Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn ystod y cyfarfod blynyddol penderfynodd y Cyngor y bydd y Grwp Annibynnol yn cadeirio’r cyfarfod Hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Richard Jones yw Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Richard Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Bill Crease yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 7 Mawrth 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd y dylid cynnwys y Cynghorydd Coggins Cogan yn y rhestr gylchredeg ar gyfer y cam gweithredu dan rif 81 (Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Werth Cymdeithasol), gan ei fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Cymeradwywyd y cofnodion, yn amodol ar gywiro paragraff cyntaf cofnod rhif 81.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2024 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

5.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad am gynnydd camau gweithredu cyfarfodydd blaenorol. Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.

6.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith i’w hystyried.

 

Nodwyd fod pryderon ynghylch argaeledd polisïau penodol ar wefan y Cyngor yn destun archwiliad gan y Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Yn ogystal, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i atgoffa prif swyddogion y dylid diweddaru’r wybodaeth am eu portffolios ar y wefan.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a yw’n bosibl rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ofal a ariennir ar y cyd a Chynllun y Cyngor ar y Rhaglen Waith bob chwarter.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith;

 

(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c) Bod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried cais i raglenni’r pwyllgor hwn gynnwys eitem bob yn ail cyfarfod i alluogi’r Aelodau Cabinet perthnasol i ateb cwestiynau gan Aelodau.

7.

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd - Adroddiad Diweddaru pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I rannu diweddariad ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mewn perthynas â darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint.

 

Yn dilyn trafodaeth, ailadroddodd y Cadeirydd y pryderon ynghylch nad yw’r broses apelio yn caniatáu cynrychiolaeth gan yr awdurdod lleol a mynegodd y dylai’r Pwyllgor, efallai, fyfyrio ar hyn yn ystod y diweddariad nesaf.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa o ran anfonebau Gofal Iechyd Parhaus sydd heb eu talu i’r Cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

8.

Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2023/24 pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Cyflwyno drafft o Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2023/24 i’w gymeradwyo, a darparu sicrwydd bod y Cyngor wedi dangos cynnydd wrth fodloni gofynion statudol Hysbysiad Cydymffurfio - Iaith Gymraeg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol adroddiad ar gynnydd y Cyngor wrth gydymffurfio á Safonau’r Gymraeg a nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant pellach.

 

Mewn ymateb i’r pwyntiau a godwyd, byddai Aelodau Cabinet perthnasol yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd pan gyflwynir adroddiadau yn eu henwau.

Cefnogwyd yr argymhellion ynghyd â chynnig ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD:

 

a) Cymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol drafft ar Safonau’r Gymraeg ar gyfer 2023/24;

 

b) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau bod y Cyngor yn gwneud cynnydd tuag at fodloni gofynion statudol Hysbysiad Comisiynydd y Gymraeg; a

 

c) Bod yr Ymgynghorydd Polisi Strategol yn cysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau bod gwybodaeth am hyfforddiant a mentrau datblygu yn cael eu hanfon at bob aelod etholedig i hyrwyddo mwy o ddefnydd o’r Gymraeg.

9.

Archwilio Cymru: Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:        Diweddaru ar gynnydd i fodloni argymhellion adroddiad “Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio” Archwilio Cymru ac argymell gwelliannau i sicrhau bod Asesiadau o Effaith Integredig yn cael eu cynnal yn fwy cyson yn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol – y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau a’r Ymgynghorydd Polisi Strategol adroddiad ar gynnydd y camau gweithredu yn sgil adroddiad Archwilio Cymru ar ddefnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yng Nghymru.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd wrth roi argymhellion Archwilio Cymru yn “Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy nag ymarfer blwch ticio?” ar waith.

10.

Diweddariad Diwedd Blwyddyn am Gyflogaeth a'r Gweithlu pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        I gyflwyno ystadegau gweithlu diwedd blwyddyn a’u dadansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Reolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol adroddiad yn cynnwys data am y gweithlu a’r dadansoddiad o’r sefyllfa ar ddiwedd blwyddyn 2023/24.

 

Yn ystod y drafodaeth, eglurodd y Rheolwr Corfforaethol y gyfradd absenoldebau a chytunodd i ddarparu ymateb dilynol o ran a yw’r cyfrifiadau a’r cyfraddau cyfwerth â llawn amser yn gysylltiedig â nifer y gweithwyr neu nifer y swyddi sydd ar gael. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth am y cyfrifiad a ddefnyddiwyd i nodi’r dyddiau a gollwyd ac yn cysylltu â’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gasglu data’r sefydliad ar nifer y dyddiau a gollwyd yn sgil swyddi heb eu llenwi ar draws y portffolios i’w rhannu gyda’r Pwyllgor. Mewn ymateb i’r sylwadau, cytunodd i gynnwys esboniad mewn adroddiadau pan nad yw targedau presenoldeb a gwariant ar staff asiantaeth wedi’u cyrraedd, ynghyd â chyfeiriad at y broses o werthuso perfformiad.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Diwedd Blwyddyn 2023/24 ar y Gweithlu.

11.

Defnyddio Gwybodaeth am Berfformiad: Persbectif a Chanlyniadau Defnyddwyr Gwasanaeth pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Adolygu’r Argymhellion ar gyfer Gwella, yn ogystal ag ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Llywodraethu) a Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad ar gynnydd y camau gweithredu yn sgil adolygiad Archwilio Cymru.

 

Nodwyd y byddai’r Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor.

 

Diwygiwyd yr argymhelliad i adlewyrchu’r drafodaeth hon.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried yr ymateb i’r argymhellion ar gyfer gwella, bod y Pwyllgor yn darparu’r sylwadau canlynol i’r Cabinet:

 

(a) Mewn perthynas â phenderfyniadau gwasanaeth a pholisi allweddol, yn cynnwys unrhyw newid i wasanaethau, bod adroddiadau’n cynnwys safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth ar y canlyniadau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd; a

 

(b) Bod y Cabinet yn ystyried cynnwys arolwg blynyddol o farn defnyddwyr gwasanaeth am berfformiad y Cyngor, tua mis Ebrill o bosibl wrth anfon biliau Treth y Cyngor.

12.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.