Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

12.

Cofnodion pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Mehefin 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

13.

AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod yna newid yn nhrefn y rhaglen i ddod ag eitem 9 yn y rhaglen ymlaen (Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd) i alluogi swyddogion i siarad ar yr eitem.  Byddai gweddill yr eitemau yn cael eu hystyried yn y drefn a ddangosir ar y rhaglen.

14.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad diweddaru yn nodi cynnydd ar gamau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol a dywedodd fod y sesiwn briffio gyda’r nos ar ailgylchu wedi ei symud.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod adroddiad Archwilio Cymru ar Gynaliadwyedd Ariannol ac eitem Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer mis Medi. O ran yr olaf diolchodd i aelodau am eu presenoldeb yng nghyfarfod diweddar y cyd bwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

15.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Richard Jones, cytunwyd y byddai diweddariad ar y thema Tlodi yn cael ei gynnwys yn adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor ym mis Rhagfyr. Ar sail hynny, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; fel y cafodd ei amrywio yn y cyfarfod; a

 

 (b)      Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

16.

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        I egluro gwaith ariannu pecynnau gofal ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad ar y prosesau ar gyfer cytuno ar becynnau gofal a ariennir ar y cyd rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn dilyn pryderon Aelodau am oblygiadau llai o gyfraniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Roedd yr adroddiad wedi ei groesawu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r heriau ynghlwm â’r mater cymhleth hwn a’r angen i gynnal perthynas waith agos gyda chydweithwyr BIPBC i gytuno ar y pecyn Gofal Iechyd Parhaus mwyaf priodol ar gyfer unigolyn. Amlinellwyd y meini prawf cymhwyso ar gyfer darparu’r gwasanaethau hyn yn y ddogfen fframwaith cenedlaethol (sydd wedi ei hatodi i’r adroddiad) a oedd ar hyn o bryd yn cael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru.Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r ddyled gyfredol oedd heb ei thalu ac a oedd yn ddyledus gan BIPBC.

 

Wrth ddiolch i swyddogion am yr adroddiad manwl, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd hyn yn mynd i’r afael â’i gwestiwn gwreiddiol yngl?n â gostyngiad o £0.133K yn y cyfraniad gan BIPBC am becyn Gwasanaeth Anabledd yr adroddwyd yn ei gylch ym mis Mawrth.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r broses ar gyfer rheoli achosion dadleuol yn elwa o benodi Swyddog Monitro Gofal Iechyd Parhaus ymroddedig ar gyfer y Cyngor fel y cytunwyd. Rhoddodd sicrwydd yr apeliwyd a heriwyd achosion dadleuol a chytunodd i ddarparu gwybodaeth ar yr achos penodol y cyfeiriwyd ato gan y Cynghorydd Jones.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Ofal Iechyd Parhaus fel maes hynod o ddadleuol ac y byddai creu’r rôl newydd yn cynyddu capasiti.Ar gwestiwn y Cynghorydd Jones, awgrymodd y gallai’r swm fod wedi bod yn ffigwr dangosol nad oedd wedi ei gyflawni ac y byddai dadansoddiad manwl yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor yn breifat i osgoi trafodaeth agored ar achos penodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones am i’r wybodaeth gynnwys y swm o arian a gollwyd bob blwyddyn o’i gymharu â’r hyn oedd wedi ei ragweld. O ganlyniad i’r adnoddau oedd eu hangen i gasglu’r wybodaeth hon, gofynnodd am i’r dadansoddiad ymwneud â chyfnod o amser y gellid ymdrin â hynny yn rhesymol gan y tîm.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts sicrwydd o drafodaethau cryf gyda BIPBC ar sawl achlysur i ddatrys dadlau yngl?n ag achosion.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr tra bod cyllid yn y pendraw yn cael ei dderbyn gan BIPBC ar gyfer achosion nad oeddent yn ddadleuol, dylai fod yna ddatrysiad ychwanegol sef bod lefel y ddyled barhaus gyda BIPBC yn arfer annerbyniol sydd angen gwelliant pellach – fel gaiff ei gydnabod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Patrick Heesom.

 

Rhoddwyd eglurhad i’r Cadeirydd yngl?n â’r broses o ddatrys anghydfod. Diolchodd i’r Prif Swyddog a’r Uwch Reolwr am eu presenoldeb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn:

 

 (a)         Nodi’r ymagwedd rheoli cyllideb, ymagwedd sy’n gadarn a rhagweithiol, y mae’r  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2022/23 pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer gofynion y gyllideb ar gyfer 2022/23 a’r strategaeth o ran cyllido’r gofynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y cam cyntaf o ddatblygu’r Gyllideb ar gyfer 2022/23 ochr yn ochr â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn dilyn sesiwn friffio’r Aelodau yn ddiweddar.Cafwyd cyflwyniad yn ymwneud â'r canlynol:

 

·         Y Rhagolwg Ariannol ar gyfer 2022/23 - 2024/25

·         Pwysau Costau

·         Penderfyniadau’r Flwyddyn Flaenorol

·         Colli Incwm

·         Deddfwriaethol / Mynegeio

·         Datrysiad Cenedlaethol

·         Gofynion Cyllido Cenedlaethol – Dyfarniadau Cyflog – Ddim yn ymwneud ag Ysgolion/Ysgolion

·         Dewisiadau Strategol – Addysg/Gofal Cymdeithasol

·         Dewisiadau Eraill

·         Datrysiadau Pedair Rhan

·         Cynnal ein Safle

·         Y ‘llinell sylfaen’

·         Arbedion effeithlonrwydd ac Incwm hyd yma

·         Cenedlaethol a Chyllid

·         Y Camau Nesaf a Therfynau Amser

 

Roedd y rhagolwg a ddiweddarwyd yn dangos isafswm gofyniad cyllideb o £16.750m ychwanegol o adnoddau cyllid ar gyfer 2022/23; roedd hyn yn cynnwys yr effaith ariannol o ganlyniadau dyfarniad cyflog cronnol ar gyfer 2021/22 a 2022/23 ar gyfer gweithwyr ysgolion a’r rhai nad ydynt yn gweithio mewn ysgol. Roedd y datrysiadau pedair rhan ar arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth, trethiant lleol, cyllid y Llywodraeth a phwyso a mesur risg.Gan ystyried yr holl amcangyfrifon o ran cost, dewisiadau o ran y gyllideb a ffactorau sy’n cyfyngu, roedd angen cynnydd a fyddai o leiaf 4.5% yn y Grant Cynnal Refeniw i gydnabod cost dyfarniadau cyflog a chefnogaeth drwy gyfnod adfer hir. Roedd yr holl Gynghorau yng Nghymru yn ymgysylltu gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Llywodraeth Cymru (LlC) o ran y gofynion hyn.

 

Yn dilyn ystyriaeth gan y Cabinet, byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu gwahodd i adolygu eu pwysau o ran costau a’u cynigion o ran arbedion effeithlonrwydd yn ystod misoedd Medi a Hydref cyn yr adroddir ar y sefyllfa gyffredinol i’r Pwyllgor hwn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am bwysigrwydd ymwneud Aelodau drwy gydol proses y gyllideb a’r angen am ystyried y dyheadau a nodwyd yn ofalus.

 

Wrth ddiolch i swyddogion am yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod y dadansoddiad yn atgyfnerthu’r angen am setliad ariannol tecach gan Lywodraeth Cymru i alluogi’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Richard Jones y pwynt y dylai unrhyw benderfyniadau cenedlaethol a fyddai’n cael effaith ariannol gael ei ategu gan y cyllid perthnasol.Nododd fod balansau gwasanaethau wedi cynyddu’n sylweddol a gofynnodd p’run ai y gellid defnyddio rhai o’r symiau a ddygwyd ymlaen i ymdrin â phwysau costau ar gyfer y flwyddyn os nad oeddent yn cael eu defnyddio i’r un diben.

 

Ar y pwynt cyntaf, siaradodd y Prif Weithredwr am y pwysau cenedlaethol cynyddol sy’n codi o benderfyniadau deddfwriaethol nad oedd ganddynt yn aml unrhyw gyllid penodol wedi ei ddyrannu ar eu cyfer.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr holl geisiadau i ddwyn ymlaen wedi eu cymeradwyo gan y Cabinet a bod y mwyafrif wedi ymrwymo ar gyfer y diben gwreiddiol a fwriadwyd yn ystod dechrau’r flwyddyn ariannol newydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jones fod swyddogion yn ail adolygu balansau gwasanaethau i sefydlu a allai unrhyw rai gael eu dyrannu yn rhywle arall. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol na allai unrhyw swm  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

Item 6 - MTFS presentation slides pdf icon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

18.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (alldro) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Monitro Cyllideb Refeniw (alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf (alldro) ar gyfer 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid (Gwasanaethau Corfforaethol) a’r Rheolwr Cyllid (Technegol, Cyfalaf a Systemau) adroddiad ar Fonitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Alldro) a'r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Alldro) cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Roedd yr adroddiad yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf yn ymwneud â cheisiadau a wnaed i Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) a ffrydiau cyllido Colli Incwm a oedd wedi profi’n bwysig iawn drwy gydol y cyfnod o argyfwng.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu fod yna £2.185m dros ben (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a oedd wedi ei ddiwallu o’r cronfeydd wrth gefn) gan adael balans yn y gronfa arian at raid o £5.973m.Rhoddwyd eglurhad ar y rhesymau dros y symudiad net ffafriol o’r mis blaenorol, fel nodwyd yn yr adroddiad, a oedd yn bennaf yn fuddion un tro. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau ariannol allweddol, cyflawniad arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn a’r sefyllfa o ran arian wrth gefn a balansau fel y nodwyd yn yr adroddiad. O ran cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, ac mewn ymateb i sylwadau blaenorol, roedd y cynnydd mewn balansau gwasanaethau (y gofynnwyd amdano ar gyfer defnydd penodol ac a rannwyd ar draws portffolios) yn bennaf o ganlyniad i oedi mewn gwariant o ganlyniad i’r sefyllfa o argyfwng.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai tanwariant arfaethedig o £2.866m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £4.875m, a oedd yn uwch na’r canllawiau a argymhellwyd ar wariant. Byddai’r cyfraniad cynyddol i gronfeydd wrth gefn yn 2020/21 yn ariannu ail-osod y gwaith cyfalaf a ddisgwylir nawr yn 2021/22 a byddai’n gwrthbwyso unrhyw fenthyca yn y dyfodol a fyddai’n gysylltiedig â’r gwaith hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones, eglurodd swyddogion fod oedi mewn caffael uwchraddio caledwedd Teledu Cylch Caeëdig o fewn yr adran Gwasanaethau Stryd a Chludiant wedi achosi symudiad niweidiol a byddai’n cael ei wario fel swm a ddygwyd ymlaen yn y flwyddyn ariannol hon.O ran y diffyg o ran casglu Treth y Cyngor yn ystod yr argyfwng, roedd cyfraniad ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi ei neilltuo fel amddiffyniad a byddai’n cael ei adolygu yn erbyn dyledion gwael posibl yn y dyfodol, gydag unrhyw effaith gadarnhaol yn cael ei gadw yn y cronfeydd wrth gefn.

 

Y Rhaglen Gyfalaf

 

Y cyfanswm ar gyfer y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2020/21 oedd £66.236m, gan ystyried yr holl symiau a ddygwyd ymlaen a’r arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i’r rhaglen.Roedd newidiadau yn ystod y chwarter olaf yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ac ailbroffilio’r gyllideb. Roedd gwariant gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn yn £62.915m a oedd yn 94.99% o’r gyllideb gan adael tanwariant o £3.321m a argymhellwyd i’w ddwyn ymlaen ar gyfer cwblhau cynlluniau yn 2021/22. Hefyd adroddwyd manylion yr arbedion a nodwyd yn ystod y chwarter olaf a’r sefyllfa ariannol o ran gweddill cyffredinol o £1.968m ar gyfer y rhaglen dair blynedd a fyddai’n arwain at falans agoriadol  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Monitro Cyllideb Refeniw (Dros Dro) 2021/22 pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Dros Dro).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa dros dro canol blwyddyn monitro’r gyllideb ar gyfer 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd hwn yn adroddiad eithrio ar amrywiadau sylweddol posibl a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2021/22 a chynnydd o ran cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn erbyn y targedau a osodwyd am y flwyddyn.

 

Ymysg y prif ystyriaethau roedd parhad ceisiadau ôl-weithredol i Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) hyd at Fedi 2021, gan nodi’r ansicrwydd yngl?n ag a fyddai hyn yn cael ei ymestyn pe byddai cyfyngiadau’n parhau.Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â risgiau agored gan gynnwys effaith y dyfarniad cyflog, Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Chronfeydd Wrth Gefn gan gynnwys symiau wedi’u clustnodi.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr er bod y crynodeb cyffredinol yn adlewyrchu sefyllfa dros dro gadarnhaol, roedd yna nifer o risgiau sylweddol o ganlyniad i’r ansicrwydd yn ymwneud â pharhad cyllid LlC a chyfraniadau i ddyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol.

 

O ran lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones y gallai’r pwyllgor ysgrifennu at LlC i ailadrodd diffyg rheolaeth y Cyngor dros y pwysau hyn o ran costau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr holl Gynghorau yng Nghymru yn ymgysylltu ar y cyd gyda LlC ar bwysau cenedlaethol neu bwysau a arweinir gan y farchnad o ran costau drwy rannu tystiolaeth a dadansoddiad manwl ar effaith materion allweddol gan gynnwys Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts y byddai datblygu gwasanaethau o fewn Sir y Fflint yn helpu i leihau’r nifer o Leoliadau y Tu Allan i’r Sir.Dywedodd fod trafodaethau cadarn yn cael eu cynnal gyda LlC ar ddyfarniadau cyflog i athrawon.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw (dros dro) 2020/21, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion y mae’n dymuno eu codi gyda’r Cabinet.

20.

Sir y Fflint Digidol pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Adolygu a diweddaru Strategaeth Ddigidol bresennol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i adolygu Strategaeth Ddigidol y Cyngor ‘Sir y Fflint Ddigidol’ cyn ei gyflwyno i’r Cabinet. Roedd y Strategaeth wedi ei diweddaru i adlewyrchu amcanion hirdymor a newidiadau cenedlaethol, fel y trafodwyd mewn sesiynau briffio Aelodau yn ddiweddar.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Arnold Woolley ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom a ganmolodd y sesiynau briffio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn:

 

a)        Croesawu’r cynnydd a wnaed mewn cyflawni amcanion Sir y Fflint Ddigidol;

 

b)        Cytuno fod y strategaeth a adnewyddwyd yn nodi’r dyheadau cywir ar gyfer datblygu gwasanaethau digidol ymhellach; a bod y pwyllgor yn

 

c)         Hyderus y bydd y strategaeth ddiwygiedig yn helpu i sicrhau y bydd gan bawb fynediad cyfartal i sgiliau, dyfeisiau a chysylltedd digidol.

21.

Diweddariad Diwedd Blwyddyn am Gyflogaeth a'r Gweithlu pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        I gyflwyno ystadegau gweithlu chwarterol a’u dadansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad ar y sefyllfa ar ddiwedd blwyddyn 2020/21 o ran ystadegau gweithlu a’u dadansoddiad.Nid oedd y ffigyrau ar gyfer Profi, Olrhain a Diogelu wedi eu cynnwys gan mai gwasanaeth rhanbarthol oedd hwn.

 

Wrth grynhoi’r prif feysydd, siaradodd yr Uwch Reolwr am effaith y sefyllfa argyfyngus ar ffigyrau presenoldeb a’r gwariant ar weithwyr asiantaeth.

 

Canmolodd y Cynghorydd Richard Jones y canfyddiadau yng ngoleuni effaith yr argyfwng.Wrth ymateb i gwestiynau siaradodd yr Uwch Reolwr am newidiadau i’r broses arfarnu i addasu i’r sefyllfa ac adborth cadarnhaol ar y defnydd o dechnoleg i gynnal cyfathrebu o fewn timau.

 

Holodd y Cynghorydd Richard Lloyd yngl?n â gweithio o bell yn y dyfodol a rhoddwyd gwybod iddo fod gwaith yn digwydd i sefydlu egwyddorion hirdymor ar gyfer pob tîm i ddiwallu anghenion gweithwyr a’u gwasanaethau.

 

Wrth ganmol yr adroddiad, amlygodd y Cynghorydd Patrick Heesom yr heriau ar gyfer aelodau etholedig o ran gweithio’n wahanol yn ystod yr argyfwng.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar Ddiwedd Blwyddyn 2020/21 (Hydref 2020 – Mawrth 2021); a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn mynegi ei werthfawrogiad o weithlu’r Cyngor o ran cynnal darpariaeth gwasanaeth yn ystod pandemig Covid-19.

22.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.