Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

38.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

39.

Cofnodion pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) ar 19 Hydref 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2017.

 

Fel pwynt cywirdeb ar gofnod rhif 30, Rhagolwg Ariannol a Cham Un Cyllideb 2018/19, nodwyd y bu gostyngiad o 0.9% o ran cyllid ar gyfer y Cyngor yn y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro.

 

Cytunodd y Prif Weithredwr i siarad â’r Cynghorydd Jones y tu allan i’r cyfarfod am achos penodol o feddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn, yn dilyn trafodaeth am y pwnc hwn yng nghyfarfod mis Medi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad, dylid cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

40.

AMRYWIAD O RAN TREFN Y RHAGLEN

Cofnodion:

Cytunwyd dylid dod â’r eitem a ganlyn ymlaen i alluogi’r Dirprwy Brif Swyddog Tân i gyflwyno Diweddariad Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

41.

Adolygiad o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a datblygiad y Cynllun Lles pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        Darparu adolygiad o waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a datblygiad y Cynllun Lles.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr drosolwg o waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a datblygiad y Cynllun Lles.

 

 Dosbarthodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol wybodaeth am bum thema’r Cynllun Lles a ddewiswyd fel rhai lle gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ychwanegu’r mwyaf o werth.  Roedd ymgynghoriad helaeth ar y Cynllun amlinellol i fod i ddechrau cyn hir gan arwain at fabwysiadu’r fersiwn derfynol gan y Cyngor yn y Flwyddyn Newydd.

 

Mynegodd Cynghorydd Jones bryderon fod dolen gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn cyfeirio at feysydd penodol o'r sir a allai awgrymu na fyddai ardaloedd eraill yn manteisio ar y Cynllun.  Cafwyd sicrwydd gan y Prif Weithredwr fod y themâu yn cefnogi’r Sir gyfan a nododd Un Pwynt Mynediad dan ‘Lles a Byw’n Annibynnol’ fel enghraifft.   Cytunodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol i godi’r mater yng nghyfarfod Compact Sector Gwirfoddol a oedd i ddod, i sicrhau nad oedd nodau’r Cynllun yn cael eu cam-gynrychioli ar wefan BIPBC.

 

Gan ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Johnson, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yn bosibl gwerthuso effaith Brexit eto a materion eraill a oedd y tu allan i reolaeth y Cyngor.  Byddai camau gweithredu dan bob thema yn cael eu holrhain yn erbyn targedau penodol a osodwyd.  Atgoffodd Aelodau am y gweithdy a oedd i ddod ar Fargen Twf Economaidd Gogledd Cymru a dywedodd y byddai’r dull rhanbarthol yn cryfhau sefyllfa’r Cyngor ar fynediad cyllid a phwerau yn y dyfodol.  Roedd cyfeirio at Holway ar beilota ffyrdd newydd o weithio mewn cymunedau dan ‘Cymunedau Gwydn’ yn adlewyrchu Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn yr ardal.  Cytunodd Swyddogion i newid hwn i Holywell (Treffynnon) er cysonder gyda’r trefi eraill a nodwyd.

 

Soniodd Cynghorydd Woolley am y cymysgedd o gyfeiriadau at ‘flaenoriaethau’ a ‘themâu’ a allai ddrysu darllenwyr.  Eglurwyd bod blaenoriaethau’n berthnasol i’r hen Fwrdd Gwasanaethau Lleol a bod camau wedi’u cymryd i symleiddio iaith dan bum thema’r Cynllun newydd.

 

Amlygodd Cynghorydd Heesom bwysigrwydd sicrhau bod adnoddau’n cael eu dosbarthu’n deg ar draws y sir a gofynnwyd bod ymateb i’r pwynt a godwyd gan y Cynghorydd Jones yn cael ei rannu.  Gofynnodd hefyd bod y rhaglen ar gyfer y cyfarfod Compact yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor.  Gan ymateb i sylwadau am gyfraniadau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gorff gwneud penderfyniadau ffurfiol a dangosodd y cysylltiad rhwng y Cynllun Lles a Chynllun y Cyngor.  Darparodd hefyd fanylion am aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a oedd wedi’i estyn tu hwnt i’r partneriaid statudol.

 

Yn ystod trafodaeth am argymhellion yr adroddiad, gofynnwyd i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd grynhoi’r sylwadau a’r pwyntiau a godwyd.  Cefnogwyd rhain gan y Pwyllgor fel penderfyniadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod gan y Pwyllgor hyder bod camau ar waith i fod â chynllun yn barod erbyn y dyddiad cau statudol, yn amodol ar:

 

  • Newid ‘Holywell’ am y cyfeiriad at ‘Holway’;
  • Bod cyfeiriadau ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn cael eu herio yng nghyfarfod Compact dydd Llun i roi sicrwydd i Aelodau fod  ...  view the full Cofnodion text for item 41.

42.

Diweddariad Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Pwrpas:        I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru.

Cofnodion:

Croesawodd Prif Weithredwr y Cynghorwyr Meirick Lloyd Davies a Peter Lewis (Cadeirydd ac Is-Gadeirydd) a Dawn Docx (Dirprwy Brif Swyddog Tân) o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân gyflwyniad ar ddyfodol y gwasanaeth Tân ac Achub i gwmpasu’r pynciau a ganlyn:

 

·         Diogelwch Cymunedol

·         Galwadau Gwasanaeth Arbennig

·         Ymateb a Diogelwch Tân Busnes

·         Faint mae'n gostio i’w redeg?

·         Cyllideb Cyfalaf

·         Cronfeydd wrth gefn 2017/18

·         Pwysau ar y Gyllideb

·         Strategaeth Gadarn

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cyflwyniad yn adlewyrchu pwysau’r gyllideb a oedd yn cysoni gyda rhai’r Cyngor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Cunningham am y posibilrwydd o gyflwyno taliadau i ddarparu buddsoddiad mawr ei angen mewn gwasanaethau.  Eglurodd Dirprwy Brif Swyddog Tân nad oedd taliadau am wasanaethau arbennig damweiniol yn cynhyrchu incwm sylweddol a bod anawsterau o ran codi tâl am ddarparu cyngor diogelwch oherwydd gwrthdaro buddiannau.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Jones, eglurwyd, oherwydd sefyllfa ariannol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, fod penderfyniadau wedi’u gwneud i leihau neu atal gwasanaethau penodol – fel achub anifeiliaid mawr – nad oeddent yn orfodol, gan ystyried y lefelau risg sy'n rhan o hyn.

 

 Yn ystod y drafodaeth, eglurwyd fod pwysau’r gyllideb a wynebir gan yr Awdurdod wedi dod i sefyllfa lle roedd angen trafodaeth gytbwys i nodi effeithlonrwydd pellach.  Yr opsiynau i’w hystyried oedd gofyn am ardoll uwch gan gynghorau neu leihau darpariaeth o ran gweithwyr gorsafoedd y rhanbarth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones, pe bai preswylwyr yn ymwybodol o’r rhagolwg o doriadau pellach, mae’n bosibl y byddant yn barod i dalu £3 ychwanegol bob blwyddyn fesul aelwyd i ddiogelu gwasanaethau.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei dalu o Dreth y Cyngor ac y byddai unrhyw gynnydd o ran yr ardoll yn bwysau o ran cost ar y Cyngor.  Dywedodd fod cynnydd pellach a argymhellwyd i Dreth y Cyngor 2017/18 i ddarparu ar gyfer yr ardoll uwch gan yr Awdurdod wedi’i ddiystyru gan Aelodau, gan arwain at bwysau ar y gyllideb ar gyfer y Cyngor.  Roedd y Cynghorydd Jones yn teimlo y gallai preswylwyr gefnogi’r ardoll ychwanegol pe bai wedi’i glustnodi o fewn swm Treth y Cyngor.

 

Awgrymodd y Cadeirydd, gan nad oedd deddfwriaeth yn caniatáu hyn, gallai nodyn gael ei gynnwys ar filiau Treth y Cyngor i ddangos yr ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, efallai byddai Aelodau am wneud argymhelliad i roi ystyriaeth creadigol i’r wybodaeth a gynhyrchir i roi gyda’r bil Treth y Cyngor.  Awgrymodd argymhelliad pellach ar gyfer y Cabinet a’r Cyngor i roi ystyriaeth ddyledus i unrhyw gynnydd a awgrymir o ran y tâl ardoll.  Gofynnodd y Cynghorydd Peter Lewis, Is-Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, fod y Cyngor yn rhoi pwyslais cynnar ar ei ymateb.

 

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion, a hefyd yr awgrym i roi sylwadau am newidiadau i ddeddfwriaeth a chynnig y Cynghorydd Woolley fod yr adroddiad yn cael ei nodi am ei eglurder a’i grynoder.

 

Gan mai hwn oedd ei chyfarfod  ...  view the full Cofnodion text for item 42.

Item 4 - Presentation pdf icon PDF 1 MB

Item 5 - Presentation pdf icon PDF 988 KB

43.

Cynllun y Cyngor 2017/18 - Monitro canol blwyddyn pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Weithredwr yr adroddiad cynnydd canol blwyddyn ar Gynllun y Cyngor 2017-23 a oedd wedi’i adolygu a’i adfywio i adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Cyngor ar gyfer tymor pum mlynedd y weinyddiaeth newydd.

 

Rhoddodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol drosolwg o’r tri dangosydd perfformiad gyda statws risg coch.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y ffigur ar gyfer cwblhau arfarniadau yn un dros dro a disgwyliwyd iddo wella pan fyddai addasiadau wedi’u gwneud i system iTrent.  Byddai diweddariad llawn yn cael ei ddarparu yn yr adroddiad blynyddol a drefnwyd ar gyfer mis Rhagfyr neu fis Ionawr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Woolley fod cwblhau arfarniadau yn faes pryder hirsefydlog a dylai rheolwyr/goruchwylwyr gael eu dal i gyfrif am fethu â rhoi cyfle i’w gweithwyr gael deialog ddwyffordd ystyrlon.  Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd am yr ymrwymiad i weithio tuag at y targed o 100% gan nodi bod rhai eithriadau fel unigolion mewn perygl o golli swydd neu ar absenoldeb mamolaeth.  Dywedodd fod arfarniadau yn seiliedig ar fodel da a bod rheolwyr yn cael eu hannog i hyfforddi gweithwyr drwy gydol y flwyddyn, gan leihau pa mor arwyddocaol fyddai arfarniad blynyddol.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd, dywedodd y  Prif Weithredwr y byddai eithriadau ar gyfer arfarniadau yn cael eu dangos yn yr adroddiad blynyddol fel canrannau a ffigurau.

 

 O ran canran y nwyddau a gafaelwyd drwy’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod amrywiaeth o fframweithiau’n cael eu hasesu i sefydlu gwerth am arian a byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol mewn nifer isel o gontractau yn unig.

 

Roedd canran y gweithwyr a oedd yn cwblhau rhaglenni sy’n ymwneud â straen yn is nag a ragwelwyd ond roedd disgwyl iddo wella drwy’r flwyddyn.  Dim ond yn ddiweddar y cafodd y rhaglen ei chyflwyno ac er bod cyfraddau salwch yn gwella, roedd absenoldeb oherwydd straen yn dal i fod yn faes canolbwynt.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones, fel rhan o rôl y Pwyllgor o ran goruchwylio Cynllun y Cyngor yn ei gyfanrwydd, dylai gael eithriadau a adroddir i’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar y camau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn.  Rhoddodd sylwadau hefyd ar eiriad ar goll yn yr adroddiad a chyfeiriad at yr hen Gynllun Gwella.

 

Cynigiodd Cynghorydd Johnson fod swyddogion yn edrych ar y dull a gymerwyd gan y Ganolfan Strategaeth Economaidd Leol yn Preston a oedd wedi bod yn llwyddiannus o ran cefnogi busnesau bach i helpu i wella’r economi leol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod nodi darpariaeth leol yn rhan allweddol o drefniadau contract a bod amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i helpu busnesau lleol i gynyddu cyfleoedd tendro.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod ymdrechion i roi hwb i fusnesau lleol wedi’u rhwystro gan gyflwyno taliadau parcio, tâl cofrestru ar gyfer rhwydwaith cyflenwyr y Cyngor a chostau uchel casglu gwastraff busnes gan gwmnïau preifat.

 

O ran y system rhwydwaith cyflenwyr, soniodd y Prif Swyddog am fanteision symleiddio prosesau a’r amrywiaeth o eithriadau sydd ar gael i sicrhau nad oedd busnesau bach  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 6) a Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 6) pdf icon PDF 70 KB

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).  Darparu gwybodaeth diwedd Mis 6 rhaglen gyfalaf 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 fel yr oedd ar Fis 6 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn cael ystyriaeth gan y Cabinet.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, rhagwelwyd y byddai sefyllfa net yn ystod y flwyddyn yn £1.147m uwch na’r gyllideb, a oedd yn gynnydd o £0.201m o Fis 5. O ran amrywiadau a ragwelwyd ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd symudiad cadarnhaol oherwydd cynnydd o ran cyfraniadau cleientiaid ar gyfer lleoliadau preswyl a chynnydd o ran cyllid Gofal Iechyd Parhaus.  Roedd cynnydd o ran costau ar gyfer lleoliadau y Tu Allan i’r Sir wedi codi yn bennaf oherwydd dau achos penodol.  Amcangyfrifwyd y byddai 93% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd wedi’u sicrhau erbyn diwedd y flwyddyn, a oedd ychydig yn is na tharged y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  O ran monitro risg, byddai angen asesu rhai o’r risgiau a oedd yn dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn ar gyfer effaith gylchol ar gyllideb 2018/19.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelwyd mai gwariant yn ystod y flwyddyn oedd £0.035m yn is na’r gyllideb, gan adael balans diwedd blwyddyn o £1.081m a oedd yn uwch na’r lefel isaf a argymhellwyd.

 

Gan ymateb i’r ymholiadau a godwyd gan y Cynghorydd Jones, cynghorodd swyddogion fod cau’r toiled cyhoeddus yn yr Wyddgrug wedi’i drafod gan y cyngor tref ac ni fyddai’r gost yn parhau y tu hwnt i eleni.  O ran cyllidebau dirprwyedig ysgolion, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd amrywiadau oherwydd bod y rhain yn symiau sefydlog a drosglwyddwyd i ysgolion drwy’r fformiwla.  Nododd y cais am ragor o eglurder ar danwariant a gorwariant yn yr eglurhad am amrywiadau a ragwelwyd, a dywedodd fod dadansoddiad ar symudiad wedi’i nodi yn yr atodiadau.  Ychwanegodd y dylai unrhyw ymholiadau penodol ar y ffigurau hyn gael eu cyfeirio i swyddogion edrych arnynt.  Rhoddwyd eglurhad am amrywiadau ar gyfer cyfran y Cyngor o gyllid gofal cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru a’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.  Cyfeiriwyd at y tanwariant a ragwelwyd ar gyfer Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor ac roedd hyn oherwydd llai o alw gan gleientiaid.  Cytunwyd y byddai hyn yn destun trafodaeth bellach gan gynnwys y gweithdy Aelodau a oedd i ddod.

 

O ran fformat yr adroddiad, gofynnodd y Cynghorydd Jones fod swyddogion yn edrych ar a ellid dangos bod lleoliad atodiadau’n gyson yn yr adroddiadau.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd tabl yn dangos newidiadau i’r rhaglen yn ystod 2017/18 yn dangos cyllideb ddiwygiedig o £58.674m.  Cafwyd crynodeb o newidiadau yn ystod y cyfnod, y mwyaf sylweddol oedd dechrau’r rhaglen goleuadau stryd a ariannwyd drwy fenthyciad Salix di-log.  Cafwyd crynodeb o gyfanswm o £0.497m a argymhellwyd i’w gario drosodd i 2018/19 yn Nhabl 4.

 

Roedd Paragraff 1.20 yn adrodd sefyllfa gyffredinol o ran argaeledd cyllid gan gynnwys lefel y derbyniadau cyfalaf ac effaith y Setliad Dros Dro.  Gan roi ystyriaeth i bob maes, roedd diffyg o £0.567m o ran y rhaglen gyfan, er bod cyllideb 2017/18 wedi’i hariannu’n llawn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  ...  view the full Cofnodion text for item 44.

45.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i gael ei hystyried a chadarnhaodd y byddai’r adroddiad arfarniadau yn cael ei amserlennu ar gyfer mis Rhagfyr neu fis Ionawr.  Yn ôl cais y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, gofynnwyd am farn Aelodau am eu patrwm cyfarfod a ffefrir ar gyfer y Pwyllgor hwn.

 

Mynegodd Cynghorydd Cunningham ddewis i’r cyfarfodydd barhau ar fore Iau, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Johnson.  Ar ôl pleidlais, cytunwyd ar yr opsiwn hwn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Michelle Perfect i gefnogi cyfarfodydd yn dechrau am 5.30pm neu 6pm i ganiatáu i Aelodau sy’n gweithio llawn amser i gael cyfle i fynychu.  Er na chafodd hyn ei gymeradwyo gan Aelodau eraill, cytunwyd y dylid adlewyrchu barn unigol yn yr ymateb i’r ymgynghoriad.

 

Roedd y Cadeirydd yn cefnogi parhad trefniadau presennol ond tynnodd sylw at fanteision amser dechrau cynharach o ran argaeledd mannau parcio ceir.

 

Atgoffwyd am weithdy’r gyllideb a oedd i ddod a chyfarfod dilynol y Cyngor ar 12 Rhagfyr.  Dywedodd y Cynghorydd Jones nad oedd ar gael ar gyfer y cyfarfod arbennig ar 6 Rhagfyr i ystyried cynigion y gyllideb Cam 2 a dywedodd y gallai slot gyda’r nos fod wedi darparu ar gyfer rhagor o Aelodau.  Cyflwynwyd ymddiheuriad ar gyfer y cyfarfod gan y Cynghorydd Woolley hefyd.  Cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at gyfarfodydd eraill a fynychwyd gan Aelodau a gynhaliwyd gyda’r nos yn gyffredinol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel a gyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo gyda diwygiadau;

 

(b)       Bod y cyfarfod arbennig ar 6 Rhagfyr 2017 yn cael ei nodi;

 

(c)       Bod adroddiad diweddaru ar arfarniadau yn cael ei wneud i gyfarfodydd mis Rhagfyr neu fis Ionawr;

 

(d)       Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, gan ymgynghori â’r Cadeirydd, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, pe bai angen; a

 

(e)       Byddai’n well gan y Pwyllgor barhau i gyfarfod am 10am ar ddydd Iau, ond bod sylwadau’r Cynghorydd Michelle Perfect am gyfarfodydd gyda’r nos yn fwy addas i ddarparu ar gyfer Aelodau sy’n gweithio llawn amser yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

46.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.