Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

75.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

76.

Cofnodion pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Mawrth 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2020. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.   

77.

Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Ceisio argymhelliad gan y Pwllgor Craffu i ddechrau ar ymarfer ymgynghori er mwyn adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg cryno gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a’r Prif Swyddog (Cynllunio, Economi a’r Amgylchedd) ar y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus ar Reoli C?n a Rheoli Alcohol gan bwysleisio os na fyddai’r Gorchmynion yn cael eu cyflwyno y byddai'n golygu na fyddai unrhyw orfodi yn digwydd. Yna rhoddwyd cyflwyniadau ar yr adroddiad gan y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach fod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi cyflwyno PSPOs a gynlluniwyd i atal unigolion neu grwpiau rhag cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus. Cawsant eu cyflwyno am y tro cyntaf yn Sir y Fflint ym mis Hydref 2017 ac roedd angen ei adnewyddu ar ôl 3 blynedd drwy'r un broses ymgynghori.

 

Mae’r PSPO Rheoli C?n cyfredol yn gorchymyn fod perchnogion c?n yn:

 

1.    Gwaredu gwastraff eu c?n o bob man cyhoeddus o fewn Sir y Fflint

2.    Mynd â modd o godi gwastraff eu c?n i fyny gyda nhw

3.    Rhoi eu ci ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt pan fo’r ci yn achosi niwsans

4.    Gwahardd c?n rhag mynd ar ardaloedd chwarae caeau chwaraeon cyhoeddus wedi eu marcio, ardaloedd hamdden blaenorol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i lawntiau bowlio a chyrtiau tennis, ardaloedd chwarae gydag offer i blant gyda ffensys o’u cwmpas a phob ardal ar diroedd ysgolion.

5.    Cadw eu c?n ar dennyn mewn mynwentydd

 

Yn 2009, cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint Orchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig ar gyfer Rheoli Alcohol a gafodd ei drosglwyddo’n awtomatig i'r PSPO Rheoli Alcohol a dyna pam fod angen ei adnewyddu.  Nid oedd y PSPO ar Reoli Alcohol yn waharddiad llwyr ar yfed Alcohol ond cyflawnwyd trosedd pan na chydymffurfiwyd â chais gan Heddlu Gogledd Cymru i roi’r gorau i yfed neu ildio alcohol mewn man cyhoeddus. Nid yw’n berthnasol i ardaloedd eiddo trwyddedig e.e. gerddi cwrw ac ati.

 

Yna eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio'r orfodaeth y tu ôl i’r PSPOs ers i’r ymrwymiad gyda Kingdom ddod i ben bron i 2 flynedd yn ôl

·      Tîm gorfodi mewnol

·      Pwyslais ar ymgysylltu â thrigolion

·      Patrolau wedi eu harwain gan wybodaeth

 

Rhoddodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach drosolwg o’r Ymgynghoriad a oedd fod i bara am gyfnod ychydig yn hirach oherwydd yr argyfwng presennol a'r cyfnod gwyliau a oedd yn digwydd o ddechrau Awst tan ddiwedd wythnos gyntaf mis Medi.

 

·      Gofynion cyfreithiol gyda phartneriaid statudol

·      Arolwg ar-lein trigolion

·      Bwriad i adrodd canlyniadau’r broses ymgynghori yn ôl i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd ym mis Medi 2020 i gytuno ar argymhelliad i'r Cabinet i gymeradwyo.

 

Ynghyd ag Aelodau eraill, cefnogodd y Cynghorydd Shotton ymestyn y ddau PSPO cyfredol o fewn Sir y Fflint ac roedd yn falch fod Swyddogion bellach yn ôl yn cynnal patrolau ar ôl cyflawni dyletswyddau eraill oherwydd Covid.Diolchodd i wirfoddolwyr iard gefn am y gwaith patrolio roeddent wedi’i wneud mewn parciau yng Nghei Connah a holodd a ellid hefyd cynnwys Parc Pysgota Rosie ym Mharc  ...  view the full Cofnodion text for item 77.

PSPO Renewal presentation pdf icon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

78.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.