Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

68.

TEYRNGED I'R DDIWEDDAR PETER EVANS

Cofnodion:

Yn ôl cais y Cadeirydd, Aelodau'r Pwyllgor a'r swyddogion, bu iddynt godi mewn tawelwch fel teyrnged i Peter Evans, y cyn Rheolwr Democrataidd a Llywodraethu, a fu farw.

69.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

70.

Cofnodion pdf icon PDF 105 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Tachwedd 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2019. Cynigiodd y Cynghorydd Heesom newid bychan i eirfa ar gofnod rhif 58 ac eiliwyd gan y Cynghorydd Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

71.

Ymgynghoriad Strategaeth Amgylchedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cofnodion:

Croesawyd cynrychiolwyr Shân Morris a Helen MacArthur (Prif Swyddogion Cynorthwyol) a Stuart Millington (Uwch Reolwr Hyfforddiant a Datblygu) i’r cyfarfod i roi cyflwyniad llafar ar ddatblygiad Strategaeth Cynaliadwyedd ac Amgylchedd Hirdymor ar gyfer 2020 ymlaen gan yr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (NWFRA.

 

Er yr amlygwyd yr heriau ariannol yn y flwyddyn flaenorol, ffocws ymgynghoriad eleni oedd datblygu strategaeth trosfwaol yn nodi amcanion ar newid hinsawdd, cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol i helpu gyda chynllunio ar gyfer y dyfodol. Y bwriad fyddai mabwysiadu dull gwahanol i weithio gyda phartneriaid ac i leihau’r effaith ar y gyllideb, a roedd 75% wedi’i dosrannu i gostau gweithwyr. Cynghorwyd yr Aelodau bod y gwasanaethau ymatebol ac ataliol wedi dod i gost o £50 y pen o’r boblogaeth ledled Gogledd Cymru. Rhoddwyd drosolwg ar y rôl ataliol a oedd yn cynnwys gweithgareddau i helpu i gadw pobl yn ddiogel ac i nodi problemau cymdeithasol. Ymysg heriau yn y dyfodol roedd parhad gwasanaeth diffodd tân wrth gefn a gweithio gyda sefydliadau partner i leihau'r risg o lifogydd.

 

Fel aelod blaenorol o’r Gwasanaeth Tân, roedd y Cynghorydd Cunningham yn adnabod gwerth diffoddwyr tân wrth gefn a’r effaith o weithgareddau atal tân. Yn yr ymgynghoriad, awgrymodd i rannu trefniadau cludo i gyfarfodydd bwrdd.

 

Amlygodd y Cynghorydd Heesom y perygl o lifogydd a newid hinsawdd fel y prif broblemau, a dywedodd y dylid ymgynghori â’r NWFRA ar geisiadau cynllunio, yn debyg i Gyfoeth Naturiol Cymru fel yr ymgynghorai statudol ar berygl o lifogydd. Eglurwyd dan y deddfwriaeth gyfredol, ymgynghorwyd â'r gwasanaeth ar y ddwy ardal benodol yn unig - mynediad i gerbydau'r gwasanaeth tân a chyflenwadau d?r. Hefyd gofynnodd y Cynghorydd Heesom ynghylch ymgysylltiad gyda phobl ifanc a chynghorwyd ar yr ystod o weithgareddau atal tân ac addysg mewn ysgolion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, siaradodd y cynrychiolwyr ynghylch cyfrifoldebau amgylcheddol a rennir gan bob corff cyhoeddus megis defnydd cynyddol o gyfarfodydd cynhadledd fideo a mesurau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau. Gobeithir y bydd newid o ddefnyddio cerbydau offer tân sydd yn rhedeg ar ddiesel yn newid cadarnhaol, ond mae hyn yn dibynnu ar wneuthurwyr yn datblygu dewis amgen addas. Roedd y dull effeithiol gan NWFRA i asesu cyn ymateb, a felly yn lleihau’r nifer o gamrybuddion, yn cael eu nodi fel arferion da.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Johnson ar y posibilrwydd am fwy o fesurau atal tân mewn ardaloedd gwledig, nodwyd bod y NWFRA yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i flaenoriaethu meysydd risg ac ymgysylltu â thirfeddianwyr i wella rheoli tir, a bod cyflwyniad o dimau tanau gwyllt yn ystod 2020 yn manteisio.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Bateman sylw ar effaith parcio ar y stryd mewn rhai ardaloedd a allai gyfyngu ar fynediad i gerbydau offer tân. Er nad oedd gan y Gwasanaeth Tân bwerau penodol i ddatrys hyn, roedd cyngor a chymorth ar gael i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Woolley ynghylch risgiau yn y dyfodol a beth ellir ei wneud i helpu. Er bod demograffeg Gogledd Cymru a recriwtio diffoddwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 71.

72.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae camau gweithredu wedi’u cwblhau ar adroddiad Pont Sir y Fflint, Adroddiad Blynyddol Diogelwch Cymunedol a chostau trwyddedu Citrix.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Cunningham ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

73.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Bateman ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

74.

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 8) pdf icon PDF 75 KB

Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 8 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.  Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.

 

Roedd y diffyg gweithredol o £1.892m yn gadarnhaol o’i gymharu â’r £0.301m yn y mis blaenorol. Roedd yr amrywiaeth sylweddol ar y gorwariant o £2.080m ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir, a’r adolygiad parhaus ar yr hawliad gostyngiad Treth Y Cyngor i unigolyn sengl sydd wedi cynhyrchu £0.227m hyd yma. Y gorwariant mwyaf sylweddol oedd ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Strydwedd a Chludiant, fel yr adroddwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor, a roedd unrhyw effeithiau cylchol wedi’u cynnwys yng nghyllideb 2020/21.  Gan edrych ar y sefyllfa, roedd y tîm Prif Swyddog wedi gosod targed i leihau sefyllfa gorwariant i £1.500m-1.750m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Ar y llwybr ôl-rhain arbedion a gynlluniwyd yn y flwyddyn, roedd 91% wedi’u cyflawni a disgwylir i hyn aros yr un fath ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, mae goblygiadau’r Setliad Dros Dro a ddaeth i law ym mis Rhagfyr yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd a bydd y canfyddiadau yn cael eu hadrodd i'r Cyngor yn ddiweddarach y mis hwn.

 

O ran y Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau, roedd yr amcangyfrif balans diwedd blwyddyn yn y Cronfeydd Wrth Gefn Arian at Raid yn £2.977m.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, roedd gorwariant arfaethedig o £0.131m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo yn £1.192m, a oedd yn uwch na’r canllawiau argymelledig ar wariant.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr er bod cynnydd wedi’i wneud ar y sefyllfa gorwariant, roedd hyn yn parhau yn bryder oherwydd y newidiadau yn y galw am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir.  Er bo gwaith arwyddocaol wedi’i gyflawni i leihau gwariant dianghenraid ar draws y portffolios, roedd cynnydd dda yn cael ei wneud ar leihau costau cludiant ysgol ac adolygiad o’r gostyngiad Treth Y Cyngor person sengl. Nodwyd bod y cyfleoedd ar grantiau penodol yn cael eu harchwilio a'r effaith o amodau tywydd ar y gyllideb cynnal a chadw y gaeaf. Er bod pwysau wedi’u cynnwys yng nghyllideb 2020/21, roedd Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn parhau i fod y broblem fwyaf, er yr effaith gadarnhaol o ddatrysiadau creadigol lleol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Heesom ar falansau ysgol, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y rhagamcan wedi seilio ar ddisgwyliad o’r hysbysiad hwyr o grantiau penodol tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn dilyn cwestiwn arall, darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth ar y lefel o adnoddau yn y tîm Archwilio Mewnol.

 

Cododd y Cynghorydd Woolley ei bryderon ar ddyddiad anghywir a nodwyd yn yr adroddiad eglurhaol ac anghysondebau amrywiol yn y ffigurau. Hefyd gofynnodd pa eitemau o wariant dianghenraid oedd wedi’u cyfeirio fel bod effaith y penderfyniadau hynny yn cael eu hystyried. Ar y pwynt olaf, dywedodd  ...  view the full Cofnodion text for item 74.

75.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.