Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter / Sharon Thomas / 01352 702322 / 702324
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny
Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim.
|
|
Drafft Nodyn Cyngor Datblygwr Tai Amfeddiannaeth (HMO) Dros Dro PDF 79 KB Pwrpas: Darparu cyngor cynllunio interim i ddarpar ddatblygwyr Tai Amlfeddiannaeth o ran y safonau, yr amodau a’r gofynion y dylid eu hystyried wrth gyflwyno ceisiadau. Dylid cyhoeddi’r canllaw hwn ar gyfer ymgynghoriad â’r cyhoedd a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau ei fod yn ddylanwadol fel ystyriaeth gynllunio faterol. Bydd polisi penodol yn ymwneud â datblygiad Tai Amlfeddiannaeth yn cael ei gyhoeddi fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol newydd, ond ni fydd unrhyw werth iddo nes i’r cynllun gael ei fabwysiadu, felly cyhoeddir y Nodyn Cyngor Cynllunio Interim. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wrth Aelodau bod angen i geisiadau datblygu Tai Amlfeddiannaeth fynd drwy’r Pwyllgor Cynllunio bellach, ar ôl newidiadau i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y math hwn o eiddo, sydd wedi arwain at gwynion gan drigolion lleol a Chynghorwyr. Yn y gorffennol, mewn trefi prifysgol fyddai eiddo fel hyn i'w canfod ond oherwydd y diffyg mewn tai, mae mwy yn cael eu datblygu erbyn hyn. Amlinellodd beth fyddai’r Nodyn Cyngor Datblygwr yn ei olygu gan nad yw’r polisïau cyfredol yn ddigonol yn hyn o beth. Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi ei chael hi’n anodd delio gyda’r mathau hyn o Geisiadau Cynllunio gan nad oedd polisi penodol yn ymwneud â Thai Amlfeddiannaeth o dan y Cynllun Datblygu Trefol. Roedd y polisi yn cael ei ddatblygu i’w gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ac roedd yr Hysbysiad Cyngor Datblygwyr hwn yn rhoi cyngor i ddatblygwyr yn y cyfamser. Roedd angen cymeradwyaeth ar y Nodyn Cyngor cyn iddo gael ei rhyddhau i’w ymgynghori arno a’i fabwysiadu gan y Cabinet a gofynnwyd i'r Pwyllgor hwn am ei sylwadau.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio Amgylchedd a’r Economi) bod y Gr?p Strategol Cynllunio wedi eu hymgynghori ar hyn a bod y Nodyn Cyngor Datblygwyr Interim drafft wedi ei atodi at yr adroddiad fel Atodiad 1. Unwaith byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo'r cynnwys byddai'n cael ei gyhoeddi ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus. Wedi’r ymgynghoriad byddai’n cael ei fabwysiadu gan y Cabinet ac yna byddai Gweithdy i’r holl Aelodau’n cael ei gynnal.
Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson am eglurder am y diffiniad o D? Amlfeddiannaeth a gofynnodd a yw'n golygu 3 o bobl nad oeddynt yn perthyn i'r un teulu. Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hynny yn wir.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at y (Cynllun Datblygu Trefol) gan nodi bod modd rhoi polisïau blaenorol yn eu lle cyn ei fabwysiadu, a gofynnodd a fyddai modd ffurfioli’r polisi yn yr un modd. Wrth ymateb dywedodd y Prif Swyddog bod y Cynllun Datblygu Trefol yn wahanol i'r Cynllun Datblygu Lleol gan fod y cynllun eisoes wedi ei fabwysiadu.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Mike Peers bod y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi gwneud sylwadau ar hyn. Roedd yr adroddiad yn nodi bod y Cabinet wedi derbyn yr adroddiad ar 9 Hydref ond ar yr agenda ar gyfer y Cabinet cafodd ei gyflwyno ar 23 Hydref ac roedd am gael eglurder. Roedd yn teimlo y dylai’r Pwyllgor fod wedi gweld y ddogfen ddrafft cyn iddi gael ei hystyried yn y Cabinet. Yna cyfeiriodd at bwynt 4.12 Golygfa a Phreifatrwydd “Mae’r ACLl yn ystyried bod golygfa resymol yn golygu isafswm pellter o 12 metr" ac roedd yn teimlo y dylid ei newid i "ceisio am isafswm pellter o 12 metr". O safbwynt 4.15, awgrymodd y Cynghorydd Peers y dylid cynnwys isafswm pellteroedd wrth gyfeirio at ffenestri islawr. Ychwanegodd bod y cynlluniau a’r diagramau yn glir ond dywedodd bod pryderon wedi eu mynegi yn y Gr?p Strategaeth ... view the full Cofnodion text for item 36. |
|
Diweddariad 6 Mis Taliadau Parcio Ceir PDF 103 KB Pwrpas: I gael diweddariad yn dilyn yr adolygiadau o daliadau parcio ceir
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) Chris Taylor a Ruth Cartwright oedd wedi bod yn gweithio ar y rhaglenni ar gyfer parcio ceir.
Dywedodd y Prif Swyddog bod y Strategaeth wedi ei chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Mawrth 2017, gyda Strategaeth a Ffioedd newydd yn cael eu cyflwyno ym mis Mai 2018, ac mai adolygiad chwe mis ar ôl ei gyflwyno oedd yr adroddiad hwn.
Soniodd wrth Aelodau am y ddau gyfyngiad yn 1.09 a’r newidiadau o fewn yr adroddiad yn 1.10. Rhestrwyd y ceisiadau am newidiadau gan Gynghorau Tref a Chymuned yn 1.10 ac ym mhwynt 1.11 oedd yr awgrymiadau nad oedd modd eu cyflwyno.
Dangoswyd cais Cyngor Tref Bwcle am gyfnod estynedig o barcio am ddim pe byddai cyngor y dref yn darparu’r costau yn 1.11 (pwynt 9). Yn anffodus doedd hwn ddim yn cyrraedd y cyfyngiadau ond cytunwyd dod a hyn i’r pwyllgor er mwyn iddynt ystyried effaith yr argymhelliad, a allai olygu dim gorfodi, a mynediad am ddim i barcio. Gallai hyn olygu bod meysydd parcio yn cael eu defnyddio gan weithwyr siopau a pherchnogion busnes gan adael ond ychydig o leoedd parcio i siopwyr ac ymwelwyr.
Rhestrwyd y Strategaeth a Rhagolygon Incwm yn Atodiad 1, gydag awgrymiadau am newidiadau i’r Strategaeth wedi eu rhestru yn Atodiad 2 a chanllawiau i gynorthwyo Cynghorau Tref A Chymuned yn Atodiad 4. Byddai unrhyw sylwadau a wnaed ar yr adroddiad yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Ionawr.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y daflen oedd wedi ei chylchredeg yn y cyfarfod gan Gyngor Tref Bwcle ac awgrymodd bod Aelodau yn cael amser i ddarllen y daflen, cyn parhau â'r cyfarfod. Cadarnhawyd mai dim ond y diwrnod cynt oedd Swyddogion wedi derbyn y daflen, a bod llawer o wybodaeth yn cael ei holi amdani yn y daflen oedd i’w chwblhau gan y Swyddogion cyn y cyfarfod.
Gohirio
Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a oedd yn bosib cael dau le parcio penodedig i’r Heddlu yn Nhreffynnon a chytunodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad i ymchwilio i'r cais hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Vicky Perfect bod ffioedd parcio yn gweithio yn dda yn Y Fflint ac wedi gwella lleoedd parcio ger y dref.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y wybodaeth am incwm oedd yn yr adroddiad ac roedd o’r farn y dylai’r Strategaeth Parcio gael ei theilwra i bob ardal benodol. Cyfeiriodd at adroddiad yr MRUK (Asesu Effaith Ffioedd Parcio Ceir ar Nifer Yr Ymwelwyr  Chanol Tref) ar gyfer LlC a chyfeiriodd at yr argymhellion o fewn yr adroddiad oedd yn pwysleisio’r angen i awdurdodau lleol ddatblygu strategaethau parcio sy’n cymryd i ystyriaeth awgrymiadau lleol o safbwynt cynlluniau canol trefi a chynigion manwerthu. Ychwanegodd y byddai’r cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar NNDR hefyd yn helpu'r awdurdodau lleol i wneud eu rhan. Aeth ymlaen drwy ddweud nad oedd ffioedd parcio ceir yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi, yn enwedig pan oedd meysydd parcio Brychtyn am ddim a phan oedd mwy o ddewis yn Yr ... view the full Cofnodion text for item 37. |
|
Adolygiad o Gostau Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint PDF 112 KB Pwrpas: I adolygu a chael diweddariad yn dilyn cyflwyniad o’r taliadau ar gyfer gwasanaethau casglu Gwastraff Gardd. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y Swyddog Ailgylchu a Gorfodi i'r Pwyllgor. Cyflwynodd yr adroddiad oedd yn alinio model gwastraff ac ailgylchu'r Cyngor gyda Glasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru. Cafodd hwn ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Ionawr ac roedd cofrestriadau ar gyfer y gwasanaeth yma'n well na'r disgwyl ar 40% a chynigwyd cadw’r ffi'r un fath ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dywedodd bod 30% o’r rheiny oedd yn derbyn y gwasanaeth ar fudd-daliadau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at faint y biniau ac roedd yn teimlo nad oeddynt yn ddigon mawr ac y dylai ail fin fod am ddim a chynigiodd roi hyn ymlaen fel Opsiwn 6 (£30 am y bin cyntaf, ail fin am ddim). Ychwanegodd bod awdurdodau eraill yn defnyddio biniau mwy ac awgrymodd ohirio’r defnydd o dechnoleg i gofrestru bin i eiddo hyd nes roedd ystyriaeth bellach wedi ei roi i ddarparu biniau mwy. Cyfeiriodd wedyn at e-bost roedd wedi ei anfon yn gofyn am Ostyngiadau i elusennau ond nid oedd dim byd wedi ei symud ymlaen o safbwynt hyn.
Atebodd Rheolwr y Rhaglen Gwastraff a Gwasanaethau Ategol drwy ddweud bod y bin 140 litr yn faint safonol ar draws Cymru. Treialwyd y biniau 240 litr a 140 litr yn 2003 ond bu problemau gweithredol yn ogystal â thoriadau a phroblemau gyda phwysau o safbwynt yr offer codi, a phenderfynwyd mai’r bin 140 litr oedd fwyaf addas.
Fe wnaeth Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant gydnabod sylwadau'r Cynghorydd Dolphin y dylai ail fin fod am ddim.
Nododd y Cynghorydd Mike Peers y sylwadau am finiau mwy a chyfeiriodd at gyfarfod yr Amgylchedd ar 16 Ionawr 2018 pan ddywedodd y Prif Swyddog y byddent yn edrych ar ddarparu biniau mwy a gofynnodd beth fu canlyniad hynny.
Roedd y Cynghorydd Peers yn falch bod y Cyngor wedi talu cost adfer ar gyfer y gwasanaeth hwn o £166.000 ond awgrymodd y gellid gweld hyn fel y Cyngor yn elwa a holodd a ddylid symleiddio taliadau cyn 2020. Os taw £30,000 yw'r gost am dechnoleg pad PIN, beth am ddefnyddio'r arian dros ben o'r flwyddyn gyfredol. Yn 1.16 ystyriwyd y potensial o gynnig cyfraddau is i bobl h?n ac agored i niwed yn ystod y flwyddyn gyntaf ac ystyriwyd y byddai adolygiad yn cael ei gynnal ynl?n â'r canlyniad. Cytunodd gyda sylwadau’r Cynghorydd Dolphin nad oedd y bin yn ddigon mawr.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod y biniau mawr yn rhy drwm i’r peiriannau eu codi. Gallai’r gostyngiad ffi am ail fin effeithio ar y gyllideb a allai olygu codi mwy am y bin cyntaf. O safbwynt Gostyngiadau – nododd archwiliad o bobl ar y Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor bod 30% wedi cofrestru ar y cynllun. Dyma oedd y rhesymau am beidio gostwng na chynyddu'r cyfraddau eleni. Canmolodd y tîm bach sy’n llwyddo i anfon 30,000 o sticeri allan a delio gydag ymholiadau ffôn. Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod hwn yn fater dadleuol a bod y 40% o gofrestriadau yn galonogol ac y ... view the full Cofnodion text for item 38. |
|
Metro Gogledd Ddwyrain Cymru PDF 95 KB Pwrpas: I ddiweddaru Craffu ar gynnydd Prosiect Metro Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnwys y cynigion diweddaraf i Lywodraeth Cyllid am arian. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) Ian Bushell, Rheolwr Prosiect Metro Gogledd Ddwyrain Cymru i'r pwyllgor ond oherwydd cyfyngiadau amser cynigiwyd gohirio'r adroddiad hwn tan y Flwyddyn Newydd.
PENDERFYNWYD:
Cytunodd y Pwyllgor ohirio’r eitem hon hyd nes y cyfarfod nesaf. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |