Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

56.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

 

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

 

57.

Cofnodion pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 26 Chwefror 2019

 

Cofnodion:

            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2019.

 

Cywirdeb

Cywiriadau teipograffyddol ar dudalen 5 a thudalen 7.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

58.

Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas: I gael adroddiad cynnydd 12 mis

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a wneir i gyflawni’r argymhellion sy’n codi yn yr archwiliad ar lywodraethu, cyllid a threfniadau gweithredu yn Nyffryn Maes Glas a’r sefyllfa weithredol bresennol.    Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd yn dilyn yr archwiliad bod yr holl gamau wedi eu cwblhau heblaw am arwyddo’r Cytundeb Rheoli. Roedd pawb â diddordeb wedi rhoi sylwadau ar fersiynau drafft o’r Cytundeb ac roedd yr Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i arwyddo’r Cytundeb yn ei gyfarfod Bwrdd ar 7 Mai 2019.  Gwahoddodd y Prif Swyddog y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa weithredol yn Nyffryn Maes Glas. 

 

                        Rhoddodd y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol adroddiad ar yr uchafbwyntiau gweithredol am y chwe mis diwethaf, fel y manylwyd yn yr adroddiad.   Cyfeiriodd at nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus yn ddiweddar a gweithgareddau a gynhaliwyd a’r gwaith rheoli, datblygu a chynnal coetir a wnaed.     Hefyd soniodd am y fenter i adolygu ffioedd mynediad i annog pobl i brynu tocynnau blynyddol drwy gydol y flwyddyn a dywedodd am Gynhadledd Dysgu Awyr Agored i weithwyr addysg proffesiynol a gynhelir yn y Dyffryn ar 4 Ebrill.   

 

Dywedodd y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol bod gwasanaeth Strydwedd y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau bron i £700k drwy Grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i’r Dyffryn fyddai’n gwella cysylltiadau a chyfathrebu.    Eglurodd mai'r cam cyntaf fyddai ailwynebu’r llwybr ar hyd yr hen reilffordd i faes parcio ffordd yr arfordir.    Byddai ceisiadau pellach yn cael eu cyflwyno fyddai’n cynnwys cynigion i wella’r cysylltiadau o’r Dyffryn i Ysgol Treffynnon ac o’r Dyffryn i Doc Maes Glas. 

 

Wrth gwblhau ei ddiweddariad dywedodd y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol bod y Dyffryn yn dibynnu ar wirfoddolwyr rheolaidd oedd yn cynorthwyo i reoli’r safle ac eglurodd bod Dyffryn Maes Glas wedi cofrestru i ddosbarthu credydau amser i wirfoddolwyr.    Roedd y cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o brosiect penodol yn Sir y Fflint a Wrecsam am y ddwy flynedd nesaf.    Roedd y fenter yn galluogi i wirfoddolwyr dderbyn credydau papur am eu hamser y gellir ei wario mewn cyfleusterau a busnesau a gofrestrwyd ar draws y DU.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno cynnal cyfarfod yn y dyfodol yn Nyffryn Maes Glas a manteisio ar y cyfle i gael taith o amgylch y Dyffryn a’r cyfleusterau a ddarparwyd yr un pryd. 

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Chris Dolphin y Prif Swyddog a’r Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol a’i dîm am eu gwaith ardderchog a’r cynnydd a wnaed o ran yr argymhellion archwilio yn ddiweddar.     Dywedodd am gyllideb flynyddol y Cyngor i reoli’r safle a oedd oddeutu £300k a dywedodd fod hyn yn werth am arian, fodd bynnag mynegodd ei siom nad oedd y Cytundeb Rheoli wedi’i arwyddo gan yr Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas eto a dywedodd fod hyn yn annerbyniol.    Hefyd llongyfarchodd y Cynghorydd Dolphin swyddogion ar lwyddiant sicrhau'r grant £700k a sicrhawd drwy'r cynllun Teithio Llesol  ...  view the full Cofnodion text for item 58.

59.

Gorfodi Amgylcheddol pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas: Adolygu polisi gorfodi’r Cyngor mewn perthynas â thaflu sbwriel.

 

Cofnodion:

                        Cyn ystyried yr adroddiad ar Orfodaeth Amgylcheddol dosbarthodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) nodyn atodol i’r Pwyllgor ar incwm o Rybuddion Cosb Benodedig.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i adolygu Polisi Gorfodaeth y Cyngor ar sbwriel.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd yn dilyn adolygiad diweddar o Wasanaeth Gorfodi Amgylcheddol y Cyngor, roedd Swyddogion Gorfodi’r Cyngor ei hun yn gyfrifol am orfodi’n ymwneud â throseddau amgylcheddol llai difrifol (gweld rhywun yn taflu sbwriel a ch?n yn baethu er enghraifft).   Aeth ymlaen gan ddweud fod y Cabinet wedi gofyn am adnewyddu’r protocol ar gyfer cyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig ac yn arbennig y dull dim goddefgarwch a fabwysiadwyd yn flaenorol gan dimau gorfodi’r Cyngor a weithredwyd yn llym ar draws y Sir.    Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad yn rhoi eglurder ar y dull ar gyfer gweithgareddau gorfodi yn y dyfodol a gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio i gyflwyno’r adroddiad. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio am y prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad.    Cyfeiriodd at y gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig lle roedd gan Swyddogion Gorfodi reswm i gredu bod unigolyn wedi troseddu a bod yna dystiolaeth ddigonol a phriodol i gefnogi erlyniad yn y llys os na fyddai Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei dalu.    Eglurodd na fyddai taflu sbwriel yn ddamweiniol yn derbyn sylw drwy Rybudd Cosb Benodedig.    Gan gyfeirio at reoli c?n, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio bod rheoli c?n yn parhau mewn ardaloedd cyhoeddus, gan gynnwys ardaloedd oedd yn destun Gorchymyn Man Agored Cyhoeddus, oedd yn cynnwys swyddogion mewn dillad plaen.

 

                        Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio bod Swyddogion Gorfodi Cyngor Sir Y Fflint yn gyfrifol am batrolio ar draws pob ardal o’r Sir i sicrhau bod pob ward yn derbyn lefel briodol a rhesymol o bresenoldeb gorfodaeth, fodd bynnag, ni ellir gwarantu presenoldeb dyddiol ym mhob ardal.    Aeth ymlaen gan ddweud yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2018, bod argymhelliad wedi'i wneud y dylid rhoi ystyriaeth i Gynghorau Tref a Chymuned ariannu Swyddogion Gorfodi ychwanegol o fewn eu hardaloedd.    Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio er mwyn asesu’r lefel o ddiddordeb yn y cynnig y byddai’r Cyngor yn cysylltu â phob Cyngor Tref a Chymuned a chynnig y cyfle i dalu am amser swyddog ychwanegol yn eu hardaloedd ar gyfradd ddyddiol y cytunir arni i gymryd i ystyriaeth  y byddai holl refeniw a gynhyrchwyd drwy’r Rhybuddion Talu Cosb yn cael eu cynnal gan y Cyngor Sir.  Ar ôl cysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned byddai ymarfer yn cael ei gynnal i bennu cynaliadwyedd cynllun ac ystyried pa un a ellir gweithredu’r prosiect gyda niferoedd staffio presennol neu a fyddai angen recriwtio Swyddogion ychwanegol.    

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at y wybodaeth atodol a ddosbarthwyd i’r Pwyllgor yn y cyfarfod a mynegodd bryderon am y cyfeiriad at darged incwm o £20k y flwyddyn, oedd yn cyfateb i 266 Rhybudd Cosb Benodedig bob blwyddyn.  Roedd yn cydnabod yr angen i  ...  view the full Cofnodion text for item 59.

60.

Strategaeth Toiledau Lleol pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas: I geisio argymhelliad y Cabinet i gymeradwyo Strategaeth Toiledau Lleol y Cyngor, yn dilyn y cyfnod ymgynghori.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i geisio argymhelliad i’r Cabinet gymeradwyo Strategaeth Toiledau Lleol y Cyngor yn dilyn y cyfnod ymgynghori.  Darparodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd bod yr ymgynghoriad statudol ar gyfer y Strategaeth Toiledau Lleol arfaethedig yn agored ers 4 Chwefror 2019 gyda’r dyddiad cau ar gyfer adborth ar y strategaeth ddrafft yn 26 Ebrill 2019.  Hyd yma roedd yr ymgynghoriad wedi derbyn 195 o ymatebion ac roedd copi o’r Strategaeth ddrafft ynghlwm i’r adroddiad.    Roedd y strategaeth arfaethedig yn cynnwys cynllun gweithredu 12 pwynt ar gyfer y ddwy flynedd a gofynnwyd i'r Pwyllgor ganolbwyntio ar bump maes penodol, fel y manylwyd yn yr adroddiad oedd yn sail i'r strategaeth.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at dudalen 44 o’r adroddiad a’r sgôr asesiad o anghenion i Shotton a gofynnwyd pa gamau a gymerir i fynd i’r afael â’r angen am ddarpariaeth toiledau yn Shotton.  Eglurodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod Shotton wedi’i nodi fel ardal oedd angen cyfleusterau toiledau gan nad oedd yna unrhyw gyfleusterau ymroddedig presennol yn cael eu darparu ac nid oedd yna gyfleoedd i ddefnyddio darpariaeth toiledau yn adeiladau'r Cyngor fel llyfrgelloedd, canolfannau cyswllt na chanolfannau hamdden. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin nad oedd y toiledau cyhoeddus yn Nhreffynnon yn agored ar benwythnos a dywedodd ei fod o blaid trefniadau amgen oedd yn dibynnu ar ymgysylltu â busnesau lleol i ddarparu cyfleusterau toiledau.  Dywedodd oni bai bod yna gymhelliad ariannol llawer gwell gan Lywodraeth Cymru roedd yn annhebygol y byddai busnesau lleol yn ystyried y cynnig a wnaed i fod yn un buddiol.    Siaradodd am anghenion pobl h?n, pobl â phroblemau symudedd ac iechyd a phlant bach, a dywedodd nad oedd bob amser yn ymarferol cael mynediad i gyfleusterau presennol a ddarperir yn adeiladau’r Cyngor.    Siaradodd am yr angen i ddarparu toiledau hygyrch i’r cyhoedd o fewn canol trefi i ddiwallu anghenion pobl sy’n ymweld â’u stryd fawr lleol i siopa. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog y bu ymateb gwael gan fusnesau lleol yn gyffredinol fel modd o gynyddu darpariaeth cyfleusterau ychwanegol yn y gymuned ac felly roedd angen ystyried darpariaeth amgen. 

 

Roedd y Cynghorydd David Evans yn cynnig yr argymhellion.  Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn eilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith a gwblhawyd hyd yma a’r ymgynghoriad statudol cyhoeddus parhaus ar y Strategaeth Toiledau Lleol; a 

 

(b)       Bod ymatebion y Pwyllgor i’r pedwar cwestiwn yn yr adroddiad yn cael       eu defnyddio i ddatblygu’r Strategaeth Toiledau Lleol ymhellach.

61.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried.  Dywedodd y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 21 Mai 2019 ym Mharc Gwepra, Ystafell Yr Ardd, Cei Connah er mwyn ystyried yr eitemau canlynol:

 

·         diweddariad ar lwybr beiciau’r Wyddgrug i Frychdyn

·         adroddiad cynnydd ar derfynau cyflymder y tu allan i ysgolion ac “20 yn ddigon”. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn dilyn cytundeb y Pwyllgor, y byddai cyfarfod o’r Pwyllgor, gan gynnwys taith yn cael ei gynnal yn Nyffryn Maes Glas yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol drafft yn cael ei chymeradwyo;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod cyfarfod o’r Pwyllgor, fyddai’n cynnwys taith, yn cael ei gynnal yn Nyffryn Maes Glas yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

62.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.