Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Geidwadol enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd. Penderfyniad: Cadarnhau’r Cynghorydd Clive Carver fel Cadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor. Cofnodion: Bu i'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd atgoffa’r Pwyllgor y penderfynodd y Cyngor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol mai'r gr?p Ceidwadol ddylai enwebu Cadeirydd y Pwyllgor. Roedd y gr?p wedi enwebu’r Cynghorydd Clive Carver. Ar ôl cynnal pleidlais, cadarnhawyd yr enwebiad.
PENDERFYNWYD:
Cadarnhau’r Cynghorydd Clive Carver fel Cadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor.
(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Carver weddill y cyfarfod) |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Penderfyniad: Penodi'r Cynghorydd Paul Johnson yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd. Enwebwyd y Cynghorydd Paul Johnson gan y Cynghorydd Paul Shotton, ac eiliwyd hyn yn briodol. Ar ôl cynnal pleidlais, cadarnhawyd yr enwebiad. Ni chafwyd enwebiadau pellach.
PENDERFYNWYD:
Penodi'r Cynghorydd Paul Johnson yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor.
Yn dilyn y bleidlais, gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor ymuno ag ef mewn munud o dawelwch mewn teyrnged i’r digwyddiadau ym Manceinion a Llundain. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Mawrth 2017. Penderfyniad: Cofnodion: Roedd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2017 wedi eu dosbarthu gyda’r rhaglen.
Materion yn Codi
Cofnod rhif 90: Strategaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid – cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at ei gais i gopïo Aelodau i mewn i ymatebion i ymholiadau yr oeddent wedi’u gwneud ar ran trigolion. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i edrych a oedd hyn yn digwydd ac i rannu'r wybodaeth â'r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Question from a Member |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |