Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 4 ar y rhaglen: 'Datganiad Cyfrifon Drafft 2016/17’:
Sally Ellis – aelod a rhai o’i theulu’n aelodau o’r Gronfa Bensiynau; a’r Cynghorydd Glyn Banks – aelod o Fwrdd NEW Homes. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Mehefin 2017. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2017.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2016/17 PDF 95 KB Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r Datganiad o Gyfrifon drafft ar gyfer 2016/17 er gwybodaeth i Aelodau’n unig yn ystod y cam hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol a Rheolwr Cyllid - Cyfrifeg Dechnegol Ddatganiad Cyfrifon drafft 2016/17 (testun archwilio) er gwybodaeth. Roedd y rhain yn cynnwys y cyfrifon Gr?p - gan gynnwys yr is-gwmni sy’n eiddo iddo’n llawn, North East Wales (NEW) Homes - a Chronfa Bensiynau Clwyd. Byddai’r cyfrifon terfynol wedi’u harchwilio’n cael eu derbyn ar 27 Medi i’w cymeradwyo a’u hargymell i'r Cyngor Sir ar yr un diwrnod, cyn y dyddiad cau statudol ar gyfer cyhoeddi, sef 30 Medi. Roedd hon yn ddogfen gorfforaethol a luniwyd drwy waith sylweddol ar draws yr Awdurdod, yn enwedig gan y tîm Cyfrifeg Dechnegol yn Adran Cyllid Corfforaethol.
Rhoddwyd cyflwyniad yn trafod y meysydd canlynol:
· Pwrpas a chefndir · Cynnwys a throsolwg · Cyfrifoldeb · Cysylltiadau â monitro’r gyllideb · Penawdau – Cronfa'r Cyngor, Cronfeydd Wrth Gefn ar Ddiwedd y Flwyddyn, Cyfrif Refeniw Tai a Chyfalaf · Newidiadau i Ddatganiad Cyfrifon 2016/17 · Prif Ddatganiadau · Gr?p Llywodraethu Cyfrifon · Cynnydd wrth fynd i’r afael â materion y llynedd · Amserlen a chamau nesaf · Effaith dyddiadau cau cynt ar fateroliaeth
Eglurodd Mr John Herniman o Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) y dull cyffredinol o ran yr archwiliad wrth gymryd golwg gyffredinol ar fateroliaeth i ddarparu gwybodaeth er mwyn barnu cywirdeb y cyfrifon ac nad yw’r adrodd anochel am gamfynegiannau, o reidrwydd, yn golygu bod angen diwygio. Croesawodd y trefniadau i’r Gr?p Llywodraethu Cyfrifon fod yn goruchwylio’r broses. Nododd fod cyflwyno terfynau cyhoeddi statudol cynharach ar gyfer cyfrifon y dyfodol yn her sylweddol i bawb ac fe awgrymodd efallai y byddai’r Cyngor yn dymuno ystyried treialu hyn yn gynharach. Byddai effaith dyddiad cau buan yn golygu bod mwy o bwyslais ar ddata amcangyfrifedig ac, o bosib’, fwy o fân wallau yn y cyfrifon, ond roedd y ffocws ar eu cywirdeb yn eu hanfod ac felly efallai na fyddai'r Cyngor am ddiwygio mân wallau.
Cadarnhaodd Mr Matthew Edwards o SAC eu bod wedi derbyn y cyfrifon drafft cyn y dyddiad cau a diolchodd i'r swyddogion Cyllid am ddarparu gwybodaeth i ategu'r cyfrifon a oedd yn cyfrannu tuag at effeithlonrwydd yr archwiliad. Byddai unrhyw faterion allweddol a godai o'r archwiliad yn cael eu crynhoi yn yr adroddiad a fyddai yn y cyfarfod nesaf.
Soniodd y Prif Weithredwr am rôl effeithiol y Gr?p Llywodraethu Cyfrifon o ran y gwaith cyfrifon. Wrth groesawu’r cyngor gan gydweithwyr o SAC ar her y dyddiadau cau cynharach, rhoddodd sicrwydd y byddai adnoddau o fewn y tîm Cyllid yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn ddigonol i gyflawni dyletswyddau statudol.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorwyr Chris Dolphin a Glyn Banks, eglurodd Mr Herniman fod y newid arfaethedig i ddyddiadau cyhoeddi cyfrifon awdurdodau lleol Cymru’n benderfyniad gan Lywodraeth Cymru a oedd yn dilyn newidiadau a wnaed yn Lloegr, wedi’u cymell gan Drysorlys y DU i lunio Cyfrifon Llywodraeth Gyfan y DU yn gynt. Er cydnabod yr heriau, roedd mantais o fod â dealltwriaeth gynt o’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn. Mewn perthynas â’i sylwadau cynharach, eglurodd ei bod yn anochel bod cyfrifon yn cynnwys rhywfaint ... view the full Cofnodion text for item 18. |
|
Gwybodaeth Ariannol Atodol i'r Datganiad o Gyfrifon Drafft 2016/17 PDF 99 KB Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth i fynd gyda’r Datganiad o Gyfrifon drafft ar gyfer 2016/17 er gwybodaeth i Aelodau, ac yn dilyn gofynion rhybudd o gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor 29 Ionawr 2013. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybodaeth ariannol atodol i gyd-fynd â Datganiad Cyfrifon drafft 2016/17, yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd yn 2013.
Roedd y wybodaeth yngl?n â swyddi a oedd yn benodiadau dros dro’n dangos y symiau a dalwyd i sefydliadau am drefniadau o’r fath ac nid oedd yn adlewyrchu cyflogau’r rhai dan sylw. Roedd y gost am ymgynghorwyr a swyddi nad oeddent yn rhai parhaol ar draws y Cyngor yn cynnwys costau blynyddol damcaniaethol pe bai’r unigolion wedi’u cyflogi am y flwyddyn gyfan, yn ogystal â’r costau gwirioneddol a ysgwyddid.
Mewn perthynas â’r ail o’r rheini, eglurodd y Prif Weithredwr fod y rhain yn wasanaethau arbenigol na ellid sicrhau'r gallu i'w cyflawni o fewn y sefydliad.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
Mae’r adroddiad yn cyflwyno (i) Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys drafft 2016/17 ar gyfer adolygiad ac yn gofyn am argymhelliad y Pwyllgor am gymeradwyaeth i’r Cabinet; a (ii) diweddariad am faterion sy’n ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor 2017/18 at ddiwedd mis Mai 2017. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Cyllid - Cyfrifeg Dechnegol yr Adroddiad Blynyddol ar Bolisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor 2016/17 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet.
Yn rhan o ddiweddariad ar weithgarwch rheoli’r trysorlys yn chwarter cyntaf 2017/18, adroddwyd cynnydd bychan yn y portffolio buddsoddi. Roedd y sefyllfa mewn perthynas â benthyca’n adlewyrchu’r strategaeth i ddefnyddio benthyca tymor byr ar gyfraddau is. Roedd graff yn dangos symudiadau ar fuddsoddiadau a balansau benthyca tymor byr rhwng mis Ebrill 2016 a Mehefin 2017. I ategu'r drefn adrodd ar gyfer 2017/18, byddai sesiwn hyfforddi gan yr ymgynghorwyr Rheoli'r Trysorlys, Arlingclose Ltd, yn cael ei threfnu ar gyfer yr holl aelodau’n gynnar ym mis Ionawr 2018.
Amlygodd y Cadeirydd yr angen am sicrwydd ar allu’r cyfrif refeniw i ymdopi â lefelau cynyddol y dyledion allanol ynghyd â chymhariaeth â chynghorau eraill. Cytunodd Rheolwr Cyllid i gynnwys hyn yn yr adroddiad diweddaru nesaf. Tynnodd sylw at yr adroddiad Cabinet diweddar ar Ddangosyddion Darbodus a oedd yn cynnwys canran y costau refeniw a oedd yn mynd at ddyled tymor hir.
Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cadeirydd, rhoddwyd eglurhad ar y gwasanaethau arbenigol a ddarparwyd gan Arlingclose ac ar broffil terfynau dyledion lle'r oedd uchafbwyntiau’n adlewyrchu’r benthyciadau a gymerwyd i roi diwedd ar y system cymorthdaliadau tai negyddol.
Holodd y Cynghorwyr Paul Johnson a Chris Dolphin yngl?n â benthyca tymor byr rhwng cynghorau. Eglurodd Rheolwr Cyllid fod gwahaniaeth rhwng rheoli llif arian y Cyngor a’r sefyllfa gyllidebol yr oedd cynghorau yn ei hadrodd ac fe gyfeiriodd at y graff a oedd yn dangos symudiadau yn y balansau arian wedi'u rheoli gan fuddsoddiadau tymor byr a benthyca tymor byr.
Mewn perthynas â sylw blaenorol y Cynghorydd Dolphin, roedd y Cynghorydd Glyn Banks yn teimlo bod nifer ddigonol yn y Pwyllgor. Cynigiodd y gallai’r Pwyllgor, yn enwedig aelodau mwy newydd, elwa o hyfforddiant ychwanegol cyn hyfforddiant Rheoli’r Trysorlys. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Johnson. Awgrymodd hefyd y gallai Arlingclose ddarparu’r hyfforddiant drwy gyswllt fideo. Eglurodd Rheolwr Cyllid fod y contract gydag Arlingclose yn caniatáu un sesiwn hyfforddiant y flwyddyn, felly, efallai y byddai cost ychwanegol am hyfforddiant ychwanegol, neu fe ellid ystyried darparu hyfforddiant mewnol gan swyddogion.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at fanteision aelodaeth arbenigol, lai yn y Pwyllgor ond fe ddywedodd y gellid adolygu maint y Pwyllgor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf os oedd yr aelodau'n dymuno.
Gwahoddodd Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro awgrymiadau am themâu penodol ar gyfer yr hyfforddiant, y gellid eu cynnwys ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi Adroddiad Blynyddol drafft 2016/17 ar Reoli’r Trysorlys heb ddod ag unrhyw faterion at sylw'r Cabinet ar 26 Medi 2017.
(b) Nodi Diweddariad Chwarter 1 2017/18 ar Reoli’r Trysorlys; a
(c) Bod hyfforddiant ychwanegol yn cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor cyn sesiwn hyfforddiant Rheoli’r Trysorlys. |
|
PRESENOLDEB AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |