Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.co.uk

Eitemau
Rhif eitem

41.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

 

 

42.

Cofnodion pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 27 Tachwedd 2018

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2018.

 

Materion yn Codi

Gan gyfeirio at ei sylwadau ar Orfodi'r Amgylchedd, dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton y gallai nifer o grwpiau a sefydliadau lleol gael eu ymgysylltu mewn digwyddiad 'glanhau sbwriel sydd wedi'i waredu' o amgylch Cei Connah yn ystod mis Mawrth. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

 

43.

Diweddariad Metro Gogledd Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 95 KB

I ddiweddaru Craffu ar gynnydd Prosiect Metro Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnwys y cynigion diweddaraf i Lywodraeth Cyllid am arian.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i ddarparu diweddariad ar ddatblygiad Prosiect Metro Gogledd Ddwyrain Cymru, gan gynnwys y cynigion diweddaraf i Lywodraeth Cymru am gyllid.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd er mwyn darparu datrysiad cludiant cynaliadwy hirdymor, roedd yn hanfodol bod pob math o gludiant yn cael eu integreiddio’n llwyddiannus.  Yn allweddol i hyn oedd cynnal a hyrwyddo Gwasanaeth Cludiant Cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd gyda chysylltiadau i Sir Y Fflint i gyd a’r rhanbarth ehangach. Mae’r cynigion yn darparu llwyfan y gellir ehangu cwmpas i ddarparu datrysiad cludiant ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol lleol, yn arbennig Brychdyn a safle Airbus gerllaw, yn darparu mynediad di-dor i bobl sydd yn dymuno gweithio yn yr ardal ac sy’n byw mewn ardaloedd eraill o Ogledd/Canolbarth Cymru a Gogledd-Orllewin Lloegr.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog bod cynigion eraill wedi’u cyflwyno’n ddiweddar i’r ‘Cyllid Cludiant Lleol’ ar gyfer cyllido yn y cyfnod 2018-2021. Mae’r Awdurdod wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cyllid gan Llywodraeth Cymru o £1,373,500 yn 2018/19 gydag ymrwymiad pellach o £2,675m yn 2019/20 a £1,6025m yn 2020/21 ar gyfer darparu cynlluniau eraill a nodir yn yr adroddiad.

 

                        Gwahoddodd y Prif Swyddog yr Uwch Reolwr Technegol a Pherfformiad i roi adroddiad ar gynnydd ar y cynlluniau parhaus o fewn y prosiect ehangach: 

 

  • Mynediad at gyflogaeth -  isadeiledd teithio llesol a safleoedd bysiau ar draws Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy
  • Datblygiadau ar gyfer twf teithwyr – coridor Glannau Dyfrdwy
  • Cylchfan B5128 Queensferry at Ffin Sir Ddinbych
  • Gosod signalau ar Gylchfan Parkway – Parth 2 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
  • Llwybr Beiciau A5104 Brychdyn i Saltney Cam 2.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog bod ymgynghoriad ar y cynlluniau wedi digwydd gyda'r Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy, busnesau ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Cynghorau Tref a Chymuned lleol, aelodau etholedig a Llywodraeth Cymru.  Bydd ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn cael ei gyflawni yn y dyfodol agos.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog y sylwadau gan y Cynghorydd Vicky Perfect ar y cynnig Metro Gogledd Ddwyrain Cymru a chyswllt i orsaf rheilffordd y Fflint, a dywedodd bod pwysigrwydd y rheilffordd ar yr arfordir yn cael ei chydnabod.

 

Soniodd y Cynghorydd Paul Shotton am yr anhawster y mae rhai bobl wedi’u profi wrth geisio cael mynediad at Barc Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Siaradodd o blaid y cynllun am isadeiledd teithio llesol a gorsaf fysiau drwy Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a chroesawodd yr uwchraddio'r gwasanaeth gwennol gyda mwy o bwyslais ar arbed ynni. Gofynnodd am ddiweddariad ar y cynllun parcio a theithio. Dywedodd y Swyddogion bod gwaith yn cael ei wneud gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun parcio a theithio ac roedd ar hyn o bryd yn y cam cynllunio, a dylai cyllid gael ei sicrhau yn y dyfodol agos.  Mae safle addas wedi’i nodi ac mae’r gymuned fusnes o blaid cynllun parcio a theithio.  Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai’r cynllun parcio a theithio yn mynd i'r afael â thagfeydd a darparu gwasanaeth gwennol rheolaidd.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at gysylltu â gorsaf Shotton i alluogi mynediad at ganol Parc  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Contract Fflyd – Diweddariad pdf icon PDF 93 KB

Rhoi diweddariad i Graffu ar gynnydd y Contract Fflyd ledled y sir, ddwy flynedd ar ôl ei weithrediad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad ar y cynnydd o Gytundeb Fflyd sir gyfan dwy flynedd ar ôl ei gweithredu, a gwerthusiad yr arbedion effeithlonrwydd a ddarparwyd gan newid yn y ffordd o ddarparu.

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghylch manteision ariannol a rhagwelir a’r sefyllfa cyfredol, a'r manteision gwasanaeth a rhagwelir. Dywedodd bod y rhan fwyaf o fanteision gwasanaeth a rhagwelir wedi’u cyflawni a bod y fflyd wedi cael eu moderneiddio gyda cherbydau newydd. Cyfrifwyd cyfanswm yr arbedion cronnus y Cytundeb Fflyd erbyn yr 2il Flwyddyn (17/18) yn £1,134,912, fodd bynnag, roedd hyn cynnwys sefyllfa well o arbedion a ddarparwyd gan brosesu llai o anfonebau.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd bod adolygiad Archwiliad Mewnol o’r cytundeb wedi’i gyflawni ym mis Mai 2018, fel arfer da, ac wedi nodi meysydd lle’r oedd yr Awdurdod angen gweithio’n agosach i sicrhau bod gweithgareddau yn dod yn rhan o brosesau adolygu maes gwasanaeth. Ychwanegodd bod y cyngor a gwybodaeth gan y Tîm Fflyd a’r contractwr partner yn cael eu gweithredu i wella defnydd ac arbedion effeithlonrwydd. Mae Cynllun Gweithredu mewn lle i ddatrys yr holl materion dros ben yn yr adroddiad.

 

Gan gyfeirio at foderneiddio fflyd cerbydau’r Awdurdod yn dilyn darpariaeth o gerbydau newydd gan y partner, dywedodd y Prif Swyddog bod hyn wedi arwain at lai o gerbydau yn gweithredu nag oedd yn y gorffennol a gwell effeithlonrwydd gyda llai o waith cynnal a chadw ac atgyweirio ei hangen. O ganlyniad, mae cynigion yn cael eu hystyried i alluogi staff mewnol y gweithdy sydd yn cyflawni gwaith cynnal a chadw ar y cerbydau ar ran y contractwr, i gyflawni busnes trydydd parti drwy’r gweithdy gyda'r Awdurdod i dalu am yr oriau sy’n cael eu gweithio.

 

Mynegodd yr Aelodau eu gwerthfawrogiad i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu cynnydd a arbedion effeithlonrwydd a gyflawnwyd hyd yma o ganlyniad i drefniadau gweithio fflyd newydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

45.

Pwyntiau Gwefru Ceir pdf icon PDF 94 KB

I ystyried y strategaeth ddrafft

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i alluogi’r Pwyllgor ystyried y strategaeth ddrafft. Rhoddodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at alw cynyddol am gerbydau trydan yn y DU, a dywedodd ei bod yn hanfodol i'r Awdurdod ymgysylltu â thechnolegau newydd i leihau'r risg o gefnu ar y cyhoedd o ran twristiaeth, datblygiad preswyl a thwf busnes. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod gan y Cyngor swyddogaeth i ddatblygu strategaeth i hwyluso gweithredu Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan, ac i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cyflwyno Pwyntiau Gwefru priodol ac effeithiol mewn lleoliadau strategol ar draws y Sir. Byddai’r Awdurdod yn cyflawni hyn drwy wneud lleoliadau ar gael, a thrwy sicrhau bod y rhwydwaith cyflenwad trydan lleol yn ddigonol i gymhwyso’r galw ychwanegol. Byddai’r dull hwn yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a darparu manteision ariannol hirdymor posibl ar gyfer y Cyngor o’r trefniadau prydles lleol. Byddai strategaeth cymeradwy yn caniatáu’r Cyngor i wneud cynnig am ffrwd gyllido ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth cenedlaethol i helpu awdurdodau lleol sicrhau rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws y Sir.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y gallai’r Awdurdod liniaru’r risg o effaith ar ei gyllid drwy fabwysiadu’r rôl ‘galluogwr' i hwyluso gweithredu pwyntiau gwefru cerbyd trydan, yn hytrach na thybio'r rôl o ddarparwr uniongyrchol. Ailadroddodd  y byddai’r dull hwn yn caniatáu’r Cyngor fynd i mewn i gytundeb prydles hirdymor gyda chyflenwyr penodol a fyddai'n darparu posibilrwydd o incwm hirdymor. Byddai hyn yn cynnwys yr Awdurdod yn gwneud cynnig am gyllid gan Llywodraeth Cymru i uwchraddio’r rhwydwaith cyflenwad trydan presennol ar y safleoedd hynny sydd ag achos busnes profedig. Hefyd gallai safleoedd gael eu blaenoriaethu oherwydd y posibilrwydd o integreiddio cyfleusterau ynni ategol megis PV Solar (porth car solar, casgliad solar) a storfa batri. Dywedodd y Prif Swyddog ei bod yn hanfodol bod agweddau trefol a gwledig y Sir yn cael eu hystyried wrth hwyluso’r twf am rwydwaith gwefru Cerbydau Trydan.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr Awdurdod yn gweithredu fflyd, ar hyn o bryd o tua 315 o gerbydau, a thra bydd yn ceisio cyflawni bod y fflyd i gyd yn rhai trydan, mae’r dechnoleg batri sydd ar gael ar hyn o bryd yn cyfyngu ar yr ystod o gerbydau trydan.   Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod yn parhau i weithio gyda’i chyflenwr fflyd i fonitro cyfleoedd i integreiddio cerbydau trydan i’w fflyd ei hun yn unol â thechnoleg batri gwell.

 

Roedd wedi gwahodd y Rheolwr Cymorth Rhwydwaith i roi adroddiad ar y prif ystyriaethau fel y nodir yn yr adroddiad ac i ymateb i'r cwestiynau a sylwadau a godwyd gan yr Aelodau.

 

Roedd yr Aelodau o blaid y cynigion y dylai’r Awdurdod weithredu fel ‘galluogwr yn hytrach na darparwr uniongyrchol o bwyntiau gwefru trydan a dylid hwyluso’r uwchraddio'r rhwydwaith cyflenwad trydan presennol mewn lleoliadau hyfyw economaidd ar y rhwydwaith priffyrdd a lleoliadau allweddol eraill yn y Sir. Hefyd, roedd yr Aelodau yn cefnogi'r lleoliadau strategol a nodwyd ar draws portffolio asedau Sir y Fflint, a fyddai angen gwaith pellach i flaenoriaethu cynigion i gael mynediad at unrhyw gyllid  ...  view the full Cofnodion text for item 45.

46.

Cynllun y Cyngor 2018/19 – Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas: Cytuno ar y lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgarwch, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 18/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i ddangos crynodeb o’r perfformiad hyd at ganol blwyddyn 2018/19 o ran blaenoriaeth Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’, sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.   

 

Dywedodd bod yr adroddiad canol blwyddyn yn dangos bod 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a bod 81% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a gynlluniwyd.   Roedd 79% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar y targed. Mae risgiau yn cael eu rheoli, gyda 18% yn unig wedi’u hasesu fel rhai mawr. Mae’r adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd sy’n tan-berfformio.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) at y risgiau sylweddol a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor ynghylch tywydd drwg ar y rhwydwaith priffyrdd. Dywedodd bod y patrwm risg wedi cynyddu oherwydd difrifoldeb gaeaf 2017/18, gyda chyflwr ffyrdd ar draws y Sir wedi ei effeithio’n ddrwg ar geudyllau a diffygion ar arwyneb y ffordd. Mae cyllid, adnoddau a chontractwyr ychwanegol wedi eu lleoli ar draws y Sir yn ystod yr haf i atgyweirio’r rhwydwaith fel yr oedd y diffygion yn cael eu nodi. Roedd hyn yn cynnwys blaenoriaethu ail-wynebu a chynlluniau cyfalaf cyweirio. Eglurodd y Prif Swyddog er bod gwaith atgyweirio sylweddol a pharhaol i gael gwared â nifer o ddiffygion ac i wella cyflwr y ffyrdd gan leihau’r risg ar y rhwydwaith wedi’i gyflawni, efallai nid yw hyn yn ddigonol i atal y dirywiad yn y rhwydwaith.  Fodd bynnag, dywedodd y Prif Swyddog bod cyllid ychwanegol wedi’i ddyrannu i alluogi’r Awdurdod i gyflawni cynlluniau sylweddol eleni.

 

Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas bryderon ynghylch y risgiau cysylltiedig â diogelwch y cyhoedd oherwydd ceudyllau ar rai ffyrdd yn ei Ward. Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i drafod y pryderon penodol a godwyd gan y Cynghorydd Thomas ar ôl y cyfarfod.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Chris Dolphin y pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Thomas ynghylch amodau gwael rhai o'r ffyrdd a rhoddodd sylw at y dull o archwilio a wneir i adnabod y diffygion.  Cydnabu’r Cynghorydd Carolyn Thomas y pwynt a wnaethpwyd ac eglurodd bod ôl-groniad o waith atgyweirio i ddod â’r ffyrdd i safon gofynnol, fodd bynnag, heb gyllid digonol i gyflawni’r gwaith, byddai'r rhwydwaith yn parhau i ddirywio.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) at y risg mwyaf sef na allai cyllid gael ei sicrhau ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd â blaenoriaeth, fel y nodwyd yn adran 1.11 o’r adroddiad.  Dywedodd bod gweithredu Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd A D?r a oedd yn gofyn i’r awdurdod lleol weithredu fel Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy o 7 Ionawr 2019 ymlaen, yn gosod dyletswyddau pellach ar y tîm Rheoli Perygl Llifogydd heb gyllid ychwanegol ar gael gan Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom na ddylid disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni dyletswyddau ychwanegol heb gyllid digonol a mynegodd y safbwynt bod Aelodau lleol angen bod yn rhan o drafodaethau cyn cais ar gyfer materion sy’n ymwneud â chynllunio. Pwysleisiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod cynrychioliadau cryf wedi’u gwneud ynghylch yr angen am gyllid  ...  view the full Cofnodion text for item 46.

47.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried.   Dywedodd y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Iau, 26 Chwefror 2019, er mwyn ystyried yr eitemau canlynol:

 

  • Monitro Cynllun y Cyngor Q3
  • Cludiant i'r Ysgol – Llwybrau Peryglus

 

            Eglurodd yr Hwylusydd mai'r bwriad yw cynnal cyfarfod o’r Pwyllgor ar 9 Ebrill, ym Mharc Gwepra, Cei Connah, a bydd hyn yn cael ei gadarnhau i Aelodau ar ôl cytuno.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a 

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

 

48.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd dau aelod o’r wasg a dim aelod o’r cyhoedd yn bresennol.