Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

23.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau wedi eu derbyn.

24.

Adroddiad Diweddaru ar y Flaenoriaeth Dlodi pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor yngl?n â chynnydd ar y blaenoriaethau Tlodi o fewn Cynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Diolchodd y Prif Weithredwr i Aelodau am fynychu’r cyfarfod arbennig i ystyried blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar thema tlodi.Roedd hyn wedi ei ailgyfeirio i’r pwyllgor hwn.   

            Cyflwynodd y Rheolwr Budd-daliadau yr Adroddiad yn rhoi’r Wybodaeth Ddiweddaraf am Flaenoriaeth Tlodi.Yn ystod ac yn dilyn y pandemig, roedd ymdrin â thlodi a’r rhai sy’n agored i niwed yn Sir y Fflint yn feysydd gwaith pwysig ac arwyddocaol.Rhoddodd wybodaeth fanwl yngl?n â sut yr ymdriniwyd â’r rhain o dan y pum thema allweddol sef:

·         Tlodi Incwm – a oedd yn cynnwys gwybodaeth ar y broses Fudd-daliadau, y Cynllun Taliadau Dewisol Tai, Clirio Ôl-Ddyledion Rhent, y Grant Caledi i Denantiaid, y Tîm Diwygio Lles a’r taliad Hunan-ynysu.

  • Tlodi Plant – a oedd yn cynnwys gwybodaeth am Brydau Ysgol am Ddim, y Cynllun Grant Gwisg Ysgol a’r Broses Taliadau Uniongyrchol. 
  • Tlodi Bwyd – a oedd yn cynnwys gwybodaeth am Siop Fwyd Well-fed, Siop Symudol Well-fed a Llwglyd Dros y Gwyliau
  • Tlodi Tanwydd  
  • Tlodi Digidol – a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y Cynllun Cefnogwr Digidol ac Allgáu Digidol

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i holi cwestiynau.Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y gostyngiad o £20 mewn taliadau Credyd Cynhwysol gan Lywodraeth y DU a gofynnodd a oedd hi’n hysbys beth fyddai’r effaith ar deuluoedd Sir y Fflint. 

            Ymatebodd y Rheolwr Budd-daliadau drwy sôn am y gwaith yr oedd ei thîm wedi ei wneud a bod Taliadau Dewisol Tai yn cael eu defnyddio i gefnogi’r teuluoedd hyn.Yn anffodus, fe fyddai yna effaith ar y teuluoedd hynny lle nad oedd costau tai yn cael eu cynnwys yn eu Credyd Cynhwysol gan y byddent yn colli £20 yr wythnos. Roedd yn anodd cyfrif yr effeithiau gan nad oedd y Cyngor yn gweinyddu taliadau Credyd Cynhwysol, ond roedd gwasanaethau cymorth yr Awdurdod yn cael ei hysbysebu mor eang â phosibl i amlygu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer y teuluoedd hyn.  

            Yna gofynnodd y Cynghorydd Shotton lle'r oedd Siop Symudol Well-Fed wedi ei lleoli.Cadarnhawyd fod Siop Symudol Well-Fed wedi ei lleoli yng Nghegin Shotton gyda Siop Fwyd Well-Fed wedi ei lleoli yng Nghanolfan Gymunedol Woodside.

            Yna cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at gostau Gwisgoedd Ysgol a dywedodd fod gan yr ysgolion yr oedd yn ymwneud â hwy gynllun i ailddefnyddio gwisgoedd ysgol a oedd wedi eu rhoi gan rieni a gofynnodd a oedd y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno yn holl ysgolion Sir y Fflint. 

            Sicrhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) aelodau fod y Cyngor yn annog ysgolion i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru y dylai gwisgoedd ysgol fod yn hygyrch ac yn fforddiadwy.Roedd ysgolion yn hyrwyddo’r Cynllun Grant Gwisg Ysgol, a oedd hefyd yn cynorthwyo gyda darparu dillad chwaraeon, a gwisgoedd y brownis, cybiau a’r sgowtiaid.Dywedodd fod mapio cyflenwadau gwisg ysgol ar draws yr holl ysgolion wedi ei ohirio o ganlyniad i’r pandemig, ond y byddai’n cael ei drafod yng nghyfarfod Ffederasiwn y Penaethiaid yn nechrau Medi. Unwaith y bydd y wybodaeth hon ar gael, fe ellid sefydlu map  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.