Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

14.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw rai.

 

15.

Cofnodion pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 12 Mehefin a 12 Gorffennaf 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin a 12 Gorffennaf 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac yn cael eu llofnodi gan y Cadeirydd.

16.

Cyfoeth Naturiol Cymru pdf icon PDF 65 KB

Pwrpas:        Cyfle i’r pwyllgor ddeall y gwaith a wneir ar hyn o bryd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Mr Nick Thomas, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd-ddwyrain Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, i’r cyfarfod a’i wahodd i roi cyflwyniad ar y gwaith sy’n cael ei wneud yn awr gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

                        Diolchodd Mr. Thomas i’r Pwyllgor am y cyfle i roi amlinelliad o waith CNC.  Dywedodd bod CNC wedi’i sefydlu yn 2013 a’u bod yn gyfrifol am waith Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a rhai o ddyletswyddau Llywodraeth Cymru.  CNC yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, gyda 1750 aelod o staff a chyllideb flynyddol o tua £170 miliwn.  Ei ddiben yw rheoli cyfoeth naturiol mewn dulliau cynaliadwy.  Aeth Mr.Thomas ymlaen i roi cyflwyniad a oedd yn cwmpasu’r prif bwyntiau canlynol:

 

·         Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – sut y byddwn yn cyflawni

·         Egwyddorion Deddf yr Amgylchedd

·         Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint

·         Asesiad o Lesiant ar gyfer Sir y Fflint

·         Rheoleiddio gwastraff

·         Rheoleiddio diwydiant

·         Prosiect cyfarwyddeb fframwaith d?r Afon Alun

·         amaethyddiaeth

·         Aber Afon Dyfrdwy

·         mynediad, hamdden, iechyd

·         newid yn yr hinsawdd

·         ymateb i ddigwyddiadau

·         rheoli’r risg o lifogydd

·         cadwraeth

 

Diolchodd y Cadeirydd i Nick Thomas am ei gyflwyniad ac estynnodd wahoddiad i Aelodau godi cwestiynau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at y mater o dipio anghyfreithlon a gofynnodd a oedd unrhyw ddiogelwch o amgylchedd safleoedd chwareli.  Esboniodd Mr Thomas mai perchnogion chwareli oedd yn gyfrifol am reoli diogelwch ar eu safleoedd.  Disgrifiodd y costau sylweddol sy’n gysylltiedig â chlirio tir gwastraff a oedd wedi’u storio heb drwydded neu esemptiad a chanlyniadau cyfreithiol diffyg cydymffurfiaeth.  Fe anogodd yr Aelodau i roi gwybod i CNC am unrhyw ddigwyddiadau neu bryderon o ran rheoli neu dipio/storio gwastraff yn anghyfreithlon.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd yr Aelodau nifer o bryderon yngl?n â gallu’r system garthffosiaeth i ymdopi â’r galw cynyddol o ganlyniad i ddatblygiadau tai newydd ac yn y dyfodol yn Sir y Fflint.  Cyfeiriodd Mr Thomas at y gwaith a wnaed i arafu a dargyfeirio llif d?r wyneb i’r system garthffosiaeth.  Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai D?r Cymru yn gwneud asesiad o’i system garthffosiaeth i weld a allai ymdopi â’r galw ychwanegol y byddai unrhyw adeiladau newydd yn ei greu mewn ardal a, pe byddai angen, ni fyddai unrhyw ddatblygiadau pellach yn cael eu hadeiladu nes y byddai’r system garthffosiaeth wedi’i huwchraddio.  Dywedodd y Prif Swyddog bod rhai datblygiadau yn Sir y Fflint ‘wedi’u cloi’ o ganlyniad i’r broses hon.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at system ddraenio drefol gynaliadwy ar gyfer pob datblygiad o fwy na 18 annedd, gan wahanu d?r budr a d?r wyneb.

 

Mynegodd y Cynghorydd Veronica Gay bryderon yngl?n â chynnal a chadw Balderton Brook, Saltney.  Cytunodd Mr Thomas y byddai’n edrych ar y materion penodol a godwyd ar ôl y cyfarfod.

 

Yn ystod y drafodaeth fe ymatebodd Mr. Thomas  i gwestiynau a phryderon pellach a godwyd gan Aelodau am lwybr arfordir Cymru, Aber Afon Dyfrdwy, carthu, ac ymateb i ddigwyddiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r cyflwyniad gan Cyfoeth Naturiol  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

presentation pdf icon PDF 911 KB

17.

Diweddariad o Gam 2 Adolygiad Terfyn Cyflymder pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar gynnydd yr Adolygiad Terfyn Cyflymder ar draws y Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) adroddiad i ddarparu diweddariad ar gynnydd yr Adolygiad o Derfynau Cyflymder ar draws y Sir gyfan.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac esboniodd bod yr adroddiad yn ceisio diweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd a oedd wedi’i wneud hyd yma yn ogystal â darparu manylion nifer o heriau cyfreithiol yn erbyn y broses arfaethedig, sydd wedi’u goresgyn ers hynny.  Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio hysbysu’r Pwyllgor am yr amserlenni diwygiedig gyda chynnydd Gorchymyn Cyfunol Sengl sy’n cwmpasu’r rhwydwaith priffyrdd cyfan, ac esbonio’r cynigion hefyd er mwyn hwyluso ceisiadau aelodau a gefnogwyd gan feini prawf yr Adran Drafnidiaeth (DfT).

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y camau gweithredu allweddol a gynhaliwyd ac esboniodd, er mwyn diddymu’r orddibyniaeth ar Wasanaethau Cyfreithiol, roedd y swyddogion Strydlun a Thrafnidiaeth wedi datblygu system o dempledi cymeradwy a oedd wedi’u galluogi i gwblhau ‘Gorchymyn Sengl’ yn awr y byddai pob terfyn amser (y rhai presennol a’r rhai arfaethedig) yn cael eu hysbysebu.  Roedd defnyddio’r dull diwygiedig hwn wedi symleiddio’r weithdrefn orgymhleth flaenorol o safoni’r broses ysgrifennu gorchymyn ar gyfer unrhyw sefyllfa.

 

Gofynnodd y Prif Swyddog i’r Rheolwr Strategaeth Priffyrdd adrodd ar yr ystyriaethau allweddol yn yr adroddiad ar y cynnydd o gyflawni’r adolygiad o derfynau cyflymder ar bob priffordd gyhoeddus.  Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd, yn dilyn y cynnig i hysbysebu’r ‘Gorchymyn Sengl’ drwy ddefnyddio map modern yn seiliedig ar amserlen, yr oedd swyddogion wedi cwblhau map yn awr yn seiliedig ar system sy’n cynnwys rhwydwaith priffyrdd y Sir lle’r oedd Llyfrau Mapiau unigol wedi’u creu.  Roedd pob Llyfr Cyfeirio Map yn cynnwys system fynegeio glir a oedd yn galluogi aelodau’r cyhoedd i leoli ardaloedd o ddiddordeb yn uniongyrchol o fewn eu man preswylio ac ar draws y Sir.

 

Dywedodd y Prif Swyddog, er bod cynnydd wedi’i wneud gyda’r Gorchymyn Cyfunol, ni fu heb ei heriau, fel y’u nodir yn yr adroddiad.  Soniodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd am yr heriau a dderbyniwyd o ran hysbysebu terfynau cyflymder 30mya a 60mya a chyfeiriodd at y ddeddfwriaeth genedlaethol o ran terfynau cyflymder a goleuadau stryd.  Aeth ymlaen i esbonio, at ddibenion terfynau cyflymder, y gallai goleuadau stryd for ar sawl ffurf wahanol a’u bod yn cynnwys colofnau goleuadau y mae’r Cyngor Sir yn berchen arnynt, Goleuadau Cymunedol a Goleuadau Llwybrau Cerdded.  Er bod systemau mewnol yr Awdurdod yn cofnodi safle pob un o’r Colofnau Goleuadau Stryd y mae’r Cyngor Sir yn berchen arnynt ac y maent yn eu cynnal a’u cadw, ni fyddai’n cynnwys y gwahanol ddosbarthiadau o oleuadau a ddisgrifiwyd, ac roedd yn bwysig sicrhau bod safle cywir pob colofn goleuadau stryd yn hysbys (waeth pwy sy’n berchen arnynt) cyn penderfynu a fyddai terfyn cyflymder o 30mya neu 60mya yn arwain at wneud gorchymyn.  Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd bod arolwg mewnol manwl wedi’i gomisiynu’n fewnol er mwyn cofnodi’r nifer o oleuadau stryd ar derfynau cyflymder 60mya a 30mya (waeth pwy sy’n berchen arnynt) a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn Hydref 2018.  Ar ôl ei gwblhau, bydd swyddogion yn  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

18.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwyluswr Craffu a Throsolwg yr Amgylchedd y Flaenraglen Waith i’w hystyried.

 

Dywedodd yr Hwyluswr y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu ar y broses gorfodi amgylcheddol yng nghyfarfod y Pwyllgor i’w gynnal ar 27 Tachwedd.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin i gymariaethau costau’r gweithdai cyllideb gael eu darparu ar gyfer Parc Treftadaeth Greenfield Valley a Pharc Wepre.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi y byddai pob arbediad portffolio yn destun gweithdy cyllideb.  Cadarnhaodd yr hwyluswr y byddai’r dyddiad yn cael ei gyhoeddi maes o law.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylai’r Pwyllgor gynnal cyfarfod arall ym Mharc Wepre a chytunodd y Pwyllgor i hynny.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Flaenraglen Waith yn cael ei diwygio;

 

(b)       Y byddai’r Hwyluswr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Flaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

19.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg a dim aelodau’r cyhoedd yn bresennol.