Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

47.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

48.

RHAGOLWG ARIANNOL A CHAM DAU Y GYLLIDEB 2018/19 pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Rhoi (1) rhagolwg ariannol diweddaraf i’r Pwyllgor a (2) ymgynghori ar opsiynau ar gyfer Cam 2 cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ddarparu’r rhagolwg ariannol diweddaraf ac i ymgynghori ag Aelodau yngl?n â’r dewisiadau ar gyfer cam dau Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2018/19.

 

                        Manylodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y setliad dros dro a dderbyniwyd ar 10 Hydref 2017 ac fe roddwyd gwybod i’r Aelodau amdano ym mis Tachwedd 2017. Yn dilyn cyhoeddi’r setliad dros dro, cymeradwywyd dewisiadau cyllideb y cam cyntaf gan y Cyngor Sir ar 14 Tachwedd a lleihawyd y bwlch yn y gyllideb o £3.1m. Felly, roedd y bwlch a oedd yn weddill yn £10.5m, ac nid oedd hyn yn cynnwys y peryglon a phwysau yn ystod y flwyddyn.

 

                        Eglurodd y Prif Weithredwr fod dewisiadau cyllideb yr ail gam eisoes wedi’u cyhoeddi mewn gweithdy i Aelodau ar 21 Tachwedd, 2017 a bod y dewisiadau wedi cael eu rhannu i bedwar categori, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Roedd y Cyngor yn ystyriol o’r risgiau mewn perthynas â chyllidebau ysgolion ac felly roedd yn ystyried sut i liniaru’r risgiau hynny wrth symud ymlaen. Manylwyd hefyd yng nghategori 3 yr adroddiad, gofynion penodol Llywodraeth Cymru a gobeithiwyd y byddai cyfarfod â Llywodraeth Cymru wedi’i gynnal cyn diwedd y flwyddyn. 

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Ian Dunbar sylwadau ar yr Ardoll Brentisiaethau a mynegodd bryder nad oedd llawer o gwmnïau yn fodlon cyflogi prentisiaid yn dilyn cyflwyno’r Ardoll. Gofynnodd a oedd unrhyw adborth wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar gais y Cyngor i adennill 50% o’r gost. Esboniodd y Prif Weithredwr fod y cais i Lywodraeth Cymru yn benodol ar gyfer caniatáu’r Cyngor i barhau i dyfu’r cynllun prentisiaeth a chyflogi mwy o brentisiaid graddedig lle bo bwlch o ran angen wedi’i nodi.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â phrentisiaid graddedig, esboniodd y Prif Weithredwr y byddai cyflogi prentisiaid graddedig yn cynorthwyo â chynllunio ar gyfer olyniaeth ac fe wnaeth sylwadau ar sut oedd y cynllun eisoes wedi helpu prentisiaid i sicrhau gyrfaoedd llwyddiannus.  

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Healey ei fod yn gwerthfawrogi’r ffaith i’r Cyngor gael ei roi mewn sefyllfa ariannol anodd iawn ond cwestiynodd pam nad oedd dewisiadau cyllideb yr ail gam wedi’u cyflwyno i’w hystyried i bob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu gan mai dyna oedd y broses ar gyfer ystyried dewisiadau cyllideb y cam cyntaf yn flaenorol. Cynigodd y dylid cyflwyno adroddiad yn adolygu’r broses ar gyfer gosod y broses gyllideb flynyddol i’w ystyried gan Y Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau etholaeth yn y dyfodol. Eiliwyd y dewis hwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom. Ar y dewisiadau i gyllidebau ysgolion barhau yn ‘arian gwastad’, mynegodd y Cynghorydd Healey bryderon o ran yr angen i warchod ysgolion gymaint â phosibl a gwnaeth sylwadau ar gynllun busnes diweddar GwE, a oedd wedi categoreiddio ysgolion cynradd ac uwchradd yn ‘goch’ oherwydd effaith barhaus caledi. Roedd o’r farn y dylai dewisiadau mewn perthynas â chyllidebau ysgolion gael eu hystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid fel mater brys.

 

            Cytunodd y Prif Weithredwr fod perfformiad ysgolion yn  ...  view the full Cofnodion text for item 48.

49.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol a dim ond un aelod o’r wasg oedd yn bresennol.