Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / Sharon Thomas / 01352 702322 / 702324 

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

11.

Canlyniad Ymgynghoriad Cyhoeddus am Gludiant Cyhoeddus ac Anghysondebau gyda Chludiant Cymdeithasol pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor Craffu am ganlyniad yr ymgynghoriad                   am drefniadau cludiant lleol a’r amserlen ar gyfer delio gyda’r                 anghysondebau gyda threfniadau cludiant ysgolion a ganfyddwyd                 yn dilyn adolygiad o’r gwasanaeth ym mis Medi 2017.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad ynghylch Canlyniad yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gludiant Cyhoeddus ac Anghysonderau o ran Cludiant i'r Ysgol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion yngl?n â'r llwybrau bws y rhoddwyd cymhorthdal ar eu cyfer, a chanlyniad yr ymgynghoriad yngl?n ag adolygu’r rhwydwaith bysus. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad er mwyn rhoi sylw i’r gwasanaethau hynny a sicrhau gwasanaeth cludiant cyhoeddus fforddiadwy a chynaliadwy yn y dyfodol.  

 

Adolygu’r Rhwydwaith Bysus

 

            Adroddodd Rheolwr y Rhaglen Cludiant ar yr adolygiad o’r rhwydwaith bysus. Er mwyn hwyluso’r adolygiad, cynhaliwyd proses ymgynghori gyhoeddus dros gyfnod o 8 wythnos gyda’r cyhoedd, aelodau etholedig a chynghorau tref a chymuned a wahoddwyd i roi adborth ar y cynigion. Y pedwar dewis a gyflwynwyd i’w hystyried oedd:-

 

  • Dewis 1 – rhoi’r gorau’n llwyr i roi cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bws;
  • Dewis 2 – gwneud dim a dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau hynny oedd eisoes yn eu cael;
  • Dewis 3 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau yn y rhwydwaith craidd, a darparu dulliau cludiant gwahanol, cynaliadwy a lleol mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.
  • Dewis 4 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau yn y rhwydwaith craidd a chyflwyno gwasanaeth sy'n ymatebol i'r galw mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.

 

            Roedd aelodau etholedig a chynghorau tref a chymunedyn bennaf o blaid Dewis 3, ond cydnabuwyd nad oedd un dewis i blesio pawb a byddai’n rhaid i’r agwedd tuag at gludiant amrywio o un ardal i’r llall yn dibynnu ar angen a galw lleol.    O dan y dewis a ffefrir, y nod fyddai darparu cludiant lleol mewn cymunedau nad oeddent yn y rhwydwaith craidd ar ffurf bysus bach, a oedd yn fwy addas ar gyfer natur y llwybrau mewn ardaloedd gwledig. Roedd llwybrau arfaethedig wedi’u nodi ar gyfer trefniadau teithio lleol, ac roedd rhestr o’r rheiny ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Daeth Rheolwr y Rhaglen Cludiant i’r casgliad y cynigiwyd bod y newid arfaethedig o ran darpariaeth gwasanaeth yn cael ei gyflwyno o 1 Hydref 2018 yn raddol ac roedd cynllun gweithredu ac amserlen arfaethedig ynghlwm wrth yr adroddiad. 

 

            Esboniodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod y cwmnïau bysus wedi gwneud nifer o newidiadau yn y rhwydwaith bysus masnachol, a oedd wedi cael effaith ar gymunedau ac wedi creu bylchau posib yn y ddarpariaeth; nid oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros hynny. Fodd bynnag, roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gadw’r rhwydwaith bysus dan adolygiad ac ymyrryd pan oedd hynny’n briodol.    

 

            Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad ac am y sesiynau ymgynghori helaeth a gynhaliwyd. Dywedodd, yn dilyn yr ymarfer ymgynghori, a ddengys yn yr adroddiad, ei bod yn ymddangos bod consensws ar gyfer Dewis 3 a bod y dewis hwn yn cysylltu’n dda â’r trefniant cludiant newydd ar gyfer Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.  Gofynnodd a oedd contractwr wedi’i ddewis i ddarparu Gwasanaeth Bws Gwennol Glannau Dyfrdwy. Dywedodd y Prif Swyddog bod y Cyngor wedi derbyn  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

Item 3 - Presentation pdf icon PDF 105 KB

12.

Hybu twristiaeth a rheoli cyrchfan pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad i Aelodau am y dulliau gweithio newydd ar                 gyfer hyrwyddo i ymwelwyr rhwng y Gwasanaethau Cefn Gwlad               a Thwristiaeth a thrafod dulliau gwaith y dyfodol ar gyfer rheoli                 cyrchfannau a rôl pob gwasanaeth.

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) yr adroddiad yngl?n â Hybu Twristiaeth a Rheoli Cyrchfannau, a oedd yn ymdrin â’r dulliau a ddefnyddiwyd yn Sir y Fflint a’r rhanbarth ehangach i hybu’r economi dwristiaeth drwy weithgarwch hyrwyddo, a rheoli a gwella’r profiad a gynigir i ymwelwyr. 

 

            Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am waith y Gwasanaeth Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol a’r Gwasanaeth Twristiaeth, a oedd ill dau wedi chwarae rhan arwyddocaol ar y cyd, a byddai cyfleoedd i gydweithio mwy yn y dyfodol yn sgil ailstrwythuro yn ddiweddar.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad a gwnaeth sylw ar y cynnig twristiaeth yn Sir y Fflint. Cynnig a oedd y Pwyllgor wedi ei weld dros ei hun yn ystod ei gyfarfod diweddar a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dreftadaeth Maes Glas.  Gwaeth sylw ar gyflwyniad diweddar y sgyrsiau a’r teithiau cychod ger y Cei a chanmolodd waith Ceidwaid y Sir ar hyd llwybr yr arfordir. 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Vicky Perfect i’r Rheolwr Gwasanaeth (Mynediad a’r Amgylchedd) a’i dîm am osod meinciau newydd ar hyd llwybr yr arfordir ger Castell Fflint. Gwnaeth sylw ar lwyddiant y digwyddiad Rock the Castle yn Y Fflint a fynychwyd gan 2,000 o bobl a diolchodd i Geidwaid yr Arfordir am eu cyfraniad ac am feirniadu’r gystadleuaeth castelli tywod. 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dolphin i’r Rheolwr Gwasanaeth (Mynediad a’r Amgylchedd) a’i dîm am eu gwaith caled. Gofynnodd pryd a fyddai modd gosod arwydd i ymwelwyr ar yr A55 i hyrwyddo Ffynnon Sant Gwenffrewi ac ardaloedd cyfagos. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) fod y Cyngor yn darparu arwyddion brown a gwyn a bod adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i nodi lle'r oedd bylchau ar draws y Sir. Roedd angen bod yn ofalus â’r cyllid oedd ar gael ond pan fyddai mwy o arian ar gael gan Lywodraeth Cymru, byddai’r Cyngor mewn sefyllfa i gyflwyno ceisiadau am gyllid drwy gael y cynlluniau priodol ar waith.

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet Datblygu Economaidd bod angen newid agweddau am Sir y Fflint. Dywedodd bod 80% o Sir y Fflint yn wledig ond nid oedd hyn wedi’i gydnabod drwy argaeledd cyllid Ewropeaidd. Y gobaith oedd y byddai yn cael ei ddatrys drwy Gynnig Twf Gogledd Cymru ac er bod yr economi ymwelwyr yn Sir y Fflint yn rhan gymharol fechan o economi Sir y Fflint, roedd yn dal i wneud cyfraniad pwysig, a oedd yn cynhyrchu oddeutu £252m  y flwyddyn.

 

            Wrth drafod Cynnig Twf Gogledd Cymru, dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai Sir Y Fflint yn gallu cymryd mantais o’r cyfleoedd buddsoddi cyfalaf yng Nghaergybi o ran Llongau Mordeithiau a phleserdeithiau o fewn cwmpas 1 awr.  Dywedodd bod nifer yr ymwelwyr Japaneaidd ar draws Gogledd Cymru wedi cynyddu o 84% ac er bod gan Sir y Fflint lawer iawn o atyniadau, nid oedd y llety yn yr ardaloedd o’r un safon â’r llety yng Nghernyw neu’n Ardal y Llynnoedd.           

                    

            Gwnaeth y Cynghorydd Legg sylw ynghylch Mynydd Helygain a diolchodd i’r swyddogion am eu gwaith caled  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd dau aelod o’r cyhoedd a thri aelod o’r wasg yn bresennol.