Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Parc Treftadaeth Amgueddfa Dyffryn Maes Glas, Ffordd Maes Glas, Treffynnon CH8 7GH

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Nodyn: Nodwch y lleoliad 

Eitemau
Rhif eitem

67.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

68.

Cofnodion pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfod 13 Mawrth a’r cyd-gyfarfod 15 Mawrth 2018, fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2018 a’r cyd gyfarfod ar 15 Mawrth 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’r Cadeirydd i’w llofnodi.

69.

Ymweliad a chyflwyniad ar Barc Treftadaeth ac Amgueddfa Dyffryn Maes Glas pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar ddatblygiadau yn Nhreftadaeth Dyffryn Maes Glas.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) ddiweddariad ar gynnydd o ran mynd i’r afael ag argymhellion adroddiad yr Archwiliad Mewnol ar lywodraethu, ariannu a threfniadau gweithredu ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.

 

Traddododd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol gyflwyniad ar y canlynol:

 

·         Cefndir

·         Cwmpas yr Archwiliad

·         Archwiliad – meysydd a reolwyd yn dda

·         Archwiliad – meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach

·         Prif newidiadau 2017/18

·         Amcanion y Cynllun Busnes

 

Yn ystod y cyflwyniad, eglurodd y Rheolwr nifer o ddatblygiadau allweddol megis penodi swyddog gweinyddol/ariannol i gynorthwyo gwelliannau i systemau’r swyddfa gefn a symud i fodel mwy cyfunol dan y portffolio Cynllunio a’r Amgylchedd. Fel rhan o’r newidiadau strwythurol, roedd y ddau Arweinydd Tîm yn chwarae rôl allweddol yng nghyhoeddi’r gweithgareddau yn y wlad, gwella  pryd a gwedd y safle a chynyddu ymgysylltu cyhoeddus, yn arbennig trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae trefniadau llywodraethu wedi eu hatgyfnerthu trwy recriwtio pedwar Ymddiriedolwr newydd a chadw rhai o’r Ymddiriedolwyr blaenorol i roi cymorth yn ystod y cyfnod o drosglwyddo. Byddai’r cynllun busnes tair blynedd yn sail i’r cytundeb rheoli diwygiedig ac yn sicrhau yr atebid anghenion y bartneriaeth. Dywedodd y Rheolwr y cydnabuwyd yr heriau blaenorol a dywedodd fod perthynas weithio cadarnhaol bellach rhwng y tîm a’r Ymddiriedolwyr i gydweithio tuag at yr un amcanion.

 

Fel Aelod Cabinet, mynegodd y Cynghorydd Carolyn Thomas ei gwerthfawrogiad am y gwaith a waned a’r cynlluniau i godi proffil y safle yn y dyfodol. 

 

Bu i’r Cynghorydd Shotton ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad a phwysleisiodd ar yr angen i godi cyhoeddusrwydd y parc, yn arbennig gerbron twristiaid sy’n ymweld o dramor. Eglurwyd bod marchnata yn elfen bwysig o waith y tîm gan ddefnyddio cysylltiadau presennol a chreu rhai newydd er mwyn datblygu strategaeth hirdymor, a bod y wefan newydd ar fin mynd yn fyw.

 

Trafododd y Cynghorydd Chris Dolphin am gymaint o werthfawrogiad a chefnogaeth sydd i’r parc a dywedodd mai yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig y profwyd trafferthion. Mynegodd bryderon ynghylch canfyddiadau’r adroddiad archwilio a chwestiynodd y camau gweithredu sy’n mynd rhagddynt ynghylch y trefniadau llywodraethu; dywedodd y dylai cofnodion Bwrdd yr Ymddiriedolwyr fod ar gael i’w gweld. Bu iddo drafod y dyddiad terfyn ar gyfer gweithredu a mynegi ei siom ynghylch y diffyg manylder yn yr adroddiad  eglurhaol yr oedd yn gobeithio yr eid i’r afael ag o yn y diweddariad nesaf. Cyfeiriodd at yr effaith negyddol ar y gymuned yn sgil y penderfyniad blaenorol i dynnu’r pegiau pysgota o’r pwll yn y safle i atal pysgota.

Eglurodd y Prif Swyddog mai erbyn mis Medi 2017 yr oedd yn rhaid i’r Ymddiriedolaeth gyflwyno ymrwymiad i dderbyn argymhellion adroddiad yr archwiliad, a oedd yn yr agenda at ddibenion didwylledd. Byddai’r Archwiliad Mewnol yn monitro’r camau gweithredu ac yn adrodd yn ôl wrth y Pwyllgor Archwilio ym mis Mehefin 2018. Roedd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cynnwys rhai aelodau newydd â sgiliau pwysig i gynorthwyo datblygiad a chynaliadwyedd y safle. Er mwyn cynnal elfen o barhad, cytunodd rhai cyn-aelodau i aros, yn cynnwys  ...  view the full Cofnodion text for item 69.

Presentation Slides pdf icon PDF 209 KB

70.

Ansawdd Aer yn Sir y Fflint pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg o asesiad Ansawdd Aer Gogledd Cymru, a chynghori Aelodau am y systemau a’r prosesau lleol sydd gan Gyngor Sir y Fflint ar waith er mwyn monitro ansawdd aer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Bithell adroddiad ar ganfyddiadau’r adroddiad Ansawdd Aer rhanbarthol, a baratowyd ym mis Awst 2017, er mwyn ystyried sut y gallai’r Cyngor wneud mwy i hyrwyddo ystyriaethau ansawdd aer wrth wneud penderfyniadau strategol allweddol a gweithredol. Wrth amlygu pwysigrwydd y testun, roedd yn falch o nodi y cofnodwyd ansawdd aer da yng ngogledd Cymru ond bod angen gwella eto.

 

Trafododd y Rheolwr Diogelu’r Gymuned a Busnes am effaith ansawdd aer ar iechyd a dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi canmol y dull o gomisiynu’r adroddiad ar y cyd. Dywedodd fod y testun nawr yn flaenoriaeth i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chyflwynodd y Swyddog Rheoli Llygredd a aeth ati i ddangos y tiwbiau monitro a ddefnyddia i roi syniad o lefelau ansawdd yr aer.

 

Yn ymateb i gwestiynau, eglurodd leoliadau monitro a’r dull o fonitro’n fwy dwys. Dywedodd y byddai modd anfon e-bost yn cynnwys dolen at Fforwm Ansawdd Aer Cymru at aelodau’r Pwyllgor. Byddai cyflwyno projectau i ysgolion gael monitro dros eu hunain hefyd yn helpu codi ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith disgyblion.

 

Eglurodd y Rheolwr fod yr adroddiad blynyddol yn ofyn statudol a bod yn rhaid ystyried y canfyddiadau ar gyfer unrhyw waith datblygu a gynllunnir.

 

Yn dilyn sylwadau ar effaith rheoli traffig, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod oedi yn aml yn ganlyniad i waith gan gwmnïau gwasanaethau ac y dylid cyfeirio unrhyw bryderon i’r Goruchwylydd Ardal perthnasol. Cyfeiriodd at Strategaeth Fws Sir y Fflint, a oedd yn hyrwyddo defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gyda rhai gweithredwyr yn defnyddio bysiau allyrron isel.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Cyngor yn hybu’r holl benderfyniadau a pholisïau, pan fo’n addas, er mwyn ystyried yr effaith ar ansawdd yr aer;

 

(b)       Y dylai’r Cyngor weithio â’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan o’i thema amgylcheddol, i hyrwyddo dull aml-asiantaeth i fynd i’r afael ag ansawdd yr aer; a

 

(c)       Nodi cynnwys Adroddiad Ansawdd Aer Awdurdodau Gogledd Cymru Ar y Cyd.

71.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w ystyried. Dywedodd y gofynnwyd eisoes i Aelodau gyflwyno cwestiynau penodol ar Orfodi’r Gofal Amgylcheddol cyn yr eitem ar agenda’r cyfarfod nesaf. Byddai trefniadau tebyg hefyd yn berthnasol i gyfarfod mis Medi ac eitem ar Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Byddai dyddiadau cyfarfodydd blwyddyn y Cyngor 2018/19 yn cael eu cynnwys yn Raglen Gwaith i’r Dyfodol unwaith y cytunir ar y dyddiadur yn y Cyfarfod Blynyddoedd Cyffredinol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac

 

(b)       Awdurdodi’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng y cyfarfodydd yn ôl yr angen.

72.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.