Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

16.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:   I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

17.

Cofnodion pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:   I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

18.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (mae'r cyfarfod hwn wedi ei ddynodi'n gyfarfod Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anhrefn Statudol) pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:   Darparu sicrwydd a throsolwg i’r Aelodau o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth yn 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan roi arolwg i’r Pwyllgor fel eu bod yn hyderus yn cyflawni eu rôl fel pwyllgor craffu trosedd ac anhrefn statudol i Sir y Fflint.

 

            Cyflwynodd Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint. Dywedodd bod sawl strategaeth ar waith i fynd i’r afael â phroblemau o ran trosedd ac anhrefn, camddefnyddio sylweddau ac aildroseddu.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Cunningham at seremoni wobrwyo ddiweddar gan Heddlu Gogledd Cymru y bu ynddi.Roedd y digwyddiad hwn wedi amlygu'r llwyddiannau o fewn cymunedau a oedd yn cynnwys trigolion ifanc a h?n a ddaeth ynghyd i gael gwared ag, er enghraifft, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio alcohol neu broblemau masnachu anghyfreithlon. Roedd Sir y Fflint wedi cyflwyno dau brosiect i'w hystyried.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at riportio trosedd casineb a gofynnodd a oedd cynnydd wedi bod. Wrth ymateb, fe ddarparodd y Prif Arolygydd drosolwg o achosion o drosedd casineb yn Sir y Fflint.       

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Cunningham, cyfeiriodd Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau at y cynlluniau ymfudo rhanbarthol ac fe ddywedodd, er bod siroedd eraill wedi gweld effaith o ymfudo, nid oedd hynny'n wir yn Sir y Fflint. Roedd Sir y Fflint yn rhan o Gr?p y Bartneriaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn a oedd yn cyfarfod pob mis ac roedd y cydlynydd ar gyfer Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn rhannu gwybodaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru.

 

            Soniodd y Cynghorydd Richard Jones am broblemau o ran gangiau troseddu trefnedig yn targedu cartrefi pobl ddiamddiffyn a oedd ag anawsterau dysgu yn yr ardal i ddelio cyffuriau. Yn Saesneg, gelwid hyn yn ‘cuckooing' ac fe gadarnhaodd y Prif Arolygydd bod hon yn broblem ar draws Prydain wrth i gangiau symud o ganol dinasoedd. Roedd angen i Swyddogion Diogelwch a Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus ddod o hyd i bobl ddiamddiffyn a cheisio cymorth gan drigolion lleol. O dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, roedd gorchmynion wedi’u cyflwyno i rwystro pobl rhag mynd i’r tai hyn. Ni fyddai hyn yn gweithio heb i’r holl asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus a’r cyhoedd gydweithio.  Ymrwymodd aelodau’r Bartneriaeth oedd yn bresennol i ystyried gweithred bellach ar yr her sy’n dod yn amlwg.

 

            Cyfeiriodd y Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol at y cyfarfodydd misol yr oedd yn mynd iddynt lle roedd  ardaloedd problemus mewn tai cymdeithasol yn cael eu hamlygu. Roedd y cyfarfodydd hyn hefyd yn cynnwys wardeiniaid cymdogaethau. Soniodd y Cynghorydd Haydn Bateman am bryderon yngl?n â phroblemau sy'n digwydd yn ei ward ef yn ystod y nos.

 

            Gwnaeth Rhiannon Edwards sylw yngl?n â chyflwyno hyfforddiant cenedlaethol. Roedd hon wedi bod yn fenter enfawr ac roedd cynllun peilot eisoes wedi’i roi ar waith. O ran dioddefwyr trais rhywiol, ym mis Ebrill 2018, roedd cynlluniau i bob un a oedd yn gweithio â phobl ddiamddiffyn dderbyn hyfforddiant uwch gan mai nhw oedd y pwynt cyswllt cyntaf i ddioddefwyr. Awgrymodd y Cynghorydd Paul Johnson y byddai'n ddefnyddiol i Aelodau gael hyfforddiant.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gydweithwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Adroddiad Gwelliant Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:   I’w sicrhau drwy adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru a chefnogaeth yr ymateb gweithredol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad hwn a oedd yn arolwg cadarnhaol o’r Cyngor heb unrhyw argymhellion ffurfiol a nifer fechan o gynigion (gwirfoddol) i wella. Mae ymateb arfaethedig y Cabinet wedi'i atodi i’r adroddiad. Roedd Adroddiad Gwella Blynyddol yr Archwilydd Cyffredinol yn dangos fod Sir y Fflint yn gyngor aeddfed a chyfrifol.

 

            Bu i’r Cynghorydd Billy Mullin longyfarch y tîm am eu gwaith caled i sicrhau bod Sir y Fflint yn derbyn adroddiad cystal.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryderon ynghylch yr effeithiau go iawn ar wasanaethau gan oramcangyfrif cyfanswm yr arbedion y llynedd; teimlai y byddai’n well gollwng y gyfradd arbedion i 90%.

 

            Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr bod y lefel o arbedion wedi’i osod er mwyn sicrhau momentwm a chyrhaeddiad.  Roedd yn cydnabod bod y gyfradd arbedion ar gyfer y flwyddyn y tu ôl i'r nod.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at arbedion ar gyfer parcio ceir yn Neuadd y Sir ac yn y Fflint, a chyflwyno meddalwedd. Teimlodd nad oedd y rhain yn ddibynnol ar bethau eraill ond eto heb gael eu cyflawni. Eglurodd y Prif Weithredwr y cymhlethdodau ynghlwm  â pharcio ceir yn Neuadd y Sir a oedd wedi cynnwys trafodaethau gyda’r undebau a’r gweithlu. Yn y Fflint, roedd codi tâl am barcio wedi’i ddileu oherwydd gwaith adfywio sylweddol.   Roedd y prosiect cyllid newydd yn brosiect mewnol cymhleth. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom nad oedd yn pryderu yngl?n â materion o ran cyflawni a’i fod yn ymateb da yn adroddiad yr Archwilydd. Roedd yn pryderu yngl?n â rôl craffu ac nad oedd Pwyllgorau Craffu’n gweithio’n iawn. Teimlai nad oedd Aelodau’n cael digon o amser i ddarllen adroddiadau mawr a chymhleth iawn.  Eglurodd y Prif Weithredwr yr hyn a olygai adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Drosolwg a Chraffu a oedd yn cyfeirio at adolygiad, ar ôl gwerthuso, o newidiadau sylweddol i wasanaeth yn unig, ac wedi eu nodi fel dim ond beirniadaeth cyffredinol.

 

            Dywedodd yr Arweinydd nad oedd unrhyw argymhellion ar gyfer Sir y Fflint yn yr adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: roedd derbyn adroddiad archwilio heb unrhyw argymhellion yn dangos bod y Cyngor wedi gwneud yn dda. Pwysleisiodd hefyd bod unrhyw sylwadau roedd y Cabinet yn eu derbyn gan bwyllgorau craffu, yn enwedig y pwyllgor hwn, yn cael eu hystyried yn iawn. Ategodd y Cynghorydd Mullin hynny, a ddywedodd bod y Cabinet yn gwerthfawrogi cyfraniad pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y pwyllgor wedi'i sicrhau gan Gynllun Gwella Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2016/17 a’i fod yn cefnogi’r ymateb gweithredol iddo.

20.

Adroddiadau astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:   Derbyn adroddiadau lleol amrywiol (Llywodraethu Da, Buddsoddi i Arbed, adroddiad dilynol Asesu Corfforaethol) gan Swyddfa Archwilio Cymru a chymeradwyo ymatebion y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiadau Astudiaethau Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd pedwar cynnig gwirfoddol ar gyfer gwelliant. Rhoddodd grynodeb o ymateb gweithredol arfaethedig i’r adroddiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y pwyllgor wedi’i sicrhau gan adroddiadau adolygu Swyddfa Archwilio Cymru a’i fod yn cefnogi ymateb gweithredol y Cyngor.

21.

Cynllun y Cyngor 2017 - 23 pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:   Gofynnir i’r Pwyllgor gymeradwyo a chefnogi:

i) ystyriaethau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i gyfrannu at ddatblygiad dogfen derfynol Cynllun y Cyngor 2017-23

ii) cynnwys cyffredinol Cynllun y Cyngor a dogfen ‘Sut ydym ni’n mesur llwyddiant’ ar gyfer blaenoriaeth y ‘Cyngor Presennol’

iii) y targedau arfaethedig ar gyfer y dangosyddion perfformiad cenedlaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gynllun y Cyngor 2017-23 ac eglurodd bod Cynllun y Cyngor mewn dwy ran. Rhan 1 oedd y datganiad o amcanion a bwriadau. Roedd Rhan 2 yn disgrifio’r targedau a’r cerrig milltir a ddefnyddid i fesur y llwyddiannau. Pwrpas yr adroddiad oedd galluogi’r pwyllgor i ystyried strwythur, fformat a chynnwys Cynllun y Cyngor, ynghyd â’r ddogfen Mesuryddion a Cherrig Milltir, a rhoi adborth i’r Cabinet. Byddai’r cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i gael ei fabwysiadu ar 27 Medi.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at yr adran a soniai am gefnogi hyfywedd canol trefi. Roedd yn teimlo y gallai fod yn niweidiol i ddefnydd manwerthu parhaus. Pryderai y gallai hyn ddylanwadu ar brif gynlluniau a chynlluniau datblygu lleol (CDLl). Cyfeiriodd hefyd at Gynllun Glannau Dyfrdwy a phryderai nad oedd y capasiti gan Sir y Fflint i sicrhau y byddai ardaloedd eraill o fewn y sir hefyd yn cael eu hystyried.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y materion hyn o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Mentergarwch a oedd wedi ystyried a chefnogi’r Cynllun yn y cyfarfod y diwrnod blaenorol.   Bwriad y wybodaeth oedd cefnogi’r gwaith adfywio ehangach yng nghanol y trefi, gan gynnwys tai, ond nid ar draul y cynnig adwerthu lleol.

 

            Roedd y Cynghorydd Jones yn bryderus y byddai datblygwyr yn gweld hyn yn y CDLl ac y byddai canol trefi yn cael eu colli. Eglurodd y Prif Weithredwr nad dogfen polisi cynllunio ffurfiol oedd hon ac ni ddylai achosi unrhyw risg. 

 

            Cytunodd yr Arweinydd ac fe rannodd y pryderon yngl?n â thai’n dod i safleoedd manwerthu. Yn ei ward ef, roedd datblygiadau tai lle bu unwaith siopau, ond fe ychwanegodd y gallai 'byw uwchben y siop' fod yn llwyddiant. Parhaodd gan gyfeirio Aelodau at y gyfeiriadaeth yn strategaeth datblygu trafnidiaeth leol ranbarthol yng Nghynllun Dyfrdwy o’r Cynllun Metro i gysylltu trefi gyda chanolfannau cyflogaeth.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Haydn Bateman am eglurhad yngl?n â chryfhau trefniadau cydweithio rhanbarthol ar ansawdd aer er mwyn helpu i hyrwyddo gwell canlyniadau i iechyd a lles.Atebodd Swyddog Gweithredol Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol gan ddweud bod hwn yn ddull strategol rhanbarthol i gasglu data ar ansawdd aer a'i fod yn dod o dan gylch gwaith Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus a Chyfoeth Naturiol Cymru.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at yr amheuon y bu iddo eu datgan eisoes yngl?n â’r cynllun ar gyfer budd-ddeiliaid a phartneriaid. Cyfeiriodd hefyd at y Cynnig Twf Rhanbarthol ar gyfer Twf Gogledd Cymru ond roedd yn bryderus am y diffyg manylder  ar ochr orllewinol y sir.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi gweld Cynllun y Cyngor yn ystod y broses ymgynghori a bod yr Aelodau ar y cyfan yn ei chefnogi, gan gynnig sylwadau penodol ar faterion manwl yn unig.  Soniodd yr Arweinydd am gyfnod 4 neu 5 mlynedd yn ôl pan nad oedd y cynlluniau gwella'n cael eu trin fel blaenoriaeth yn y modd mae Cynllun y Cyngor yn cael ei  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Cynllun Gweithredu Strategaeth Gaffael pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:   I ystyried Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Gaffael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad a oedd yn nodi bod y Cabinet, ym mis Tachwedd 2016, wedi cymeradwyo strategaeth gaffael ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych. Mae’r Cyngor yn gwario £150 miliwn y flwyddyn ar brynu nwyddau a gwasanaethau. Mae’r Strategaeth Gaffael yn nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu defnyddio’r p?er prynu hwnnw i gefnogi ei nodau polisi ehangach. Mae’r strategaeth yn cynnwys y 2 ganlyniad lefel uchel canlynol:

 

1.      Mae Cyngor Sir y Fflint yn cael gwerth am arian o’r nwyddau, gwasanaethau a’r gwaith mae wedi'u caffael

2.      Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwella’r cyfraniad y gwnaeth ei weithgarwch caffael i’r economi leol, yn enwedig i fentrau cymdeithasol

Mae’r canlyniadau hyn yn tanategu ac yn cefnogi’r nodau allweddol canlynol yng Nghynllun y Cyngor.

 

            Nid oedd y strategaeth gaffael yn cynnwys unrhyw fesurydd na chamau gweithredu y gellid eu defnyddio i weld pa gynnydd a wnaed ac roedd y rhain wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu. Yn gyferbyniol, roedd y cynllun gweithredu’n fanwl iawn er mwyn i reolwyr allu gweld y cynnydd a wnaed ar bob agwedd o’r strategaeth. Yn hytrach nag adrodd ar yr holl fesuryddion a chamau gweithredu, cynigiwyd adrodd ar nifer o faterion allweddol os cytunai'r cynghorwyr eu bod yn trafod y pwyntiau pwysicaf.

 

            Gan gyfeirio at y mesuryddion a gynigiwyd ar gyfer adrodd wrth y cyhoedd, soniodd y Cynghorydd Richard Jones am fesuryddion eraill na fyddent wedi’u hadrodd, trefniadau tendro ac enghraifft o fudd cymunedol a oedd eisoes wedi’i sicrhau.

 

            Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i’r pwyntiau hyn. O ran Buddion Cymunedol, cyfeiriodd at gontract Wates a oedd â chynllun prentisiaethau a hyfforddiant am ddim i gyfreithwyr y Cyngor a oedd yn cael ei ddarparu gan gyfreithwyr a bargyfreithiwr a chwmnïau.

 

            Byddai Prif Swyddogion a Rheolwyr Gwasanaeth yn gweithio gyda’r farchnad gyflenwi leol i'w helpu i ddeall proses dendro'r Cyngor. Byddai hyn yn gwella safon eu cynigion a, gobeithio, yn golygu y byddai cyflenwyr lleol yn ennill contractau gan mai eu cynigion nhw oedd y rhai rhataf a’r rhai gorau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a fyddai'r pwyllgor yn cael gwybod am gynnydd. Atebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gan gadarnhau y byddai'r canlyniadau'n cael eu hadrodd a'r materion allweddol wedi'u hamlygu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Argymell Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Gaffael yn gyffredinol a’r mesuryddion a’r camau gweithredu ar adrodd wrth y cyhoedd i’r Cabinet i’w mabwysiadu.

23.

Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 4) a Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 4) pdf icon PDF 70 KB

Pwrpas:   Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 4) a Darparu gwybodaeth diwedd Mis 4 (diwedd Gorffennaf) rhaglen gyfalaf 2017/18 i Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i’r Aelodau a oedd yn cynnwys Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 4) ac Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 4). 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y tanwariant a ragwelwyd mewn Gofal Cartref a gofynnodd beth oedd y gyllideb yn y lle cyntaf gan fod y maes hwn dan bwysau aruthrol. Atebodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i egluro mai adlinio gorwariant a thanwariant mewn cyllidebau gofal cymdeithasol oedd hyn.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y diffyg mewn incwm ffioedd cynllunio a ragwelwyd yn yr Adran Gynllunio a'r Amgylchedd. Gofynnodd faint a ragwelid ac a oedd gwybodaeth gefndir ar y rhain. Dywedodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai’n darparu’r wybodaeth i’r Cynghorydd Jones y tu allan i'r cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones pam yr oedd y targedau effeithlonrwydd a osodwyd mor uchel ac a fyddai'n well nodi cyllideb ddichonadwy o 90%. Yn ôl Rheolwr Cyllid Corfforaethol, pe bai hynny’n digwydd, yna fe fyddai angen dod o hyd i’r diffyg o 10% o rywle arall.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at Lyfrgelloedd Cyhoeddus a Chelfyddyd, Diwylliant a Digwyddiadau ac at yr amrywiad ar gyfer y gwasanaeth llyfrgelloedd a gofynnodd beth oedd barn y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar hyn. Atebodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ddweud ei fod ar y trywydd iawn gydag ychydig iawn o danwariant o £0.006 miliwn.

 

Cyflwynwyd yr Adroddiad Cyfalaf gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r newidiadau cryno a wnaed i Raglen Gyfalaf 2017/18 ers ei llunio ym mis Chwefror 2018 hyd at ddiwedd mis 4 (Gorffennaf 2017).

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nad oes gan y Pwyllgor, ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 4), unrhyw faterion penodol mae’n dymuno eu nodi a’u hadrodd ar lafar wrth y Cabinet.

 

 (b)      Nad oes gan y pwyllgor, ar ôl ystyried Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 4), unrhyw faterion penodol mae’n dymuno eu nodi a’u hadrodd ar lafar wrth y Cabinet.

24.

Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu - Chwarter 1 pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:   Ystyried Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 1 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan yr Ymgynghorydd Gwybodaeth Fusnes a Chydymffurfio a ddarparodd grynodeb ar y perfformiad cyffredinol mewn perthynas â nifer o ddangosyddion. Roedd eglurhad manylach wedi’i ddarparu ar sail eithriadol lle’r oedd perfformiad yn disgyn yn is na dangosyddion perfformiad sefydliadol neu lle'r oedd newid sylweddol, un ai ar i fyny neu ar i lawr, yn y tueddiadau a adroddwyd. Roedd y crynodeb yn cynnwys o’r newid yn y duedd a manylion unrhyw gamau gweithredu arfaethedig er mwyn gwella perfformiad neu sicrhau ei fod yn aros yr un fath.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a fyddai’r adolygiad o weithwyr asiantaethau’n dod yn ei ôl ger bron y pwyllgor. Cadarnhaodd y swyddog y byddai.

 

            Dywedodd y Cadeirydd bod y fformat dangosfwrdd a ddefnyddiwyd o fewn yr adroddiad yn ddefnyddiol iawn. Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei fod wedi’i greu gan ymgynghori gydag aelodau'r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn Adroddiad Chwarter Un ar y gweithlu.

25.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:   Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg Adnoddau Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo gyda diwygiadau; a

 

(b)  Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, gan ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.

26.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.