Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

12.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

            Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

13.

Cynllun y Cyngor 2018/19

Pwrpas:        I dderbyn cyflwyniad ar Gynllun Drafft y Cyngor (i ddilyn y gweithdy i bob aelod a gynhaliwyd ar 29 Mai) er mwyn i’r Pwyllgor allu cynghori’r Cabinet ar y cynnwys terfynol.

Cofnodion:

            Dechreuodd y Swyddog Gweithredu Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y cyflwyniad drwy gyfeirio tuag at Gynllun y Cyngor a thaflenni Adolygiad Targedau oedd wedi eu rhannu.  Mae'r ddogfen hon yn amlinellu awgrymiadau a godwyd gan Aelodau yn y Gweithdy a gynhelir ar y 29 Mai yn Rhan 1 gyda’r targedau ar gyfer rhagori, gwella neu gynnal o fewn Cynllun y Cyngor yn cael eu cyfeiriadaeth yn Rhan 2.

 

            Derbyniodd y Cynghorydd Richard Jones y fersiwn diwygiedig o'r modd strategol i adfywio a chefnogi canol trefi fel y rhannwyd, ond er hyn yr oedd yn pryderu os oes gan y Cyngor adnoddau digonol i wireddu’r uchelgais. Esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y bydd y dull datblygiadol i adfywio a chefnogi canol trefi yn cael ei gynnal mewn partneriaeth gyda Chynghorau Tref.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Jones pam fod y targed perfformiad ar gyfer tai fforddiadwy wedi eu diddymu.  Mewn ymateb i’r esboniad gan y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai’r targed wedi ei ddiddymu fel mesur perfformiad cenedlaethol, awgrymodd y Cynghorydd Jones y byddai’r targed yn parhau fel mesur lleol yn 2018/19. Cytunodd y Cynghorydd Patrick Heesom gyda'r awgrymiad hwn a chododd bryder yngl?n â datblygwyr yn darganfod bylchau yn y ddeddfwriaeth er mwyn cynnig digonedd o dai fforddiadwy.

 

            Cododd Cynghorydd Heesom bryder ynghylch diffyg darpariaeth ieuenctid ledled y Sir a bod mwyafrif helaeth o’r trigolion yn methu cael mynediad at y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac felly ddim am gael budd allan o'r gwasanaeth yn cynnwys annog mynediad i waith ac ati. Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) dros dro bod y sylwadau wedi cael eu nodi.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill i Thema Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Gwyrdd’ a dywedodd yn ystod y gweithdy Aelodau ei bod hi wedi awgrymu y dylai’r Cyngor gyd-weithio gyda mannau bwyd parod iddynt gyflwyno cynllun lle byddai nodi rhif cofrestru becynnu’r bwyd er mwyn lleihau lefelau sbwriel ar draws y Sir. Awgrymodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai'r syniad hwn yn cael ei ychwanegu i Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylcher er mwyn ystyried y dewisiadau sydd ar gael.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd McGuill bod boddhad gofalwyr yn parhau i gael ei fonitro.  

 

            Mewn ymateb i’r sylwadau ynghylch cofrestru ysgolion, esboniodd y Prif Swyddog dros dro Bolisi Cofrestru Ysgolion y Cyngor a’r broses apêl sy’n agored i rieni os nad oeddent yn llwyddiannus yn cael mynediad i’w hysgol dewis gyntaf.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a oes unrhyw wybodaeth ar leoliad i le gall teithwyr sy’n aros am gyfnod byr aros. Hefyd fe ofynnodd a fyddai’r cynllun Buddsoddiad Canol Tref yn cael ei rannu’n deg ar draws y Sir. Cadarnhaodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol nad oedd lleoliad wedi ei bennu i’r teithwyr sy’n aros dros dro eto.

 

            Awgrymodd Cynghorydd Paul Johnson y byddai’r Strategaeth Treftadaeth, sy’n cynnwys safleoedd pwysig megis Parc Treftadaeth Greenfield Valley; yn fwy perthnasol os caiff ei symud i Thema Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Uchelgeisiol’, yn  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Perfformiad 2017/18 pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        I nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017/18, ac aros am gynllun gweithredu gan y Cabinet gyda chynigion ar gyfer gwella perfformiad yn 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) dros dro'r trosolwg perfformiad y Cyngor  2017-18, gan ystyried y mesuryddion perfformiad a gafwyd eu cydnabod yn lleol, yn ogystal â’r mesuryddion a meincnodwyd yn genedlaethol, sef y Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus.

 

                        Ar y cyfan roedd y ddwy ddogfen yn bositif, gyda’r mwyafrif o'r mesuryddion yn dangos llwyddiant o gyrraedd targed a gwella yn gyson ar hyd y flwyddyn. Er hyn, roedd yn bwysig iawn i’r Cyngor gadw ffocws ac i barhau i gynnal lefel o graffu ar ardaloedd perfformio penodol yn ystod 2018/19.

 

                        Mae’r adroddiad yn darparu manylion ar fesuryddion perfformiad sydd wedi dangos bod gostyngiad mewn perfformiad, heb gyrraedd y targed o bell ffordd, neu yn genedlaethol yn y 2 chwartel meincnodi gwaethaf.  Byddai mesurau y cytunwyd arnynt yn y categorïau hyn yn cael eu monitro ar gyfer adolygiad ac arolygiaeth yn y dyfodol.

 

                        Soniodd y Cynghorydd Patrick Heesom am ei bryderon yngl?n â'r nifer o ddangosyddion Coch.  Gwnaeth sylw fod y cyrhaeddiad addysgol Cyfnod Allweddol 4 ddim digon uchel ac nad oedd perfformiad y disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn ddigonol.Dywedodd fod angen gwella’r ardaloedd hyn ar frys.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill sylw ar y mesuryddion perfformiad ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, mewn swydd neu hyfforddiant, a dywedodd eu bod angen eu nodi a’u holrhain yn gynt yn hytrach na dim ond eu cydnabod pan yn 16 mlwydd oed. Dywedodd y Prif Swyddog dros dro bod hyn yn flaenoriaeth ar gyfer y portffolio er mwyn datblygu, ac fe amlinellodd fod angen defnyddio cyn lleied o adnoddau er mwyn wynebu’r heriau mwyaf.

 

Mewn ymateb i bryderon am Aura Leisure, esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol bydd y Pwyllgor Trosolwg a Craffu Newidiadau Sefydliadol yn parhau i dderbyn adroddiadau cyson ar berfformiad Aura Leisure.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones os gellir darparu dogfen i Aelodau, a fyddai yn dangos y newidiadau rhwng Cynllun y Cyngor 2017/18 a Chynllun 2018/19, a fydd yn helpu Aelodau i adnabod y newidiadau yn rhwydd.  Cytunodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol i ddarparu'r wybodaeth hon yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.  Yn ogystal, adroddodd hi fod adolygiad o Gynllun y Cyngor 2018/19 i hysbysu Cynllun 2019/20 am ddechrau yn gynharach ym mis Hydref/Tachwedd 2018.    

 

Roedd aelodau yn galw am eglurhad am eiriad y dangosyddion perfformiad, cyfeiriad a sylwadau ar ddatblygiad perfformiad ar gyfer y canlynol:-

 

  • IP1.3.4.1.MO1 – Gostyngiad Blynyddol o filiau tanwydd domestig ar gyfer trigolion Sir y Fflint (£);
  • IP6.1.2.3.MO3 - Canran o Reolwyr yn cwblhau rhaglenni yngl?n â straen;
  • IP6.1.2.4.MO4 - Canran o weithwyr yn cwblhau rhaglenni yngl?n â straen;
  • IP1.6.4.2.M02 - Y nifer o ddigwyddiadau o gam-drin domestig a Thrais Rhywiol yn cael eu hadrodd;
  • IP1.6.4.3.MO3 – y nifer o ddigwyddiadau o gam-drin domestig yn cael eu hadrodd i Heddlu Gogledd Cymru.

 

            Darparodd y Prif Swyddog dros dro esboniad ar Reolwyr a gweithwyr yn cwblhau rhaglenni yn ymwneud â straen, gyda'r bwriad o sicrhau fod digon  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd un aelod o’r wasg yn bresennol.