Mater - cyfarfodydd

Appointment of Vice-Chair of the Council for the municipal year 2024/25, Investiture of Chain of Office and signing of Declaration of Acceptance of Office

Cyfarfod: 14/05/2024 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 4)

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor ar Gyfer 2024/25, a'r Isgadeirydd i dderbyn Cadwyn y Swydd a Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Michelle Perfect y dylid ethol y Cynghorydd Mel Buckley yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25 a chanmolodd ei gwasanaeth mewn llywodraeth leol.

 

Wrth eilio’r cynnig, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts o blaid rhinweddau personol a phroffesiynol y Cynghorydd Buckley, gan ddymuno’n dda iddi yn y swydd.

 

Ni chafwyd enwebiadau eraill.

 

Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Mel Buckley yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.  Ymatebodd y Cynghorydd Buckley trwy ddiolch am yr anrhydedd.

 

Arwisgwyd y Cynghorydd Buckley gyda Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd, ac arwyddodd ei Datganiad Derbyn Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.  Byddai Consort y Cynghorydd Buckley, Joe Stonely, yn cael ei arwisgo â Chadwyn y Swydd mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Mel Buckley yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.