Mater - cyfarfodydd

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Alldro)

Cyfarfod: 19/07/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 17)

17 Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Alldro) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn darparu sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a sefyllfa alldro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'r Rheolwr Cyllid Strategol adroddiadau ar ganlyniad terfynol 2023/24 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai a'r Rhaglen Gyfalaf cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Byddai ymatebion ar wahân yn cael eu rhannu â'r Pwyllgor ar (i) y gost o brynu cerbydau ar gyfer adnewyddu contract y Fflyd; (ii) canran y cronfeydd wrth gefn yn erbyn refeniw a ddelir gan awdurdodau lleol eraill at ddibenion cymharu; (iii) gwybodaeth am y tâl llety gwasanaeth a rennir gan Gyngor Gwynedd o dan Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi; a (iv) manylion costau Tlodi Bwyd o £0.042m a danddatganwyd yn flaenorol mewn Tai a Chymunedau.  Hefyd, gofynnwyd am ddiweddariad ar opsiynau lliniaru digartrefedd ar gyfer cyfarfod mis Medi.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (sefyllfa derfynol), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet; ac

 

(b) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (sefyllfa derfynol), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.