Mater - cyfarfodydd

Cronfeydd Wrth Gefn Ysgolion Y Flwyddyn Sy’n Dod i Ben Ar 31 Mawrth 2023 a Demograffeg

Cyfarfod: 09/09/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 25)

25 Cronfeydd Wrth Gefn Ysgolion Y Flwyddyn Sy’n Dod i Ben Ar 31 Mawrth 2023 a Demograffeg pdf icon PDF 186 KB

Rhoi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a gwybodaeth am newidiadau mewn demograffeg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod lefel cronfeydd wrth gefn ysgolion wedi gostwng yn sylweddol ar draws pob sector dros y flwyddyn ddiwethaf, ac amlinellodd y ffactorau allweddol sy’n gyfrifol am y gostyngiad hwn.  Cafwyd gwybodaeth fanwl gan y Rheolwr Cyllid Strategol (Ysgolion) am gronfeydd wrth gefn ysgolion, a oedd yn cynnwys crynodeb ar gyfer pob sector ynghyd â gwybodaeth am ddemograffeg a rheoli risgiau.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Pwyllgor yn nodi lefel y cronfeydd wrth gefn ar 31 Mawrth 2024 a throsolwg o sefyllfa ariannol gyfredol yr ysgolion, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.