Mater - cyfarfodydd

Y Wybodaeth Ddiweddaraf Ynghylch Urddas Mislif

Cyfarfod: 27/06/2024 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 6)

6 Y Wybodaeth Ddiweddaraf Ynghylch Urddas Mislif pdf icon PDF 124 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar gefnogaeth y Cyngor ar gyfer Urddas Mislif.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r sefyllfa genedlaethol bresennol o ran urddas mislif a sut roedd cyllid grant wedi bod o fudd i ysgolion a chymunedau Sir y Fflint dros y ddau gyfnod ariannol ar gyfer 2022-2023 a 2023-2024, gyda Llywodraeth Cymru (LlC) yn cyflwyno “Cynllun Gweithredu Balch o’r Mislif Cymru” ym mis Chwefror 2023. 

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad am urddas mislif a chael sicrwydd y gwariwyd y grant yn briodol a’i fod wedi helpu i fodloni anghenion y rhai hynny yr anelwyd cynllun Llywodraeth Cymru atynt.