Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

65.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yngl?n ag Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen - Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint - Adroddiad Blynyddol, datganodd y Cadeirydd gysylltiad personol oherwydd ei fod yn aelod o’r pwyllgor grantiau.

66.

Cofnodion pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Chwefror 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 11 Chwefror 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

67.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar gamau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Richard Jones, byddai’r llythyr i Lywodraeth Cymru yn ceisio cefnogaeth ychwanegol ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn cael ei ddosbarthu ar ôl ei gwblhau.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

68.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, bu i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa’r Aelodau y byddai holl gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Ebrill yn cael eu canslo i ddarparu cymorth ar gyfer yr Etholiadau.  Gan nad oedd unrhyw eitemau wedi’u trefnu ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 13 Mai, roedd y Cadeirydd wedi cytuno y gellid cynnal briff ar Werthoedd Cymdeithasol ar y dyddiad hwnnw. Byddai rhaglen gwaith i'r dyfodol ddangosol ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021/22 yn cael ei rhannu yn y cyfarfod ym mis Mehefin.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones am eitem gynnar ar y thema Tlodi yng Nghynllun y Cyngor, a oedd bellach o dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r eitem yn cael ei threfnu ar gyfer mis Mehefin neu fis Gorffennaf, ynghyd â diweddariad ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Gan ymateb i gais y Cynghorydd Jones am eitemau ar falensau gwasanaeth o fewn y gyllideb a rhesymau dros gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai’r wybodaeth ychwanegol hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ar sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw i’w dderbyn ym mis Mehefin.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Kevin Rush a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

69.

Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint – Adroddiad Blynyddol pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        I gefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol wrth gyflwyno eu Hadroddiad Blynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol yr adroddiad blynyddol ar waith a gyflawnwyd gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wrth reoli Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint (y Gronfa) ar ran y Cyngor.  Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad Cronfa’r Degwm Deiran Clwyd.

 

Cyflwynwyd yr Aelodau i Andrea Powell – Cyfarwyddwr Rhaglenni (Dirprwy Brif Weithredwr) Sefydliad Cymunedol yng Nghymru – a roddodd gyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

 

·         Sefydliad Cymunedol Cymru – y wybodaeth ddiweddaraf

·         Hanes a Throsolwg o’r Gronfa - Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint / Cronfa’r Degwm Deiran

·         Perfformiad ariannol

·         Crynodeb o’r grantiau a ddyfarnwyd

·         Astudiaethau achos

·         Y dyfodol

 

Ers yr adroddiad blaenorol ac fel ymateb uniongyrchol i’r argyfwng cenedlaethol, roedd Sefydliad Cymunedol Cymru wedi dyfarnu grantiau gwerth dros £5m i fwy na 1,000 o unigolion a sefydliadau ar draws Cymru.  Byddai gwefan y Cyngor yn cael ei diweddaru o ran y wybodaeth ar y tair cronfa sydd ar gael yn benodol i drigolion Sir y Fflint - Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint, Cronfa’r Degwm Sir y Fflint a Chronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y byddai hyrwyddo’r wybodaeth gywir o gymorth i aelodau etholedig godi ymwybyddiaeth ymysg cymunedau. Darparodd Andrea Powell fanylion ar gymhwyster mewn perthynas ag ysgolion. Byddai’r manylion cyswllt a sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Paul Shotton, rhoddwyd eglurhad ar y dull o reoli buddsoddiadau er mwyn gwneud yr elw mwyaf. Cafodd yr Aelodau hefyd eu hysbysu yngl?n â hyrwyddo cronfeydd drwy’r wefan a chyfryngau cymdeithasol amrywiol.

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Carolyn Thomas am gymorth i grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau, cadarnhaodd Andrea Powell fod Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint wedi’i gynrychioli ar y panel grantiau. Er bod y swm cyfyngedig o gyllid yn heriol, nodwyd ffrydiau cyllid eraill lle y bo’n bosibl.

Rhoddwyd eglurhad i’r Cynghorydd Joe Johnson ar gyllid ar gyfer yr Eglwys a grwpiau cymunedol yn sefydlu banciau bwyd yn ystod y pandemig.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Aelodau’n cefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar ran y Cyngor.

Item 6 - Presentation slides pdf icon PDF 709 KB

Dogfennau ychwanegol:

70.

Monitro cyllideb refeniw 2020/21 (mis 10) pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am sefyllfa fonitro Cyllideb Refeniw 2020/21 ym Mis 10.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 10 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.  Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol petai pethau’n parhau heb eu newid gan ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyhoeddiadau Cyllid Grant Argyfwng Llywodraeth Cymru (LlC).

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn warged gweithredol o £0.924 miliwn, gan adael balans cronfa wrth gefn a ragwelwyd o £2.339 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Nid oedd yr amcanestyniad hwn yn cynnwys effaith y dyfarniad cyflog i’w dalu gan arian wrth gefn. Roedd y prif resymau dros y symud ffafriol o £0.552 miliwn o Fis 9 wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau ariannol allweddol a risgiau ychwanegol am brydau ysgol am ddim ac effaith tywydd garw, yn ogystal â’r sefyllfa ar gyflawniad arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn fel y nodwyd yn yr adroddiad. O ran cronfeydd wrth gefn na chlustnodwyd, nodwyd bod trafodaethau ar gymhwyster rhai o’r hawliadau cyllid grant yn parhau gyda Llywodraeth Cymru.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai tanwariant arfaethedig o £1.642 miliwn yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £3.651 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau a argymhellwyd ar wariant.

 

Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryderon yngl?n â goblygiadau’r cyfraniad llai gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr tuag at y pecynnau gofal a ariennir ar y cyd; dywedodd y dylai cytundebau gael eu herio er mwyn rhwystro’r Cyngor rhag gorfod canfod mesurau lliniaru i ddygymod â cholledion o’r fath. Disgrifiodd y Rheolwr Cyllid y broses ar gyfer cytuno ar drefniadau cyd ariannu a’r heriau o ran amcanestyniadau cywir at ddibenion y gyllideb. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y gallai mwy o wybodaeth am y rheswm dros y gwahaniaeth gael ei phenderfynu a’i rhannu yn y cyfarfod nesaf.

 

O ran y newidiadau sylweddol, gofynnodd y Cynghorydd Jones bod hawliadau’r Gronfa Galedi yng Ngwasanaethau Stryd a Chludiant yn cael eu gwahanu ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol. Gofynnodd hefyd am y cynnydd ymddangosiadol mewn risg a oedd wedi arwain at gyfraniad ychwanegol ar gyfer darpariaeth dyled ddrwg gorfforaethol. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y sefyllfa wedi cael ei heffeithio gan benderfyniadau a wnaed ar ddiogelwch gorfodaeth dyledion oherwydd yr argyfwng cenedlaethol. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei bod yn gwneud synnwyr i’r Cyngor roi cyfraniadau digonol o’r neilltu fel rhan o’r broses gyfrifyddu ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Gan siarad i gefnogi pryderon y Cynghorydd Jones am becynnau gofal a ariennir ar y cyd, nododd y Cynghorydd Ian Roberts gostau cynyddol darparwyr gofal fel ffactor. Awgrymodd y gallai’r Pwyllgor ddymuno i wneud cais am adroddiad mwy manwl ar y mater. Awgrymodd y Cadeirydd ei bod yn briodol i gyfeirio’r pwnc i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a  ...  view the full Cofnodion text for item 70.

71.

Adolygu’r Polisi Cwynion Corfforaethol pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad y Polisi Cwynion Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar y Polisi Pryderon a Chwynion newydd ar gyfer y Cyngor, yn seiliedig ar ddull trin cwynion ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid bod newidiadau i’r Polisi Cwynion yn gwneud defnydd gwell o dueddiadau gydag amserlen adrodd wedi'i sefydlu i rannu data perfformiad a nodi newidiadau i wella darpariaeth gwasanaeth. Rhannwyd Polisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid newydd i ddarparu canllawiau clir ar reoli ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid i ddiogelu’r gweithlu. Bydd y ddau bolisi yn cael eu cyhoeddi a’u gweithredu o 1 Ebrill 2021.

 

Croesawodd y Cynghorydd Mullin y polisïau a fyddai’n rhoi canllawiau clir i gwsmeriaid ac yn diogelu gweithwyr.

 

O ran yr amserlen adrodd ar berfformiad, cynigodd y Cynghorydd Richard Jones bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn gan y Pwyllgor bob chwe mis – yn unol â’r Cabinet a’r Pwyllgor Archwilio – yn hytrach nag yn flynyddol. Yn unol â’r cais, byddai’r canllawiau yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, darparodd y swyddogion eglurhad ar y broses ar gyfer delio â ch?yn pan mae swyddog yn methu ag ymateb i ymholiad.

 Eiliwyd cynnig y Cynghorydd Jones gan y Cynghorydd Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn:

 

 (a)      Cefnogi gweithrediad y Polisi Pryderon a Chwynion o 1 Ebrill 2021;

 

 (b)      Cefnogi gweithrediad y Polisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid o 1 Ebrill 2021;

 

 (c)      Nodi’r amserlen adrodd ar berfformiad fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.15 yr adroddiad; a

 

 (ch)    Derbyn adroddiadau bob chwe mis yn hytrach nag yn flynyddol fel nodwyd yn yr adroddiad.

72.

Aelodau o'r wasg yn bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.