Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Rhagfyr 2018. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2018.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Pwrpas: Hysbysu’r Pwyllgor am gynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad cynnydd ar gamau’n deillio o gyfarfodydd blaenorol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y ffaith nad oedd camau wedi’u cymryd yngl?n â chostau ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir oedd yn risg fawr a rannwyd gan yr holl Gynghorau. Gan nad oedd hyn wedi’i gydnabod yn Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar gyfer 2019/20 gan Lywodraeth Cymru (LlC), awgrymodd fod y Pwyllgor yn gweithredu drwy ysgrifennu at LlC gyda chefnogaeth gan Gynghorau eraill.
Dywedodd y Prif Weithredwr er nad oedd unrhyw ddarpariaeth benodol wedi’i gwneud, ei bod yn bosibl i amrywiadau gael eu dyrannu gan LC yn ddiweddarach. Dywedodd fod y Cyngor Llywodraeth Leol wedi cyflwyno achos cryf gyda thystiolaeth i LlC ar y mater dros gyfnod o amser ac efallai y bydd Aelodau’n dymuno trafod y ffordd ymlaen ar y cyd fel rhan o’r eitem gyllideb yn y Cyngor Sir ar 29 Ionawr.
Awgrymodd y Cynghorydd Shotton os oedd y Pwyllgor yn awyddus i gyflwyno achos o’r fath yna gellid cysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn ogystal â LlC, i rannu gwybodaeth a goladwyd ar draws y Cyngor. Awgrymodd y gallai hyn arwain at achos mwy effeithiol ac efallai gynnwys y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol.
I baratoi tuag at y cyfarfod o’r Cyngor Sir, awgrymodd y Prif Weithredwr ei fod yn cysylltu â CLlLC i gael eu cefnogaeth i godi’r mater yn ffurfiol eto gyda LlC ac i’r eitem gael ei thrafod yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor Gwaith CLlLC. Cynigiwyd y cam hwn gan y Cynghorydd Jones yn ogystal â llythyr gan y Pwyllgor i dynnu sylw at y pryderon. Cynhaliwyd pleidlais, a chytunwyd ar hyn.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Heesom, Cynghorydd Carolyn Thomas, rhoddodd Aelod Cabinet dros Strydlun a Chefn Gwlad – oedd yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus - eglurhad ar faterion cludiant. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddent yn gofyn i LlC rannu manylion cynllun ‘Llwybr Coch’ A494-A55 gyda’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; ac
(b) Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru a CLlLC i gynnig yn ffurfiol gyllideb genedlaethol newydd a phenodol i gwrdd ag amcangostau ychwanegol Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir drwy Gymru. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried. Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:
· Symud adroddiad Chwarter 3 ar Gynllun y Cyngor o Fawrth i Chwefror. · Eitemau i’w cynnwys ar y Gofrestr Asedau a Swydd Ddisgrifiadau fel y gofynnwyd gan y Cynghorydd Woolley.
O ran y mater olaf, gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Woolley egluro’r rheswm dros y ddwy eitem yn dilyn gwybodaeth fanwl a rannwyd eisoes.
Ar Gynllun y Cyngor, gofynnodd y Cynghorydd Jones am ddangosfwrdd o fesurau i ddangos perfformiad ar draws y Cyngor yng nghyfarfod Mawrth. Byddai’r mater hwn yn cael ei drafod ymhellach o dan Eitem 9 ar yr agenda.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Heesom, rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg byr o’r Byrddau Rhaglen a sefydlwyd i osod ac olrhain effeithlonrwydd ariannol. Gan fod y cyfarfodydd yn rhai anffurfiol, nid oedd unrhyw gofnodion wedi eu cyhoeddi er y gellid cael gwybodaeth bellach drwy ofyn i Brif Swyddogion penodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Papur Gwyn: Diwygio Awdurdodau Tan ac Achub Cymru PDF 85 KB Pwrpas: Argymell ymateb i’r Papur Gwyn ar ddiwygio’r modd y llywodraethir ac yr ariennir Awdurdodau Tan yng Nghymru i gyfarfod y Cyngor ar 29 Ionawr. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ystyried ymatebion drafft i’r cwestiynau ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru (LlC) dan y teitl ‘Diwygio awdurdodau tân ac achub yng Nghymru’. Byddai safbwynt y Pwyllgor yn cael ei adrodd i’r cyngor Sir ar 29 Ionawr er mwyn gallu cyflwyno ymateb ffurfiol erbyn dyddiad cau’r ymgynghoriad ar 5 Chwefror.
Eglurodd y Prif Weithredwr a Phrif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd tystiolaeth o’r angen i newid o fewn y Papur Gwyn a bod y Cyngor a Swyddfa Archwilio Cymru’n fodlon gyda threfniadau llywodraethu presennol. Rhoddwyd trosolwg o’r ymatebion a awgrymwyd ar y model ariannu, goblygiadau o ran aelodaeth a’r angen i Awdurdodau Tân ac Achub fod yn gyrff yn codi praespet yn hytrach na chodi cyfraniadau.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Jones a ddywedodd “os nad yw'r system wedi torri, nid oes angen ei thrwsio”. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Woolley. Cytunwyd y byddai’r sylw a wnaed gan y Cynghorydd Jones yn cael ei adlewyrchu yn yr ymateb.
PENDERFYNWYD:
Gan gynnwys safbwynt y Pwyllgor bod y model llywodraethu presennol yn gweithio ac yn gadarn ac felly na ddylid ei haddasu, bod yr ymatebion i’r cwestiynau yn Atodiad 2 o’r Adroddiad yn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor fel ymateb ffurfiol Sir y Fflint i’r Papur Gwyn Diwygio awdurdodau tân ac achub yng Nghymru’. Yr unig newid y mae angen ei wneud yw ariannu, fel bod Awdurdodau Tân ac Achub yn gyrff codi praespet yn hytrach na chodi cyfraniadau. |
|
Polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb PDF 85 KB Pwrpas: Ystyried ac adolygu Polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb diweddaredig y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y Polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb diwygiedig i’w ystyried a chynnig sylwadau arno cyn ei gymeradwyo gan y Cabinet. Diweddarwyd y polisi, a gymeradwywyd yn wreiddiol yn 2012, i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth ac arferion gwaith.
Er nad oedd yn ofyniad mandadol, roedd cyhoeddi’r polisi’n cael ei ystyried yn arfer da i ddangos ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu gweithlu cynhwysol a gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion pobl. Tynnwyd sylw at enghreifftiau o waith a wnaed i gydymffurfio â’r polisi a gwahanol fathau o wahaniaethu.
Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Johnson, cytunodd aelodau i gynnwys cyfeiriad at God Ymddygiad Swyddogion (yn ogystal â Chod Ymddygiad Aelodau) o fewn y polisi. Mewn ymateb i sylwadau am hyfforddiant ‘gloywi’ parhaus ar gyfer y gweithlu, roedd uwch swyddogion a rheolwyr yn ystyried gwahanol ffyrdd o gynyddu cyfraddau cwblhau ar y modiwlau e-ddysgu.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi fersiwn diweddaraf y Polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb cyn i’r Cabinet ei gymeradwyo; a
(b) Chefnogi’r camau a gymerir i wella cyfraddau cwblhau ar gyfer y modiwlau e-ddysgu. |
|
Adolygiad Blynyddol o Arfarniadau PDF 75 KB Pwrpas: Diweddariad ar berfformiad o ran cwblhau’r gwerthusiadau staff blynyddol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad diweddar gyda lefelau arfarnu manwl wedi’u cwblhau gan wasanaethau yn ogystal â phortffolios. Byddai sefyllfa diwedd blwyddyn yn cael ei chynnwys o fewn Cynllun y Cyngor fel Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA).
Ar yr adeg yr oedd yn adrodd, dywedodd Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod 91% o arfarniadau wedi’u cwblhau a’u trefnu ar draws y Cyngor. Ers hynny cadarnhawyd bod 24 o arfarniadau eraill wedi’u trefnu yn Strydlun a Chludiant. Wrth gydnabod y targed o 100%, roedd yn bwysig nodi amrywiaeth y gweithlu ac arferion cyffredin o reoli perfformiad fel cyfarfodydd un-i-un a chyfarfodydd tîm yn ogystal â’r dull a ddefnyddir yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal cyfarfodydd ‘goruchwylio’ manwl rheolaidd a gofnodir. Rhoddwyd sicrwydd y byddai gwaith yn parhau gyda gwasanaethau a rheolwyr i fonitro’r gyfradd gwblhau ac ansawdd arfarniadau.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod hwn yn adroddiad cadarnhaol oedd yn cydnabod bod angen gwelliannau pellach i gyrraedd y targed. Tynnwyd sylw Aelodau at y ffocws ar gwblhau arfarniadau ystyrlon wedi’u cysylltu ag adroddiad arfaethedig gan y Cabinet ar fodelu tâl a chodiadau tâl.
Croesawodd y Cynghorydd Jones y cynnydd a wnaed a’r niferoedd oedd wedi’u cynnwys ar gyfer bob portffolio er mwyn darparu cyd-destun. O ran y rhai nad oeddent yn cyrraedd 100%, canmolodd y gwelliant yn ffigurau terfynol Strydlun a Chludiant a chwestiynodd wasanaethau eraill â niferoedd is heb unrhyw arfarniadau wedi’u trefnu.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod disgwyl i’r holl arfarniadau gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, yn arbennig y portffolios hynny gyda thimau mwy sefydlog mewn swyddfeydd.
Dywedodd yr Uwch Reolwr fod disgwyl i’r ffigurau ar gyfer Cymuned a Menter gynyddu yn sgil cyfnod o newid. Roedd y gwelliannau yn Strydlun a Chludiant yn deillio’n rhannol o ddatblygu model pwrpasol oedd yn diwallu anghenion y gwasanaeth hwnnw. Dywedodd fod adolygiad wedi’i gynnal o system cefn swyddfa i gryfhau’r trefniadau monitro ymhellach.
Atgoffodd y Cynghorydd Jones ei gydweithwyr o’r penderfyniad blaenorol i wahodd Prif Swyddogion i egluro eu rhesymau pam nad oedd eu meysydd wedi cyrraedd y targed. Cydnabuwyd hyn gan y Prif Weithredwr a awgrymodd fod y Pwyllgor yn aros tan ddiwedd y flwyddyn ariannol i weld p’un ai a oedd ffigurau ar lefel dderbyniol. Dywedodd fod y modelau arfarnu ar gyfer staff Theatr Clwyd a gwasanaethau wedi’u trosglwyddo i Fodelau Darparu Eraill – oedd heb eu cynnwys yn y ffigurau – yn gweithio’n dda.
Gan groesawu’r cynnydd a wnaed, dywedodd y Cynghorydd Axworthy fod cwblhau’n arfarniadau’n un o brif gyfrifoldebau rheolwyr ac os methir â gwneud hyn y dylid dwyn y mater i sylw lefel uwch. Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd fod rheolwyr yn deall pwysigrwydd cwblhau arfarniadau ansawdd a bod disgwyl iddynt eu cyflawni, fel y dangoswyd gan y penderfyniad i gynnwys hwn fel DPA yn y drefn adrodd i Gynllun y Cyngor.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Jones y rhan yr oedd y Pwyllgor yn ei chwarae i gynyddu pwysigrwydd cwblhau arfarniadau a chydnabuwyd hyn.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Weithredwr a’r Uwch Reolwr ... view the full Cofnodion text for item 80. |
|
Y Cylch Cynllunio Cyllid a Busnes PDF 82 KB Pwrpas: Derbyn darlun o’r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad a gwybodaeth ar yr ystod o wybodaeth perfformiad sydd ar gael ar gyfer Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i lunio adroddiadau perfformiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol adroddiad yn dangos y cylch ariannol a chynllunio busnes a manylion y gwahanol Ddangosyddion Perfformiad Allweddol sydd ar gael i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu eu defnyddio i adrodd ar berfformiad. Gofynnwyd am y ddwy eitem gan y Pwyllgor.
Rhoddwyd model gyda diagramau o’r cylch ariannol a chynllunio busnes yn dangos tair elfen benodol – ariannol, darparu a pherfformiad, a mesurau rheoli a chyd-destun allanol. Ategwyd hyn gan gyflwyniad yn egluro datblygiad y model a sut roedd yn gweithio.
Wrth ddiolch i’r swydd a’r timau dan sylw, dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn gwerthfawrogi lefel y manylder ac awgrymodd fwy o gysondeb o ran y penawdau a ddefnyddid. O safbwynt amserlenni, dywedodd mai’r set llawn o gynlluniau portffolio a Chynllun y Cyngor ddylai ddod gyntaf er mwyn rhoi gwybodaeth am osod Treth y Cyngor.
Siaradodd y Prif Weithredwr am gymhlethdod y broses o osod y gyllideb a’r angen i gynlluniau busnes fod yn barhaus, yn arbennig er mwyn addasu i’r newidiadau dan arweiniad y Llywodraeth yn ystod y flwyddyn – fel yr adlewyrchir yn sylwadau ysgrifenedig y Cadeirydd at Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod datblygiad y model, a fyddai’n newid dros amser, yn ddefnyddiol i esbonio’r broses a’r amserlenni.
Yn ystod y drafodaeth, eglurodd y Swyddog Gweithredol fod cynlluniau portffolio’n cynnwys gwybodaeth am feincnodi a’u bod felly wedi’u gosod ar ôl Cynllun y Cyngor. Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at Gynllun y Cyngor fel dogfen strategaeth hirdymor.
Gan gydnabod y broses gymhleth a’r gwaith caled a wnaed gan swyddogion, dywedodd y Cynghorydd Heesom nad oedd ffordd effeithiol o werthuso gwariant portffolio’n agored.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y pwyntiau a godwyd wedi’u cynnwys o fewn y broses gyllidebol tri-cham lle’r oedd lefelau gwariant gwasanaethau wedi’u cefnogi gan ddatganiadau cadernid wedi’u rhannu cyn ystyried yr holl gynigion gwasanaeth. Roedd y dull yn caniatáu amser i ganolbwyntio ar gynlluniau portffolio yn amodol ar unrhyw opsiynau ychwanegol y gellid eu codi gan Aelodau yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach yn y mis.
Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd Heesom yngl?n â rheolaeth ariannol, rhoddwyd sicrwydd gan y Prif Weithredwr a Chynghorydd Shotton fod adroddiadau cadernid Swyddfa Archwilio Cymru wedi adlewyrchu perfformiad cadarnhaol y Cyngor ar effeithlonrwydd, cost-effeithiolrwydd a rheolaeth ariannol. Byddai’r cynnydd sylweddol posibl yn Nhreth y Cyngor yn benderfyniad i Aelodau o/gan ystyried y diffyg opsiynau eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Jones fod cyfleoedd o hyd i’r Weinyddiaeth baratoi ‘Cynllun B’ er mwyn pontio’r bwlch ariannol oedd yn weddill, i osgoi cynnydd uwch yn Nhreth y Cyngor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y drafodaeth a geir ar y gyllideb yn y Cyngor Sir a’r angen i gadw’r pwysau ar LlC am gyllid tecach i osgoi’r baich cynyddol ar gyfer Treth y Cyngor i drigolion Sir y Fflint. Ar ôl trafod yn helaeth yn y misoedd diwethaf, roedd mwyafrif helaeth yr Aelodau wedi cytuno nad oedd unrhyw opsiynau eraill ar ôl oedd yn dderbyniol i’r Cyngor.
Ar ail ran yr adroddiad, rhannwyd gwybodaeth am y ... view the full Cofnodion text for item 81. |
|
Cyfathrebu aelodau: Achosion a chwynion a adroddwyd PDF 95 KB Pwrpas: Rhannu gwybodaeth am y camau gweithredu a’r gwaith a wnaed hyd yma i wella safonau cysylltiedig â gohebiaeth Aelodau. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad oedd yn crynhoi’r gwaith a wnaed mewn ymateb i Hysbysiad o Gynigiad a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir ym Medi ar reoli cyfathrebiadau gydag Aelodau etholedig.
Rhannwyd cynllun gweithredu manwl oedd yn darparu gwybodaeth am yr adolygiad a wnaed o systemau adrodd ac ymateb. Ymysg y canfyddiadau, nodwyd bod amseroedd ymateb ar draws y rhan fwyaf o wasanaethau’n gadarnhaol gyda mwyafrif y cwynion gan y rhai oedd yn ymwneud mwy â’r cyhoedd. Roedd yr adroddiad yn cydnabod natur amrywiol ymholiadau a gwasanaethau, ynghyd â gwahanol brofiadau cwsmeriaid ac Aelodau.
Ailadroddodd y Prif Weithredwr y cais a wnaed yn y Cyngor Sir fod Aelodau’n adrodd am unrhyw achosion a bod cydweithwyr yr Undeb Llafur wedi gwneud cais fod y rhain yn cael eu hategu gan dystiolaeth er mwyn gallu canolbwyntio ar y meysydd penodol hynny. Ni dderbyniwyd unrhyw atgyfeiriadau ers Medi. Roedd Swyddogion a swyddogion yr Undeb Llafur yn rhannu’r un pryder fod Aelodau mewn risg o fod yn or-feirniadol o berfformiad swyddogion yma.
Siaradodd Prif Swyddog (Llywodraethu) am yr her i olrhain cyfathrebiadau gydag Aelodau etholedig o ystyried lefel yr ohebiaeth â swyddogion. Byddai’r awgrym o gynnal gweithdy i Aelodau o gymorth i drafod y ffordd orau i ddefnyddio systemau adrodd.
Siaradodd y Cadeirydd am ei brofiad ei hun o geisio ymatebion gan swyddogion oedd yn amrywio. Eglurwyd y system ar gyfer newid rhifau gwaith i ddyfais arall a rhannu rhifau ffonau symudol gwaith.
Siaradodd y Prif Weithredwr am y gwaith manwl a wnaed ar draws yr holl feysydd gwasanaeth, a’r cynllun gweithredu oedd yn mynd y tu hwnt i’r Safonau a gyflwynwyd. Roedd Aelodau’n cael eu hannog i gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chofrestru (Rebecca Jones) gydag unrhyw enghreifftiau untro nad oeddent yn rhai brys er mwyn gallu cofnodi’r rhain tra dylid cyfeirio diffyg cydymffurfio gan dimau at y Prif Weithredwr neu at Brif Swyddog (Llywodraethu).
Yn ystod y drafodaeth, cydnabu Aelodau fod y Safonau’n berthnasol i bawb a chydnabuwyd bod meysydd o arfer da lle’r oedd swyddogion yn ymateb yn gyson dda, fel y dangoswyd gan yr ystadegau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r Cynllun Gweithredu; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cais i gynnal gweithdy Aelodau i adolygu sut y gall Aelodau weithio gyda’r systemau adrodd y mae’r Cyngor yn eu gweithredu i dderbyn y gwasanaeth a’r gefnogaeth orau. |
|
2018/19 Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw (Mis 8) PDF 68 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 8 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried ar 18 Rhagfyr 2018. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol os oedd popeth yn dal yr un fath.
Roedd Cronfa’r Cyngor fwy neu lai yn unol â’r targed gyda gwarged o £0.026m oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.351m o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd y prif newidiadau’n gysylltiedig â dyraniad y Cyngor o grant untro o £0.611m o arian Cefnogi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2018/19 i’w ddefnyddio i’r dibenion a nodwyd ym mharagraff 1.04. Roedd y cynnydd mewn costau Strydlun a Chludiant yn deillio o’r angen am gludiant ysgol ychwanegol.
Amcangyfrifwyd y byddai 97% neu £5.326m o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.
O ran tâl athrawon, roedd cadarnhad wedi’i dderbyn ynghylch cyfraniad ariannol 2018/19 o £0.784m i’w drosglwyddo’n llawn i ysgolion unwaith y byddai’n cael ei dderbyn. Tra bod hyn yn talu’n fras am y costau cynyddol ar gyfer 2018/19, nid oedd y Setliad Terfynol yn newid y sefyllfa flaenorol oedd yn caniatáu i’r Cyngor ychwanegu 1% at gyllid sylfaen ysgolion, sy’n golygu y byddai angen i ysgolion rannu effaith y costau ar gyfer 2019/20.
Amcangyfrifwyd mai’r balans ar Gronfeydd wrth Gefn ar ddiwedd y flwyddyn oedd £7.689m, fodd bynnag ar ôl defnyddio £1.900m i gau’r bwrdd cyllidebol fel y cytunwyd fel rhan o ddatrysiadau cyllideb Cam 1, cyfanswm y balans ar gael fyddai £5.789m.
O ran yr HRA, byddai tanwariant rhagamcanedig o £0.067m yn gadael balans o £1.165m, oedd yn 3.4% o gyfanswm y gwariant.
Cyfeiriodd y Cynghorydd at y gorwariant rhagamcanedig ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir a fyddai wedi cynyddu ymhellach heb y grant a roddwyd gan LlC. Mewn ymateb i ymholiadau, rhoddwyd eglurhad ar y meini prawf llym ar gyfer arian grant a’r angen i ddangos eu bod yn cyd-fynd a’r blaenoriaethau hynny.
Holodd y Cynghorydd Heesom ynghylch maint a chapasiti cronfeydd heb eu clustnodi a ph’un ai y gellid eu defnyddio tuag at y bwlch cyllidebol os nad oedd eu hangen. Mewn ymateb, tynnwyd sylw at yr adroddiad diweddaraf i’r Cabinet yn manylu ar sefyllfa bresennol cronfeydd wrth gefn a barn y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, fel Swyddog statudol Adran 151, am eu defnydd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Cabinet ar 22 Ionawr ar Fonitro’r Gyllideb Refeniw 22 2018/19 (Mis 8) ac yn cadarnhau nad oes unrhyw bryderon y mae'n awyddus i’w codi yn y Cabinet y mis hwn. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |