Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

49.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

50.

Cofnodion pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a fu ar 16 Tachwedd 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

51.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol a dywedodd bod y rhai ynghlwm â hyfforddiant ar wytnwch seiber ac ymholiadau cyllid hefyd wedi’u cwblhau.

 

Diolchodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson i’r swyddogion am yr ateb i’w ymholiad ar y newid defnydd dros dro ar gyfer cronfa wrth gefn Diwygio’r Gyfundrefn Les a gofynnodd am eglurhad ynghylch a oedd y Cyngor yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth Help i Hawlio a’i ffynhonnell gyllid.  Cytunodd y swyddogion Cyllid i gyfeirio’r ymholiad yn ôl at y gwasanaeth i gael ateb.

 

Yn dilyn ymholiad y Cynghorydd Carol Ellis yng nghyfarfod mis Tachwedd ar amrywiannau yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol, cytunodd y swyddogion i anfon yr ateb ymlaen, a oedd wedi’i rannu gyda’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Sam Swash at y wybodaeth a rannwyd ar ddyraniad y Cynllun Datblygu Lleol a cheisiodd gadarnhad bod hwn yn cael ei drosglwyddo yn ôl i’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol fel arbediad gyda’r eitemau ychwanegol yn cael eu cofnodi fel pwysau cyllidebol yn ystod y flwyddyn, fel y cytunwyd yn y cyfarfod.  Cyfeiriodd hefyd at y rhestr o wasanaethau arbenigol oedd yn cael eu hariannu’n flaenorol gan y dyraniad hwnnw cyn 2016 a holodd sut roedd y gwasanaethau wedi’u hariannu ers hynny.  Cytunodd y swyddogion i gyfeirio hyn at y Prif Swyddog i roi ateb.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.

52.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol a dywedodd y gallai’r diweddariad ar becynnau gofal wedi’u hariannu ar y cyd symud i fis Ionawr yn dibynnu ar yr eitemau oedd wedi’u trefnu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am fwy o fanylion ar ddyraniadau cyllidebau mewn portffolios lle nad oedd llawer neu ddim amrywiannau.  Tynnodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sylw at y wybodaeth oedd yn yr atodiad a chytunodd i fwy o fanylder gael ei ddarparu yn yr adroddiad nesaf ar fonitro’r gyllideb.  Cadarnhaodd hefyd y byddai adroddiad diweddaru arall ar gyllideb 2024/25 yng nghyfarfod mis Ionawr.

 

Ar gais y Cadeirydd, byddai adroddiad ar adolygiad yr ystadau diwydiannol yn cael ei drefnu at gyfarfod yn y dyfodol fel roedd y Cyngor Sir yn ei gytuno.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

53.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ddiweddaraf Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 cyn cael Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad ar y swm ychwanegol angenrheidiol i’r gyllideb ar gyfer 2024/25 a chynnydd ar ddatrysiadau posib’ ar gyfer y gyllideb, cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Ers cyfarfod mis Tachwedd, roedd Datganiad yr Hydref wedi’i gyhoeddi gan y Canghellor gyda rhannau allweddol yn ymwneud â gostyngiadau i drethi sy’n effeithio ar unigolion a busnesau, a oedd yn golygu y byddai’n annhebygol bod unrhyw gyllid canlyniadol ychwanegol i Lywodraeth Leol i wella’r Setliad Dros Dro oedd i ddod gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar 20 Rhagfyr.

 

Roedd crynodeb o newidiadau i bwysau ers mis Medi wedi arwain at swm angenrheidiol ychwanegol diwygiedig i’r y gyllideb o 33.187m.  Roedd cyfanswm o £22.097m o ddatrysiadau cyllidebol wedi’u canfod hyd yma, oedd yn gadael swm angenrheidiol ychwanegol o £11.090m i osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar gyfer 2024/25.  Roedd yr adroddiad yn nodi nifer o risgiau parhaus oedd yn cael eu monitro’n ofalus ac opsiynau eraill ar gyfer y gyllideb oedd yn parhau i gael eu hystyried.  Roedd gwaith brys ar fynd i ystyried gostyngiadau eraill i gostau er mwyn ceisio cau’r bwlch oedd yn weddill.  Roedd y darlun cenedlaethol yn dangos bod pob awdurdod lleol yng Nghymru’n wynebu heriau ariannol sylweddol tebyg.  Byddai’r Aelodau’n cael eu briffio ar ganlyniad y Setliad Dros Dro cyn y Nadolig.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryder am raddfa gostyngiadau eraill i’r gyllideb yr oedd gofyn i’r portffolios ddod o hyd iddynt a dywedodd y dylai’r sefyllfa ddisgwyliedig a’r datrysiadau posib’ fod wedi’u cyfleu’n fwy eglur yn gynharach, yn enwedig o ystyried faint o herio fu mewn cyfarfodydd blaenorol.  Aeth yn ei flaen i sôn am yr arweinyddiaeth wleidyddol gan holi a oedd sylwadau wedi’u cyflwyno i LlC ar bwysau oedd yn deillio o’r galw mawr parhaus ar wasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol a digartrefedd.

 

Yn ateb i’r ymholiadau, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad ar ostyngiad yn yr arbedion effeithlonrwydd o’r portffolio asedau a dywedodd fod y gostyngiad tebygol i gyllid oedd yn deillio o’r cynnydd i Gyllid Allanol Cyfun LlC yn seiliedig ar wybodaeth gychwynnol o’r Is-gr?p Dosrannu a bod y drafodaeth arno’n parhau.  Rhoddwyd eglurhad hefyd ar fodelu Treth y Cyngor a dull darbodus yr arbediad ym mlwyddyn 2 o’r Adolygiad Actiwaraidd.  O ran risgiau, eglurwyd bod disgwyl cadarnhad gan LlC ar gyllid ar gyfer y pwysau ynghlwm â chyfraniadau cyflogwyr at bensiwn athrawon.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r rhaglen drawsnewid strategol yn creu sefyllfa gyllidebol gynaliadwy at y dyfodol gyda ffrydiau gwaith yn canolbwyntio ar warchod sefyllfa ariannol y Cyngor, yn enwedig o ystyried lefelau’r arian wrth gefn sydd ar gael.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Paul Johnson gyd-destun o ran sefyllfa ariannol Sir y Fflint o gymharu ag awdurdodau eraill a rhoddodd sicrwydd bod sylwadau’n parhau i gael eu gwneud.  Aeth yn ei flaen i sôn am ddefnyddio dull pwyllog ar gyfer proses y gyllideb i weithio drwy’r data oedd ar gael.

 

Wrth drafod y posibilrwydd o gysoni ffioedd maethu, gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson a oedd ffioedd y Cyngor yn is na’r  ...  view the full Cofnodion text for item 53.

54.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2024-28 pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Rhannu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ac amcanion cydraddoldeb gyda’r Pwyllgor ar gyfer ystyriaeth a sylwadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol (y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) Gynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024–28 ac amcanion cydraddoldeb i’w hystyried a gwneud sylwadau arnynt.  Ar ôl llawer o waith ymgysylltu gyda grwpiau lleol a budd-ddeiliaid, roedd y Cynllun i gael ei gymeradwyo gan y Cabinet er mwyn ei gyhoeddi mewn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd er mwyn cyrraedd y dyddiad cau i gyhoeddi ym mis Ebrill 2024.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am waith i gynnwys ymrwymiadau cydraddoldeb yn rhan o weithgareddau caffael.

 

Fel y nodwyd, byddai’r swyddogion yn newid y cyfeiriad e-bost corfforaethol oedd yn y ddogfen.  Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar newid y cyfeiriad e-bost, derbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024–28.

55.

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023-24 pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd ar ganol y flwyddyn yn ôl blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2023/24.  Roedd yn adroddiad yn seiliedig ar eithriadau oedd yn canolbwyntio ar feysydd perfformiad oedd ddim yn cyrraedd eu targed ar hyn o bryd.

 

Dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn, roedd un gweithgaredd oedd ddim yn dangos llawer o gynnydd yn ymwneud â’r adolygiad o’r strategaeth ystadau diwydiannol.  Roedd dadansoddiad o gynnydd o gymharu â’r dangosyddion perfformiad yn dangos pedwar maes lle’r oedd tanberfformio ar y targed dan flaenoriaethau Tlodi a Chyngor sy’n Cael ei Reoli’n Dda.

 

Ynghlwm â chanran y galwadau ffôn oedd yn cael eu hateb yn y Ganolfan Gyswllt, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gefndir i’r heriau recriwtio a chadw staff oedd yn parhau i fod o fewn y gwasanaeth hwnnw, fel y gwelwyd mewn adroddiadau blaenorol.  Fel un o’r ffrydiau gwaith dan newid sefydliadol, byddai cefnogaeth ychwanegol yn cael ei chyflwyno dros dro i wella gwytnwch a sefydlogrwydd o fewn y gwasanaeth trwy edrych ar opsiynau ar gyfer deallusrwydd artiffisial (AI).

 

Dywedodd y Cadeirydd fod gostyngiad yn nifer y mesuryddion a chynnydd yn y mesuryddion ‘coch’ ers 2022/23 yn awgrymu dirywiad mewn perfformiad ar y cam hwn.

 

Wrth gydnabod y camau oedd yn cael eu cymryd i ymdrin â’r pwysau o fewn y Ganolfan Gyswllt, awgrymodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y byddai angen camau gweithredu mwy a fyddai’n cynnwys rhagor o bwysau costau i wella’r perfformiad.

 

Yn ateb, eglurodd y Prif Swyddog y byddai canfyddiadau gwaith dadansoddi data i ddeall effaith deallusrwydd artiffisial ar berfformiad yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau pan fyddent ar gael.

 

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn croesawu’r eglurhad, a holodd am fanteision cael cwmni allanol i ateb galwadau.  Cytunodd y Prif Swyddog i drafod gyda’r rheolwr gwasanaeth i ofyn am gostau hyn o gymharu â gwasanaeth gwell gan y Ganolfan Gyswllt gyda thechnoleg deallusrwydd artiffisial.

 

Wrth drafod cael cwmni allanol i ateb galwadau, soniwyd bod angen i atebwyr galwadau fod â’r wybodaeth leol a’r hyfforddiant angenrheidiol, yn ogystal â bodloni gofynion y Gymraeg.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor 2023–28 i’w cyflawni yn 2023/24;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2023/24; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

56.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 7) pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 7) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 7 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu bod bwlch o £3.671m, heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n dod o’r cronfeydd wrth gefn, ar y pryd wedi’i amcangyfrif yn £2.727m.  Byddai hyn yn gadael balans ar ddiwedd y flwyddyn yn y gronfa wrth gefn at raid o £3.664m ar ôl ystyried yr amcangyfrif o effaith y dyfarniadau cyflog a’r dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol.  Roedd trosolwg o amrywiannau sylweddol ar draws portffolios yn ystod y cyfnod yn dweud bod lefel y costau disgwyliedig ychwanegol ar gyfer digwyddiadau tywydd garw yn debygol o gyrraedd y trothwy ar gyfer Cyllid Cymorth Ariannol at Argyfwng gan Lywodraeth Cymru (LlC).  Roedd yr adroddiad yn cynnwys y sefyllfa ddiweddaraf ar risgiau yn ystod y flwyddyn a materion oedd yn dod i’r amlwg, ynghyd ag arbedion disgwyliedig oedd wedi’u cynllunio yn ystod y flwyddyn.  O ran cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi, adroddwyd mai £3.212m oedd balans y Gronfa wrth Gefn at Galedi Covid-19 ac y byddai’r gronfa wrth gefn oedd wedi’i chlustnodi at incwm Treth y Cyngor yn cael ei hargymell i’w throsglwyddo i’r Gronfa wrth Gefn at Raid.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai tanwariant disgwyliedig yn ystod y flwyddyn o £0.100m yn is na’r gyllideb yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.297m, a oedd yn uwch nag argymhelliad y canllawiau ar wariant.

 

Yn ateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, rhoddwyd eglurhad yngl?n â mân newidiadau cronnol ar draws y Gwasanaethau Plant a’r newid mewn cyfraddau ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir.  O ran Tai a Chymunedau, byddai’r swyddogion yn cael gafael ar ymateb i’r penderfyniad oedd y tu cefn i ddyraniad y Grant Cymorth Tai o fewn Datrysiadau Tai ac yn ei rannu.

 

Yn dilyn sylwadau’r Cynghorydd Alasdair Ibbotson ar danwariant Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi a’r eglurhad blaenorol ar newidiadau yng nghyllideb y portffolio, cyfeiriodd y Cadeirydd at y wybodaeth fanwl oedd yn yr atodiad.

 

Ar sail hynny, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (mis 7), bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

57.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.