Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

63.

SYLWADAU AGORIADOL

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i anfon cofion cynnes am wellhad buan at y Cynghorydd Bateman, ar ran y Pwyllgor.

64.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

65.

Cofnodion pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 15 Tachwedd 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

66.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Pwyllgor am gynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad cynnydd ar gamau gweithredu yn codi o gyfarfodydd blaenorol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r ddau gam ar eitem Cynllun y Cyngor o gyfarfod mis Medi yn cael eu datrys yn y cyfarfod nesaf fis Ionawr.  Yr amrywiaeth llawn o fesuryddion perfformiad ar gyfer Trosolwg a Chraffu a'r darlun o'r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad oedd y rhain.

 

Cytunodd y Cynghorydd Jones y gellid dileu'r cam gweithredu oedd heb ei gyflawni ar adroddiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor, gan fod gwaith yn cychwyn ar Gynllun y Cyngor 2019/20.

 

Ar gamau gweithredu heb eu cyflawni o fis Gorffennaf a Medi, gofynnodd y Prif Weithredwr i Aelodau aros am fanylion Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o’r pwysau o ran cost ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir cyn penderfynu a ddylid cysylltu â Llywodraeth Cymru eto am gyllid pellach.  Roedd cynllun gweithredu manwl ar ymatebion swyddogion i Aelodau – ar eu gwaith achos a chwynion – wedi ei rannu gydag Arweinyddion Gr?p yn dilyn Rhybudd o Gynnig i’r Cyngor, cyn cyflwyno adroddiad llawn i’r Pwyllgor fis Ionawr.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Heesom pe gellid rhannu adroddiadau pellach ar Bont Sir y Fflint.  Amlygodd bwysigrwydd integreiddio cludiant strategol er mwyn cefnogi’r Cais Twf rhanbarthol a’r angen i hyn gael ei adlewyrchu yn adran Cyngor Uchelgeisiol Cynllun y Cyngor.  Dywedodd y Prif Weithredwr nad y Cyngor sy’n gyfrifol am bolisi Llywodraeth Cymru ar lwybrau cludiant a bod penderfyniadau cyllido gan Lywodraeth Cymru y tu allan i’r Cais Twf.  Byddai’n sefydlu amseru yr adroddiad cylchol nesaf ar y bont a’i rannu maes o law.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriwyd at yr adroddiad ar Metro Gogledd Ddwyrain Cymru oedd yn gysylltiedig â datrysiad trafnidiaeth integredig y Cyngor ac roedd wedi ei ohirio o gyfarfod diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylcheddol.  Byddai ystyried yr eitem honno fis Ionawr yn rhoi cyfle i Aelodau rannu unrhyw bryderon gyda chynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

67.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried.  Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:

 

·         Gwybodaeth perfformiad ac eitem eglurhaol ar y cylch cynllunio perfformiad, busnes ac ariannol (yr holwyd amdano yng nghyfarfod mis Medi) i’w ddwyn i gyfarfod mis Ionawr.

 

·         Papur ymgynghori ar ddiwygio Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru i’w drefnu ar gyfer mis Ionawr.

 

·         Adroddiad ar ymdrin â chwynion Aelodau i’w ystyried ym mis Chwefror wedi’r gweithdy Aelodau sydd wedi ei drefnu ar gyfer 23 Ionawr.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

 (b)      Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

68.

Cynllun y Cyngor 2018/19 – Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 142 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad cynnydd canol blwyddyn ar berfformiad yn erbyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar yr ychydig feysydd lle bu tan berfformio.    Roedd adroddiad cryno lefel uchel wedi ei ystyried yn y cyfarfod blaenorol cyn cael yr adroddiad llawn hwn.

 

Wedi cwestiwn gan y Cynghorydd Jones ar y fenter ‘micro-ofal’, rhannwyd gwybodaeth ar gynlluniau i ddatblygu modelau mentrau cymunedol er mwyn cryfhau gwytnwch yn y sector gofal cymdeithasol.  Rhoddwyd eglurhad hefyd ar gymorth i leihau tariffau ynni a ddarperir drwy raglen yn seiliedig ar ardal er mwyn targedu ardaloedd penodol o amddifadedd.

 

Ar y canran o aelwydydd sydd wedi eu hatal yn llwyddiannus rhag dod yn ddigartref, cytunodd swyddogion y byddai’r nifer o achosion yn cael eu dangos yn adroddiadau’r dyfodol er mwyn rhoi'r darlun llawn.

 

Mewn ymateb i sylwadau ar flaenoriaethau’r Cyngor sy’n Gwasanaethau, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i gylchredeg gwybodaeth gryno ar oedran a gwerth yr hen ddyled sy’n daladwy i’r Cyngor, yn ogystal ag eglurhad o’r broses.  Darparodd ddiweddariad bras hefyd ar ymgysylltu gyda Llywodraeth Cymru er mwyn annog dileu’r cap ar fenthyca i gefnogi Tai Cyngor.

 

Dywedodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol bod peth data’n absennol ar gyfer dangosyddion perfformiad Addysg oherwydd amseru y flwyddyn academaidd, ac na ellid asesu paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd hyd nes byddai canllawiau newydd ar gael.

 

Wrth amlygu'r angen am drafodaeth bellach ar Gynllun y Cyngor, ategodd y Cynghorydd Heesom ei bryderon am feysydd risg ar y flaenoriaeth Cyngor Uchelgeisiol, a'r manteision i'r Sir i gyd.  Mewn ymateb i’r sylwadau ar y rhwydwaith trafnidiaeth integredig, dywedodd y Cynghorydd Shotton y dylid cydnabod y llwyddiant o ran diogelu buddsoddiad yn lleol.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurdeb ar gynnwys yr adroddiad sydd i’w drafod yn y cyfarfod nesaf fel y nodir yn yr argymhellion, er mwyn rheoli disgwyliadau.  Atgoffodd bawb o’r gofynion statudol ar gyfer y Cynllun a dywedodd bod gwaith ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 i fod i gychwyn yn y Flwyddyn Newydd gyda'r bwriad o fabwysiadu'r cynllun erbyn Mehefin 2019.

 

Mynegodd y Cynghorydd Johnson ei bryderon am effaith Brexit ar yr economi lleol, yr oedd yn teimlo y dylid ei nodi fel risg strategol.  Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y daflen gynghorol a gylchredwyd i’r Cyngor Sir ym mis Hydref oedd yn amlinellu amrywio rolau unrhyw gyngor wrth reoli trawsnewid drwy Brexit.  Rhoddodd enghreifftiau o waith asesu risg cenedlaethol a rhanbarthol a dywedodd y byddai’n haws deall risgiau rhanbarthol a lleol yn hwyrach yn y broses.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cymeradwyo:

-       lefelau cynnydd a hyder cyffredinol yng nghyflawniad gweithgareddau o fewn Cynllun y Cyngor; 

-       y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor;

-       y lefelau risg presennol o fewn Cynllun y Cyngor;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor wedi eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r broses o ddarparu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19; a

 

 (c)      Bod adroddiad pellach yn cael ei dderbyn fis Ionawr  ...  view the full Cofnodion text for item 68.

69.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint: Cynllun Lles ar gyfer Sir y Fflint 2017 – 2023 – Adolygiad Canol Blwyddyn pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        I nodi a chefnogi gwaith Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus a’r cynnydd o fewn y Cynllun Lles.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi mabwysiadu’r Cynllun Lles, oedd wedi rhagnodi pum maes blaenoriaeth.

 

Siaradodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol am y brwdfrydedd a’r gwaith partneriaeth cryf ar draws y Bwrdd gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn cyflawni amcanion strategol.  Tra bo'r asiantaethau i gyd yn cyfrannu at y gwaith ar y pum blaenoriaeth, roedd partneriaid arweiniol yn rhannu gwybodaeth a dysgu yn effeithiol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Jones bryderon ar y penderfyniad i atal y flaenoriaeth Economi a Sgiliau am y flwyddyn gyntaf, yn enwedig o ystyried perfformiad uchel y Cyngor ar economi.  Eglurodd Swyddogion bod y penderfyniad i ganolbwyntio ar bedwar o'r pum thema yn rhannol oherwydd capasiti'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac hefyd i gyflawni eglurder yngl?n â lle gellid ychwanegu gwerth.    Byddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dychwelyd at gynllunio gweithredu lleol ar y thema Economi a Sgiliau gan nodi bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (a’r cyn Fwrdd Gwasanaethau Lleol) wedi cwblhau gwaith ar flaenoriaethau ar gyngor ariannol a thlodi, a hyrwyddo mynediad at waith a phrentisiaethau yn y gorffennol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Johnson ei werthfawrogiad i swyddogion am y rhaglen cyd-nerthu cymunedol barhaus yn Holway oedd yn gwneud gwir wahaniaeth.  Siaradodd hefyd am werth y prosiect ‘Can Cook’ a’r Clwb Brecwast yn yr ardal.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod hyn yn enghraifft gadarnhaol o waith aml asiantaeth dan arweinyddiaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a siaradodd am gynlluniau i ddatblygu model menter gymdeithasol lleol i fynd i’r afael â thlodi bwyd tra’n cynnig buddion cyflogaeth a chymunedol lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Aelodau'n cael sicrwydd ar lefel y cynnydd y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi'i wneud hyd yn hyn.

70.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 - Arolygon Diweddar a Phroses ar gyfer Cam 3 Gosod Cyllideb (Llafar/Cyflwyniad)

Pwrpas:        (1) darparu arolygon cyllidebol diweddar ar gyfer 2019/20 yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan Llywodraeth Cymru a (2) nodi proses awgrymedig ar gyfer Cam 3 gan arwain at osod cyllideb gyfartal ar ddechrau 2019. (Nodwch fod disgwyl i Setliad Terfynol y llywodraeth leol gael ei gyhoeddi ar 19 Rhagfyr).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr eitem i adolygu sefyllfa gyfredol y gyllideb ar gyfer 2019/20 yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru a’r adroddiad i’r Cyngor Sir ar 11 Rhagfyr 2018, a chyn Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar 19 Rhagfyr.  Wrth ddynesu at Gam 3 y broses, roedd cyfle i'r Pwyllgor ddwyn ymlaen unrhyw opsiynau pellach i helpu i bontio’r bwlch cyllidol oedd ar ôl ar gyfer 2019/20 i'w argymell yn y Cabinet a chyn i’r Cyngor Sir gymeradwyo’r gyllideb derfynol ym mis Ionawr 2019. Ar ôl cytuno ar ddatrysiadau cyllidol Camau 1 a 2, doedd dim cynigion ar ôl i'w rhannu ag Aelodau os nad oedd swyddogion yn cael eu comisiynu i wneud hynny gan y Cabinet ar gyngor y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

I gynorthwyo, ail gylchredwyd y sleidiau cyflwyno a'r wybodaeth a rannwyd yng nghyfarfod y Cyngor Sir, yn amlygu’r ymgyrch #BacktheAsk am well Setliad.  Mewn ymateb i geisiadau blaenorol, rhannwyd nodiadau briffio ar arian wrth gefn a balansau, a benthyciadau drwy’r Cyfrif Buddsoddi a Benthyciadau Corfforaethol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at bryderon ymysg Aelodau am y cynnydd posib yn Nhreth y Cyngor, ac amlygodd y Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir a Strydwedd fel dau faes o orwariant parhaus o un flwyddyn i'r llall.  Dywedodd bod problemau penodol yn effeithio gwasanaethau anstatudol oedd wedi cael eu gosod o’r neilltu yn ystod y broses gyllido gan eu bod yn cael eu hystyried yn annerbyniol ar y cam hwn.    Yn absenoldeb unrhyw ddatrysiadau pellach ac ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar gyllid canlyniadol, dywedodd bod angen cyngor gan Weinyddiaeth y Cyngor ar adolygu dewisiadau gwasanaeth, cyn y Setliad Terfynol, er mwyn deall goblygiadau a dewisiadau amgen i godiad pellach yn Nhreth y Cyngor.

 

Enwodd y Prif Weithredwr Strydwedd fel un o’r portffolios oedd yn cael ei yrru fwyaf gan effeithlonrwydd, a dyletswydd gofal y Cyngor o ran Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir.  Tra bo rhai gwasanaethau yn statudol, roedd risgiau sefydliadol hefyd ar wasanaethau anstatudol.  Wedi ystyried a chynnal asesiadau risg ar bob dewis diogel oedd ar gael gan Trosolwg a Chraffu a'r Cabinet yn ystod y broses gyllido, dim ond oes oedd sicrwydd ar effaith ar y gyllideb a’r ddarpariaeth yn unol â'r drefn briodol y gellid ystyried unrhyw gynigion newydd ar y cam hwn.  Hyd nes roedd eglurder ar y Setliad Terfynol, yr unig opsiynau sydd ar gael i gyflawni cyllideb gytbwys – ar wahân i Setliad gwell gan Lywodraeth Cymru – oedd cynnydd mewn Treth y Cyngor, a defnydd cyfyngedig o arian wrth gefn a balansau ar gyngor proffesiynol y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn ei gapasiti fel Swyddog Adran 151.

 

Ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod lefel is o risg ariannol nag oedd ar y cam gosod y gyllideb ar gyfer 2018/19, gan bod amcanestyniadau costau wedi eu hadeiladu yn llawn i’r rhagolygon ar gyfer 2019/20 yn seiliedig ar weithgarwch presennol, er gwaethaf pa mor anwadal y galw am wasanaethau.

 

Wedi ymholiad gan y Cadeirydd, rhoddwyd eglurhad  ...  view the full Cofnodion text for item 70.

71.

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 7) pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 7 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried ar 18 Rhagfyr 2018..

 

O ran Cronfa'r Cyngor, roedd y diffyg gweithredol wedi cynyddu o £0.103 miliwn i £0.325 miliwn.  Roedd y prif newidiadau’n ymwneud â Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir, cyfraniad incwm y Bwrdd Iechyd ac effaith cofrestru’n awtomatig ar gyfer y Gronfa Bensiynau.

 

Amcangyfrifwyd y byddai 97% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Yr amcangyfrif balans diwedd blwyddyn ar Gronfeydd wrth gefn Arian at Raid oedd £5.447 miliwn, ar ôl cytuno i ddefnyddio £1.900 miliwn i gau’r bwlch yn y gyllideb fel y cytunwyd fel rhan o ddatrysiadau cyllideb Cam 1.  Roedd crynodeb o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn dangos gostyngiad parhau gydag amcangyfrif diwedd blwyddyn o £11.096 miliwn.

 

Nid oedd newid yn yr HRA lle y rhagwelwyd y byddai'r gwariant o fewn y flwyddyn yn £0.067 miliwn yn is na'r gyllideb, gan adael balans diwedd blwyddyn o £1.165 miliwn. 

 

Yn dilyn trafodaeth ar yr eitem flaenorol, cynigiodd y Cynghorydd Jones bod y cyllidebau ar gyfer Strydwedd a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn cael eu hamlygu i’r Cabinet fel dau faes pryder ar gyfer adolygu parhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Cabinet ar gyfer 18 Rhagfyr ar Fonitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 7) ac yn cadarnhau mai’r meysydd pryder yr hoffent i'r Cabinet eu hadolygu yw cyllidebau Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Strydwedd.

72.

Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu – Chwarter 2 pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Ystyried Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 2  2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad gwybodaeth am y gweithlu ar gyfer Chwarter 2 2018/19.

 

Roedd newidiadau mewn ffigyrau cyfrif pennau yn bennaf oherwydd gr?p o weithwyr chwarae a benodwyd ar gontractau tymor byr yn ystod yr haf.  Roedd dirywiad mewn niferoedd presenoldeb ar gyfer yr un cyfnod yn 2017/18 ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i ddeall y rheswm ar gyfer y newid yn Chwarter 1.

 

Disgwylid y byddai’r sefyllfa well o ran defnyddio gweithwyr asiantaeth yn parhau wedi penodi swyddi Strydwedd parhaol yn gynnar yn y flwyddyn newydd a datrys tri contract hir dymor.

 

Mewn ymateb i sylwadau'r Cynghorydd Johnson, roedd rheolwyr yn ymwybodol bod arferion gweithwyr o ddefnyddio gwyliau blynyddol fel absenoldeb salwch yn annerbyniol am nifer o resymau.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr eglurder i’r Cynghorydd Jones ar y cyfnod rhybudd ar gyfer athrawon oedd yn effeithio ar y nifer o rai oedd yn gadael yn  wirfoddol yn yr adroddiad.  Ar newidiadau disgwyliedig i’r ffigyrau cyfrif pennau ar gyfer ysgolion, cyfeiriwyd at yr angen i ddatblygu model tâl newydd gan gydnabod yr heriau ariannol a wynebir gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 2, 2018/19 hyd 30 Mehefin 2018.

73.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.