Mater - cyfarfodydd

Lleoliadau Plant Sy'n Derbyn Gofal - Canlyniad yr adolygiad a’r effaith ar bolisïau lleol CSyFf

Cyfarfod: 27/06/2024 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 4)

4 Gofal yn Nes at Adref: Strategaeth Comisiynu Lleoliadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal. pdf icon PDF 165 KB

Amlinellu canlyniad yr adolygiad ac effaith Polisi Lleol CsyFf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd yr Uwch Reolwr (Gwasanaethau Plant) fod y drafft wedi nodi’r boblogaeth bresennol a’r boblogaeth a ragwelir o ran plant sy’n derbyn gofal. Roedd yn darparu asesiad o’r gefnogaeth ofynnol gan nodi uchelgais yr Awdurdod i ddatblygu maethu mewnol a chartrefi preswyl i blant yn fewnol ymhellach yn Sir y Fflint. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn ymrwymedig i ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal ac roedd yr Awdurdod wedi bod yn glir mewn trafodaethau gyda LlC fod rhaid cael amserlen gyda rhaglen wedi’i hariannu a fyddai’n sicrhau y byddai’n bosibl darparu hyn dan y gofynion a nodir mewn deddfwriaeth.  Y cam nesaf oedd gweithio gydag Aelodau i nodi ein huchelgais, sefydlu’r hyn rydym am ei ddarparu fel Awdurdod a gweithio gyda LlC i sicrhau bod y refeniw a’r adnoddau’n cael eu darparu i gefnogi hyn.

 

Gan ymateb i gwestiwn am ofalwyr maeth asiantaeth, cytunodd yr Uwch Reolwr i gyflwyno hyn fel cam gweithredu a dosbarthu’r wybodaeth i Aelodau.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed wrth ddarparu cam un ein strategaeth ‘Gofal yn Agosach at Adref’.

 

(b)      Bod gweithdy ar gyfer Aelodau Etholedig yn cael ei drefnu yn yr hydref 2024 i amlinellu’r ddeddfwriaeth newydd, cyd-destun comisiynu lleoliadau presennol (cyfeirir atynt yn aml fel Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir) ac archwilio dewisiadau ar gyfer datblygu ein dull strategol ar gyfer comisiynu lleoliadau a datblygu darpariaeth lleoliadau mewnol ymhellach.