Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

85.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Paul Shotton gysylltiad personol ag eitem rhif 4 ar y Rhaglen - Ymgynghoriad ar Asesiad Lles Drafft Sir y Fflint 2022 - oherwydd ei fod yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

86.

Cofnodion pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Chwefror 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Arnold Woolley a Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

87.

Ymgynghoriad ynghylch Asesiad Lles 2022 drafft Sir y Fflint pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Ymgynghori â Phwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Awdurdod Lleol, fel ymgynghorai statudol, ynghylch Asesiad Lles 2022 drafft Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-gyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Swyddog Gweithredol Strategol Asesiad Lles Drafft Sir y Fflint 2022. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gofyn i rai cyrff cyhoeddus penodol gydweithio dan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol lleol. Mae cyfrifoldebau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys paratoi a chyhoeddi asesiad lles lleol o dro i dro a chyn cyhoeddi ei Asesiad Lles Lleol, mae angen i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ymgynghori â nifer o ymgyngoreion statudol, yn cynnwys Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Awdurdod Lleol. Atodwyd Asesiad Lles Drafft Sir y Fflint 2022 yn Atodiad A yr adroddiad er mwyn ei ystyried ac adrodd yn ôl.

 

            Cynhyrchwyd yr Asesiad Lles drafft yn unol â chanllawiau statudol, ac felly roedd yn ceisio asesu a dadansoddi cyflwr lles lleol ar draws bedwar piler ac roedd hefyd yn:-

 

·         Tynnu ar sawl adolygiad ac asesiad arall, megis yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth;

·         Asesu a dadansoddi cyflwr lles o fewn cymunedau penodol ac ardal Sir y Fflint yn gyffredinol;

·         Ystyried lles grwpiau / pobl leol;

·         Myfyrio ar ragolygon o dueddiadau’r dyfodol; ac

·         Anelu i nodi cydgysylltiadau ac achosion gwraidd sy’n effeithio ar les lleol.

 

Dywedodd y Swyddog Gweithredol Strategol bod arolwg ar-lein ar gael ar wefan y Cyngor er mwyn nodi unrhyw safbwyntiau ychwanegol cyn cyhoeddi’r Asesiad Lles terfynol cyn 5 Mai 2022.

 

Croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton yr adroddiad a gwnaeth sylw ar natur eang yr asesiad lles. Gwnaeth sylw ar ei rôl fel Aelod o Awdurdod Tân Gogledd Cymru ac amlinellodd y gwaith a wnaed i ddarparu cymorth i’r boblogaeth o bobl h?n a’r gwaith ataliol a wnaed i gefnogi’r boblogaeth o fyfyrwyr. Dywedodd ei fod wedi darllen adroddiad yn ddiweddar gan y Comisiynydd Plant a oedd yn amlinellu’r pryderon ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a gofynnodd sut yr oedd nifer y plant â phrofiadau niweidiol yn cael ei nodi yn Sir y Fflint.

 

Ymatebodd y Swyddog Gweithredol Strategol gan ddweud bod yr ystadegau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod wedi’u darparu yn yr adroddiad ond roeddent ar sail Cymru gyfan yn hytrach na data lleol. Roedd ystod eang o ffactorau a allai effeithio ar ddatblygiad plentyn ac mae’r asesiad lles yn ystyried y rhain ochr yn ochr ag effeithiau cymunedol megis tlodi, gwahaniaethu ac ansawdd tai. Cytunodd i gysylltu â chydweithwyr a darparu manylion am nifer y plant yn Sir y Fflint â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai pawb wedi cael Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod, megis, colli rhiant a rhieni wedi ysgaru. Mae’r term Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn ymwneud â phlentyn sydd wedi cael nifer o brofiadau niweidiol a’r effaith mae hyn wedi’i gael arnynt. Adroddodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Ganolfan Cymorth Cynnar a sefydlwyd yn Sir y Fflint sawl blwyddyn yn ôl i gynorthwyo plant a theuluoedd yn delio â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Roedd y Ganolfan hon wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol  ...  view the full Cofnodion text for item 87.

88.

Aelodau'r wasg yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.