Mater - cyfarfodydd

Election of Chair of the Council for the municipal year 2024/25, Investiture of Chain of Office and signing of Declaration of Acceptance of Office

Cyfarfod: 14/05/2024 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 3)

Ethol Cadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2024/25, a'r Cadeirydd i dderbyn Cadwyn y Swydd a Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Talodd y Cynghorydd Mike Peers deyrnged i'r Cadeirydd ymadawol am y ffordd yr oedd wedi cyflawni ei dyletswyddau trwy gydol ei blwyddyn yn y swydd.  Wrth enwebu’r Cynghorydd Dennis Hutchinson yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25, soniodd am ei hanes helaeth mewn llywodraeth leol a’i gyflawniadau personol, gan ddymuno llwyddiant iddo yn ei swydd newydd gyda chefnogaeth ei Gonsort Jeanne.

 

Wrth eilio’r cynnig, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts o blaid rhinweddau personol y Cynghorydd Hutchinson a manteisiodd ar y cyfle i ganmol y Cynghorydd Gladys Healey am ei blwyddyn lwyddiannus.

 

Ni chafwyd enwebiadau eraill.

 

Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.  Mewn ymateb, diolchodd i'r Aelodau am yr anrhydedd a roddwyd iddo ac ar ôl talu teyrnged i'r Cynghorydd Gladys Healey am ei hymarweddiad yn ystod y flwyddyn, arweiniodd ddiolchiadau gan y Siambr.

 

Arwisgwyd y Cynghorydd Hutchinson gyda Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd sy’n ymddeol, ac arwyddodd ei Ddatganiad Derbyn Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.

 

Cyflwynwyd Bathodyn y Cadeirydd oedd yn ymddeol i’r Cynghorydd Gladys Healey a chyflwynwyd anrheg i’w Chonosrt, y Cynghorydd David Healey.

 

Arwisgwyd Consort y Cadeirydd, Mrs Jeanne Hutchinson, gyda Chadwyn y Swydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.