Mater - cyfarfodydd

Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau

Cyfarfod: 14/05/2024 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 7)

7 Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a oedd yn ymdrin â materion y mae angen penderfynu arnynt yn y Cyfarfod Blynyddol, yn unol â Rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Roedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â phenodi Pwyllgorau a Chadeiryddion eraill a materion eraill fel dyrannu seddi dan gydbwysedd gwleidyddol.  Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn ymdrin ag un penderfyniad a oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol ar gyfer eu hystyried.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts argymhellion 1, 2 a 3 (yn amodol ar adolygiad o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ac enw a chyfrifoldebau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd).  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Ted Palmer ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater.

 

(i)        Penodi Pwyllgorau

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol ar gyfer 2024/25:

 

Pwyllgor Apeliadau

Pwyllgor Newid Hinsawdd

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Pwyllgor Cwynion

Pwyllgor Apeliadau Cwynion

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel a ganlyn:

·         Tai a Chymunedau

·         Adnoddau Corfforaethol

·         Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

·         Yr Amgylchedd a’r Economi

·         Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau

 

(ii)        Pennu maint Pwyllgorau

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod maint pob pwyllgor fel y nodir ym mharagraff 1.03 yr adroddiad.

 

(iii)       Cylch Gorchwyl Pwyllgorau

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl ar gyfer pob Pwyllgor, fel y nodir yn y Cyfansoddiad, yn amodol ar adolygiad o'r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd.

 

Ar y pwynt hwn, cafwyd gohiriad er mwyn ystyried newidiadau i’r cydbwysedd gwleidyddol yn sgil ffurfio'r gr?p gwleidyddol newydd.  Ar ôl ailymgynnull, awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) newid yn nhrefn yr eitemau gan y byddai penodi Cadeiryddion Pwyllgorau yn helpu i lywio Cydbwysedd Gwleidyddol, a rhannwyd dau opsiwn diwygiedig.  O’i roi i bleidlais, cytunwyd â hyn.

 

(vi)      Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu penodi gan wahanol gyrff fel y nodir ym mharagraff 1.17, gan nodi bod cyfyngiadau o ran cymhwysedd.   Er bod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu dewis gan y grwpiau gwleidyddol yn seiliedig ar gryfder y gwahanol grwpiau a oedd â seddi ar y Cabinet, roedd gofyn i’r Cyngor benodi Cadeiryddion ar gyfer pump o’r Pwyllgorau.

 

Ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, eiliwyd yn briodol enwebiad y Cynghorydd Helen Brown ar gyfer y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ac enwebiad y Cynghorydd David Healey ar gyfer y Cynghorydd Geoff Collett.

 

Awgrymodd y Cynghorydd David Healey fod yr adolygiad o'r Cylch Gorchwyl yn rhoi mwy o ffocws i warchod natur trwy amrywiaeth.

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi, a chefnogwyd hynny gan y nifer ofynnol o Aelodau.

 

Pleidleisiodd y canlynol dros y Cynghorydd Collett:

Y Cynghorwyr: Sean Bibby, Chris Bithell, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, Geoff Collett, Paul Cunningham, Ron Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey,  ...  view the full Cofnodion text for item 7