Mater - cyfarfodydd

‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau

Cyfarfod: 12/06/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 7)

7 ‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg o adroddiad Archwilio Cymru ac amlinellu’r cynnwys a’r argymhellion.  Mae ymateb arfaethedig i’r argymhellion wedi’i gyflwyno i’w ystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiadoedd yn rhoi trosolwg o adroddiad Archwilio Cymru “‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol”, oedd yn trafod sut y gallai meithrin cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol helpu i leihau’r ddibyniaeth ar wasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol, pe bai awdurdodau lleol yn newid o fod yn ‘ddarparwr uniongyrchol’ i fod yn ‘alluogwr’.

Eglurwyd y byddai sylwadau’r Pwyllgor yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin 2024.

Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad ynghyd â chynnig ychwanegol.

PENDERFYNWYD:

(a) Bod y Pwyllgor yn nodi canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Archwilio Cymru “‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol”;

 

(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r ymateb oedd yn cael ei argymell mewn perthynas ag argymhellion Archwilio Cymru; a

 

(c) Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwaith nifer o sefydliadau gwirfoddol ac unigolion ar hyd a lled y Sir ac yn cyfleu hyn i’r Cabinet wrth ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin.