwagu'n rheolaidd.

 

Pwysleisiodd y Prif Swyddog bwysigrwydd adrodd tystiolaeth yngl?n â mannau problemus o ran baw c?n ac fe ddywedodd fod yr effaith gadarnhaol o orfodaeth ar ollwng sbwriel yng nghanol trefi'n amlwg.  Gwnaeth y Cynghorydd Cindy Hinds sylw ar yr angen am fwy o heddweision yng nghanol trefi.

 

Nododd y Cadeirydd mai baw c?n a thipio anghyfreithlon oedd y ddwy brif gwyn amgylcheddol a gofynnodd i ddiweddariad ar faw c?n gael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.  Gofynnodd yngl?n â lleoliadau’r rhybuddion cosb benodedig a roddwyd am faw c?n ac fe gytunodd y Prif Swyddog i gynnwys hyn yn y wybodaeth ddadansoddol, ond fe atgoffodd yr aelodau eu bod yn gallu cysylltu â Ruth Cartwright os oeddent yn dymuno gweld manylion y rhaglen waith orfodi ar gyfer eu hardal nhw.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Owen Thomas sylw yngl?n ag amseriad achosion o dipio'n anghyfreithlon yn ei ward ef ac fe'i hanogwyd i roi gwybod am unrhyw wybodaeth.  Soniodd eto am yr awgrym blaenorol yngl?n â stampio rhifau cofrestru ceir ar becynnau bwyd brys i leihau'r math hwn o achosion o daflu sbwriel.  Ymatebodd y Prif  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Raglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried ac fe awgrymodd y newidiadau canlynol:

 

·         Ychwanegu Cynllun y Cyngor at yr eitemau ar gyfer mis Medi 2017.

·         Ychwanegu amddiffynfeydd llifogydd at yr eitemau ar gyfer mis Hydref 2017.

·            Ychwanegu diweddariad ar Ddyffryn Maes Glas i’r eitemau ar gyfer mis Rhagfyr 2017 ynghyd â’r Polisi Lladd Gwair a sesiwn wybodaeth ar ddiogelwch bwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

20.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.