Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

72.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

73.

Cofnodion pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 15 Chwefror 2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2018.

 

Materion yn codi:

 

Cofnod Rhif 66 – Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Cunningham at drafodaeth a gafwyd am archwiliad cydweithio Sir y Fflint a gofynnodd a oedd unrhyw gynnydd i’w adrodd. Dywedodd y Prif Weithredwr fod yn Cyngor yn trafod â Llywodraeth Cymru a byddai’r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor pan yn hysbys.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Arnold Woolley sylw ar y broblem o dyllau mewn ffyrdd a gofynnodd a oedd modd darparu gwybodaeth am gost yr atgyweiriadau yn Sir y Fflint. Gofynnodd a fyddai’r cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau priffyrdd lleol yn ddigonol i gwmpasu’r gost neu a fyddai ‘bwlch’ y byddai’n rhaid i’r Awdurdod ei gyllido. Cynghorodd y Prif Weithredwr fod peth o’r gwaith hwn yn cael ei ariannu gan y Cyngor fel rhan o gynnal a chadw rheolaidd, gydag ansawdd y ffyrdd ar ôl y gaeaf yn cael eu hasesu gan y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a’i dîm, a bod gwaith yn cael ei flaenoriaethu i fynd i’r afael â’r atgyweiriadau mwyaf brys. Cyfeiriodd hefyd at y cyllid ‘un tro’ o £1.472m a dderbyniodd yr Awdurdod gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau priffyrdd lleol.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y gwaith parhaus drwy CLlLC ac adroddodd bod Sir y Fflint, ynghyd ag awdurdodau, wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol yn dilyn difrod i ffyrdd ar ôl tywydd gaeafol. Dywedodd y byddai manylion am gais Sir y Fflint (am £200k neu fwy) yn cael eu dosbarthu maes o law.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Woolley at y cais gan y Cynghorydd Paul Johnson i ofyn a oedd modd ceisio unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i atgyweirio ffyrdd gwledig a oedd wedi’u difrodi gan draffig wedi’i ddargyfeirio o ganlyniad i waith ar yr A55. Eglurodd y Prif Weithredwr fod hwn yn rhan o drafodaethau parhaus yn ymwneud â Sir y Fflint yn cydweithio â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, ac y byddai’r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl maes o law.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Woolley at y cynnig gan y Cynghorydd Richard Jones i’r Pwyllgor dderbyn adroddiad yn amlinellu effeithiau’r gwariant cyfalaf (cynlluniau newydd i’w cymeradwyo) a gofynnodd pryd fyddai hyn ar gael i’r Pwyllgor. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai ar gael yn y cyfarfod ym mis Ebrill.

 

Mynegodd y Cynghorydd Hilary McGuill bryder o ran yr angen i ail wneud atgyweiriadau ar arwynebau ffyrdd gan fod yr un tyllau yn ail ymddangos.Cwestiynodd a oedd hyn oherwydd y deunyddiau a ddefnyddiwyd neu a oedd y gwaith a wnaed o safon annigonol. Gwnaeth yr Aelodau sylw ar y gwaith atgyweirio a wnaed gan gontractwyr ar ran cwmnïau cyfleustodau gan ofyn a oedd y gwaith wedi’i archwilio ar ôl ei gwblhau. Cydnabu'r Prif Weithredwr y pwyntiau a wnaethpwyd a dywedodd fod hwn yn fater i’w ystyried ymhellach gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd.

 

Ail-bwysleisiodd y Cynghorydd Richard Jones y pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd McGuill a dywedodd y dylai atgyweiriadau  ...  view the full Cofnodion text for item 73.

74.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 pdf icon PDF 118 KB

Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 y Cyngor 2017/18.Darparodd wybodaeth gefndirol a chynghorodd bod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gydag 81% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad, a 69% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Roedd y dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gydag 84% yn cyfarfod neu bron a chyfarfod targed y cyfnod.Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (67%) neu’n fân risgiau (10%).

 

            Adroddodd y Prif Weithredwr ar y dangosydd perfformiad a oedd yn dangos statws coch ar gyfer y perfformiad presennol yn erbyn targed a'r risgiau mawr i'r Pwyllgor fel y manylir yn yr adroddiad.

Blaenoriaeth:Cyngor sy’n Gwasanaethu – graddfa’r her ariannol

 

Blaenoriaeth:Cyngor Cefnogol – argaeledd cyllid digonol i ddarparu blaenoriaethau allweddol.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor y byddai, fel Pwyllgor Trosolwg a Chraffu arweiniol ar gyfer monitro perfformiad, yn derbyn pob arolwg chwarterol yn y dyfodol, yn hytrach na dim ond y rheiny’n ymwneud â materion o fewn cylch gwaith y pwyllgor.

 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai gweithdy ‘Deall Adroddiadau Perfformiad' yn cael ei gynnal i’r holl Aelodau ar ddiwedd mis Mehefin / ar ddechrau mis Gorffennaf, i gysylltu ag adroddiad alldro Cynllun y Cyngor i’r Cyngor ar 19 Mehefin.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Arnold Wooley a fyddai modd i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys meysydd o danberfformiad hefyd a dywedodd y byddai hyn wedi cynorthwyo â deall y ffigyrau a gyflwynwyd ym mharagraff 1.04 yr adroddiad. Cyfeiriodd hefyd at y ffigyrau a gyflwynwyd ym mharagraff 1.06 yr adroddiad, yn ymwneud â dadansoddiad y perfformiad presennol, a dywedodd nad oedd y ffigyrau hyn yn cysoni â’r ffigyrau ym mharagraff 1.04. Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad a dywedodd y byddai’n darparu mwy o wybodaeth i aelodau ar y dadansoddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 y Cyngor 2017/18; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor, fel pwyllgor arweiniol ar gyfer materion perfformiad, yn ail gadarnhau ei gais i dderbyn holl wybodaeth chwarterol Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 ac wedi hynny.

 

75.

Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 10) pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis  10) i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad i ddarparu adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 10). Dywedodd bod yr adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ar 23 Ionawr 2018 ac ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid bod yr adroddiad misol yn darparu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym mis 10 y flwyddyn ariannol ac yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid ar ragamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai fel y manylwyd yn yr adroddiad. Adroddodd hefyd ar y prif ystyriaethau o ran y sefyllfa ym Mis 10 a chyfeiriodd at sefyllfa gyffredinol Cronfa’r Cyngor, y rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn, olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn, cynnal a chadw yn y gaeaf, chwyddiant, arian wrth gefn a balansau. Dywedodd y Rheolwr Cyllid, o ran Cronfa'r Cyngor, fod balans y gronfa hapddigwyddiad ar 31 Mawrth 2018 yn £8.119m er y gostyngodd hyn i £5.714m wrth ystyried y cyfraniadau a gytunwyd ar gyfer cyllideb 2018/19. Dywedodd fod y balans cloi a ragamcanir ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai ar 31 Mawrth 2018 yn £1.081m.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n ag arbedion effeithlonrwydd i’w cyflawni yn 2017/18, darparodd y Prif Weithredwr ddiweddariad o ran y sefyllfa bresennol. Rhoddodd sylw hefyd i ddau achos o bwysau annisgwyl ar y gyllideb yn 2017/18 a 2018/19:- y pwysau ar y gyllideb cynnal a chadw yn y gaeaf, a Llywodraeth Cymru’n tynnu’r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig o oddeutu £175K yn ei ôl (o 2018/19) a oedd yn cefnogi Saesneg fel Ail Iaith ac anghenion dysgu teithwyr.

 

Mewn perthynas â’r mater o gynnal a chadw’r gaeaf, gofynnodd y Cadeirydd a oedd modd i’r Awdurdod adennill y costau graenu priffyrdd. Eglurodd Swyddogion bod y gost o raenu’r A55 yn adenilladwy.

 

Wrth wneud sylw ar reoli risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg, awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones y dylid lobïo Llywodraeth Cymru i ddarparu ffynhonnell ganolog o gyllid yn hytrach na phob awdurdod lleol yn gorfod ymdopi ar eu pen eu hunain. Diolchodd i bawb am eu hymdrechion yn ystod y broses o osod y gyllideb a arweiniodd at ryddhau mwy o arian i gefnogi ysgolion.

 

Ail-bwysleisiodd y Cynghorydd Jones ei wrthwynebiad i’r newid ym mholisi cyfrifo i Isafswm Darpariaeth Refeniw. Sicrhaodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor fod penderfyniad y Cyngor yngl?n ag Isafswm Darpariaeth Refeniw wedi’i wneud yn seiliedig ar y cyngor a gafwyd.

 

Wrth gyfeirio at yr ail argymhelliad ar dudalen 42 yr adroddiad, ceisiodd y Cynghorydd Woolley sicrwydd bod gan yr Awdurdod drosolwg da i sicrhau bod unrhyw broblem ariannol yn cael ei chanfod cyn gynted â phosibl mewn perthynas â gweithrediad dulliau darparu gwasanaeth gwahanol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod Aura a NEWydd yn cwblhau  ...  view the full Cofnodion text for item 75.

76.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried.Cynghorodd bod yr eitemau ychwanegol canlynol yn cael eu cyflwyno i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 19 Ebrill 2018.

 

  • adroddiad rhagolwg ariannol (a gyflwynir hefyd i’r Cabinet)

 

  • adroddiad ar effeithiau gwariant cyfalaf (cynlluniau newydd i’w cymeradwyo)

 

Cytunwyd cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i cyflwynwyd, gyda’r diwygiadau a restrwyd uchod.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo gyda’r diwygiadau a restrwyd uchod; a

 

 (b)      Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, gan ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.

 

 

77.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.