Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

85.

Eitem Frys

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau y byddai diweddariad ar ymateb y Cyngor i sefyllfa Coronafeirws yn cael ei gyflwyno yn nes ymlaen yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi penderfyniad y Cadeirydd i dderbyn eitem frys ychwanegol i ddarparu manylion am ymateb y Cyngor i oblygiadau Coronafeirws/COVID-19 i Sir y Fflint.

86.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

87.

Cofnodion pdf icon PDF 93 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Chwefror 2020.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Cunningham a Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

88.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai gweithdai ar Gynllun y Cyngor a Bid Twf Gogledd Cymru yn cael eu cynnal ar ddiwedd Ebrill a dechrau Mai, yn y drefn honno. Byddai’r seminar a awgrymwyd ar ariannu cyfalaf yn cael ei gynnwys yn y gweithdy Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a drefnwyd ar gyfer mis Mai.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom nad oedd y pwyntiau roedd wedi’u codi ar gysylltiadau gyda’r Bid Twf a materion cysylltiedig yn ymwneud â Phont Dyfrdwy a’r Llwybr Coch wedi cael eu cydnabod. Wrth ymateb i’w bryderon ynghylch y Cais Twf, ategodd y Prif Weithredwr na fyddai unrhyw benderfyniadau rhanbarthol yn cael eu gwneud nes bod y Penawdau Telerau terfynol wedi’u cytuno a dywedodd fod papurau agenda Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd. Byddai cyswllt at yr wybodaeth honno yn cael ei rannu ymhlith yr Aelodau a byddai gweithdy’r Bid Twf yn gyfle i Aelodau leisio unrhyw ymholiadau gyda Chyfarwyddwr Rhanbarthol newydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.

 

Roedd y cyfarfod gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ei gohirio am y tro tra bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r Arweinydd a Phrif Weithredwr newydd.

 

O ran y diweddariad chwarterol ar Gyflogaeth a’r Gweithlu, cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at yr ymateb i’w gwestiwn ar gyfanswm y dyddiau a gollwyd yn ystod y cyfnod a dywedodd ei fod hefyd wedi gofyn am yr effaith ar darged canlyniadau’r flwyddyn. Byddai swyddogion yn paratoi ymateb pellach.

 

Cafodd y cynnig ei wneud gan y Cynghorydd Johnson a’i eilio gan y Cynghorydd Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed.

89.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd Raglen Waith y Dyfodol er mwyn i’r Pwyllgor ei hystyried.

 

Ar fater y diweddariad o’r gwerthusiadau ym mis Mai, ailadroddodd y Prif Weithredwr yr ymrwymiad y byddai’n ofynnol i Brif Swyddogion fynychu os nad oedd eu portffolios wedi cyrraedd y raddfa gyflawni 90%.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones a ddylai diweddariad ar sefyllfa Coronafeirws gael ei gynnwys yn rheolaidd ar Raglen Waith y Dyfodol. Byddai’r eitem yn cael ei thrafod yn nes ymlaen yn y cyfarfod.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Johnson a’u heilio gan y Cynghorydd Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi Rhaglen Waith y Dyfodol; a

 

(b)       Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio Rhaglen Waith y Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel y bo’r angen.

90.

Fframwaith Rheoli Risg pdf icon PDF 87 KB

Derbyn cyflwyniad ar ddatblygu’r Fframwaith Rheoli Risg.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar ddatblygu fframwaith rheoli risg mewnol gwell yn cynnwys dynodi risgiau a goruchwylio risgiau ariannol, meysydd a oedd o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Ymgynghorydd Perfformiad Strategol gyflwyniad ar y canlynol:

 

·         Adolygiad o’r Fframwaith Risg

·         Categorïau risg

·         Mathau o risg

·         Rheoli Risg yn Weithredol

·         Risgiau Ariannol 2020/21

o   Cyflog (taliadau blynyddol)

o   Lleoliadau y tu allan i’r Sir

o   Cludiant Ysgol ôl-16

o   Cyllidebau Diffygiol Ysgolion

o   Cyllideb y flwyddyn hon

o   Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

 

Y nod oedd cyflwyno dull mwy effeithiol, systematig i adnabod risgiau a thynnu sylw atynt, sef dull arfer gorau. Roedd y broses yn golygu ymgysylltu mewn ffordd gadarnhaol gyda thîm y Prif Swyddog a swyddogion perfformiad arweiniol y portffolio, ynghyd â’r tîm Archwilio Mewnol mewn rôl ymgynghorol. Fel rhan o’r cyflwyniad, rhoddwyd trosolwg o’r pedwar prif risg ‘agored’ y gellid eu hadrodd ar y cam hwn. Er enghraifft, ar Gyflog (taliadau blynyddol) lle nad oedd gan y Cyngor lawer o ddylanwad ar y sefyllfa genedlaethol ond gallai adeiladu hyblygrwydd digonol yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i leihau’r effaith. Er bod difrifoldeb yr effaith yn sylweddol, roedd y tebygolrwydd yn isel oherwydd y mesurau lliniaru hynny. Er bod gosod y gyllideb gyffredinol yn risg agored, roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a rheoli’r gyllideb y flwyddyn hon yn risgiau parhaus o hyd.

 

Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Jones yngl?n â’r risg i ddiwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol /Anghenion Dysgu Arbennig (ADY/ADA), dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith yn mynd rhagddo o hyd i asesu’r galw yn dilyn oedi yn yr arian grant cenedlaethol.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Johnson ar y categori risg ar gyfer iechyd a diogelwch, dywedodd y Prif Weithredwr fod hyn yn gymwys i Leoliadau y tu allan i’r Sir oherwydd y cymhlethdodau cysylltiedig.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am y pwysau sylweddol oherwydd costau yn deillio o gyllidebau diffygiol yr ysgolion a oedd ar hyn o bryd wedi cael sgôr risg ‘du’ gan nad oedd mesurau ariannol wedi eu cymryd hyd yma.

 

Fel Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Addysg a hefyd llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Addysg, disgrifiodd y Cynghorydd ddiffygion yng nghyllidebau ysgolion fel canlyniad y cyfnod o lymder ac roedd yn destun pryder mawr ar draws Cymru.  Yn Sir y Fflint, roedd swyddogion yn gweithio’n agos gydag ysgolion mewn sefyllfa o ddiffyg trwyddedig ac roedd yn croesawu cynlluniau gan Lywodraeth Cymru i newid trefniadau ariannu’r Grant Amddifadedd Disgyblion.

 

Ar fater dyrannu risgiau ar draws pwyllgorau, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i gytuno ar risgiau brys fel sail ar gyfer rhaglennu gwaith gweithredol. Awgrymodd y dylid adrodd ar statws y prif risgiau agored gerbron y Pwyllgor hwn ym misoedd Ebrill, Mai a Mehefin, ac o fis Gorffennaf ymlaen y dylai’r adroddiadau Monitro Cyllidebau Refeniw gynnwys adran yn rhoi diweddariad ar bob un.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid rhoi statws coch i’r holl risgiau  ...  view the full Cofnodion text for item 90.

Item 6 - Risk Management slides pdf icon PDF 205 KB

91.

Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2020/21

Cynghori ar y Setliad Terfynol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a’i oblygiadau i lywodraeth leol a Sir y Fflint.

 

(Mae gwybodaeth am y Setliad Terfynol wedi ei anfon dros e-bost ar wahân i Aelodau’r Pwyllgor)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad llafar ar y Setliad Terfynol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a’r goblygiadau i lywodraeth leol a Sir y Fflint.

 

Fel y nodwyd yn y neges e-bost ddiweddar at Aelodau’r Pwyllgor, nid oedd unrhyw newid arwyddocaol yn y Setliad Terfynol ers y cam dros dro ac felly nid oedd unrhyw oblygiadau i’r gyllideb nac unrhyw risgiau i grantiau penodol.  Er gwaethaf y sylwadau a wnaed, roedd Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cais am y ‘arian gwaelodol’ ychwanegol ar y sail bod y cynghorau wedi derbyn Setliad gwell.

 

Ar y pwynt olaf, cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts fod achos cadarn wedi’i gyflwyno drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad.

92.

Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad llafar ar yr ymateb lleol i sefyllfa Coronafeirws. Roedd hwn yn fater byw ar raddfa sylweddol  iawn ac ni fyddai’n bosibl gwneud penderfyniad lleol nes y byddai arweiniad swyddogol pellach yn cael ei roi. Roedd disgwyl y byddai Llywodraeth y DU yn symud o’r cam ‘Cyfyngu’ i’r cam ‘Oedi’ yn dilyn cyfarfod brys o bwyllgor COBRA yn ddiweddarach yn y dydd. Er bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd gan asiantaethau’r llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus, byddai’r ail gam hwn yng nghynllun y Llywodraeth yn helpu i lywio penderfyniadau rhanbarthol a lleol ar fesurau ataliol i arafu lledaeniad y feirws.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr drosolwg ar y trefniadau rhanbarthol a lleol, gan gynnwys cynllunio er mwyn sicrhau parhad busnesau lle’r oedd gwaith wedi’i wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf er mwyn adnabod meysydd risg allweddol ac ymateb iddynt. Dywedodd fod y Cyngor wedi paratoi i’r graddau a oedd yn bosibl, o ystyried y sefyllfa ansicr, a bod cydlynu gwybodaeth gan wahanol asiantaethau’r llywodraeth yn her sylweddol er mwyn llywio’r penderfyniadau cywir ar yr adeg cywir.

 

Fel yn achos gweithwyr, dylai Aelodau ag unrhyw bryderon iechyd gael eu hannog i gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd os oeddynt yn dymuno derbyn cyngor gan yr adran Iechyd Galwedigaethol. Byddai neges e-bost yn cael ei hanfon at yr holl Aelodau cyn gynted â phosibl unwaith y byddai rhagor o wybodaeth ar gael.

 

Wrth ddiolch i’r Prif Weithredwr am y diweddariad, gwnaeth y Cynghorydd Jones gydnabod y gwaith oedd yn cael ei wneud y tu ôl i’r llenni a dywedodd y dylid cyflwyno achos am gyfraniad o’r £360m ychwanegol a ddyrannwyd i Lywodraeth Cymru.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod trafodaethau yn cael eu cynnal yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru a bod angen ystyried grwpiau eraill fel mudiadau gwirfoddol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Roberts am yr hyder oedd ganddo yn Nhîm y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog i ymateb i’r sefyllfa. Gofynnodd am gymorth yr aelodau i barchu cyfrinachedd cyfathrebiadau sensitif.

 

PENDERFYNWYD:

 

Diolch i Dîm y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog am eu gwaith i gynllunio ar gyfer effaith Coronafeirws (COVID-19) yn Sir y Fflint.

93.

Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 10) pdf icon PDF 72 KB

Adolgyu sefyllfa fonitro’r gyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2019/20 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad ar y sefyllfa o ran monitro’r gyllideb gyfalaf ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar Fis 10 cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.  Roedd hwn yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol os byddai pethau’n aros yr un fath.

 

Roedd y diffyg gweithredol o £1.625m yn symudiad cadarnhaol o £0.041m o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd y mesurau a gyflwynwyd i liniaru effaith gyffredinol y gorwariant rhagamcanol wedi cael effaith arwyddocaol a byddai’r gwaith hwn yn parhau gyda meysydd penodol yn cael eu hadolygu yn dactegol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd hyn yn cynnwys arian ychwanegol ar gyfer Parc Adfer ac roedd y mater hwn cael sylw ar hyn o bryd. At hyn, roedd posibilrwydd y byddai grantiau hwyr yn cael eu rhoi gan Lywodraeth Cymru i wella’r sefyllfa. Ymhlith y prif amrywiadau roedd gorwariant ar gyfer Lleoliadau y tu allan i’r Sir a Gwasanaethau Stryd a Chludiant mewn cysylltiad â datrys materion yn ymwneud â llifogydd.

 

Ar fater olrhain arbedion effeithlonrwydd arfaethedig y flwyddyn hon, disgwylid y byddai’r sgôr cyflawniad o 91% yn aros yr un fath ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Ar fater Cronfeydd wrth Gefn a Mantolenni, mantolen ragamcanol diwedd y flwyddyn ar gyfer y Cronfeydd wrth Gefn oedd £3.244m.  Tynnwyd sylw unwaith yn rhagor at y risg sylweddol ar lefelau rhagamcanol mantolenni’r ysgolion.

 

Byddai dyraniad cyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi rhwydweithiau TGCh ysgolion yn cael ei ddyrannu yn erbyn y gwariant presennol, gyda chais yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’r tanwariant fyddai’n deillio o hynny i gael ei gario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Ar fater y Cyfrif Refeniw Tai, byddai tanwariant rhagamcanol o £0.062m yn gadael mantolen derfynol heb ei chlustnodi o £1.385m, a oedd yn fwy na’r canllawiau a argymhellir ar wariant.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at gost ychwanegol sicrhau diogelwch y Canolfannau Ailgylchu Cartref yn dilyn achosion o fandaliaeth. Roedd yn amau a oedd y cyfleusterau Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) ym Mwcle yn gweithio cyn y digwyddiadau hyn ac roedd yn bosibl bod hyn wedi cyfrannu at y broblem. Dywedodd y Prif Swyddog mai’r camerâu hyn oedd targed cyntaf fandaliaid yn aml iawn a byddai’n gofyn i’r Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant am ymateb.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am wybodaeth am gostau a’r amserlen ar gyfer trwsio difrod i geblau/pibell ar hyd yr A548.  Cytunodd y Rheolwr Cyllid y byddai’n gofyn am ymateb gan y Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant.

 

Cafodd argymhellion yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Jones a Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 10), mae’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno adrodd amdanynt i’r Pwyllgor.

94.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd aelodau’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.