Mater - cyfarfodydd

Rheoli Cyrchfan

Cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet (eitem 15)

15 Rheoli Cyrchfan pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Rheoli Cyrchfan drafft.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ar ran y Cynghorydd Healey a darllenodd ddatganiad a oedd wedi’i baratoi ymlaen llaw. 

 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod twristiaeth yn cynhyrchu cyfraniad blynyddol amcangyfrifedig o £325 miliwn i economi Sir y Fflint, gan gefnogi tua 3,300 o swyddi. 

 

Roedd y Cynllun Rheoli Cyrchfan drafft wedi cael ei lunio ar y cyd â phartneriaeth eang o fusnesau ac asiantaethau partner er mwyn ymgymryd â dull cydweithredol o ran cefnogi datblygiad y sector economi ymwelwyr ac ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd a fyddai’n cael eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi lle’r oedd y ffrydiau gwaith wedi cael eu harchwilio’n fanwl, gan ganolbwyntio ar y ffaith fod y Cyngor yn ddibynnol ar arian y gronfa ffyniant gyffredin, treth ar dwristiaeth, treth ar ail gartrefi a’r strategaeth toiledau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi fersiwn ddrafft y Cynllun Rheoli Cyrchfan.