Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

57.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

58.

Cofnodion pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Tachwedd 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD:  

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

59.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar gamau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.   Fel cam gweithredu o gyfarfod mis Tachwedd, cadarnhawyd bod llythyr at y Bwrdd Iechyd yn cael ei ddrafftio.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i dalu teyrnged i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd cyn iddo ymddeol o’r Cyngor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:  

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

60.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r rhaglen gwaith i’r dyfodol wedi’i diweddaru i’w hystyried, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai diweddariad ar y Strategaeth Pobl yn cael ei ychwanegu at agenda mis Ionawr.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom a oedd modd rhannu’r adroddiad ar y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol, sydd wedi ei restru ar gyfer mis Ionawr â’r Aelodau cyn gynted â’i fod ar gael.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:  

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; fel y’i diwygiwyd yn y cyfarfod; a

 

(b)       Bod yr Hwyluswyr Trosolwg a Chraffu, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, wrth i'r angen godi.

61.

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Rhoi manylion am sefyllfa ariannol y Cyngor o ran pecynnau gofal a ariennir ar y cyd a sut y mae hyn yn cymharu ag amcanestyniadau dros y 12 mis diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar sefyllfa ariannol y Cyngor ynghylch y pecynnau gofal a ariennir ar y cyd gan gynnwys lefel y cyfraniadau a dderbyniwyd a thargedau cyllideb incwm dros y tair blynedd ddiwethaf.

 

Mae’r fframwaith statudol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn nodi trefniadau ar gyfer Byrddau Iechyd er mwyn darparu Gofal Iechyd Parhaus (GIP) y GIG yng Nghymru, mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill.   Datblygwyd perthnasoedd gweithio â chydweithwyr y Bwrdd Iechyd dros y blynyddoedd, er mwyn cytuno ar y gofal mwyaf priodol i unigolion.   Nodwyd bod gan Sir y Fflint a Wrecsam y nifer uchaf o becynnau GIP yng Ngogledd Cymru.   Roedd nifer o heriau yn codi o’r broses GIP, gan gynnwys ymaddasu er mwyn cwrdd ag anghenion newidiol unigolion o fewn cymunedau.   Amlygodd yr adroddiad yr adnoddau GIP ychwanegol sydd gan y Bwrdd Iechyd o’i gymharu â’r Cyngor, lle mae swydd Cydlynydd GIP wedi ei chreu’n benodol er mwyn cefnogi’r broses hawlio.   Rhannwyd gwybodaeth hefyd ynghylch y trefniadau ar gyfer monitro ac uwchgyfeirio lefelau dyledion sydd heb eu talu.

 

Cyflwynodd y Prif Gyfrifydd (Gwasanaethau Cymdeithasol) drosolwg o’r prosesau ariannol sydd ar waith ar gyfer pecynnau gofal sydd wedi eu gosod ar gyfer trefniadau monitro cyllideb ac adolygu lefelau dyledion yn rheolaidd, fel sy’n cael ei nodi yn yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu presenoldeb.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Geoff Collett ac Andy Williams.

 

PENDERFYNWYD:  

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd ynghylch dull cadarn a rhagweithiol y Cyngor o reoli’r gyllideb ar gyfer pecynnau gofal a ariennir ar y cyd; a

 

(b)          Bod y Cyngor yn nodi swm y cyfraniadau blynyddol o gyfraniadau Gofal Iechyd Parhaus (GIP) gan Fyrddau Iechyd.

62.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb Flynyddol 2022/23 pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad am y sefyllfa ddiweddaraf i’r Gyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2022/23 cyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a’r broses ffurfiol i osod y gyllideb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar sefyllfa ddiweddaraf Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2022/23, cyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a phroses pennu cyllideb ffurfiol.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol o’r sefyllfa a adroddwyd ym mis Gorffennaf cyn i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu gefnogi’r pwysau costau o fewn eu portffolios priodol.   Cyflwynwyd gofyniad cyllideb ddiweddaredig ychwanegol i’r Cabinet ym mis Hydref yn bennaf oherwydd y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwr o fis Ebrill 2022.   Roedd y sefyllfa gyfredol- a gymerodd i ystyriaeth dybiaethau cyflogau a chwyddiant, y cynnydd yn y gyllideb ddrafft gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac addasiadau eraill- wedi cynyddu’r gofyniad cyllideb ychwanegol ymhellach i £20.696 miliwn.   Roedd yr adroddiad yn nodi newidiadau ers yr amcangyfrif blaenorol gan gynnwys effaith y cynnydd mewn chwyddiant ar gyllidebau cyflogau a chyllidebau cyfleustodau ysgolion ynghyd â chomisiynu gofal cymdeithasol.   Byddai’n rhaid monitro risgiau parhaus yn ofalus, megis Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, ynghyd ag effaith dod â’r Gronfa Galedi i ben ym mis Mawrth 2022.   Er bod targed effeithlonrwydd diwygiedig o £1.250 miliwn wedi ei nodi, roedd y datrysiadau ariannu er mwyn sicrhau cyllideb gyfreithlon a chytbwys yn dibynnu’n bennaf ar ymgodiad blynyddol yn y Grant Cynnal Refeniw.

 

Roedd adroddiad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn nodi effaith pwysau costau ar draws Cymru, hefyd yn adlewyrchu’r sefyllfa leol wrth ystyried yr arbedion effeithlonrwydd sydd wedi eu nodi a’r ymgodiad blynyddol yn Nhreth y Cyngor sy’n debyg i’r hyn a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf.   Rhannwyd llythyr at Lywodraeth Cymru ar y cyd gan bob un o chwe Chyngor Gogledd Cymru cyn y Setliad Dros Dro.

 

Mynegodd y Cynghorydd Paul Shotton bryderon ynghylch y pwysau costau a oedd yn dangos yr angen am ganlyniad ffafriol i’r Setliad Dros Dro.

 

O ran y newidiadau a wnaed ers amcangyfrif y gyllideb flaenorol, dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson bod nifer o feysydd nad oedd gan y Cyngor ddim llawer o reolaeth drostynt, os o gwbl.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:  

 

O ystyried yr adroddiad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2022/23, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi yn y Cabinet.

63.

Cynllun y Cyngor 2021-22 Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro canol blwyddyn er mwyn adolygu’r cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau corfforaethol sy’n cael eu gosod ym Mesurau Adrodd y Cyngor 2020/21 dan gylch gwaith y Pwyllgor.   Roedd yr adroddiad seiliedig ar eithriadau, yn canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tangyflawni yn erbyn y targedau dros y flwyddyn.   Fel y Pwyllgor sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am berfformiad, rhannwyd adroddiad alldro llawn hefyd ar gyfer pob portffolio.

 

Ar y cyfan, roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol gyda 97% o gynnydd da neu foddhaol wedi’i gofnodi yn erbyn gweithgareddau a lefel ganolig/uchel o hyder mewn cyflawni 95% o’u canlyniadau.

 

Darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth am newidiadau mewn lefelau perfformiad yn ymwneud â chael gafael ar wybodaeth yn ddigidol a chadw sgiliau digidol, a oedd yn adlewyrchu lefelau gwahanol o alw drwy gydol y pandemig.

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i dimau Sir y Fflint yn Cysylltu am y gefnogaeth a ddarparwyd i breswylwyr fel rhan o’r thema Tlodi Digidol.   Canmolodd lwyddiant cynlluniau chwarae’r Haf ar draws Sir y Fflint a gofynnodd am gyllid ar gyfer parhau â’r Canolbwynt Cymorth Covid yn Shotton.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n cysylltu â’r Rheolwr Budd-daliadau i ofyn am ymateb ar yr olaf ac ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Haydn Bateman ar gael eglurhad ynghylch cymorth parseli bwyd i etholwr a oedd ar fin cael ei ryddhau o’r ysbyty i lety gwarchod.

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Andy Williams a Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:  

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn croesawu’r cynnydd a ddangoswyd yn yr Adroddiad Monitro Perfformiad Canol Blwyddyn; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor wedi’u sicrhau gan yr eglurhad a roddwyd ynghylch y tangyflawni, sy’n bennaf oherwydd ymyriad y pandemig.

64.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 7) pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar Fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) yn ystod mis 7, cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Ar Gronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa arfaethedig ar ddiwedd y flwyddyn- heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a gwella’r arenillion ar effeithlonrwydd- yn warged gweithredol o £0.655 miliwn (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog i’w dalu o’r cronfeydd wrth gefn) a oedd yn adlewyrchu symudiad ffafriol o £0.428 miliwn o fis 6.   Byddai hyn yn gadael balans cronfa wrth gefn hapddigwyddiad o £6.543 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.   Nodwyd y prif feysydd symudiad yn yr adroddiad gan gynnwys Tai ac Asedau lle’r oedd argymhelliad i’r Cabinet gymeradwyo trosglwyddiad cyllideb gyflwyniadol ar gyfer costau cyfleustodau canolog i Gyllid Canolog a Chorfforaethol.   Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran y dyfarniad cyflog, ceisiadau am gyllid brys a chronfeydd wrth gefn heb eu neilltuo.

 

Byddai gorwariant arfaethedig o £0.539 miliwn ar y CRT yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £3.933 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau argymelledig ar wariant. 

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom ar eiddo gwag, siaradodd y Prif Weithredwr am y ffactorau sy’n cyfrannu a’r effeithiau economaidd ar eiddo gwag a dywedodd fod cynyddu’r nifer o gontractwyr sy’n paratoi eiddo ar gyfer tenantiaid newydd o gymorth i wella perfformiad yn gyffredinol.

 

Wrth amlygu’r gwaith a wnaed ar fonitro cyllideb a chyfraddau casglu Treth y Cyngor, diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, y Rheolwr Refeniw a’u timau priodol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:  

 

O ystyried yr adroddiad ar Fonitro’r Gyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 7), bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi yn y Cabinet.

65.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.