Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

36.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

37.

Cofnodion pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Gorffennaf 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2018.

 

Nododd yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Johnson, a oedd wedi cadeirio’r cyfarfod, y dylid cyfeirio ato fel ‘Cadeirydd’ drwy gydol y cofnodion.

 

Cofnod rhif 28 : Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol – Nododd y Cynghorydd Jones mai ef awgrymodd y gweithdai ar Gynnig Twf Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

38.

AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd y byddai newid yn y drefn i ystyried yr adroddiad Olrhain Gweithred yn syth ar ôl y Cofnodion, ac i symud y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i ddiwedd y cyfarfod.   Bydd gweddill yr eitemau yn cael eu hystyried yn y drefn a ddangosir ar y rhaglen.

39.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 69 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Pwyllgor am gynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor.   Roedd hyn yn ddull adrodd a oedd yn effeithiol ar gyfer y Pwyllgor Archwilio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at y ceisiadau ailadroddus am gopi o’r adroddiad arolwg ar Bont Sir y Fflint a'i effaith ar 'lwybr coch' arfaethedig priffyrdd, oedd heb ei rannu hyd yma.   Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd canfyddiadau'r adroddiad yn cyflwyno unrhyw risg ariannol i'r Cyngor a byddai'n cael ei ddosbarthu i unrhyw Aelodau sy'n mynegi diddordeb.   Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth ar wariant cyfalaf ar gyfer y llwybr priffyrdd a mabwysiadu Pont Sir y Fflint fel rhan o rwydwaith y cefnffyrdd gan Lywodraeth Cymru a fyddai’n gwaredu unrhyw atebolrwydd ar gyfer y Cyngor yn y  dyfodol.   Ar Gynnig Twf Gogledd Cymru, byddai’r ddogfen gynnig ddrafft yn cael ei thrafod yn y cyfarfod rhanbarthol y diwrnod canlynol, fodd bynnag,  pwysleisiodd nad oedd yr A494 yn y cynnig hwnnw ac yn rhagflaenu hynny.

 

Wrth groesawu’r adroddiad Olrhain Gweithred, awgrymodd y Cynghorydd Jones bod gweithredoedd yn y dyfodol yn cynnwys terfynau amser cwblhau.   Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gellir datblygu’r fformat dros amser ac y byddai’r ymagwedd yn cael ei hymestyn i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill yn dilyn cyfnod prawf o chwe mis, fel y cytunwyd gan yr Arweinwyr Gr?p.

 

Fel diweddariad o’r drafodaeth o’r cyfarfod blaenorol, eglurodd y Prif Weithredwr y sefyllfa ffurfiol a gymerir gan y Cyngor sy'n cynnwys dwy weithred allweddol, a oedd wedi derbyn cefnogaeth yng ngweithdy'r Aelodau yn ddiweddar.   Yn gyntaf, roedd y Cyngor wedi cyfrannu at achos ar y cyd a gyflwynir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ran holl gynghorau Cymru i LlC ar gyfer cynnydd yn y Grant Cefnogi Refeniw.   Yn ogystal â hyn, byddai’r Prif Weithredwr a’r Arweinydd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Cabinet Cyllid i bwysleisio disgwyliadau penodol y Cyngor am isafswn o 3% o gynnydd yn y Grant Cefnogi Refeniw neu 4% o gynnydd os nad oedd cost cyflog ychwanegol athrawon yn cael ei ariannu ar wahân.

 

Gan fod yr Aelodau wedi derbyn copi o sylwadau ysgrifenedig am brydlondeb grantiau, awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylai’r Pwyllgor gyflwyno ei sylwadau ei hun i LlC i dynnu sylw at gostau lleoliadau y tu allan i’r sir fel mater cenedlaethol.   Siaradodd y Cynghorydd Shotton i gefnogi bod y Pwyllgor yn cyflwyno ymateb ar wahân i ategu at yr ymateb ffurfiol gan y Cabinet.   Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y trafodaethau cyllidebol sydd i ddod ac awgrymu efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno cyflwyno sylwadau yn hwyrach yn y broses pan fo’r Aelodau yn fodlon bod yr holl ddewisiadau wedi'u cyflawni i gytbwyso'r gyllideb heb risg.   Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y dull ‘olrhain gweithred’ yn cael ei gymeradwyo am gyfnod prawf o chwe mis gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

40.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Darparu sicrwydd a throsolwg i’r Aelodau o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth yn 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes yr adroddiad blynyddol a oedd yn darparu trosolwg o weithgareddau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol dros y 12 mis diwethaf ac yn adlewyrchu ar waith rhanbarthol.

 

Cyflwynwyd aelodau’r Pwyllgor i'r Prif Arolygydd Jon Bowcott o Heddlu Gogledd Cymru; Ben Carter o Fwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru; Rhiannon Edwards, Ymgynghorydd Rhanbarthol Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; a Richard Powell, Arweinydd Tîm Safonau Masnach.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl ar y cyd yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

·         Cyd-destun

·         Grwpiau Cyflawni Diogelwch Cymunedol

·         Cyflawniadau

·         Perfformiad

·         Rhyngweithio gyda’r Bwrdd Cymunedau Diogelach

·         Blaenoriaethau lleol ar gyfer 2018/19

 

Rhoddwyd eglurhad ar y gofynion statudol yn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a’r newidiadau mewn trefniadau llywodraethu oedd wedi arwain at strwythur symlach.   Ymysg y cyflawniadau roedd amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, lle’r oedd Sir y Fflint yn perfformio’n dda.   O ran rhwydweithio gyda Bwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru, cydnabuwyd bod rhai materion yn well eu datrys ar lefel ranbarthol.   Nodwyd manylion pedair blaenoriaeth leol ar gyfer 2018/19 yn yr adroddiad ynghyd â’r camau penodol a’u heffaith:

 

·         Cam-drin domestig a Thrais Rhywiol

·         Grwpiau Troseddol Cyfundrefnol

·         Caethwasiaeth Fodern

·          Cam-fanteisio Troseddol ar Blant

 

Er yr adroddwyd cynnydd mewn troseddau yn seiliedig ar ddioddefwyr ar gyfer 2017/18, Sir y Fflint oedd â’r cynnydd lleiaf yng Ngogledd Cymru.   Eglurodd y Prif Arolygydd Bowcott bod y gostyngiad cenedlaethol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn deillio o’r newidiadau i’r modd y cofnodir y drosedd.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd McGuill, eglurodd y Prif Arolygydd Bowcott nad oedd modd rhoi adborth i aelodau’r cyhoedd sy’n rhoi gwybod am ymddygiad amheus bob tro.   Rhoddodd sicrwydd y gweithredir ar unrhyw gudd-wybodaeth ond bod manylion  y ffynonellau yn cael eu dileu i warchod yr unigolion hynny.    Oherwydd y niferoedd uchel a alwadau y maent yn eu derbyn, roedd dulliau eraill o roi gwybod am gudd-wybodaeth nad yw'n argyfwng yn cael eu hyrwyddo megis LiveChat neu e-bost, neu drwy gyswllt gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a allai ddarparu adborth i breswylwyr.

 

Er mwyn cynorthwyo i reoli nifer y galwadau i’r rhif 101, awgrymodd y Cynghorydd Woolley y dylid cyflwyno neges awtomatig ar ôl pum munud i atgyfeirio’r rhai sy’n ffonio at ddulliau cyswllt eraill.   Cytunodd y Prif Arolygydd Bowcott y byddai'n rhannu’r awgrym.   Aeth yn ei flaen i drafod gweithrediad system ffôn newydd a fyddai’n cael ei datblygu dros amser i leihau amseroedd aros ar y ffôn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Johnson iddo rannu ei ddiolch i Gerwyn Davies (Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) am weithio gyda'r Aelodau lleol a chymunedau ar faterion yn y ward.   Mewn ymateb i gwestiwn ar y modd y cofnodir pob math o droseddau ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'i gilydd, rhoddodd y Prif Arolygydd enghraifft o'r cymhlethdodau wrth gofnodi troseddau a dywedodd bod newid mewn ystadegau yn dangos gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnydd mewn troseddu.   Dywedodd os oes mater penodol lle bo’r Cyngor angen ystadegau yn ei gylch, gellir derbyn hyn o’r system.

 

Holodd y Cynghorydd Heesom am y cysylltiadau gyda’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ac am gyfleoedd i ferched ifanc gyfrannu  ...  view the full Cofnodion text for item 40.

Item 5 - Community Safety Partnership presentation pdf icon PDF 556 KB

41.

Cynllun y Cyngor 2018/19 – newidiadau o 2017/18 pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        I roi eglurder ar y newidiadau a wnaed i Gynllun y Cyngor rhwng y blynyddoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau i Gynllun y Cyngor a wnaed rhwng y blynyddoedd.   Roedd manylion llawn y newidiadau wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

 Ceisiodd y Cynghorydd Jones sicrwydd bod y mesuryddion / targedau oedd wedi'u tynnu wedi bod yn destun ystyriaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol i roi cyfle iddynt asesu'r rhesymau cyn cyflwyno Cynllun terfynol y Cyngor i'r Cyngor Sir.   Dywedodd bod Cynllun y Cyngor yn penderfynu sut mae arian yn cael ei wario felly roedd angen mwy o eglurder ar y newid i’r mesuryddion.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y manylion hyn wedi’u cynnwys yn nogfen Rhan 2 a oedd yn tanategu Cynllun y Cyngor.   Dywedodd bod swm sylweddol o ddata perfformiad ar gael ac efallai y dylid ystyried bod pwyllgorau yn dewis eu meysydd penodol o ddata perfformiad i’w cynorthwyo i gyflawni eu rôl yn effeithiol fel ffordd ymlaen.   Gallai hyn fod yn ganolbwynt ar gyfer gwaith yn y dyfodol gan gynnwys cyflwyno mwy o fesuryddion lleol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Mullin am lefel y gwaith a wnaed i gynhyrchu'r adroddiad gydag adnoddau cyfyngedig, a nododd bod rhai newidiadau yn deillio o faterion yn dod i gasgliad naturiol.

 

Mewn ymateb i sylwadau'r Cynghorydd Woolley ar adnoddau cyfyngedig yn effeithio ar y gallu i gynllunio, nododd y Prif Weithredwr er bo rhai meysydd yn seiliedig ar adnoddau sy'n hysbys, roedd cynaliadwyedd eraill y tu hwnt i reolaeth y Cyngor yn fwy o risg.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones bod eitem yn cael ei chynnwys ar raglen y cyfarfod nesaf bod y Pwyllgor yn derbyn taenlen yn dangos cysylltiadau rhwng cyllidebau, llywodraethu, perfformiad ac ati.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y newidiadau i Gynllun y Cyngor rhwng 2017/18 a 2018/19 yn cael eu nodi a diolch i’r swyddogion am gynhyrchu’r dadansoddiad; a

 

(b)       Sicrhau bod yr ystod lawn o fesuryddion perfformiad ar gael i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol i roi cyfle iddynt ddewis meysydd adrodd rheolaidd.

42.

Monitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19(Mis 4) ar Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Chwarter 4) pdf icon PDF 70 KB

Pwrpas:        Darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 4) i’r Aelodau ar  Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Chwarter 4).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg a Systemau Strategol) a’r Rheolwr Cyllid Dros Dro – Cyfrifeg Technegol adroddiad ar y cyd ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer mis 4 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai, a diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf 2018/19 yn ystod mis 4. Byddai'r ddau yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar 25 Medi 2018.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y rhagolwg gwariant net gwirioneddol yn ystod y flwyddyn yn dangos £2.680m o arian dros ben a oedd yn cynnwys effaith gadarnhaol cyfraniad o £1.400m yn deillio o newid a gymeradwywyd i bolisi cyfrifo Darpariaeth Isafswm Refeniw a derbyn £1.940m ar gyfer ad-daliad TAW.   Argymhellwyd y dylid dyrannu’r ddau swm i’r Gronfa Wrth Gefn arian at raid i gefnogi y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig fel rhan o'r opsiynau cyllidebol strategol a drafodwyd yng ngweithdy diweddar yr Aelodau.   Byddai hyn yn gadael diffyg gweithredol o £0.660m.

 

 Roedd y tabl yn nodi sefyllfa amcanol fesul portffolio, cyn trosglwyddo’r ddau swm uchod, gyda rhagolwg ar gyfer Lleoliadau y Tu allan i'r Sir wedi'u nodi ar linell ar wahân i ddarparu gwell eglurder.   Roedd cynnydd yn erbyn yr effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn yn dangos y disgwylir y byddai 98% yn cael ei gyflawni, a oedd yn uwch na'r targed.   Roedd diweddariad ar y materion eraill yn ystod y flwyddyn yn tynnu sylw at geisio swm ychwanegol o £1.084m o Gronfa Wrth Gefn Arian at raid i ddiwallu cost dyfarniad tâl a gytunwyd yn genedlaethol, yn ogystal â'r cynnydd o 1% a ddarparwyd yn y gyllideb ar gyfer 2018/19. Rhagwelwyd balans diwedd blwyddyn yn y Gronfa Wrth Gefn Arian at Raid o £8.145m er y byddai cais am £0.100m i gefnogi gwaith parhaus ar amddiffyn plant.   Byddai argymhelliad bod tanwariant yng nghyllideb Ymrwymiad Lleihau Carbon yn cael ei ragnodi i gefnogi datblygiad ffermydd solar, fel yr adroddwyd i'r Cabinet yn flaenorol.

 

Croesawodd y Prif Weithredwr y cynnydd ar yr arbedion effeithlonrwydd ac eglurodd bod rhywfaint o ansicrwydd o ran amseriad gostyngiadau cost Neuadd y Sir oherwydd amseriad y gwaith dymchwel.   Gan adlewyrchu ar drafodaeth flaenorol ar bwysigrwydd cynnal lefelau digonol yn y Gronfa Arian at Raid, cyfeiriodd at y pwysau ychwanegol ar y gyllideb o'r dyfarniad cyflog cenedlaethol a oedd yn gyfrifoldeb i'r holl gynghorau gan na chafwyd cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru hyd yn hyn.

 

Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.007m yn uwch na’r gyllideb, gan adael balans o £1.165m ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.

 

Croesawodd y Cynghorydd Jones y penderfyniad i wahanu costau Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a thynnu sylw at wall yng nghyfanswm gorwariant ar gyfer Strydwedd a Chludiant.   Mewn ymateb i gwestiynau, cafwyd eglurhad ar amseru newid polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw a hysbysiad o ad-daliad TAW, a oeddent yn symiau untro heb eu dyrannu ar gyfer 2018/19 i’w dyrannu i Gronfeydd wrth Gefn Arian at Raid.

 

Cytunodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 42.

43.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried.  Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:

 

·           Bod y cyfarfod ymgynghori ar y gyllideb Cam 1 a drefnwyd ar gyfer 5 Hydref 2018 ar ffurf gweithdy Aelodau yn benodol ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

·           Mae’n debyg y byddai eitem Cynllun y Cyngor yn cael ei symud i gyfarfod mis Hydref.

 

·            Mae’n debyg y byddai Adroddiad Blynyddol Cronfa Waddol Cymunedol yn cael ei symud i fis Tachwedd.

 

·           Bod eitem ar gyfer Cynnig Twf Gogledd Cymru yn cael ei threfnu ar gyfer mis Tachwedd.   Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai dogfen ddrafft y cynnig yn cael ei dosbarthu i’r holl Aelodau yn dilyn y cyfarfod rhanbarthol a oedd yn cael ei gynnal y diwrnod canlynol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at drafodaeth yng nghyfarfod diweddar y Cyngor Sir ar Rybudd o Gynnig ar ymatebion swyddogion i'r Aelodau.   Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiad yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar ôl gorffen y gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei chymeradwyo gyda’r diwygiadau a restrwyd uchod; a

 

(b)       Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

44.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.