Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

7.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

To receive any Declarations and advise Members accordingly.

Cofnodion:

8.

Cofnodion pdf icon PDF 58 KB

To confirm as a correct record the minutes of the meeting on 15 June 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

9.

Cynllun y Cyngor 2017-23 pdf icon PDF 81 KB

I ystyried a chadarnhau targedau penodol a osodwyd o fewn Cynllun y Cyngor  2017-23, a dangosyddion perfformiad cenedlaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Aaron Shotton Cynllun y Cyngor 2017-23 drafft a oedd wedi’i adolygu a’i newid i adlewyrchu prif flaenoriaethu'r Cyngor ar gyfer y tymor pum mlynedd o'r weinyddiaeth newydd.  Roedd yn ddyletswydd statudol gan y Cyngor i fabwysiadu'r Cynllun (a oedd yn cymryd lle'r Cynllun Gwella blaenorol) a'i bwysigrwydd i adnabod blaenoriaethau ac amcanion, yn arbennig yn ystod adegau o galedi, yn cael eu hadnabod.

 

I gywiro'r pwrpas yr adroddiad ar yr agenda, gofynnodd y Prif Weithredwr am sylwadau i roi fel adborth i’r Cabinet fel bod pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn gallu ystyried eu meysydd penodol.  Bydd ymatebion yn cael eu dychwelyd i’r Pwyllgor hwn a’r Cabinet ym mis Medi 2017 i helpu i lywio'r Cynllun terfynol cyn cael cymeradwyaeth y Cyngor.  Mae’r themâu blaenorol wedi'i gydgrynhoi i chwe blaenoriaeth i’w cyflenwi yn y pum mlynedd nesaf, gyda ffocws penodol yn y flwyddyn gyntaf.

 

Dywedodd y Swyddog Gweithredol Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol bod y strwythur cyffredin o’r cynllun blaenorol wedi’i gadw, ond ni fydd materion polisi cenedlaethol yn effeithio ar gyflenwi rhai canlyniadau.  Roedd y tabl o fewn y Cynllun yn nodi'r effaith dymunol i bob blaenoriaeth ac is-flaenoriaeth sydd wedi’i gysylltu â’r  Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) y Cyngor ac ymrwymiad i Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd rheoli risgiau wedi'u nodi ar gyfer pob adran.  Bydd manylion ar berfformiad targed a cherrig filltir yn cael eu rhannu yn yr ail ran o ddogfen “Sut ydym yn mesur llwyddiant’ sydd i’w rannu ar ddyddiad diweddarach.

 

Siaradodd y Cynghorydd Billy Mullin ynghylch cofnod y Cyngor ar berfformiad fel y nodwyd gan y Swyddfa Archwilio Cymru, a’r bwriad i adeiladu ar y llwyddiannau hynny.

 

Croesawodd y Cynghorydd Richard Jones y gwelliannau parhaus yn strwythur y Cynllun.  Roedd ei bryderon ynghylch y cynnwys,  dywedodd nad oedd manylion ar sut y bydd y blaenoriaethau yn cael eu mesur o ran eu llwyddiant.  Adlewyrchodd ar Gynlluniau blaenorol a oedd yn teimlo yr oeddynt yn canolbwyntio ar ardal Glannau Dyfrdwy, a gofynnodd am sicrwydd y byddai’r gwariant ar y blaenoriaethau cyfredol yn cael eu lledaenu’n deg ar draws y sir.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod rhai materion drwy’r sir gyfan, ond rhoddodd enghreifftiau o eraill sydd wedi’u targedu’n benodol yn unol ag ardaloedd o angen neu sy’n ddibynnol ar gyllid.  Bydd cynlluniau ar sail ddaearyddol a’u buddion i ardaloedd ehangach yn cael eu cyfeirio yn yr ail ran o’r ddogfen.

 

Eglurodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod cyfeiriad at Lannau Dyfrdwy oherwydd ffocws rhanbarthol a chenedlaethol ar bwysigrwydd economaidd o dwf Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy y byddai Sir Y Fflint ar y cyfan yn manteisio ohono.    Hefyd cyfeiriodd at estyniad i’r rhaglen adeiladu tai'r Cyngor i rannau eraill o’r sir.

 

Er i'r Cynghorydd Jones gydnabod Glannau Dyfrdwy fel y ganolfan gyflogaeth yn y sir gyda buddiannau i'r ardaloedd ehangach, teimlodd ei fod yn bwysig bod cymunedau eraill yn cael cyllid cyfartal, yn arbennig i adfywio canolfannau tref.

 

Amlygwyd pwysigrwydd twristiaeth gan y Cynghorydd Vicky Perfect i helpu i roi hwb i’r economi  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Alldro) ac Rhaglen Gyfalaf 2016/17 (Alldro) pdf icon PDF 70 KB

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a cyflwyno alldro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar fonitro cyllideb refeniw 2016/17 (alldro) ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai  a Chyllid y Cyngor a'r Rhaglen Gyfalaf 2016/17 (alldro), cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Roedd y sefyllfa terfynol (yn amodol ar archwiliad) wedi nodi diffyg gweithredol £0.846m.  Roedd yr alldro cyffredinol yn cynnwys effaith gadarnhaol gan y newid ym mholisi Cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) a oedd yn weithredol yn dileu'r diffyg gweithredu gyda'r gwariant net yn £2.039m yn is na’r gyllideb.  Roedd yr adroddiad yn disodli’r sefyllfa mis 12 a nodwyd yn flaenorol i'r Cabinet (wedi'i atodi fel dolen i'r dogfennau).  Rhoddwyd trosolwg byr ar y prif symudiadau ar gyfer y flwyddyn gyda manylion y symudiadau sylweddol ers mis 12. Hefyd rhoddwyd ddiweddariad ar gyllid wrth gefn at raid a’r rhaglen o effeithlonrwydd y byddai gwelliant yn cael ei ddangos ar y flwyddyn flaenorol.  Roedd y prif newidiadau o fewn y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cynnwys lleihad sylweddol yn y Cronfeydd Statws Sengl oherwydd tynnu i lawr o gyllid i fodloni costau cymeradwy.

 

Ar y Cyfrif Refeniw Tai, mae’r gwariant net yn ystod y flwyddyn yn £0.018m yn is na'r gyllideb, gyda balans cau yn £1.116m sy’n cynrychioli 3.5% i gyfanswm gwariant (yn uwch na'r isafswm lefel a argymellir o 3%).

 

Yn ystod eglurhad ar y newid polisi cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw, tynnwyd sylw at adroddiad y Cyngor ar 6 Rhagfyr 2016.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones gwestiwn ynghylch y dehongliad o’r geiriau ar ganlyniad sefyllfa’r cyllid Grant Cynnal Refeniw.   Cadarnhaodd y Prif Weithredwr safle cryf gan Sir y Fflint fel rhan o lywodraeth leol ar y cyd yn lobio Llywodraeth Cymru am setliad cyllid tecach sydd wedi arwain at ganlyniad mwy ffafrio na ddisgwyliwyd.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Haydn Bateman, eglurodd swyddogion ynghylch y dull o adeiladu cronfeydd Cynhaliaeth y Gaeaf a’r defnydd o gronfeydd Statws Sengl.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Patrick Heesom, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ddarparu dadansoddiad o gyfran cronfeydd hapddigwyddiad a ddefnyddir i fodloni effaith trosglwyddiadau ased cymunedol.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

 Mae tabl yn dangos newidiadau i’r rhaglen yn ystod 2016/17 yn nodi cyllideb ddiwygiedig o £65.968m.   Ers y chwarter diwethaf, roedd cynnydd net yng nghyfanswm y rhaglen o £5.918m fel y nodwyd yn adrannau 1.06-1.08. Roedd cyfanswm y swm i’w barhau i 2017/18 yn £3.589m a oedd yn lleihad sylweddol ar y flwyddyn flaenorol.  Roedd diweddariad ar gyllid cynlluniau cymeradwy 2016/17 yn nodi argaeledd o £5.066m a glustnodwyd i ariannu cynlluniau cyfalaf yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw (alldro) ar gyfer 2016/17 yn cael ei dderbyn;

 

(b)       Bod yr adroddiad Rhaglen Gyfalaf (alldro) ar gyfer 2016/17 yn cael ei dderbyn; a

 

(c)       Cadarnhaodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw faterion penodol i dynnu at sylw'r Cabinet.

11.

Monitro'r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Adroddiad Dros Dro) pdf icon PDF 68 KB

Mae’r adroddiad hwn yn nodi risgiau a materion allweddol y gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y sefyllfa dros dro monitro cyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 cyn cael ei ystyried gan y Cabinet.   Atgoffodd yn ystod cyfnod cynnar yn flwyddyn, cafodd adnoddau eu cyflwyno i gau’r cyfrifon ar gyfer 2016/17 i gydymffurfio â’r dyddiad cau statudol.    Yr asesiad cychwynnol yn y cam cynnar hwn oedd bod gwariant a ragwelwyd i fod yn £0.978m yn uwch na’r gyllideb, fodd bynnag nid oedd hyn yn adlewyrchu sefyllfa alldro cyfan a ragwelwyd a ddylai gael ei adrodd ym mis Medi.   Yn ystod diweddariad ar fonitro risgiau a risgiau eraill sy’n ymddangos, gwnaethpwyd cyfeiriad at ddyraniadau cyllid ychwanegol gan Llywodraeth Cymru ar ofal cymdeithasol.  Nid oedd amrywiadau sylweddol wedi’u nodi ar y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i rannu gwybodaeth ar y pwysau sy’n codi o’r incwm injan nwy, yn ôl cais gan y Cynghorydd Haydn Bateman.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Richard Jones, darparodd y Prif Weithredwr gadarnhad ar y grant Cronfa Gofal Canolraddol a’r enciliad o daliadau tanysgrifiadau porth meddalwedd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am fwy o fanylion ar y diffyg effeithlonrwydd mewn trwyddedau maes parcio yn Neuadd Y Sir a dywedwyd y bydd y ffigurau yn cael eu rhannu.  Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid cynnig cost gostyngedig o drwyddedau maes parcio i fasnachwyr canol tref.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod system reoledig mewn lle ar gyfer parcio yn Neuadd y Sir a byddai’r trefniadau yn amodol i adolygiad pellach.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw (alldro) ar gyfer 2017/18 yn cael ei dderbyn; a

 

(b)       Cadarnhaodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw faterion penodol i dynnu at sylw'r Cabinet.

12.

Diweddariad Strategaeth Ariannol tymor Canolig pdf icon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ar y rhagolwg ariannol diwygiedig ar gyfer 2018/19 fel rhan o adnewyddu’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).

 

Rhoddwyd gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         Rhagolygon Ariannol 2018/19

·         Prif bwysau

·         Risgiau ac Effeithiau Posibl o 2017/18

·         Sefyllfa Genedlaethol

·         Gwneud Achos Cenedlaethol

·         Camau Nesaf

 

Roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos bwlch a ragwelir o £11.7m ar gyfer 2017/18 cyn unrhyw fodelu ar lefelau Treth Y Cyngor cynyddol.  Roedd y rhagolygon wedi seilio ar ystod o wybodaeth gan gynnwys pwysau cenedlaethol, lleol a gweithlu.  Er y gellir rhagweld rhai materion yn sicr, roedd rhai y tu allan i reolaeth y Cyngor.   Y ddau ffactor mwyaf sylweddol oedd setliad ariannol llywodraeth leol ar gyfer 2017/18 a lefelau Treth Y Cyngor.

 

Amlygodd y Cynghorydd Aaron Shotton y pwysigrwydd o gynghorau yng Nghymru yn parhau i lobio Llywodraeth Cymru ar y cyd i gael cyllid tecach ac i Sir Y Fflint i wneud yr achos ymysg y rheiny gyda safle a ariennir yn isel.  Roedd tybiaethau rhesymol wedi cael eu gwneud ar gyllid grant a gwnaethpwyd gyfeiriad at bosibilrwydd toriadau cyllid ‘cudd’ gan Llywodraeth DU a fyddai’n effeithio Cymru. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Jones, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r gwaith yn parhau ar ddatblygu’r MTFS, fodd bynnag roedd yn anochel na fyddai’r bwlch cyllideb a ragwelwyd yn cael ei ddiwallu heb effeithio ar wasanaethau rheng flaen.   Roedd hyn wedi ei adnabod yn eang yn ystod y broses ymgynghori cyllideb lle'r oedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi ystyried yr opsiynau ar gyfer eu meysydd penodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gan ystyried yr adroddiad, bod y Pwyllgor yn hysbysu’r Cabinet ei fod yn cefnogi’r fframwaith ar gyfer diwygio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Item 7 - MTFS Presentation pdf icon PDF 325 KB

13.

Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwelliant 2016/17 pdf icon PDF 152 KB

Galluogi Aelodau i gyflawni eu rôl graffu mewn perthynas â rheoli perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad diweddariad i ystyried cynnydd ar gyfer cyflawni’r effeithiau yn y Cynllun Gwella 2016/17, gan ganolbwyntio ar y meysydd tan berfformiad sy’n berthnasol i’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn. 

 

Dywedodd y Swyddog Gweithredol Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol bod cynnydd da ar gamau gweithredu a pherfformiad yn erbyn y targedau, gydag eglurhad ar yr unig faes coch ar ganran trosiant gweithwyr.   Roedd y mwyafrif o risgiau a nodwyd yn ganolog neu’n fychan, a’r unig faes risg coch ar y raddfa oedd yr her ariannol.

 

Cododd y Cynghorydd Richard Jones fater ar gysondeb y graddfeydd canlyniad wrth gymharu’r ddau gam gweithredu.  Eglurwyd bod y cam gweithredu cyntaf yn cynnwys Rheolau'r Weithdrefn Gontractau newydd a gyflwynwyd lle’r oedd buddion cymunedol yn cael eu cyflawni dros dymor hirach.  Er bod cynnydd wedi’i wneud ar y Cyfamod y Lluoedd Arfog. Nid oedd y canlyniadau wedi cyflawni 100% ar y cam hwn.  Hefyd amlygodd y Cynghorydd Jones nad oedd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ym Mwcle wedi'u nodi o fewn y Dangosydd Perfformiad Allweddol.   Ar gais am sylwadau ar ganran trosiant gweithwyr, rhoddwyd diweddariad byr a bydd yn cael ei egluro ymhellach yn y diweddariad Gwybodaeth Gweithlu nesaf.  Ar ganran dioddefwyr ailadroddus risg uchel o gamdriniaeth domestig a gyfeiriwyd at y Gynhadledd Asesiad Risg Amlasiantaeth Sir y Fflint, byddai swyddogion yn sefydlu a fyddai'r targed o 28 a osodwyd yn lleol neu'n genedlaethol, gan ei fod yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad canlyniad Cynllun Gwella 2016/17 yn cael ei dderbyn.

14.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar y camau gweithredu canlynol:

 

·         Cynllun y Cyngor 2017-23 i’w gynnwys ar gyfer mis Medi 2017.

·         Ymgynghoriad ar y Papur Gwyn Diwygio Etholiadol (wedi’i drefnu ar gyfer mis Medi 2017) i fod i ddechrau ar ddiwedd y mis.

·         Y Rheolwr Cynllunio At Argyfwng Rhanbarthol i’w wahodd ym mis Medi 2017 i gyflwyno ei adroddiad blynyddol.

·         Roedd cynrychiolydd o'r Awdurdod Tân ac Achub wedi'i wahodd i ddod ym mis Tachwedd 2017 ar gyfer yr eitem ymgynghori ar gyllideb.

·         Er nad oedd ar gael ar gyfer y cyfarfod ym mis Rhagfyr 2017, bydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cael ei wahodd ar ddyddiad arall fel rhan o'r trefniant blynyddol gyda'r Pwyllgor.

·         Anogwyd aelodau o’r Pwyllgor i fynychu’r gweithdy ‘Cysoni Dulliau o Gyflawni Newid'.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo gyda newidiadau; a

 

(b)       Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd yn cael amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.

15.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.