Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 13 Mehefin, 19 Gorffennaf and 7 Awst 2024. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2024, 19 Gorffennaf 2024 a 7 Awst 2024 fel cofnod cywir. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad am gynnydd camau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 94 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Rhaglen Waith y Pwyllgor i’w hystyried, a byddai’n rhestru’r eitemau sydd ym mharagraff 1.04 yr adroddiad.
Yn unol â chais, byddai eitem am Reoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn cael ei rhestru, a byddai adroddiad am y tân diweddar yn Synthite Ltd yn cael ei rannu ym mis Hydref / Tachwedd.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen i ymdrin ag eitemau 15 a 16 yn gynt er mwyn caniatáu i’r swyddog perthnasol fod yn bresennol. |
|
Diweddariad ar Gynnydd Gwerth Cymdeithasol PDF 118 KB Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad yw cyflwyno data perfformiad gwerth cymdeithasol ar gyfer chwe mis olaf blwyddyn ariannol 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Strategol adroddiad ar ddata perfformiad gwerth cymdeithasol ar gyfer chwe mis olaf blwyddyn ariannol 2023/24. Cytunodd i ymdrin ag ymholiadau am wariant lleol disgwyliedig trwy gontract a chostau uwch i’r Cyngor sy’n deillio o werth cymdeithasol. Byddai’r ddau’n cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad olrhain camau gweithredu.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd wrth greu gwerth cymdeithasol ar gyfer chwarter tri a phedwar blwyddyn ariannol 2023/24. |
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir y Fflint a Wrecsam 2023/2024 PDF 105 KB Pwrpas: Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir y Fflint a Wrecsam 2023. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Strategol adroddiad blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Wrecsam ar gyfer 2023/24 yn unol â gofynion canllawiau statudol. Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi darpariaeth Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir y Fflint a Wrecsam 2023/24. |
|
Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint 2024 PDF 109 KB Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint, 2024, a luniwyd gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Strategol yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd a wnaed gyda Chronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint a Chronfa Ddegwm Sir y Fflint – y ddwy’n cael eu harolygu gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Ar ran Sefydliad Cymunedol Cymru, crynhodd Andrea Powell y pwyntiau allweddol a byddai’n darparu ymateb ar wahân i egluro’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm y grantiau a ddyfarnwyd yn 2023/24 a ddangosir yn yr adroddiad eglurhaol, a’r hyn sydd yn y Trosolwg o’r Gronfa. Cytunodd y Swyddog Gweithredol Strategol i ymateb ar wahân i ymholiad am drefniadau llywodraethu ar gyfer Cronfa Ddegwm Sir y Fflint.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys Adroddiad Effaith Sir y Fflint, Ebrill 2024, ac yn cefnogi gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r lle gwag presennol ar y panel grantiau ar gyfer cynrychiolydd yr Aelodau Etholedig, ac yn cefnogi hyrwyddo’r cyfle hwn i Aelodau. |
|
Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd – Y Wybodaeth Ddiweddaraf PDF 118 KB Pwrpas: Darparu diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch anfonebau Gofal Iechyd Parhaus sydd heb gael eu talu i’r Cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mewn perthynas â phecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint. Cyflwynwyd y Pwyllgor i Helen Brockley, Cydlynydd Gofal Iechyd Parhaus, a ddarparodd wybodaeth am y fframwaith cenedlaethol a phrosesau.
Diwygiwyd yr argymhellion i adlewyrchu’r drafodaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol yn ymwneud ag anfonebau Gofal Iechyd Parhaus sydd heb eu talu i’r Cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi gwybodaeth yngl?n â Gofal Iechyd Parhaus y GIG – Y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru a’i broses parthed anghydfod ac apelio; a
(c) Bod yr Uwch Reolwr a’r Cydlynydd yn cyfarfod â Chadeirydd y Pwyllgor i lunio llythyr i’r Bwrdd Iechyd a’r Weinyddiaeth Iechyd ar ran y Cadeirydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26 PDF 74 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r amcangyfrifon ar gyfer y gyllideb a’r strategaeth ar gyfer pennu cyllideb 2025/26. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar gam cyntaf datblygu’r gyllideb ar gyfer 2025/26 cyn ei ystyried gan y Cabinet.
Wrth ymateb i sylwadau yngl?n ag ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i gysylltu â’r trysorydd yngl?n ag unrhyw amrywiad posibl.
Byddai swyddogion Cyllid yn gweithredu ar gais am i gyllidebau gwasanaethau ddangos canran y costau hynny yng nghyllideb gyffredinol y Cyngor ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol (fel y gwnaed gyda chyllidebau a oedd wedi eu dirprwyo i ysgolion).
Diwygiwyd yr argymhelliad i adlewyrchu’r cynigion ychwanegol a gefnogwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y sylwadau am y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26 yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad;
(b) Bod y Cyngor yn ceisio rhoi blaenoriaeth i amddiffyn darpariaeth gwasanaethau rheng flaen hanfodol; a
(c) Bod gwahoddiad yn cael ei estyn i’r Prif Swyddog Tân i gynrychiolydd fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor hwn yn y dyfodol. |
|
Cynllun Premiwm Treth y Cyngor i Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor PDF 138 KB Pwrpas: Ystyried yr adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos a chyfraddau premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ac os y dylai cyfraddau aros yr un fath neu gynyddu o fis Ebrill 2025. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) a Rheolwr Refeniw a Chaffael adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfraddau premiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.
Yn dilyn trafodaeth, diwygiwyd yr argymhelliad i adlewyrchu’r cynigion ychwanegol a gyflwynwyd a’u cefnogi. Gwnaed cais am wybodaeth gymharol gan Awdurdodau eraill ar effaith cyflwyno cynllun codi premiwm cynyddol ar gartrefi gweigion hirdymor.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn argymell:
(a) Cynyddu cyfradd premiwm Treth y Cyngor o 75% i 100% ar eiddo gwag hirdymor a chadw cyfradd bresennol y premiwm, sef 100%, ar ail gartrefi;
(b) Ystyried cyflwyno dull cynyddol ar gyfer cyfraddau premiwm ar eiddo gwag hirdymor o fis Ebrill 2025; ac
(c) Ystyried eithriad disgresiynol pellach o’r premiwm mewn amgylchiadau lle y gall unigolyn sy’n prynu eiddo gwag hirdymor fod yn agored i’r premiwm o’r adeg pan fo’n prynu’r eiddo ond ei fod yn gwneud ymdrech wirioneddol i ddod â defnydd yn ôl i’r eiddo. Bydd hyn yn sicrhau na fyddai prynwyr dan anfantais. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 4) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2024/25 (Mis 4) PDF 78 KB Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 4), Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2024/24 (Mis 4) ac Amrywiant Sylweddol i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol adroddiadau ar sefyllfa mis 4 2024/25 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet eu hystyried.
Yn ystod y drafodaeth codwyd pwyntiau yngl?n â gorwario sylweddol annisgwyl yn y cam cynnar hwn, yr angen i roi gwybod am ganlyniadau lobïo Llywodraeth Cymru, a’r defnydd o’r term ‘arbedion effeithlonrwydd’.
Wrth ymateb i’r sefyllfa derfynol a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn parthed y Cyfrif Refeniw Tai, ceisid cael ymateb gan bortffolio Tai ynghylch a fyddai rhywfaint o’r balans terfynol heb ei glustnodi yn gallu cael ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (mis 4), bod y sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor yn cael eu cyfeirio at y Cabinet; ac
(b) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2024/25 (mis 4), nid oes gan y Pwyllgor unrhyw sylwadau penodol i’w codi gyda’r Cabinet. |
|
Pwrpas: Ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023-24, gan nodi perfformiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2023-24. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn ystyried Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023-24, gan nodi perfformiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2023-24. Darparodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y wybodaeth ddiweddaraf am ystadegau data ers cyhoeddi’r rhaglen.
Cefnogwyd yr argymhelliad ynghyd â chynnig ychwanegol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24, wedi’i gyfuno ag Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24, gan nodi’r perfformiad a gyflawnwyd; a
(b) Bod adroddiadau yn y dyfodol yn adlewyrchu perfformiad y Cyngor, gydag esboniadau os nad yw targedau’n cael eu cyrraedd, a sicrhau y gellir croesgyfeirio’r ddwy ddogfen yn haws er budd y darllenydd. |
|
Gosod Amcanion Lles PDF 117 KB Pwrpas: Adolygu’r argymhellion ar gyfer gwella a gynghorwyd gan Archwilio Cymru, ynghyd ag ymateb y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn adolygu ymateb y Cyngor i’r pedwar argymhelliad a gynghorwyd gan Archwilio Cymru ar gyfer gwella, cyn ei gyflwyno i’r Cabinet.
Diwygiwyd yr argymhelliad i adlewyrchu’r drafodaeth hon.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried yr ymateb i’r argymhellion ar gyfer gwella, bod y Pwyllgor yn codi’r pwyntiau canlynol gyda’r Cabinet:
· Bod y Pwyllgor yn derbyn Argymhellion R1 a R4; a · Bod y Swyddog Monitro a dau Aelod Cabinet yn adolygu’r cwestiynau a ofynnwyd gan Archwilio Cymru ac yn nodi siom y Pwyllgor nad oedd y cwestiynau a ofynnwyd yngl?n ag Argymhellion R2 a R3 yn gysylltiedig â chyllidebau nac adnoddau. |
|
Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24 PDF 141 KB Pwrpas: Derbyn a chymeradwyo canfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24 a chymeradwyo’r cyfleoedd ar gyfer gwella a nodir yn Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ganfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24, yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer gwella.
Yn ystod trafodaeth ar ail gam y broses, cytunwyd y dylid rhoi’r cyfle i holl aelodau’r pwyllgorau a grybwyllwyd gymryd rhan mewn sesiynau herio yn y dyfodol.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn:
(a) Derbyn canfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24;
(b) Derbyn y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24;
(c) Awgrymu cynnwys Aelod Cabinet ar y bwrdd prosiect[1]; a
(d) Gofyn am ychwanegu’r adran ar Ymgynghori ac Ymgysylltu i’r adroddiad ar gyfer eleni a’r blynyddoedd i ddod. [1] Yn dilyn y cyfarfod, eglurwyd nad yw’r bwrdd prosiect ar waith mwyach ar gyfer y darn hwn o waith; fodd bynnag, mae cyfraniad gan Aelodau Cabinet, aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ac aelodau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn rhan o’r broses adolygu. |
|
Adroddiad Blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu 2023-24 PDF 208 KB Pwrpas: I ddarparu trosolwg o berfformiad blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu yn ystod 2023-24. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) a Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid adroddiad yn nodi perfformiad Sir y Fflint yn Cysylltu yn ystod 2023-24, cyn i’r Cabinet ei ystyried.
Yn dilyn trafodaeth ar y cynigion, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu ar gyfer 2023-24; ac
(b) Yng ngoleuni’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd i Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu, bod y Pwyllgor yn cefnogi:
i) adolygu’r gwasanaeth, gan ddechrau gydag ymgynghoriad cyhoeddus yngl?n â pham mae gostyngiad yn y defnydd, a pha swyddogaethau y gallai / dylai’r gwasanaeth eu darparu; a’r ii) ymgynghoriad, a ddylai hefyd archwilio’r effaith bosibl ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig pe bai’r oriau agor yn cael eu lleihau i adlewyrchu’r ffaith bod llai o ddefnydd arnynt gan breswylwyr. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |