Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Materion yn codi
O ran penderfyniad (c) yng nghofnod rhif 36, cadarnhaodd swyddogion y byddai’r llythyr i’r Bwrdd Iechyd a’r Gweinidog Iechyd yn cael ei anfon erbyn diwedd yr wythnos.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2024 yn gofnod cywir. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) am gynnydd camau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol. Cytunodd i ddiweddaru’r ddogfen ar gyfer y cyfarfod nesaf, gan gynnwys ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Shallcross ar y rheswm dros ariannu cludiant i ddisgyblion o du allan i’r sir i Ysgol Uwchradd Gatholig Caer, fel y codwyd ym mis Gorffennaf.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem 5 ar y rhaglen) ar Raglen Waith bresennol y Pwyllgor. Cytunodd i gysylltu â’r Cadeirydd i drefnu’r eitemau a restrwyd yn adrannau 1.04 a 1.05 ynghyd ag eitemau eraill a godwyd gan Aelodau fel a ganlyn:
· Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. · Eitem reolaidd ar Drawsnewid gan gynnwys effaith ar Gydraddoldeb. · Eitem y gofynnwyd amdani o’r blaen ar yr adran Asedau.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Pwrpas: Darparu trosolwg o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol dros y 12 mis diwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) ar waith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol dros y 12 mis diwethaf. Rhoddodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes, Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu), Prif Arolygydd Emma Parry o Heddlu Gogledd Cymru, Uwch Reolwr Cyfiawnder Ieuenctid (James Warr), Rheolwr y Tîm Safonau Masnach (Richard Powell) ac Arweinydd y Tîm Diogelwch Cymunedol (Peter Shakespeare) gyflwyniad ar y cyd a oedd yn ymwneud â gweithgareddau yn ystod y flwyddyn, trosedd ac anrhefn yn Sir y Fflint a blaenoriaethau lleol.
Mewn ymateb i sylwadau, croesawodd y Cadeirydd unrhyw gyfleoedd i hysbysebu gweithgareddau’r Bartneriaeth. Cytunodd y Prif Arolygydd Emma Parry i gysylltu â swyddogion mewn perthynas â’r cais i’r Pwyllgor ymweld â’r Orsaf Heddlu yn yr Wyddgrug.
Byddai copi o sleidiau’r cyflwyniad yn cael ei rannu â’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cefnogi cynnwys yr adroddiad. |
|
Item 6 - Community Safety Partnership presentation Dogfennau ychwanegol: |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 5) Pwrpas: Darparu’r sefyllfa monitro cyllideb refeniw diweddaraf ar gyfer 2024/25 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad (eitem 7 ar y rhaglen) ar sefyllfa Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ym mis 5 2024/25, cyn i’r Cabinet ei ystyried.
Mewn ymateb i gwestiynau, cynigodd swyddogion y byddai’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth a Thai a Chymunedau’n cael eu hadlewyrchu yn adroddiad mis 6. Gwnaethpwyd sylwadau ar fformat cyffredinol yr adroddiad o ran darllenadwyedd ac amlinelliad clir o danwariant/gorwariant i’w hystyried gan swyddogion.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (mis 4), bod y sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor yn cael eu cyfeirio at y Cabinet. |
|
Adolygiad Cynaliadwyedd Ariannol - Archwilio Cymru Pwrpas: Cynghori ar yr adroddiad terfynol a gafwyd gan Archwilio Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) yn amlinellu canfyddiadau adroddiad lleol gan Archwilio Cymru, yn dilyn adolygiad ar draws y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn yn nodi ymateb y Cyngor i’r argymhelliad gan Archwilio Cymru.
Cyflwynodd Carwyn Rees o Archwilio Cymru drosolwg o’r prif ganfyddiadau.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
Nodi sylwadau’r Pwyllgor ar adroddiad Archwilio Cymru. |
|
Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2023/24 Pwrpas: Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol, cyflwynodd y Cynghorydd Linda Thomas adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) yn amlinellu cynnydd y Cyngor o ran gweithredu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a bodloni amcanion cydraddoldeb yn ystod 2023/24.
Cafodd yr argymhellion eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2023/24; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd bod y Cyngor wedi yn gwneud cynnydd tuag at fodloni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus. |
|
New Brighton – mabwysiadu enw Cymraeg Pwrpas: Argymell mabwysiadu enw Cymraeg ar New Brighton - Pentre Cythrel. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) i argymell mabwysiadu enw Cymraeg ar gyfer New Brighton, sef Pentre Cythrel.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhelliad i gymeradwyo mabwysiadu “Pentre Cythrel” fel enw Cymraeg cydnabyddedig ar gyfer New Brighton a gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ei gynnwys ar restr enwau lleoedd safonol Cymru. |
|
Rhaglen Rhesymoli Swyddfeydd a Champws Neuadd y Sir Pwrpas: I gyflwyno adroddiad sy’n amlinellu camau a chostau dangosol y darn nesaf o waith â ffocws. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel Aelod Cabinet Trawsnewid ac Asedau, cyflwynodd y Cynghorydd Richard Jones adroddiad (eitem rhif 11 ar y rhaglen) a oedd yn amlinellu’r camau a’r costau dangosol ar gyfer cam nesaf y prosiect. Darparodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau drosolwg o’r pwyntiau allweddol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn nodi'r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor ar yr adroddiad. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |