Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

45.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

46.

Cofnodion pdf icon PDF 193 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 19 Medi 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

47.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad cynnydd ar gamau’n deillio o gyfarfodydd blaenorol:

 

Wrth fynd ati i drafod y penderfyniadau craff ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB), pwysleisiodd y Cynghorydd Heesom bwysigrwydd trafod agored a rhannu gwybodaeth ag Aelodau etholedig yn gynnar.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) sicrwydd nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ac y byddai swyddogion o chwe chyngor Gogledd Cymru’n cyfarfod yn fuan i ystyried opsiynau ar gyfer y model Trosolwg a Chraffu a fyddai’n myned gerbron yr Aelodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom y dylid bod wedi sicrhau bod Aelodau’n ymwybodol fod y cyfarfodydd hynny wedi’u trefnu. Awgrymodd y Cynghorydd Jones eitem ar yr agenda yn y dyfodol i drafod y dull craffu drwy Ogledd Cymru.

 

Cymharodd y Cynghorydd Roberts â sefydliad GwE (y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol) a’r rhyngweithio rhyngddo â phob un o’r chwe chyngor drwy bwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y byddai’r cyfarfod arfaethedig yn ystyried yr holl faterion ar gyfer yr NWEAB y byddai angen cytuno arnynt yn gyntaf ar draws bob un o’r chwe chyngor.

 

Awgrymodd yr Hwylusydd efallai y byddai Aelodau’n dymuno bod yn bresennol yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter yn Rhagfyr i gael diweddariad ar y Fargen Twf. Roedd gwahoddiad hefyd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd.

 

Wrth gydnabod y pryderon a godwyd, atgoffodd y Cynghorydd Shotton yr Aelodau am drafodaethau blaenorol ar yr amserlen angenrheidiol i gwblhau trefniadau a thynnodd sylw at y ffaith nad oedd y Fargen Twf wedi’i llofnodi eto.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Jones yr Aelodau o’r cam y cytunwyd arno yn y cyfarfod blaenorol (penderfyniad 42(g)) i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ganlyniad dadansoddiad ystadegol o nifer uwch yr achosion camddefnyddio sylweddau/alcohol gan rieni yn Sir y Fflint. Un cam pellach heb ei gyflawni oedd darparu data perfformiad gan Heddlu Gogledd Cymru oedd heb ei gynnwys yn yr atodiad diweddar a rannwyd yn y cyfarfod. Byddai cynnydd ar y ddau gam gweithredu’n cael ei gofnodi yn yr adroddiad Olrhain Camau misol nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at rannu adroddiadau pellach ar bont Sir y Fflint ‘pan oedd ar gael’ a gofynnodd am osod amserlen, hyd yn oed os oedd hynny’n golygu gohirio tan ddyddiad diweddarach. Cytunodd yr Hwylusydd i roi sylw i’r mater hwn gyda swyddogion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed.

48.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 92 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried. Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

49.

Cynllunio Rheoli Asedau a'r defnydd o Gofrestrau Asedau pdf icon PDF 209 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ar ddamcaniaeth cynllunio rheoli asedau a’r defnydd o gofrestrau asedau, a defnydd ymarferol y Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn amlinellu’r dull cynllunio rheoli asedau a defnyddio cofrestru asedau, a defnydd y Cyngor yn ymarferol.

 

Rhoddodd drosolwg o’r prif bwyntiau o ran datblygu strategaeth asedau hirdymor i wneud y mwyaf o asedau a chysylltu ag amcanion Cynllun y Cyngor. Roedd y dull o reoli asedau, o safbwynt buddsoddi a chynnal, yn ystyried paramedrau arfer da a osodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd y gwahanol Gynlluniau Rheoli Asedau a’r strategaeth gyffredinol wedi’u dwyn ynghyd mewn Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol (CAMP) oedd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac a gaiff ei rannu ym mis Tachwedd. Ar 31 Mawrth 2019, gwerth cyfanswm balans ar gyfer asedau eiddo cyhoedd a thir oedd £762m; roedd y ffigur hwn yn amodol ar amodau’r farchnad oedd yn anwadal.

 

Cynigiodd Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Dechnegol) eglurhad ar y cyswllt rhwng cynllunio asedau a’r Rhaglen Gyfalaf i’r Datganiad o Gyfrifon lle cofnodir gwerth asedau sefydlog bob blwyddyn yn unol â gofynion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at ddogfen lle’r oedd y Cyngor wedi ymateb i arolwg yn gofyn cwestiynau am reoli asedau gan Lywodraeth Cymru (WG) ychydig flynyddoedd yn ôl. Gan gydnabod y cyngor a’r arweiniad oedd ei angen gan swyddogion, pwysleisiodd bwysigrwydd cyfraniad adeiladol gan Aelodau a gofynnodd am wybodaeth fanylach am y fframwaith rheoli asedau a’r defnydd ohono i wasanaethau rheng flaen. Wrth gyfeirio at gyfanswm gwerth asedau’r Cyngor, gofynnodd i’r Arweinydd ystyried y ddogfen y cyfeiriodd ati a lefel cyfraniad Aelodau i’r broses. Awgrymodd hefyd fod y ddogfen yn cael ei rhannu gydag Aelodau.

 

Wrth dderbyn copi o’r ddogfen, dywedodd y Cynghorydd Roberts nad oedd yn ymwybodol ohoni. Dywedodd ei fod wedi bod yn werthfawr ei rhannu ymlaen llaw a chytunodd i roi ystyriaeth ddyledus iddi.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y ddogfen a rannwyd gan y Cynghorydd Heesom.  Siaradodd am Aelodau’n cael mynediad i’r gofrestr eiddo corfforaethol, yr ystâd amaethyddol ac unedau diwydiannol a gofynnodd a oedd arolwg cyflwr wedi’i gynnal ar gyfer yr olaf. Dywedodd ei fod yn bwysig monitro asedau gwag i sicrhau cymaint o incwm â phosibl i’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid mai’r cyfanswm gwerth a nodwyd oedd y ffigur net ar ôl disbrisio. Tynnodd sylw at y tabl yn yr adroddiad oedd yn dangos y sylfaen mesur ac amlder dibrisio, fel y rhagnodwyd.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Bateman, dywedodd y Rheolwr Cyllid mai gwerth stoc tai’r Cyngor oedd £203m ar 31 Mawrth 2019. Aeth ymlaen i egluro’r dull o brisio ‘gwerth defnydd presennol’ ar gyfer tai cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Heesom am yr ymgynghori ag Aelodau ynghylch dyfodol Neuadd y Sir, atebodd y Cynghorydd Roberts fod y pwnc wedi cael ei drafod gan y Cabinet ac nad oedd y dewis o alw’r penderfyniad i mewn wedi’i ddefnyddio.

 

Dywedodd Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y prif benderfyniadau am sylfaen asedau’r Cyngor wedi’u cymryd yn agored gan y Cabinet yn unol â’r strategaeth y cytunwyd arni i leihau nifer y safleoedd ffisegol, yn  ...  view the full Cofnodion text for item 49.

50.

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 5) pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis  5 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar Fis 5 i’w ystyried gan y Cabinet.  Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol os na fyddai unrhyw newid.

 

Roedd y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a gwella’r elw ar gynllunio effeithlonrwydd, yn ddiffyg gweithredol o £3.042m oedd yn symudiad negyddol o £0.059m a adroddwyd y mis diwethaf. Roedd y ddau brif faes amrywiant wedi’u hadrodd yn y cyfarfod blaenorol lle’r oedd y Pwyllgor yn fodlon fod cwmpas cyfyngedig iawn ar gyfer lliniaru er mwyn lleihau’r gwariant o fewn y flwyddyn a byddai effaith anorfod ar sefyllfa’r gyllideb o 2020/21. Roedd hyn yn cael ei gynnwys yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i’w rhannu yn Nhachwedd. I helpu i liniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, byddai adolygiad a her i’r holl wariant nad oedd yn hanfodol a recriwtio i swyddi gwag er mwyn sicrhau arbedion dros dro o fewn y flwyddyn, a byddai’r canlyniad yn cael ei adrodd i’r cyfarfod nesaf.

 

Os na fyddai modd lliniaru’r gorwariant presennol, byddai balans y Gronfa Wrth Gefn yn £1.827m, oedd yn sylweddol is na blynyddoedd blaenorol. Roedd y sefyllfa o ran cronfeydd a neilltuwyd yn amodol ar newidiadau yn lefelau balansau rhagamcanol ysgolion oedd wrthi’n cael eu hadolygu.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai gwariant o fewn y flwyddyn £0.108m yn fwy na’r gyllideb sy’n gadael balans heb ei glustnodi o 3.35% oedd yn uwch na’r isafswm lefel a argymhellwyd.

 

Nododd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gais y Cynghorydd Jones sef bod adroddiad y Cabinet yn y dyfodol yn cael ei atodi yn y ffordd arferol, yn hytrach na dogfen wedi’i sganio. Mewn ymateb i gwestiynau, adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod cadarnhad wedi’i dderbyn na fyddai Llywodraeth Cymru’n darparu refeniw na chyllid cyfalaf ar gyfer costau’n gysylltiedig â’r llifogydd yn cynnwys trwsio ffyrdd o dan gyfrifoldeb y Cyngor. Wrth gymharu ffigyrau terfynol   Mis 9 a 10 ar gyfer Rhaglenni Strategol, Tai ac Asedau a Chyllid Canolog a Chorfforaethol, byddai ymateb ar wahân yn cael ei rannu er mwyn deall y gwahaniaeth o ran ffigyrau a hynny o bosibl oherwydd trosglwyddiadau.

 

Hefyd holodd y Cynghorydd Jones ynghylch sefyllfa bresennol nifer yr ysgolion â chyllideb ddiffyg  a dywedwyd y byddai canlyniad yr adolygiad yn cael ei gynnwys mewn adroddiad o’r Gyllideb Refeniw yn y dyfodol. Ar y pwynt yma, siaradodd y Cynghorydd Roberts am y rhesymau a allai olygu bod ysgolion yn y sefyllfa hon.

 

Soniodd y Cynghorwyr Johnson a Jones am incwm parcio a’r effaith ar ardaloedd lle’r oedd yn bosibl parcio ar y stryd. Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod gwaith ar y gweill i sicrhau cyfyngiadau parcio.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Collett ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2019/20 Mis 5 ac yn cadarnhau ar yr achlysur hwn nad oes unrhyw  ...  view the full Cofnodion text for item 50.

51.

Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2018/19 pdf icon PDF 162 KB

Pwrpas:        Derbyn ac adolygu Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol  Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2018/19 i’w gymeradwyo. Roedd yn cynnwys trosolwg o gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg a meysydd gwella a nodwyd. Roedd cyhoeddi adroddiad blynyddol yn ddyletswydd statudol ac yn rhan o raglen waith ehangach i sicrhau newid sylweddol.

 

Tra bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn Addysg, Gwasanaeth Cymdeithasol a Theatr Clwyd o ran diwylliant Cymreig a defnyddio’r Gymraeg, nodwyd meysydd gwella pellach yn yr adroddiad yn cynnwys deall lefelau sgiliau staff a meithrin hyder i sgwrsio yn Gymraeg.

 

Wrth ddiolch i’r swyddog am yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Mullin fod meysydd o ddiffyg cydymffurfio’n deillio’n bellaf o gamgymeriadau gweinyddol yn gysylltiedig â galwadau ffôn ac arwyddion, a bod nod Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg yn cael sylw drwy’r Sir. Cydnabu’r meysydd gwella angenrheidiol, gan nodi’r cynnydd a wnaed eisoes.

 

Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Peers, eglurodd Prif Swyddog (Llywodraethu) y drefn o ddelio â galwadau ffôn yn Gymraeg yn cynnwys trefniadau yn y Ganolfan Gyswllt. Tra bod y Cynghorydd Peers yn gefnogol i ddwyieithrwydd, dywedodd y dylid cael cysondeb, er enghraifft, diffyg arwyddion Saesneg yn swyddfeydd T? Dewi Sant yn Ewlo. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n cyfleu’r sylw a dywedodd fod yr adeilad wedi cael enw Cymraeg yn sgil ymgynghori â’r gweithlu. Ychwanegodd mai’r gofyniad oedd sicrhau nad oedd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol yn hytrach na bod yn gwbl ddwyieithog.

 

Siaradodd y Cynghorydd Jones am y cyfleoedd cynyddol i ddysgwyr Cymraeg a mynegodd ei siom yn y gostyngiad sylweddol yn nifer y gweithwyr sy’n mynychu hyfforddiant sgiliau Cymraeg o 137 yn 2017/18 i lawr i 64 yn 2018/19.  Roedd y Prif Weithredwr yn rhannu ei bryderon a chyfeiriodd at gynlluniau i ystyried mathau gwahanol o ddysgu i hybu niferoedd ar lefel mynediad.

 

Talwyd teyrnged gan y Cynghorydd Shotton i’r gwaith a wnaed mewn ysgolion, yn arbennig y chwe ysgol cyfrwng Saesneg oedd wedi ennill gwobr Efydd y ‘Campws Cymraeg’.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Jones ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad blynyddol; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd o ran bodloni gofynion statudol yr Hysbysiad Cydymffurfio â’r Iaith Gymraeg.

52.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau’r cyngor na’r wasg yn bresennol.