Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:  Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd Richard Jones  yn Gadeirydd y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor, yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, wedi penderfynu y dylai’r Gr?p Annibynnol, enwebu Cadeirydd y Pwyllgor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Chris Dolphin fod y Pwyllgor yn cadarnhau penodi’r Cynghorydd Richard Jones fel Cadeirydd y  Pwyllgor. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jason Shallcross ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau penodiad y Cynghorydd Richard Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi is-Gadeirydd

Pwrpas:  Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cadeirydd y Cynghorydd Chris Dolphin fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ron Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Chris Dolphin yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 69 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Mawrth 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Vicky Perfect a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

5.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.