Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

27.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:   I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

28.

Cofnodion pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:   I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21 Medi 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2017.

 

Soniodd y Cynghorydd Arnold Woolley y dylai agendâu fod ar gael cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn caniatáu i Aelodau gyfrannu’n llawn at y cyfarfod.  Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd nad oedd wedi bod yn bosibl anfon agendâu drwy’r post o fewn y terfyn amser ar yr achlysur hwn, ond bod yr agenda wedi’i gyhoeddi ar-lein o fewn y terfyn amser statudol a oedd yn rhoi tri diwrnod gwaith clir o rybudd.

 

Ar gofnod rhif 21, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod ei bryderon wedi cael eu hadlewyrchu yn y cofnodion ond nad oedd ei ddatrysiad ychwanegol wedi cael ei gynnwys.  Dywedodd fod ei gynnig ‘i sicrhau fod cefnogaeth i seilwaith pob un o drefi Sir y Fflint yn deg’ wedi cael cefnogaeth unfrydol gan y Pwyllgor.  Dywedodd nad oedd hyn yn cael ei grybwyll chwaith yn yr adroddiad dilynol i’r Cabinet a oedd yn gwneud iddo feddwl tybed a oedd ei sylwadau wedi cael eu hystyried gan y Cabinet.

 

Er bod y Cynghorydd Aaron Shotton yn cytuno â buddsoddiad teg ar draws pob ardal, nid oedd hyn yn ymarferol gan fod amodau ynghlwm wrth gyllid grant a dim ond ardaloedd penodol sy’n gallu cyflawni’r amodau hyn, er enghraifft cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.  Roedd yn cofio bod y Pwyllgor wedi derbyn ei esboniad yn y cyfarfod.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod esboniad wedi’i adlewyrchu yn y cofnodion ac na allai’r Cynllun gynnwys ymrwymiadau nad ydynt yn hyfyw.  Cadarnhaodd fod pryderon y Cynghorydd Jones wedi cael eu hadrodd ar lafar i’r Cabinet a’r Cyngor Sir a bod cywirdeb y cofnodion yn fater i'r Pwyllgor ei bennu.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Heesom, cadarnhawyd y byddai'r sesiwn briffio Aelodau yngl?n â Bargen Twf Gogledd Cymru yn cael ei gynnal cyn y Nadolig.  Dywedodd y Cynghorydd Shotton y byddai’r cyfarfod briffio yn helpu i esbonio’r natur strategol a’r manteision economaidd i Sir y Fflint gyfan.

 

Esboniodd y Cynghorydd Jones mai nod ei ddatrysiad ychwanegol oedd cynnal dadl a herio'r mater, ac i ystyried cyfleoedd ar gyfer ffynonellau ariannu eraill a allai fod ar gael, er mwyn bod o fudd i ardaloedd nad ydynt yn cyflawni'r meini prawf ar gyfer cymorth grant.

 

Cynigodd y Cynghorydd Woolley fod y cofnodion yn cael eu newid i adlewyrchu datrysiad ychwanegol y Cynghorydd Jones, ac eiliwyd hynny’n briodol.  O'i roi i’r bleidlais, collwyd y gwelliant.

 

Ar gofnodion rhifau 21 a 22, tynnodd y Cynghorydd Woolley sylw at nifer o wallau teipograffyddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau gan y Cynghorydd Woolley, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

29.

Adroddiad Blynyddol Cynllunio Rhag Argyfwng pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas: Darparu adolygiad o waith y Gwasanaethau Cynllunio Rhag Argyfwng.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar drefniadau cynllunio at argyfwng rhanbarthol a gwahoddodd y Rheolwr Rhanbarthol i roi cyflwyniad yngl?n â’r meysydd canlynol:

 

·         Cefndir

·         Trosolwg o’r gwasanaeth

·         Gweithgareddau rhanbarthol

·         Trosolwg o Sir y Fflint

·         Gweithgareddau diweddar yn Sir y Fflint

·         Gweithgarwch yn y dyfodol

 

Roedd y gwasanaeth rhanbarthol cwbl integredig a gynhelir gan Sir y Fflint ac roedd yn gysylltiedig â’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a oedd yn cynnwys ymatebwyr Categori 1 a 2, a gynhelir gan Heddlu Gogledd Cymru.  Roedd y model cost effeithlon a chryf a weithredir gan y gwasanaeth yn unigryw yng Nghymru ac roedd yn cael ei weld fel arfer da gan ardaloedd eraill.  Cafwyd diweddariad ar weithgareddau rhanbarthol i gryfhau trefniadau, ynghyd â chynnydd ar drefniadau mewnol y Cyngor gan gynnwys golwg cyffredinol o'r Tîm Ymateb Rheoli Argyfwng.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Patrick Heesom, esboniodd y Rheolwr Rhanbarthol fod gwaith yn cael ei arwain gan risg a chytunodd siarad â’r Cynghorydd Heesom ar wahân yngl?n â threfniadau arian at raid i safle masnachol dosbarthol ym Mostyn.  Siaradodd hefyd am y cyfle i gynnig gwasanaethau cadernid masnachol i fusnesau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at fethiant y system ffonau i ymdopi â’r galw yn ystod tywydd garw diweddar a holodd yngl?n â chamau ataliol.  Rhannodd y Prif Weithredwr bryderon am y nam dros dro hwn a sicrhaodd fod camau dilynol yn cael eu cymryd.  Dywedodd fod cynlluniau parhad busnes yn cael eu profi ac y byddai’n darparu mwy o wybodaeth ar ddyddiad diweddarach.

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhanbarthol a’r Prif Weithredwr eglurhad i’r Cynghorydd Haydn Bateman yngl?n â gweithdrefnau profi larymau a threfniadau cyfathrebu mewn cysylltiad â ffatri Synthite gerllaw.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Paul Cunningham a Paul Johnson, rhoddwyd esboniad am y gweithdrefnau a threfniadau profi gyda Network Rail fel ymatebwr Categori 2.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y diweddariad yn darparu sicrwydd i’r Pwyllgor; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau yn y dyfodol ar barodrwydd y Cyngor i gynllunio at argyfyngau ac adroddiadau dilynol penodol i unrhyw ddigwyddiadau brys mawr lleol neu ranbarthol y mae gofyn i’r Cyngor ymateb iddynt.

Item 4 - Emergency Planning presentation pdf icon PDF 490 KB

30.

Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19 pdf icon PDF 146 KB

Pwrpas:  Darparu'r rhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad yn gosod allan y sefyllfa rhagolwg ariannol presennol ar gyfer 2018/19 er mwyn ceisio barn ar Gam 1 cynigion cyllideb refeniw Cronfa’r Cyngor.  Roedd opsiynau cyllideb ar gyfer pob portffolio gwasanaeth wedi cael eu hystyried  gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol, gan nodi fod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru (LlC) o setliad llywodraeth leol dros dro yn newidyn allweddol yn y rhagolwg ariannol.

 

Rhannwyd nodyn briffio gan swyddogion ynghylch canlyniad y cyhoeddiad setliad, ynghyd â gwybodaeth a ddosbarthwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Roedd trafodaethau yn ystod y broses gyllidebu wedi cynhyrchu pryderon eang yngl?n ag effaith gostyngiadau pellach ar gadernid gwasanaethau, fel y dangoswyd gan lefelau asesiadau risg.  Nid oedd unrhyw wrthwynebiad wedi codi i opsiynau arbedion yn y gyllideb a oedd yn gyfanswm o ryw £3m, ac eithrio arbedion o £35,000 ar gyfer y Gwasanaeth Cerddoriaeth ar gyfer model gwasanaeth newydd sydd yn dal i gael ei ddatblygu.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) grynodeb o’r arbedion a gyflawnwyd yn ei bortffolio, gan nodi fod rhai elfennau o’r gyllideb y tu allan i reolaeth y Cyngor.  Roedd mwyafrif helaeth yr arbedion a gynlluniwyd eisoes wedi cael eu cyflawni a oedd yn golygu y byddai arbedion pellach yn beryglus i lefelau gweithredu.  Mae’r wybodaeth feincnodi yn dangos fod gwasanaethau yn gweithredu ar yr un lefel costau cyfartalog neu ar lefel costau cyfartalog is nag awdurdodau cyffelyb.

 

Dywedodd yr Uwch-Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod arbedion yn ei phortffolio hi wedi digwydd yn bennaf o ganlyniad i ailstrwythuro mawr a adawodd y gwasanaeth yn gweithredu ar lefel optimaidd.  Roedd perygl y byddai arbedion pellach yn effeithio ar allu’r gwasanaeth i ateb galw mawr y gweithlu eang.

 

Ar ôl cyflawni mwyafrif yr arbedion a gynlluniwyd drwy newidiadau strwythurol a meddalwedd newydd, dywedodd y Rheolwr Cyllid, Cyfrifo a Systemau Corfforaethol fod gwaith yn parhau i gyflawni'r £200,000 sy'n weddill.  Roedd pwysau mawr ar y gwasanaeth, yn arbennig yng ngoleuni sefyllfa ariannol newidiol y Cyngor.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid, Gwasanaethau Cymunedol drosolwg o arbedion a ddarparwyd yn y Gwasanaethau Cwsmeriaid, Refeniw a Budd-daliadau a Hawliau Lles, a gynhyrchwyd yn bennaf drwy wasanaeth Sir y Fflint yn Cysylltu.  Siaradodd am ddatblygiad gwasanaethau digidol ar gyfer rhoi mynediad i gwsmeriaid a gwella’r Gwasanaeth Cofrestru a oedd yn perfformio’n dda yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol cenedlaethol.

 

Roedd swyddogion yn cynnal dadansoddiad manwl o ganlyniad y setliad ac yn aros am wybodaeth am grantiau penodol.  Yn dilyn y rhagolwg dechreuol sef bwlch rhagamcanol o £11.7m, byddai'r gostyngiad o 0.9% mewn cyllid yn creu cynnydd o £1.9m yn y bwlch yn y gyllideb a byddai cyfrifoldebau newydd dros ddyletswyddau digartrefedd yn bwysau ychwanegol.  Rhagamcanwyd hefyd y byddai pwysau ychwanegol ar ardrethi annomestig cenedlaethol yn debygol o gael effaith net o £64,000.  Ar grynodeb o chwyddiant, roedd y cynnydd rhagamcanol mewn costau nwy yn cael ei adolygu, yn dilyn her.  Yr unig arbedion newydd i’r Gwasanaethau Corfforaethol oedd £0.010m mewn Rheoli Cofnodion.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a oedd y budd i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

Variation in order of business

Cofnodion:

Cytunwyd ystyried yr adroddiad monitro diweddaraf ar gyfer y Gyllideb Refeniw fel yr eitem nesaf.

 

Oherwydd cyfyngiadau amser, cynigodd y Cynghorydd Patrick Heesom fod yr eitem ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint yn cael ei gohirio tan y cyfarfod nesaf.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod disgwyl i’r adroddiad gael ei ystyried gan y Cabinet cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ac y dylai Aelodau anfon unrhyw sylwadau at swyddogion.  Byddai gweddill yr eitemau yn cael eu hystyried yn y drefn a ddangosir ar yr agenda.

32.

Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 5) pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:   Yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 5) i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 fel yr oedd ym Mis 5 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Ar Gronfa’r Cyngor, rhagwelwyd y byddai’r sefyllfa net yn ystod y flwyddyn £1.348m yn uwch na’r gyllideb, sef cynnydd bach ers Mis 4.  Crynhowyd newidynnau arfaethedig ym mhob portffolio ac roedd monitro risgiau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys asesiad o risgiau newydd i bennu’r effaith ar 2018/19.   Amcangyfrifwyd y byddai 92% o arbedion cynlluniedig yn cael eu cyflawni ac y byddai balans cronfeydd wrth gefn yn £3.734m erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.026m yn is na’r gyllideb, gan adael balans o £1.090m ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Richard Jones, darparodd y Prif Weithredwr esboniad ar gyllid cylchol o’r Gronfa Gofal Canolraddol sef dyraniad newydd i’r gyllideb oherwydd ei fod wedi’i gadarnhau’n hwyr.  Fel rhan o Gam 2 proses cyllideb 2018/19, byddai gofyn i Aelodau gefnogi cais am glustnodi’r cyllid hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 5) a chadarnhau nad oes unrhyw faterion i’w cyflwyno gerbron y Cabinet.

33.

Polisi’r Gymraeg yn y Gweithle pdf icon PDF 93 KB

Derbyn Polisi Cymraeg yn y Gweithle'r Cyngor a nodi cynnydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Bolisi Drafft Y Gymraeg yn y Gweithle cyn gofyn i'r Cabinet ei fabwysiadu.  Roedd yr ymrwymiadau yn y polisi yn adlewyrchu gofynion cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac roeddent yn gymesur i Sir y Fflint.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau, fodd bynnag roedd Aelodau’n gallu cyflwyno arsylwadau trwy e-bost at y Prif Weithredwr cyn i’r Cabinet ystyried y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn sicrhau fod gwaith yn cael ei wneud i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg;

 

(b)       Bod Polisi’r Gymraeg yn y Gweithle yn cael ei nodi; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau blynyddol ar waith a wnaethpwyd i gyflawni Safonau’r Gymraeg.

34.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:   Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai eitem ohiriedig ar adolygiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Datblygu'r Cynllun Lles yn cael ei chynnwys ar gyfer y cyfarfod nesaf.  Ni wnaethpwyd unrhyw newidiadau pellach.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo gyda’r diwygiadau; a

 

(b)       Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd yn cael amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.

35.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan ei bod yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 15 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

36.

Gwasanaeth Argraffu Digidol

Pwrpas:   Ystyried cynigion ar gyfer newid y ffordd yr ydym yn darparu'r gwasanaeth argraffu digidol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i geisio barn am newidiadau arfaethedig o ganlyniad i ostyngiad yn y galw am wasanaethau argraffu.  Yn dilyn dadansoddiad manwl o’r gwasanaeth, roedd ymarfer cystadleuol ar y cyd wedi’i gynnal â Chyngor Sir Ddinbych am gontract argraffu newydd.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi trefniadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol trwy newidiadau strwythurol ac ymgynghorwyd â thimau yngl?n â hyn.

 

Darparodd y Prif Swyddog eglurhad ar amrywiaeth o faterion megis cymharu costau ac effeithlonrwydd offer.  Yn ystod trafodaeth am ddigwyddiad blaenorol, cytunodd ddarparu ymateb ar wahân ar y costau dan sylw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r bwriad i benodi cronfa o gyflenwyr ar gontract dwy flynedd a fydd yn sicrhau fod y Cyngor yn derbyn y telerau mwyaf manteisiol yn economaidd ar gyfer ei wasanaeth argraffu lliw ac nid oes ganddo unrhyw sylwadau i’w cyfeirio at y Cabinet; a

 

(b)       Yng ngoleuni’r gostyngiad yn y galw am wasanaethau argraffu, bod y Pwyllgor yn cefnogi'r bwriad i adolygu'r gwasanaeth Argraffu Digidol a strwythur dros dro'r sefydliad fel y dangosir.

37.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.