Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

78.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

79.

Cofnodion pdf icon PDF 81 KB

Diben:  Cadarnhau cofnodion y cyfarfod ar 15 Mawrth 2018 a chofnodion cyfarfod ar y cyd rhwng Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Amgylchedd fel cofnod cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i)         Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2018.               

 

Materion yn codi:

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at drafodaethau rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru (LlC) ynghylch dyfodol pont Sir y Fflint a materion eraill yn ymwneud â ffyrdd, a gofynnodd a oedd unrhyw newydd. Eglurodd y Prif Weithredwr bod sawl trafodaeth yn parhau ac y byddid yn darparu diweddariad yn y man.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom hefyd at y cais y dylai’r Pwyllgor dderbyn adroddiad yn amlinellu effeithiau’r gwariant cyfalaf (cynlluniau newydd i’w cymeradwyo) a dywedwyd y byddai hwn ar gael ar gyfer cyfarfod mis Ebrill. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddid yn darparu adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor.                             

  

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at ansawdd gwaith atgyweirio'r tyllau mewn lonydd gan godi pryderon nad oeddid yn cyflawni gwerth am arian. Eglurodd y Prif Weithredwr bod rhagor o dimau’n gweithio ar hyn gyda phwyslais ar dorri allan a llenwi. Dywedodd nad oedd gwaith gwael yn dderbyniol ac y dylid adrodd ynghylch unrhyw enghreifftiau i’w harchwilio gan y gwasanaeth Strydlun.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley hefyd at leoliadau y tu allan i’r sir a chostau cysylltiedig, a gofynnodd a oedd y Cyngor yn lobïo LlC i fynd i’r afael ag anghenion o ran cyllid. Dywedodd y Prif Weithredwr bod trafodaethau adeiladol yn cael eu cynnal gyda LlC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac roedd y mater o gyllid a’r angen am ddarpariaeth a datrysiadau mwy rhanbarthol yn bwynt lobïo cryf. Cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton hefyd at drafodaethau parhaus gyda CLlLC a dywedodd fod yr egwyddor o ragor o gyllid yn fater allweddol. Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylai hon fod yn eitem ar yr agenda i’w hystyried yng nghyd-gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd sydd i’w gynnal ar 24 Mai 2018 os nad oedd wedi’i nodi’n flaenorol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at yr angen i LlC ddarparu cyllid ar gyfer atal ac ymyrryd yn fuan.                                                

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones bod cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol a lleoliadau y tu allan i’r sir yn fater cenedlaethol ac nid lleol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones hefyd at ei sylwadau mewn cyfarfodydd blaenorol ac y dylai datblygwyr dalu costau rheoli plâu pan fo gwaith adeiladu datblygiadau newydd yn symud llygod mawr o safleoedd adeiladu, a dywedodd y gellid cyflawni hyn drwy gyllid Cytundeb Adran 106. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod y mater o ffioedd rheoli plâu wedi’i godi yn y gweithdy Cynhyrchu Incwm y diwrnod cynt.

 

 

(ii)        Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod ar y cyd rhwng y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2018.

                                                                              

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ddwy set o gofnodion a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnodion

cywir.

 

80.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig - rhagolwg 2019/20 pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: I roi diweddariad i’r Aelodau ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig – rhagolwg 2019/20   

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i ddarparu diweddariad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) – Rhagolwg        2019/20. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd bod yr adroddiad Cabinet oedd wedi’i atodi yn darparu’r trosolwg manwl cyntaf o’r rhagolwg ariannol ar gyfer        2019/20, gyda gwaith pellach ar y rhagolygon hyd at 2021/22 i ddilyn. Adroddodd ar y prif ystyriaethau y manylwyd yn eu cylch yn yr adroddiad.           

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod y bwlch posibl mewn cyllid o £10.6m ar gyfer 2019/20 yn parhau i fod yn her, a chyfeiriodd at yr opsiynau cyfyngedig ar gyfer mynd i’r afael â’r bwlch hwn. Cyfeiriodd at y dyfarniad cyflog ar gyfer athrawon a dywedodd y byddai adroddiad llawn ar effaith modelu tâl yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Mehefin. Dywedodd fod angen annog trafodaeth o ddifrif ar lefel genedlaethol ynghylch cyllid ar gyfer Addysg.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at gostau gofal cartref ar gyfer cleifion sy’n derfynol wael, a gofynodd faint o ddefnyddwyr gwasanaeth a effeithiwyd. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n mynd ar drywydd y wybodaeth hon gyda’r Uwch Reolwr – Gwasanaethau Integredig Oedolion Arweiniol.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Patrick Heesom ar effaith y dyfarniad cyflog athrawon a’r angen i wneud sylwadau’n gynnar, cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at yr ymrwymiad gan benaethiaid a chyrff llywodraethu. Dywedodd fod trafodaethau o ddifrif yn parhau. Gwnaed sylwadau hefyd gan undebau athrawon sy’n ceisio cyfleoedd i ddechrau lobïo. Roedd yn cydnabod fod Addysg yn faes pwysau cenedlaethol allweddol.                 

 

  Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers bod diffyg manylion yn yr adroddiad ynghylch y gofyniad o ran gwariant a’r angen i’w adolygu. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr angen am fanylion ynghylch y gwariant sy’n cael ei ddyrannu i bortffolios.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson bod monitro canlyniadau effaith newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth ar breswylwyr Sir y Fflint, ac ar y cymunedau tlotaf yn enwedig, yn bwysig. Gofynnodd p’un a oedd asesiadau effaith yn cael eu gwneud. Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai asesiad effaith yn ymarfer defnyddiol ac eglurodd bod eitem ar y model asesu effaith integredig a’i ddefnydd wedi’i chynnwys yn y Rhaglen Waith i’r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor.                                                               

 

Wrth grynhoi’r drafodaeth, gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd p’un a oedd y Pwyllgor yn dymuno codi ei bryderon ynghylch effaith bosibl y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar y cymunedau tlotaf yn Sir y Fflint. Cytunodd y Pwyllgor i hyn. Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am gael cofnodi ei fod wedi atal ei bleidlais.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Bod y Pwyllgor am hysbysu’r Cabinet ei fod wedi nodi Adroddiad y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) – Rhagolwg 2019/20 a’i fod yn codi pryderon penodol ynghylch ei effaith bosibl ar y cymunedau tlotaf yn Sir y Fflint.                                   

81.

Adrodd ar Fuddsoddiadau mewn Trefi Sirol pdf icon PDF 84 KB

 

Pwrpas: Ystyried sut y gellir datblygu trefniadau adrodd ar rybudd o gynnig i fuddsoddi mewn trefi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar fuddsoddiad yn nhrefi Sirol Sir y Fflint a sut y gellir datblygu hyn. Darparodd wybodaeth gefndirol ac eglurodd fod yr adroddiad yn mynd i’r afael â materion sy’n codi o Rybudd o Gynnig yn y Cyngor Sir yn Rhagfyr 2017, a byddai’r adroddiad sy’n adrodd ar rai mathau o wariant yn rhoi dadansoddiad o’r gwariant fesul tref. Roedd yr adroddiad yn awgrymu sail ar gyfer diffiniad o ‘dref’ i’r pwrpas hwn yn unig ac roedd yn nodi meysydd gwariant o fewn rhaglen gyfalaf 2018/19 y byddid yn eu cynnwys yn y broses adrodd wrth egluro rhai o’r anawsterau o ran cael y wybodaeth. Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y prif ystyriaethau fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryder nad oedd yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth yr oedd wedi gofyn amdani, a phwysleisiodd bwysigrwydd nodi’r gwariant ar bob tref a’r angen i sicrhau bod pob tref yn cael ei thrin yn gyfartal. Gofynnodd am fanylion ar y gwariant y pen er mwyn deall sut yr oedd y cyllid yn cael ei gyfansymio rhwng trefi a lle’r oedd yn cael ei wario.           

 

Roedd y Cynghorydd Aaron Shotton yn cefnogi’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Jones ac awgrymodd y dylid cyfeirio’r mater i’w ystyried gan y Cabinet hefyd. Rhoddodd sicrwydd mai drafft cyntaf o waith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd ydyw, ac y byddai rhagor o fanylion yn dilyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson nad oedd yr adroddiad yn darparu diffiniad o ‘teg’ ac ‘angen’ a nododd fod angen edrych ar gymunedau ar sail ‘angen’ a’r hyn a ddiffiniwyd fel ‘dyraniad teg’ i ddiwallu’r angen hwnnw.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cytuno bod angen gwneud mwy o waith yng nghyswllt diffinio’r ‘trefi sirol’ y cyfeiriwyd atynt yn y rhybudd o gynnig. Eglurodd nad oedd un diffiniad penodol a dywedodd y dylai’r adroddiad ddangos yn lle mae’r Cyngor yn gwario arian a pham. Cytunwyd y byddai gweithdy pellach i Aelodau ar y Bid Twf yn cael ei drefnu, ac y byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor sydd i’w gynnal ym mis Mehefin.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at y frawddeg gyntaf ym mharagraff         1.02 o’r adroddiad ac awgrymodd y dylid defnyddio’r gair ‘accurate’ yn lle ‘easily’.                                         

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r sylwadau a wnaed ac yn disgwyl am yr adroddiad pellach.

 

82.

Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg Drafft pdf icon PDF 102 KB

Cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg drafft pum mlynedd ar gyfer ymgynghori ffurfiol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth Bum Mlynedd Ddrafft i Hyrwyddo’r Gymraeg a fydd yn destun ymgynghoriad ffurfiol.

 

            Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndirol a dywedodd fod Sir y Fflint yn awdurdod eithriadol yn nhermau ei ymrwymiad i’r Gymraeg. Cyfeiriodd at y prif ystyriaethau fel y’u nodwyd yn yr adroddiad gan wahodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol i ddarparu rhagor o wybodaeth. Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai’r Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg hefyd yn cyfrannu at Gynllun Llesiant y Cyngor, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol 2015, ynghyd â nod Llywodraeth Cymru i ddarparu ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Cyfeiriodd at y broses ymgynghori a fyddai’n cael ei chynnal ym Mai 2018, ac eglurodd y bydd y Strategaeth derfynol yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet yng Ngorffennaf 2018 i’w chymeradwyo cyn ei chyhoeddi a’i gweithredu.        

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 5-20 mlwydd oed, fel y nodir yn nhabl 2, ar dudalen 62 o’r adroddiad. Awgrymodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y gall hyn fod oherwydd nad oedd rhai pobl ifanc yn parhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar ôl gadael ysgol.                    

 

Siaradodd y Cynghorydd Billy Mullin am Strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni un filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, a chyfeiriodd at y gwaith ardderchog a wnaed gan ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint.

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno cael eglurhad am y data a ddarparwyd yn nhabl 3, tudalen 63 yn yr adroddiad. Eglurodd y Prif Weithredwr y cafwyd y wybodaeth o ddata’r cyfrifiad a chytunodd i adolygu sut yr oedd cwestiynau’r cyfrifiad wedi’u trefnu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at nod y Strategaeth ddrafft. Gofynnodd am ddadansoddiad o ganran yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, yr ysgolion cynradd, ac aelodau’r cyhoedd. Cyfeiriodd hefyd at nifer y disgyblion ysgol gynradd sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, a gofynnodd p’un a fyddai hyn yn cyflawni’r targed dros y pum mlynedd nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at gyfleoedd addysgol, cyfyngiadau amser a’r gobeithion i’r dyfodol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a oedd cyllid ar gael i gefnogi mentrau yn y gymuned i ddatblygu sgiliau Cymraeg. Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol nad oedd yr Awdurdod yn gallu ariannu prosiectau cymunedol o’r fath o gronfeydd y Cyngor. Fodd bynnag, gall fod cyfle i ymgeisio am grant o gronfa’r Gist Gymunedol. Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd bod cyfle i gynghorau lleol ‘drefnu eu hunain’ i gefnogi menter gymdeithasol leol.                                       

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Cunningham at yr angen i hybu’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob ysgol yn Sir y Fflint.                                                         

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Strategaeth Bum Mlynedd Ddrafft i Hyrwyddo’r Gymraeg.                                

 

83.

Diweddariad ar Gynllun y Cyngor

Pwrpas:  I dderbyn diweddariad ar lafar ar Gynllun y Cyngor  

 

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr ddiweddariad llafar ar Gynllun y Cyngor 2018/19. Eglurodd bod y Cynllun yn cael ei adolygu i adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Cyngor ac y byddai’n cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cabinet ar 24 Ebrill 2018.

 

 Roedd gweithdy i’r holl Aelodau i’w gynnal ar 29 Mai, pryd y byddai cynnwys y Cynllun drafft yn cael ei rannu, ynghyd â meysydd targed allweddol ar gyfer mesurau cenedlaethol. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai adborth ffurfiol yn cael ei ystyried gan gyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol sydd i’w gynnal ar 4 Mehefin.

 

Byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno wedyn i’r Cabinet a’r Cyngor Sir ar 19 Mehefin. Eglurodd y Prif Weithredwr bod integreiddio blaenoriaethau’r Cynllun Llesiant yr oedd y Cyngor yn gyfrifol am arwain arnynt wedi’u cysoni o fewn Cynllun y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi’r diweddariad llafar.      

 

84.

Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 11) pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 11) i’r Aelodau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad ar gyfer darparu adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 yn ôl y sefyllfa ym Mis 11.  Eglurodd y byddai Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 24 Ebrill 2018, ac roedd copi wedi’i atodi i’r adroddiad.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid fod yr adroddiad misol yn darparu’r sefyllfa bresennol o ran monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 ar gyfer Gronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, ar gyfer Mis 11 o’r flwyddyn ariannol, ac yn rhagamcanu sut y byddai’r gyllideb yn sefyll ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, pe na bai unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl arwyddocaol.                      

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid ar y brif sefyllfa a ragamcanwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Adroddodd hefyd ar y prif ystyriaethau o ran y sefyllfa ym Mis 11, a chyfeiriodd at sefyllfa gyffredinol Cronfa’r Cyngor, y rhagolwg diweddaraf yn ystod y flwyddyn, gwaith cynnal a chadw’r gaeaf, chwyddiant, cronfeydd a balansau, a cheisiadau i gario cyllid ymlaen.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid, o ran Cronfa’r Cyngor, fod y sefyllfa gyffredinol a ragamcanir yn ystod y flwyddyn bellach yn cynnwys £1.422m, oherwydd y newid mewn polisi cyfrifyddu ar gyfer ffioedd yr Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP), fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir ar 1 Mawrth. Cafodd hyn yr effaith o ddileu’r diffyg gweithredol gyda’r gwariant net wedi’i ragamcanu i fod yn £1.531m yn llai na’r gyllideb. Balans y Gronfa Hapddigwyddiad Rhagamcanol ar 31 Mawrth oedd £8.353m, er ei bod wedi gostwng i £5.948m wrth ystyried cyfraniadau a gytunwyd ar gyfer cyllideb 2018/19. Adroddodd y Rheolwr Cyllid, ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai, y rhagamcanwyd y byddai gwariant net y Cyfrif Refeniw Tai yn ystod y flwyddyn yn £0.035m yn uwch na’r gyllideb, a’r balans adeg cau ar 31 Mawrth 2018 oedd £1.081m.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyhoeddiad LlC ynghylch y tanwariant hwyr, a gofynnodd a oedd CLlLC am wneud cais i LlC am ddyraniad ychwanegol o’r tanwariant ar gyfer gwasanaethau cynnal a chadw yn y gaeaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 Mis 11 ac yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion yr oedd yn dymuno eu dwyn i sylw’r Cabinet ar hyn o bryd.       

 

85.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at y Rhaglen Waith i’r Dyfodol a oedd wedi’i hadolygu a’i diwygio yn y sesiwn anffurfiol cyn y cyfarfod. Dywedodd y byddai’r eitemau a ganlyn yn cael eu cyflwyno i’w hystyried hefyd:

 

·         adroddiad ariannol ar gyfalaf i gyfarfod y Pwyllgor ar 17 Mai

 

·         adroddiad ar fuddsoddiadau mewn trefi sirol ynghyd ag adroddiad ar fodelu tâl i gyfarfod y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 14 Mehefin.

 

Cytunwyd i gymeradwyo’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y’i diwygiwyd yn y sesiwn anffurfiol yn gynharach yn y dydd, ynghyd â’r eitemau ychwanegol uchod. Atgoffodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr Aelodau y byddid yn cynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor ar Fehefin 4 i ystyried adborth ar Gynllun y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd yn y sesiwn anffurfiol yn gynharach yn y dydd;

(b)       Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democratig, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, yn cael eu hawdurdodi i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng y cyfarfodydd, pe bai angen gwneud hyn; ac

(c)        Y bydd y Rhaglen Waith i’r Dyfodol yn cael ei hystyried ar ddechrau, yn hytrach nag ar ddiwedd cyfarfodydd o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn y dyfodol.

 

86.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg a dim aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.